minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Palm branches
English

Y Ddolen


10 Ebrill 2022

Sul y Blodau


Gweddi ar Sul y Blodau

Hollalluog a thragwyddol Dduw,
a anfonaist dy Fab ein Hiachawdwr Iesu Grist,
o'th gariad tyner at yr hil ddynol
i gymryd ein cnawd,
ac i ddioddef angau ar y groes,
caniatâ inni dilyn esiampl ei amynedd a'i ostyngeiddrwydd
a bod hefyd yn gyfrannog o'i atgyfodiad;
trwy yr un Iesu Grist ein Harglwydd,
sy'n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
un Duw, nawr ac am byth.
Amen


ipad diary

Dyddiadur

11 Ebrill
Cymun y Crism
11am
Cadeirlan Deiniol Sant

Caiff cinio ysgafn ei reini yn y Gadeirlan ar ôl y Cymun.

Gwahoddir pob offeiriad sydd â Thrwydded neu Ganiatâd i Weinyddu esgobaethol i gyd-lywyddu (cyd-ddathlu) y Cymun. Gwahoddir offeiriaid cyd-lywyddol i wisgo casog, alb a stola wen / casog-alb a stola wen. Gwahoddir pob diacon neilltuol sydd â Thrwydded neu Ganiatâd i Weinyddu esgobaethol, a phob Darllenydd neu Weinidog Lleyg Trwyddedig sydd â Thrwydded esgobaethol, i wisgo gwisg Côr: casog, gwenwisg a sgarff / casog a chotta. Arwisgir yng Nghapel Mair, erbyn 10.50am fan bellaf. Gwahoddir Gweinidogion Lleyg Trwyddedig sydd â Thrwydded esgobaethol nad ydynt fel arfer yn arwisgo ond sy’n dymuno gorymdeithio hefyd i ymgynnull yng Nghapel Mair erbyn 10.50am.

Bydd Olewau Sanctaidd yn cael eu dosbarthu ar ôl y Cymun o Uwch Fwrdd yr Allor. Dylai clerigion ddod â'u llestri eu hunain.

30 Ebrill
Gorseddiad Archesgob Cymru
2.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae mynediad i'r gwasanaeth taleithiol hwn drwy docyn yn unig. Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth yn cael ei ffrydio yn fyw.

19 Mehefin
Dathliad Synod Môn
Rhagor o fanylion


The Cathedral lit in blue and yellow
Cadeirlan Deiniol Sant mewn lliwiau Wcráin

Wrth Esgob Cynorthwyol Bangor

Annwyl Gyfeillion,

Hyfryd oedd gweld Cadeirlan Deinol Sant yn cael ei goleuo fel rhan o dystion Cymorth Cristnogol dros Wcráin y penwythnos diwethaf ac fel symbol o gynifer o weddïau a offrymwyd, ac arian a godwyd ar draws yr Esgobaeth i gynnig cymorth i’n chwiorydd a’n brodyr mewn angen.

Yn ogystal ag ymdrechion dros Wcrain, diolch i chi hefyd am eich gwaith caled parhaus ac am y cymorth hael y mae llawer o gydweithwyr wedi'i ymestyn i'r rhai sydd wedi bod yn ynysu neu'n wael gyda covid. A fyddech cystal â pharhau i gadw mewn cysylltiad â’r Deoniaid Bro a’r Archddiaconiaid lle mae absenoldeb neu salwch, fel y gallwn ofalu am ein gilydd yn briodol.

Ailgyflwyno'r cwpan cyffredin

Mae Canllawiau Covid ar wefan yr Eglwys yng Nghymru wedi’u diweddaru er mwyn galluogi eglwysi i ddod â’r cwpan cyffredin yn ôl lle mae digon o hyder ac awydd am hyn o Sul y Pasg ymlaen. Os gwelwch yn dda, a wnewch chi ailedrych ar eich asesiadau risg ar gyfer addoliad a pharhau i roi sicrwydd i’r rhai nad ydynt yn teimlo y gallant dderbyn o gwpanau cyffredin fod derbyn y Cymun Bendigaid mewn un math yn unig yn parhau’n iawn. Ni ddylai unrhyw un deimlo dan bwysau gan unrhyw newidiadau. Mae’r canllawiau diwygiedig yn cynnwys y canlynol:

“Mae gan eglwysi lleol dri opsiwn ar gyfer gweinyddu’r Cymun Bendigaid.

1. Mewn un math (bara yn unig)

2. Trwy weinyddiad cydamserol gan yr offeiriad

3. Yn y ddau fath gyda'r defnydd o'r cwpan cyffredin

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw reswm cyfreithiol pam na ddylai’r cwpan cyffredin gael ei ailgyflwyno ond, yn yr un modd, nid oes gofyniad i wneud hynny – dylai asesiad risg Covid-19 pob eglwys lywio’r penderfyniad i wneud hynny.

Mae Mainc yr Esgobion yn argymell, ar gyfer yr eglwysi hynny sy’n dymuno gwneud hynny ar ôl cynnal asesiad risg gofalus, y gellir adfer y cwpan cyffredin o Ddiwrnod y Pasg 2022 (gan dybio nad oes unrhyw newid i’r fframwaith rheoleiddio).

Lles clerigion

Gyda phryderon am gostau byw cynyddol mae ymwybyddiaeth gynyddol y gallai rhai clerigion fod yn teimlo dan fwy o bwysau ariannol. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael gan sefydliadau gan gynnwys Clergy Support Trust. Os hoffai unrhyw un ragor o fanylion neu os hoffai drafod pryderon, cysylltwch â’r archddiaconiaid.

Ymddiriedolaeth Piggott

Mae grantiau bach o hyd at £3k ar gael gan “Ymddiriedolaeth Piggott” ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â grwpiau agored i niwed, plant a phobl ifanc, yr henoed neu ar gyfer gwella mynediad, addysg neu brosiectau ffydd bach. Cynhelir y cyfarfod ariannu nesaf i benderfynu ar geisiadau ddiwedd mis Mai. Mae ffurflenni cais ar gael gan Robert Jones. (Dim ond unwaith mewn 5 mlynedd y gellir rhoi grantiau i Ardal Weinidogaeth, felly peidiwch â gwneud cais os yw eich Ardal Gweinidogaeth wedi derbyn grant gan yr ymddiriedolaeth yn y 5 mlynedd diwethaf.)

Wrth i ni ddechrau’r Wythnos Sanctaidd mae gennym lawer o gyfleoedd i ymgynnull nid yn unig fel teulu Esgobaethol ond yn fwriadol â holl bobl Dduw ledled y byd. Yn ymwybodol o gymaint sydd ar chwâl ar hyn o bryd gadewch inni ddod at ein gilydd mewn addfwynder a gobaith. Cerddwch yn ffordd y groes, gweddïwch y bydd Crist yn ein helpu i fod yn ffyddlon ar gyfer ein taith ac i ymddiried yn nerth iachaol cariad mawr Duw.


The Revd Dr Gareth Lloyd
Y Parchg Ddr Gareth Lloyd

Arweinydd newydd i Fro Ogwen

Cafodd ei gyhoeddi ar Ddydd Sul 3 Enrill bod y Parchg Ddr Gareth Lloyd wedi cael ei benodi yn Ficer ac Arweinydd Ardal Bro Ogwen. I ddarllen rhagor am y penodiad defnyddiwch y botwm isod.


Pamffledi Rhoi yn Syth

Mae sawl bocs o bamffledi Rhoi yn Syth wedi cyrraedd Tŷ Deiniol. Mae croeso i chi drefnu i gasglu rhai o'r swyddfa i ddosbarthu yn eich ardaloedd gweinidogaeth. Cysylltwch â'r swyddfa i drefnu hyn os gwelwch yn dda. 


Tymor cyffrous newydd i Llan

Byddwn yn rhannu newydd a diweddariadau o Llan ar bedwerydd wythnos bob mis ond rydym am rannu newydd am dymor newydd i Llan. 

Dros y deunaw mis diwethaf mae prosiect Llan wedi bod mewn cyfnod cychwynnol o ymchwil, gan ddatblygu syniadau ac adeiladu partneriaethau. Rydym bellach yn symud i dymor newydd cyffrous sy'n cychwyn gweld ffrwyth gwaith y prosiect ar lawr ar draws yr esgobaeth.

Cliciwch ar y botwm isod i ddarllen y stori ar ein gwefan.


Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:

17 Ebrill
Sul y Pasg

24 Ebrill
Beuno Sant Uwch Gwyrfai

1 Mai
Cyngor yr Esgob a Chyngor yr Esgobaeth

8 Mai
Bro Cybi


Dyddiadau eraill yn 2022

Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant

Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen

Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill

Cymraeg

Y Ddolen


10 April 2022

Palm Sunday


A prayer for Palm Sunday

Almighty and everlasting God,
who in your tender love towards the human race
sent your Son our Saviour Jesus Christ
to take upon him our flesh
and to suffer death upon the cross,
grant that we may follow the example of his patience humility,
and also be made partakers of his resurrection;
through Jesus Christ your Son our Lord,
who is alive an reigns with you,
in the unity of the Holy Spirit,
one God now and forever.
Amen


diary

Diary

11 April
Chrism Eucharist
11am
Saint Deiniol's Cathedral

The Eucharist will be followed by a light lunch served in the Cathedral.

All priests holding a diocesan License or Permission to Officiate are invited to co-preside (concelebrate) the Eucharist. Co-presiding priests are invited to wear cassock, alb and white stole / cassock-alb and white stole. All distinctive deacons holding a diocesan License or Permission to Officiate, and all Readers and Licensed Lay Ministers holding a diocesan License, are invited to wear Choir dress: cassock, surplice and scarf / cassock and cotta. Vesting will take place in the Lady Chapel. Please be vested by 10.50am. Licensed Lay Ministers holding a diocesan License who do not normally vest but who wish to walk in procession are also invited to gather in the Lady Chapel by 10.50am.

Holy Oils will be distributed after the Eucharist at the High Altar-Table. Clergy should bring their own vessels.

30 April
Enthronement of the Archbishop of Wales
2.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
This provincial service is a ticketed event. This event will, however, be Live Streamed.

19 June
Synod Môn Celebration
More details


The Cathedral lit in blue and yellow
Saint Deiniol's Cathedral in the colours of Ukraine

From the Assistant Bishop of Bangor

Dear Friends,

It was wonderful to see the cathedral lit up as part of the Christian Aid witness for Ukraine last weekend and as a symbol of so many prayers offered, and funds raised across the Diocese to offer support to our sisters and brothers in need.

In addition to efforts for Ukraine, thank you also for your continuing hard work and for the generous help many colleagues have extended to those who have been isolating or poorly with covid. Please do continue to keep in touch with Area Deans and Archdeacons where there is absence or sickness, so that we can care for one-another appropriately.

Reintroduction of the common cup

The Covid Guidance on the Church in Wales website has been updated to allow churches to bring back the common cup where there is sufficient confidence and desire for this from Easter Sunday. Please do re-visit your risk assessments for worship and continue to reassure those who do not feel able to receive from the common-cup that receiving Holy Communion in one kind only continues to be fine. No one should feel pressurised by any changes. The amended guidance includes the following:

“Local churches have three options for the administration of Holy Communion.

1. In one kind (bread only)

2. By simultaneous administration by the priest

3. In both kinds with the use of the common cup

The Welsh Government has confirmed that there is no legal reason why the common cup should not be re-introduced but, equally, there is no requirement to do so – the decision to do so should be informed by each church’s Covid-19 risk assessment.

The Bench of Bishops recommends that, for those churches that wish to do so after careful risk assessment, the common cup can be restored from Easter Day 2022 (assuming there is no change to the regulatory framework).”

Clergy well-being

With concerns about the rising costs of living there is increasing awareness that some clergy may be feeling under greater financial pressures. There is help and support available from organisations including the Clergy Support Trust. If anyone would like further details or would like to discuss concerns, please do contact the archdeacons.

The Piggott Trust

Small grants of up to £3k are available from The Piggott Trust for projects involving vulnerable groups, children and young people, the elderly or for improving access, education or small faith-based projects. The next funding meeting to decide upon applications is at the end of May. Application forms are available from Robert Jones. (Grants can only be awarded to a Ministry Area once in 5 years, so please do not apply if your Ministry Area has received a grant from the trust in the past 5 years.)

As we enter into Holy Week we have many opportunities to gather not only as a Diocesan family but intentionally with the whole people of God throughout the world. Aware of so much that is broken at this time let us come together with gentleness and hope. Walking in the way of the cross, praying that Christ will help us to be faithful for our journey and trusting in the healing power of God’s great love.


The Revd Dr Gareth Lloyd and his wife Elizabeth
The Revd Dr Gareth Lloyd and his wife Elizabeth

A new leader for Bro Ogwen

It was announced on Sunday 3 April that the Revd Dr Gareth Lloyd has been appointed as the new Vicar and Ministry Area Leader for Bro Ogwen. To read more about the appointment please use the button below.


Gift Direct leaflets

A number of boxes of Gift Direct leaflets have arrived at Tŷ Deiniol. If you would like to arrange to collect some to distribute around your Ministry Area please do get in touch with the office to arrange this. Thank you.


An exciting new season for Llan

We will be sharing news and updates from Llan on the fourth week of each month but this week we are sharing news of the new season for Llan.

Over the past 18 months the Llan project has been in a start-up phase of research, developing ideas and building partnerships. We’re now moving into an exciting new season seeing the project take shape on the ground across the diocese.

Click the button below to read the full story on our website.


Over the next few weeks we will be praying for:

17 April
Easter Day

24 April
Beuno Sant Uwch Gwyrfai

1 May
Bishop's Council and Diocesan Council

8 May
Bro Cybi


Other dates in 2022

Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral

Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford

Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral


Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements