minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Saint Cybi's Church in Holyhead
Eglwys Cybi Sant ym Mro Cybi | Saint Cybi's Church in Bro Cybi
English

Y Ddolen


8 Mai 2022

Pedwerydd Sul y Pasg


Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:

Bro Cybi 

Gweddïwn yn enwedig dros

  • y genhadaeth i dref Caergybi a'r Ardal Weinidogaethol o'i chwmpas; am berthynas dda a ffrwythlon, gras a deall, haelioni, lles a chariad
  • wardeniaid yr eglwys a holl aelodau Cyngor yr Ardal Weinidogaeth wrth iddynt weithio’n galed i gadw ein Cenhadaeth a’n Gweinidogaeth yn fyw ac yn flaengar
  • pobl yn gweithio ar y cynigion i ad-drefnu Eglwys Sant Cybi ac Eglwys y Bedd fel eglwys gymunedol a menter gymdeithasol sy’n rhoi bywyd i Gaergybi
  • y perthynas ag aelodau’r Cyngor Tref, Cyngor Sir Ynys Môn, swyddogion y cyngor, asiantaethau a busnesau lleol wrth i ni gydweithio i greu gweledigaeth iach a llewyrchus i’n tref
  • y cynigion cenhadol ar gyfer Morawelon a chymuned yr eglwys yn Nhyddewi
  • yr henoed a phobl agored i niwed yn y gymuned, sy'n teimlo'n ynysig ac weithiau'n cael eu hanghofio
  • y gwaith mewn ysgolion lleol, gwasanaethau a rhannu'r Stori
  • y tîm stiwardio yn croesawu ymwelwyr i St Cybi's yr haf hwn

ipad diary

Dyddiadur

7 Mai
2pm
Lawnsiad o Brosiect Llenyddol Llwybr Cadfan yn Llangelynnin
Mae'r digwyddiad yma yn un rhithiol a bydd y fideo yn ymddangos ar wefan yr Esgobaeth am 2pm

11 Mehefin
2.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Gwasanaeth Caplaniaeth LDHTC+
Rhagor o fanylion i ddilyn

18 Mehefin
7.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Cwmni theatr Riding Lights a Home for Good

19 Mehefin
Dathliad Synod Môn
Rhagor o fanylion


Diolch oddi wrth Archesgob Cymru

Roedd y Gwasanaeth Gadeirio dydd Sadwrn diwethaf yn ddiwrnod arbennig iawn i mi. Roedd yn wasanaeth dan arweiniad pobl ifanc o bob rhan o Gymru ac yn llawn gweddïau, barddoniaeth, cerddoriaeth, gair ac addoliad. Hoffwn ddiolch yn gyhoeddus i bawb a fynychodd y gwasanaeth yn y Gadeirlan: staff y Gadeirlan, cydweithwyr o’r Tîm Cenedlaethol, gweinidogion trwyddedig lleyg, clerigion a chynrychiolwyr o’r Ardaloedd Gweinidogaeth. Rwy’n hynod ddiolchgar ichi am fod yno.

Diolch | Thank you


Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol Mary

Roedd gwasanaeth gorseddu'r Archesgob Andrew yn achlysur mor lawen yr wythnos diwethaf. Hyfryd oedd cael arweiniad a gweddi yn ystod y gwasanaeth gan dri grŵp o bobl ifanc, yn cynrychioli ein hysgolion ledled Cymru. Mae diolch enfawr i bawb a weithiodd mor galed i wneud y gwasanaeth yn hygyrch i gynifer ac yn achlysur mor wych. Roedd angladd Lis Perkins, hefyd yn y Gadeirlan yn y dyddiau diwethaf, yn achlysur pwysig arall. Roedd yn gyfle i ddiolch i Dduw am fywyd llawn ffydd a bywyd da. Daliwn i gofio am deulu a ffrindiau agos Lis, a phawb sy’n galaru yn ein gweddïau.

Mae'r Parchedig Andrew Sully wedi cychwyn ar ei daith gerdded i godi arian ac ymwybyddiaeth o waith pwysig Cymorth Cristnogol. Plîs gweddïwch dros hyn i gyd. Gallwch ddilyn taith gerdded Andrew ar facebook trwy “Llandudno Ministry Area”, ac hefyd mae gan Andrew Sully dudalen "justgiving" lle gellir gwneud rhoddion. Gydag wythnos Cymorth Cristnogol yn agos iawn mae’n gyfle gwych i ystyried sut y gallwn ni i gyd gefnogi ei waith. Eleni, yn ogystal â'r holl godi arian ar gyfer yr Wcrain, canolbwyntir ar yr argyfwng hinsawdd a Zimbabwe.

Arglwydd Iesu,cydnabyddwn ein rhan yn yr argyfwng hinsawdd. Agor ein llygaid I weld ble gallwn wneud gwahaniaeth I ddiogelu’r greadigaeth yn well I’r holl ddynoliaeth. Agor ein clustiau i glywed dy air.
Amen.

Y Parchg | The Revd Miriam Beecroft

Deon Bro newydd i Archddiaconiaeth Meirionnydd

Mae Archddiacon Meirionnydd, heddiw, yn cyhoeddi bod Archesgob Cymru wedi penodi’r Parchg Miriam Beecroft yn Ddeon Bro ac yn Is-Gadeirydd y Synod yn Archddiaconiaeth Meirionnydd. Bydd Miriam yn cynorthwyo Archddiacon Meirionnydd trwy ddarparu cefnogaeth fugeiliol a chenhadol i Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth a chlerigwyr y synod.

Mae Miriam wedi bod yn ficer ac yn arweinydd ardal weinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy yn nyffryn Dyfi ers 4 blynedd, a bu’n gurad ym Mro Ardudwy cyn hynny. Mae hi'n teimlo galwad clir gan Dduw i gamu i'r rôl hon ac mae'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Archddiacon Andrew i helpu i gefnogi meysydd gweinidogaeth yn ystod interregnum.

Bydd manylion o wasanaeth trwyddedi Miriam fel Ddeon Bro ac Is-gadeirydd Synod yn cael eu rhannu yn fuan.


Casgliad at Archddiacon Môn

Fel yr hysbysebwyd ym mis Ionawr mae Archddiacon Môn yn ymddeol ar ôl 40 mlynedd o weinidogaeth. Hoffai Archesgob Cymru ac Esgob Cynorthwyol Bangor eich gwahodd i wneud rhodd ariannol tuag at anrheg i ddathlu weinidogaeth yr Hyb. Andy Herrick.

Gellir anfon eich rhodd at Fwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor gan ddefnyddio'r manylion sydd ar y ffurflen ar ein gwefan: Taliadau i'r Bwrdd Cyllid

Defnyddiwch 'AAH' fel cyfeirnod os gwelwch yn dda.


Christian Aid logo

Wythnos Cymorth Cristnogol

Ymateb i heriau cymhleth ein byd, rydym wedi ein huno mewn gobaith.

Wythnos Cymorth Cristnogol 2022

Mae heriau ein byd yn aml a dyrys. O ryfel yn Wcráin, newyn yn Affganistan ac effeithiau’r argyfwng hinsawdd trwy’r byd i gyd, byddai’n hawdd troi’n fewnblyg a digalonni. Ond yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol (15-21 Mai) mae cyfle i ymateb yn gadarnhaol i’r heriau hyn. Trwy roi, gweithredu a gweddïo, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn.

Mae’r gwrthdaro yn Wcráin wedi mynd a sylw’r byd dros y misoedd diwethaf, ac mae’r ymateb gan ein heglwysi a’n cymunedau wedi bod yn llethol. Un canlyniad i’r ymladd yno yw bod prisiau grawn wedi codi, gan fod Wcráin yn wlad sy’n cynhyrchu cymaint o rawn ar gyfer y byd.

Wrth gwrs, bydd llawer o wledydd cyfoethog yn gallu ymdopi gyda’r prisiau uwch, ond i’r gwledydd tlawd mae’n fater gwahanol. Mae gwlad fel Zimbabwe, er enghraifft, eisoes yn ei chael hi’n anodd cynhyrchu eu bwyd eu hunain oherwydd y newid yn yr hinsawdd a bydd prisiau uwch yn ychwanegu at yr argyfwng.

O Wcráin i Zimbabwe

Zimbabwe gaiff sylw Wythnos Cymorth Cristnogol eleni. Yn Zimbabwe, mae’r argyfwng hinsawdd yn achosi newyn poenus i deuluoedd cyffredin. Mae effeithiau Covid-19, gwrthdaro a sychder yn dwyn pŵer teuluoedd i fwydo eu plant. Ac yn awr 7,000 milltir i ffwrdd, mae’r rhyfel yn Wcráin yn cynyddu prisiau bwyd yn Zimbabwe, ac ar draws y byd.

Mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn gweithio yno er mwyn eu helpu i addasu eu dulliau amaethyddol. Mae Janet Zirugo (yn y llun) yn fam-gu 70 oed ac wedi gweld ei bywyd yn cael ei drawsnewid gan y technegau newydd.

Un peth yn benodol sydd wedi ei helpu yw’r hadau newydd y mae’n eu defnyddio erbyn hyn. Mae’r hadau hyn yn wydn iawn mewn cyfnodau sych a thrwy eu defnyddio gall Janet sicrhau cnydau da ar gyfer ei theulu. Mae wedi gallu troi ei thir sych a llychlyd yn ardd llawn llysiau lliwgar.

Dyma’r hyn y mae Wythnos Cymorth Cristnogol yn gallu ei gyflawni. Mae’r arian yr ydych yn ei godi yn holl bwysig yng ngwaith y mudiad o amgylch y byd.

Awn ati - yr her 300,000 a mwy

Bydd pob math o weithgareddau’n digwydd ledled Cymru o amgylch cyfnod yr Wythnos, yn cynnwys nifer o unigolion a grwpiau sy am gyflawni her y 300,000 cam trwy fis Mai. Mae’r her hon wedi cydio yn nychymyg llawer ers iddi gael ei threialu dwy flynedd yn ôl.

Un person sy am gyflawni’r her hon ydi ficer Llandudno, Andrew Sully. Mae wedi gosod nod sylweddol iawn iddo’i hun - sef cerdded o’r Waen i Gaernarfon gan gysylltu pob un o gestyll y gogledd ar y ffordd, 22 ohonynt. Bydd wedi cerdded mwy na 300,000 cam erbyn diwedd mis Mai heb os! Os yw ymdrech Andrew yn eich ysbrydoli, beth am drefnu eich taith eich hun yn lleol?

Cewch fwy o wybodaeth ar ein gwefan www.caid.org.uk lle'r mai llyfrgell o adnoddau i lawr lwytho ac i archebu - gan gynnwys amrywiaeth o adnoddau addoli fel nodiadau pregeth, fideos, trefn gwasanaeth, adnodd defosiynol gyda gweithred ymgyrchu, gweithgareddau i blant, ynghyd â llwyth o syniadau ac adnoddau codi arian.

Os hoffech mwy o wybodaeth am sut y gallwch chi a’r eglwys bod yn rhan o’r Wythnos, cysylltwch â thîm Cymorth Cristnogol Cymru trwy ffonio’r swyddfa yng Nghaerdydd ar 029 2084 4646 neu trwy e-bostio cymru@cymorth-cristnogol.org

Mwy nag erioed fe welwn fod problemau’n byd yn gymhleth ac yn rhyng-gysylltiol. Ond trwy waith Cymorth Cristnogol, rydym yn gweld yn ddyddiol gallu anhygoel unigolion newid y byd, trwy weithredoedd creadigol a hyderus a trwy ein strygl unedig dros gyfiawnder a chydraddoldeb. Trwy sefyll mewn undod gyda’n brodyr a’n chwiorydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd nifer.

Rydym wedi ein huno mewn gobaith.


Eglwys Llangelynnin

Prosiect Llenyddol Llwybr Cadfan

Edrychwn ymlaen at ail gymal y Prosiect Llenyddol Llwybr Cadfan fydd yn mynd rhagddo ym Mis Mai.

Digwyddiad digidol, rhithwir fydd hwn fydd yn cael ei lawnsio ar wefan Esgobaeth Bangor am 2pm brynhawn Sadwrn 7 Mai . Rydym am ganolbwyntio ar ein hail leoliad ar y daith sef Eglwys Celynin Sant, Llangelynin.

Holl bwrpas y prosiect hwn yw ddod i adnabod eglwysi a chymunedau ar hyd Lwybr Cadfan rhwng Dywyn ym Meirionnydd ag Ynys Enlli; lle y credir mai Cadfan, y cenhadwr Celtaidd o’r chweched ganrif, oedd yr abad cyntaf. Bydd y ddau fardd preswyl, Siôn Aled a Sian Northey ynghyd â Annes Glyn y bardd gwadd, yn darllen eu cerddi gwreiddiol fydd yn cynnig golwg newydd i ni ar y lleoliad arbennig hwn ynghyd â dathlu’r dreftadaeth leol. Cyflwynir cefndir hanesyddol Celynin Sant gan yr Hybarch Andrew Jones, Archddiacon Meirionydd a bydd gair o weddi gan Carwyn Siddall ynghyd â chyfrannwyr eraill.


Hassanau dros ben

Mae gan Eglwys Holy Cross Wyken yn Coventry tua 50 o hosanau (coch) mewn cyflwr da nad ydyn nhw byth yn eu defnyddio ac maen nhw eisiau rhoi ‘am ddim i gartref da’. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Naomi Wood



Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:

15 Mai
Wythnos Cymorth Cristnogol

22 Mai
Bro Cwyfan

29 Mai
Bro Enlli

5 Mehefin
Pentecost

12 Mehefin
Bro Tudno

19 Mehefin
Bro Gwydyr

26 Mehefin
Bro Moelwyn


Dyddiadau eraill yn 2022

Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant

Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen

Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill

Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood


Cymraeg

Y Ddolen


8 May 2022

The Fourth Sunday of Easter


This Sunday and through the week we pray for:

Bro Cybi

We pray in particular for;

  • the mission to the town of Holyhead and surrounding Ministry Area; for good and fruitful relationships, grace and understanding, generosity, wellbeing and love
  • the church wardens and all Ministry Area Council members as they work hard to keep our Mission and Ministry alive and forward thinking
  • people working on the proposals to re-order St Cybi's and Eglwys y Bedd as a community church and life-giving social enterprise for Holyhead
  • relationships with members of the Town Council, Anglesey County Council, council officers, local agencies and businesses as we work together for a healthy and prosperous vision for our town
  • the mission proposals for Morawelon and the church community at St Davids
  • the elderly and vulnerable in the community, who feel isolated and sometimes forgotten
  • the work in local schools, assemblies and sharing the Story
  • the stewarding team welcoming visitors to St Cybi's this summer

diary

Diary

7 May
2pm
Launch of Llwybr Cadfan's Literary Project at Llangelynnin
This is a digital launch with the video appearing on our website at 2pm

11 June
2.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
LGBTQ+ Chaplaincy Service
More details to follow

18 June
7.30pm
Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor
Riding Lights theatre company with Home for Good

19 June
Synod Môn Celebration
More details


A thank you from the Archbishop of Wales

The Enthronement Service last Saturday was a very special day for me. It was a service led by young people from across Wales and was filled with prayers, poetry, music, word and worship. I would like to publicly thank all those who attended the service at the Cathedral: Cathedral staff, colleagues from the National Team, lay licensed ministers, clergy and representatives from the Ministry Areas. I am hugely grateful to you for being there.

Diolch | Thank you


From our Assistant Bishop Mary

The enthronement service for Archbishop Andrew was such a joyful occasion last week. It was wonderful to have leadership and prayer during the service from three groups of young people, representing our schools across Wales. Huge thanks are due to everyone who worked so very hard to make the service accessible to so many and such a wonderful occasion. The funeral of Lis Perkins, also at the Cathedral in recent days, was another important ocasion. It was an opportunity to thank God for a life full of faith and well lived. We continue to remember Lis's family and close friends, and all who are mourning in our prayers.

The Reverend Andrew Sully has begun his walk raising money and awareness of the important work of Christian Aid. Please do pray for all of this. You can follow Andrew's walk on facebook via Llandudno Ministry Area, and Andrew Sully has a "justgiving" page where donations can be made. With Christian Aid week very close it is a great opportunity to consider how we all might support its work. This year, in addition to all the fundraising for Ukraine there is a focus upon the Climate emergency and Zimbabwe.

Lord Jesus, we recognize our part in the climate emergency, open our eyes to see where we can make a difference and be good stewards of creation for all. Open our ears to your word.
Amen.

A new Area Dean for the Archdeaconry of Meirionnydd

The Archdeacon of Meirionnydd is, today, announcing that the Archbishop of Wales has appointed the Revd Miriam Beecroft as Area Dean and Synod Vice Chair in the Archdeaconry of Meirionnydd. Miriam will be assisting the Archdeacon of Meirionnydd through providing pastoral and missional support to the Ministry Area Leaders and clergy of the synod.

Miriam has been vicar and ministry area leader in Bro Cyfeiliog a Mawddwy in the Dyfi valley for 4 years, and was curate in Bro Ardudwy before that. She feels a clear call from God to step into this role and is looking forward to working with Archdeacon Andrew to help support ministry areas during interregnum.

Details of Miriam's licensing as Area Dean and Synod Vice Chair will be shared soon.


Archdeacon Andy Preaching at the Cathedral
Archddiacon Môn | The Archdeacon of Anglesey

Collection for the Archdeacon of Anglesey

As was announced in January, the Archdeacon of Anglesey will soon be retiring after 40 years of ministry.

The Archbishop of Wales and the Assistant Bishop of Bangor would like to invite you to make a financial contribution towards a gift to celebrate the Ven. Andy Herrick's ministry.

Payments should be sent to the Bangor Diocesan Board of Finance using the details on the form on our webiste: Payments to the Bangor Diocesan Board of Finance

Please use 'AAH' as a reference for the payment


Christian Aid Week

In responding to the world’s complex challenges, we are united by hope

Christian Aid Week 2022

The challenges faced by our world are numerous and complex. From the Ukrainian conflict, the famine in Afghanistan and the climate emergency’s effects worldwide, it would be so easy to turn inwards and become downhearted. During Christian Aid Week (15-21 May), however, we have an opportunity to respond positively to these challenges. By giving, acting and praying, we can make a real difference.

The conflict in Ukraine has rightly been in our thoughts and prayers in recent months, and the generosity from the churches and our communities is overwhelming. One consequence of the awful events there, is that grain prices have risen, since Ukraine is a country which grows a significant amount of the world’s grain needs.

While richer countries may be able to cope with higher prices, for those poorer countries it may well be a very different proposition. A country like Zimbabwe, for example, already struggles to grow its own food because of the changing climate and higher prices may well add to their crisis.

From Ukraine to Zimbabwe

Zimbabwe is the focus country of Christian Aid Week this May. In Zimbabwe, the climate crisis is causing aching hunger for families. The combined effects of the Covid-19 pandemic, conflict, and drought have robbed families of the power to provide for their children. And now 7,000 miles away, the war in Ukraine will drive up food prices in Zimbabwe, and around the globe.

Christian Aid partners have been working there to help people adapt their farming methods. Janet Zirugo (pictured) is a 70-year-old grandmother and she has seen her life transformed by these new techniques. One particular thing which has helped her is a new seed she now uses. These seeds are very resistant to drought and by using them, Janet can ensure a good crop for her family during the dry seasons which are much worse due to climate change. She has turned her dry and dusty patch of land into a garden full of plenty and colour.

This is what Christian Aid Week can achieve. The funds raised are vitally important to our partners’ work in Zimbabwe and around the world.

Let’s go! 300k steps and more

As ever, there will be many different fundraising events right across Wales during Christian Aid Week, including many individuals and groups who will participating in the 300,000 steps challenge. This challenge event has really grabbed the imagination of many since its inception two years ago.

One who is stepping up to meet the challenge is the vicar of Llandudno, Andrew Sully. He has set himself an ambitious target of walking to all of north Wales’s 22 castles. He will have completed more than 300,000 steps by the end of May, for sure!

If Andrew’s challenge inspires you, why not sign up to do your own? You can ask family and friends to help should you wish, or you could strike out on your own. There will be plenty of other, more traditional, fundraising activities on too.

Please visit www.caweek.org where you will find a wealth of resources to download and to order – including a wide range of worship resources, sermon notes, videos, order of service, a daily devotional with a campaigning action, posters, children’s activities, as well as a whole host of fundraising ideas and resources.

If you’d like more information about how you and your church could get involved, please contact the Christian Aid team in Wales via the office in Cardiff on 029 2084 4646 or email wales@christian-aid.org

More than ever we see that our world has complex and interconnected needs. Through the work of Christian Aid, we are reminded day by day of people’s agency and ability to change the world for the better, through countless individual acts of courage and creativity, and through our collective struggle for justice and equality. By standing in unity with our brothers and sisters around the globe this Christian Aid Week, we can make a real difference to the lives of many.

Together we are united by hope. 


Llwybr Cadfan Literary Project

We look forward to the second phase of the Llwybr Cadfan Literary Project which will go ahead in May.

This will be a virtual, digital event that will be launched on our diocesan website at 2pm on Saturday 7 May. We will be focusing our attention on our second location along the journey; St Celynin's Church, Llangelynin.

This project aims to get to know churches and communities on Llwybr Cadfan between Tywyn in Meirionnydd and Bardsey Island where Cadfan, the sixth-century Celtic missionary, is believed to have been the first abbot. The two resident poets, Siôn Aled and Sian Northey along with Annes Glyn the guest poet, will read their original work offering us a new look at this special location as well as celebrating the local heritage. The historic background of Saint Celynin will be presented by the Venerable Andrew Jones, Archdeacon of Meirionydd, and there will also be a word of prayer from Carwyn Siddall along with other contributors.


Surplus hassocks

Holy Cross Wyken Church in Coventry have about 50 hassocks (red) in good condition which they never use and want to give away ‘free to a good home’. For more information please contact Naomi Wood



Over the next few weeks we will be praying for:

15 May
Christian Aid Week

22 May
Bro Cwyfan

29 May
Bro Enlli

5 June
Pentecost

12 June
Bro Tudno

19 June
Bro Gwydyr

26 June
Bro Moelwyn


Other dates in 2022

Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral

Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford

Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral


Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements

Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood