minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Celtic cross at Aberdaron
English

Y Ddolen


27 Mawrth 2022

Pedwerydd Sul y Grawys


Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:

Llan

Gweddïwn yn enwedig:

  • dros y tîm wrth iddynt ddechrau tymor newydd o dan arweiniad newydd

Yn ddiweddar penodwyd y Parchg James Tout a fu’n Gyfarwyddwr Llan yn Gaplan i Archesgob Cymru. Becks Davie-Tettmar wedi ei benodi yn lle James.

  • bydd pobl ifanc yn cael ei ysbrydoli am fywyd o ffydd o ganlyniad i brosiect Llwybr Cadfan

Lansiwyd prosiect llenyddol Llwybr Cadfan ychydig wythnosau yn ôl yn Eglwys Sant Cadfan yn Nhywyn. Mae disgwyl i'r llwybr ei hun gael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

  • y bydd y cynlluniau ar gyfer mentrau cymdeithasol yn datblygu
  • dros gymuned Lle Chi a'r recriwtiaid o bobl newydd i ymuno â'r cymuned

Lle Chi yw'r gymuned Gymraeg a fydd wedi'i lleoli ym Methesda i geisio tyfu arweinwyr ifanc.


ipad diary

Dyddiadur

26 Mawrth
Ffilmio canu cynulleidfaol Dechrau Canu Dechrau Canmol
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
4.30pm i ddechrau am 5pm
Bydd angen dod â phrawf o brawf llif unffordd negyddol i ymuno â'r gynulleidfa

11 Ebrill
Cymun y Crism
11am
Cadeirlan Deiniol Sant

30 Ebrill
Gorseddiad Archesgob Cymru
2.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae mynediad i'r gwasanaeth taleithiol hwn drwy docyn yn unig. Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth yn cael ei ffrydio yn fyw.


Ymateb i ryfel Wcráin

Dywedir Esgob Mary:

Braf oedd bod yn Grŵp Cadfan yr wythnos hon yn lleoliad hyfryd Nant Gwrtheyrn. Daethom ynghyd i weddïo, i dorri bara ac i gydgyfarfod; gan dynnu ar themâu o ddewrder ac anogaeth. Teimlodd i mi, hyd yn oed gyda heriau niferus ein hamser a’n cyd-destun, fod llawer sy’n ein huno mewn gobaith, a’n bod wedi’n bendithio’n gyfoethog â doniau, egni a doethineb sy’n galluogi ein gweinidogaeth o addoli, twf a gwasanaeth. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y cyfarfod hwn ac i bawb a alluogodd y cyfarfod hwn.

Roedd yn galonogol iawn clywed yn Grŵp Cadfan am lawer o bethau sy’n digwydd ar draws yr esgobaeth i ymateb i’r sefyllfa yn Wcráin. Mae awydd parhaus am arweiniad ar ymateb yn dda ac mae’n ymddangos bod rhai themâu yn dod i’r amlwg a allai ein helpu i benderfynu beth i’w wneud:

  • Mae rhoddion gweddi ac arian yn fan cychwyn amlwg a mawr ei angen. Mae Cymorth Cristnogol Cymru yn sianel wych i'r ddau.
  • Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ac elusennau eraill sydd eisoes â phrofiad a'r mecanweithiau i alluogi cymorth realistig ac ymarferol mewn ffordd gynaliadwy yn hanfodol, yn enwedig i unrhyw un sy'n ystyried cynnig lloches i ffoaduriaid yn eu cartrefi eu hunain. Mae canllawiau eisoes wedi’u cyhoeddi ynglŷn â hyn ynghylch eiddo eglwysig a phersondai. Cysylltwch â'ch Archddiacon os oes angen eglurhad arnoch. Mae’n bwysig ein bod yn cyfeirio’r rhai yn ein heglwysi sy’n dymuno gwneud hyn at sefydliadau sydd â phrofiad o sut i wneud hynny’n dda.
  • Mae cymryd amser i ganfod y ffordd orau o helpu mewn ffordd gynaliadwy mor bwysig wrth gynnig cymorth i'r rhai sydd wedi profi trawma mawr.
  • Mae nifer o eglwysi yn cynnal gwylnosau ac yn agor mannau i bobl o wahanol gefndiroedd ddod at ei gilydd i ystyried yr hyn y gallant ei gynnig orau o fewn neu o'u cymuned. Mae hyn wedi bod mor werthfawr mewn llawer man.

Mae’r uchod i gyd yn llywio ein hymateb fel Esgobaeth. Mae’n wirioneddol dda ein bod yn gallu rhannu egni a doethineb gyda phartneriaid eraill fel y gallwn gynnig helpu mewn ffyrdd sy’n hael ac yn gynaliadwy.

Diolch i chi am eich gwaith parhaus yn hyn o beth. A fyddech cystal â rhannu gyda’r teulu esgobaethol ehangach unrhyw adnoddau da neu ysbrydoliaeth y byddwch yn eu darganfod.

Dduw'r holl bobloedd a'r holl genhedloedd,
a grëodd bopeth byw ac sy'n anadlu,
yn unedig ac yn gyflawn,
dangos inni ffordd tangnefedd dy bresenoldeb llethol.
Codwn bobloedd Wcráin a Rwsia atat,
pob plentyn ac oedolyn.
Dyhëwn am yr adeg
pryd y caiff arfau rhyfel eu troi yn sychau aradr
pryd na fydd cenedl yn codi cleddyf yn erbyn cenedl.
Codwn ein llais atat am heddwch;
diogela'r rhai sy ond yn dymuno ac yn haeddu byw mewn diogelwch
Cysura'r rhai sydd mewn ofn am eu bywyd a bywyd eu ceraint.
Bydd gyda'r rhai sy'n galaru.
Newid galon y rhai sy'n mynnu trais ac ymosodiad
a llenwa arweinwyr gyda'r doethineb sy'n arwain at heddwch.
Cynnau ynom eto gariad am gymydog,
ac angerdd dros gyfiawnder
a chydnabyddiaeth newydd fod gennym i gyd ran mewn heddwch.
Greawdwr pawb, clyw ein gweddi
a thyrd â heddwch. Gwna ni'n gyflawn,
Amen


Poster with information about the service

Synod Môn

Ar Ddydd Sul 19 Mehefin mae Eglwysi Môn yn ymgynull i ddathlu gyda'u gilydd. Bydd hyn hefyd yn gyfle i ffarwelio ag Archddiacon Môn cyn iddo ymddeol ym Mis Gorffennaf.


Cerdded i 22 o gestyll mewn mis

Ym mis Mai eleni mi fydd y Parchg Andrew Sully yn cerdded Taith y Cestyll i godi arian i Cymorth Cristnogol. Bydd y daith yn cymryd mis llawn ac yn ymweld â 22 o gestyll gogledd Cymru gan ddechrau yn Chirk ac yn gorffen ym Miwmares.

I ddarllen rhagor am yr her ac i roi yn ariannol gweler y daflen hon.



Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:

3 Ebrill
Bro Madryn

10 Ebrill
Dydd Sul y Blodau

17 Ebrill
Sul y Pasg


Dyddiadau eraill yn 2022

Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant

Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen

Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill

Cymraeg

Y Ddolen


27 March 2022

Fourth Sunday of Lent


This Sunday and through the week we pray for:

Llan

We pray in particular:

  • for the team as they go into a new season under new leadership

The Revd James Tout who was Director of Llan was recently appointed as Chaplain to the Archbishop of Wales. Becks Davie-Tettmar has been appointed in James' place.

  • that the Llwybr Cadfan project would inspire young people about a life of faith

The Llwybr Cadfan literary project was launched a few weeks ago in Saint Cadfan's Church in Tywyn. The trail itself is expected to be launched later in the year.

  • that the plans for social enterprises would come to fruition
  • for the recruitment of people to join the Lle Chi community

Lle Chi is the welsh language community which will be based in Bethesda seeking to grow young leaders.


diary

Diary

26 March
Filming of congregational singing for Dechrau Canu Dechrau Canmol
Saint Deiniol's Cathedral
4.30pm arrival to start at 5pm
You will need to bring proof of a negative lateral flow test to join the congregation

11 April
Chrism Eucharist
11am
Saint Deiniol's Cathedral

30 April
Enthronement of the Archbishop of Wales
2.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
This provincial service is a ticketed event. This event will, however be Live Streamed.


Responding to the Ukraine war

Bishop Mary says:

It was so good to be at Grŵp Cadfan this week in the beautiful setting of Nant Gwrtheyrn. We gathered together for prayer, to break bread and to confer; drawing upon themes of courage and encouragement. It felt to me that, even with the many challenges of our time and context, there is much that unites us in hope, and that we are richly blessed with talents, energy and wisdom that enable our ministry of worship, growth and service. Thank you to everyone who participated in this and to all those who enabled this meeting.

It was really encouraging to hear at Grŵp Cadfan about many things happening across the diocese to respond to the situation in Ukraine. There is a continuing desire for guidance about responding well and there do seem to be some emerging themes that might help us in deciding what to do:

  • Gifts of prayer and money are an obvious and much-needed place to start. Christian Aid Cymru are a great channel for both of these.
  • Partnering with other organisations and charities who already have experience and the mechanisms to enable realistic and practical help in a sustainable way is vital, especially for any considering offering to shelter refugees in their own homes. There is already guidance that has been issued about this concerning church property and parsonages. Please do contact your Archdeacon if you require clarification with this. It is important that we signpost those in our churches who wish to do this to organisations who have experience of how to do it well.
  • Taking time to discern how best to help in a sustainable way is so important in offering help to those who have experienced great trauma.
  • A number of churches are holding vigils and opening up spaces for people from different backgrounds to come together to consider what they can best offer in or from their community. This has been so valuable in many places.

All of the above is guiding our response as a Diocese. It is really good that we can share energy and wisdom with other partners so that we can offer to help in ways that are generous and sustainable.

Thank you for your continued work at this. Please do share with the wider diocesan family any good resources or inspiration that you discover.

God of all peoples and nations,
Who created all things alive and breathing,
United and whole,
Show us the way of peace that is Your overwhelming presence.
We hold before you the peoples of Ukraine and Russia,
Every child and every adult.
We long for the time
When weapons of war are beaten into ploughshares
When nations no longer lift up sword against nation.
We cry out to you for peace;
Protect those who only desire and deserve to live in security and safety
Comfort those who fear for their lives and the lives of their loved ones
Be with those who are bereaved.
Change the hearts of those set on violence and aggression
And fill leaders with the wisdom that leads to peace.
Kindle again in us a love of our neighbour,
And a passion for justice to prevail and a renewed recognition that we all play a part in peace.
Creator of all hear our prayer
And bring us peace. Make us whole.
Amen

Prayer for Ukraine, by Wendy Lloyd from Christian Aid


Anglesey Synod

On Sunday 19 June the churches of Anglesey will be gathering to worship together. This will also be an opportunity to say goodbye to the Archdeacon of Anglesey before he retires in July.


Walking to 22 castles in a month

The Revd Andrew Sully is walking The Castles Trail in May this year to raise money for Christian Aid. The journey will last a whole month and will visit 22 castles starting at Chirk and ending in Beaumaris.

To read more and to support financially please see here.



Over the next few weeks we will be praying for:

3 April
Bro Madryn

10 April
Palm Sunday

17 April
Easter Day


Other dates in 2022

Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral

Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford

Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral


Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements