Y Ddolen
5 Mehefin 2022
Pentecost
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:
Y Pentecost
O Dduw, a ddysgaist yr adeg hon
galonnau dy ffyddloniaid
trwy anfon atynt oleuni dy Ysbryd Glân,
dyro i ni drwy'r un Ysbryd
feddu barn gywir ym mhob peth
a llawenhau byth yn ei ddiddanwch sanctaidd:
drwy haeddiannau Crist lesu ein Gwaredwr,
sy'n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.

Y Parchg Martyn Lewis
Ysgrifenna Archddiacon Meirionnydd:
Gyda chalon drom y rhannwn y newydd am farwolaeth y Parchg Martyn Lewis.
Bu farw Martyn yn Ysbyty Gwynedd ddoe, wedi ei atgyfnerthu gan Sagrafennau'r Eglwys, yn dilyn afiechyd a ddioddefodd gyda gras a dyfalbarhad addfwyn.
Cawsom y fraint o dderbyn gweinidogaeth offeiriadol Martyn ym Mro Enlli, lle’r oedd yn fugail tyner a gofalgar, wrth galon ein cynulleidfaoedd.
Gweddïwn yn arbennig ar yr adeg hon dros wyres Martyn, Scarlet, a thros ei ffrind a’i ofalwr ffyddlon, Kath.
Bydd gwybodaeth am angladd Martyn yn cael ei rhannu unwaith y bydd trefniadau wedi eu cadarnhau.
Gorffwysed ef mewn tangnefedd, a chyfodi mewn gogoniant.
Dyddiadur
11 Mehefin
Cymun Caplaniaeth LDHTC+
2.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

18 Mehefin
Encil y Pentecost
10am - 3.45pm
Eglwys y Santes Fair Ffordd Mona PorthaethwyLL59 5EA
Yng nghwmni Archesgob Andrew John, y Parchg Anna Jane Evans, y Parchg Sara Roberts, Manon Llwyd, Aled Lewis Evans a Cefyn Burgess
Cost yr encil £25.00 (Talwch ar y diwrnod)
I archebu lle cysylltwch â: Catrin Evans trwy ebost neu ffôn: 01248 680858
18 Mehefin
Cwmni theatr Riding Lights a Home for Good
7.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
19 Mehefin
Dathliad Archddiaconiaeth Ynys Môn
10.30am
Ysgol Cybi
25 Mehefin
Gwasanaeth o Ordinasiwn
11.00am
Cadeirlan Deiniol Sant
Mae Helen Franklin a Selwyn Griffiths yn cael eu hordeinio’n Ddiacon yn y gwasanaeth eleni. Dewch i ddathlu yn y gwasanaeth i'w cefnogi wrth iddynt ddechrau eu gweinidogaethau newydd.
Cyfarfodydd Synod
Meirionydd - 27 Mehefin, 10.00am
Ynys Môn - 27 Mehefin, 7.00pm
Bangor - 28 Mehefin, 10.00am
Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol Mary
Hoffwn dynnu eich sylw at ddigwyddiadau sydd i ddod, yn gyntaf Diwrnod Encil Tymor y Pentecost Cymreig ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin ym Mhorthaethwy.
Yn ail, gweddïwch dros ddau ymgeisydd sydd i'w hordeinio yng Nghadeirlan Deiniol Sant ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin am 11am. Bydd Selwyn Griffiths a Helen Franklin yn cael eu hordeinio’n ddiacon y diwrnod hwnnw.
Yn ychwanegol at eich gweddïau byddai eich presenoldeb yn y Gadeirlan ar gyfer eu hordeinio yn arwydd hyfryd o gadarnhad iddynt ar ddechrau eu gweinidogaethau newydd.
Duw dechreuadau newydd, rhoddwr gobaith a bywyd. Wrth inni geisio dilyn Iesu a dathlu dyfodiad yr Ysbryd Glân ar yr adeg hon o’r jiwbilî, llanw ni â llawenydd ac arwain ni bob amser yn dy ffyrdd o dangnefedd. Amen.

Croeso i ddau Arweinydd Ardal newydd
Yr wythnos hon fe wnaethom drwyddedu dau Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd. Trwyddedwyd y Parchg Jenny Clarke ym Mro Eleth yn Archddiaconiaeth Môn ddydd Mawrth 31 Mai a thrwyddedwyd y Parchg Ddr Gareth Lloyd ym Mro Ogwen yn Archddiaconiaeth Bangor ddydd Mercher 1 Mehefin.
Plis cadwch Jenny a Bro Eleth, a Gareth a Bro Ogwen yn eich gweddïau wrth iddynt ddod i adnabod ei gilydd a dechrau gweinidogaethu gyda’i gilydd yn eu cymunedau lleol.
Hyfforddiant Diogelu
Mae’n ofynnol i bob clerig, warden Eglwys, Darllenydd trwyddedig, gofalwyr, aelodau Cyngor Ardal Weinidogaeth, swyddogion diogelu Ardaloedd Gweinidogaeth ac unrhyw un sydd â rôl sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl gwblhau hyfforddiant Diogelu. Mae angen cwblhau'r hyfforddiant pob tair mlynedd.
Darperir hwn yn ganolog gan yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r dyddiadau canlynol ar gael ar hyn o bryd er eu bod yn weddol fyr rybudd i rai. Rhaid cwblhau dwy ran Modiwl B. Mae Modiwl A yn gwrs ar-lein ond nid yw all-lein ar hyn o bryd.
Modiwl B1 8 Mehefin 1.30pm Swyddfa Cyngor Tref Machynlleth
Modiwl B2 23 Mehefin 1.30pm Swyddfa Cyngor Tref Machynlleth
Modiwl B1 4 Gorffennaf 10.00am Neuadd Eglwys y Santes Fair, Betws y Coed
Modiwl B2 11 Gorffennaf 2.00pm Neuadd Eglwys Santes Fair, Betws y Coed
Modiwl B1 10 Mehefin 9.30am Neuadd Eglwys Cyngar Sant, Llangefni
Modiwl B2 21 Mehefin 1.00pm Neuadd Eglwys Cyngar Sant, Llangefni
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, cysylltwch â Sarah yn safeguardingtraining@eglwysyngnghymru.org.uk
Mae'r hyfforddiant diogelu wedi'i gynllunio i arfogi mynychwyr i ymgysylltu'n gadarnhaol ag amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n wynebu risg mewn modd ymarferol a gwybodus. Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod yr Eglwys yn ddiogel a chroesawgar i bawb, ac wedi’i dylunio i helpu’r mynychwyr i ddeall gofynion statudol diogelu a sut y cyflawnir y rhain yng nghyd-destun yr Eglwys yng Nghymru.
Llinell ffôn Tŷ Deiniol
Nid yw llinell ffôn Tŷ Deiniol yn gweithio ar hyn o bryd. Er mwyn cysylltu â'r swyddfa gyrrwch ebost at bangor@eglwysyngnghymru.org.uk neu cysylltwch yn uniongyrchol â'r aelod o staff. Ceir manylion cyswllt y tîm yma.
Casgliad at Archddiacon Môn
Fel yr hysbysebwyd ym mis Ionawr mae Archddiacon Môn yn ymddeol ar ôl 40 mlynedd o weinidogaeth. Hoffai Archesgob Cymru ac Esgob Cynorthwyol Bangor eich gwahodd i wneud rhodd ariannol tuag at anrheg i ddathlu weinidogaeth yr Hyb. Andy Herrick.
Gellir anfon eich rhodd at Fwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor gan ddefnyddio'r manylion sydd ar y ffurflen ar ein gwefan: Taliadau i'r Bwrdd Cyllid
Defnyddiwch 'AAH' fel cyfeirnod os gwelwch yn dda.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:
12 Mehefin
Bro Tudno
19 Mehefin
Bro Gwydyr
26 Mehefin
Bro Moelwyn
Dyddiadau eraill yn 2022
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood
Y Ddolen
5 June 2022
Pentecost
This Sunday and through the week we pray for:
Pentecost
God, who at this time
taught the hearts of your faithful people
by sending to them the light of your Holy Spirit:
grant us by the same Spirit
to have a right judgement in all things
and evermore to rejoice in his holy comfort;
through the merits of Christ Jesus our Saviour,
who is alive and reigns with you,
in the unity of the Holy Spirit,
one God, now and for ever.

The Revd Martyn Lewis
The Archdeacon of Meirionnydd writes:
It is with a heavy heart that we share the news of death of the Revd Martyn Lewis.
Martyn died in Ysbyty Gwynedd yesterday, fortified by the Sacraments of the Church, following an illness that he had borne with grace and a quiet determination.
We were privileged to receive Martyn’s priestly ministry in Bro Enlli, where he was a gentle and caring shepherd, beloved by our congregations.
We pray especially at this time for Martyn’s granddaughter, Scarlet, and for his friend and faithful carer, Kath.
Information about Martyn’s funeral will be shared once arrangements have been confirmed.
May he rest in peace, and rise in glory.
Diary
11 June
LGBTQ+ Chaplaincy Eucharist
2.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor

18 June
Welsh language Pentecost retreat
10am - 3.45pm
Eglwys y Santes Fair Ffordd Mona Porthaethwy LL59 5EA
With the Archbishop of Wales the Most Revd Andrew John, the Revd Anna Jane Evans, the Revd Sara Roberts, Manon Llwyd, Aled Lewis Evans a Cefyn Burgess
Cost £25.00 (Please pay on the day)
To book a place please contact: Catrin Evans by email or phone 01248 680858
18 June
Riding Lights theatre company with Home for Good
7.30pm
Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor
19 June
Archdeaconry of Anglesey Celebration
10.30am
Ysgol Cybi
25 June
Ordination service
11.00am
Saint Deiniol's Cathedral
Helen Franklin and Selwyn Griffiths will both be ordained Deacon at this year's service. Please do attend the service to support them and to celebrate with them as they begin their new ministries.
Synod Meetings
Meirionydd - 27 June, 10.00am
Anglesey - 27 June, 7.00pm
Bangor - 28 June, 10.00am
From our Assistant Bishop Mary
I'd like to draw your attention to up-coming events, firstly the Welsh Pentecost Season Retreat Day on Saturday 18 June in Menai Bridge.
Secondly please do pray for out two candidates due to be ordained in Saint Deiniol's Cathedral on Saturday 25 June at 11am. Selwyn Griffiths and Helen Franklin will be ordained deacon on that day.
In addition to your prayers your presence at the Cathedral for their ordination would be a lovely sign of affirmation for them at the start of their new ministries.
God of new beginnings, giver of hope and life. As we seek to follow Jesus and celebrate the coming of the Holy Spirit at this time of jubilee, fill us with joy and lead us always in your ways of peace. Amen.

A warm welcome to two new Ministry Area Leaders
This week we licensed two new Ministry Area Leaders. The Revd Jenny Clarke was licensed in Bro Eleth in the Archdeaconry of Anglesey on Tuesday 31 May and the Revd Dr Gareth Lloyd was licensed in Bro Ogwen in the Archdeaconry of Bangor on Wednesday 1 June.
Please do keep Jenny and Bro Eleth, and Gareth and Bro Ogwen in your prayers as they get to know each other and begin to minister together in their local communities.
Safeguarding Training
It is a requirement that all clergy, churchwardens, licensed readers, vergers, Ministry Area Council members, Ministry Area safeguarding officers and anyone who has a role which involves working with children, young people and adults at risk complete Safeguarding training. The training needs to be renewed every three years.
This is provided centrally by the Church in Wales. The following dates are currently available though they are quite short notice for some. Both parts of Module B must be completed. Module A is an online course but is currently offline.
Module B1 8 June 1.30pm Machynlleth Town Council office
Module B2 23 June 1.30pm Machynlleth Town Council office
Module B1 4 July 10.00am Saint Mary's Church Hall, Betws y Coed
Module B2 11 July 2.00pm Saint Mary's Church Hall, Betws y Coed
Module B1 10 June 9.30am Saint Cyngar’s Church Hall, Llangefni
Module B2 21 June 1.00pm Saint Cyngar’s Church Hall, Llangefni
For more information and to book your place please contact Sarah at safeguardingtraining@churchinwales.org.uk
The safeguarding training is designed to equip attendees to engage positively with the protection of children, young people and adults at risk in a practical and informed manner. It is committed to ensuring that the Church is safe and welcoming for all, and designed to help attendees understand the statutory requirements of safeguarding and how these are carried out in the context of the Church in Wales.
Tŷ Deiniol phone lines
The phone line for Tŷ Deiniol isn't working at present. To contact the office please email bangor@churchinwales.org.uk or contact the member of staff directly. Contact details for the team can be found here.
Collection for the Archdeacon of Anglesey
As was announced in January, the Archdeacon of Anglesey will soon be retiring after 40 years of ministry.
The Archbishop of Wales and the Assistant Bishop of Bangor would like to invite you to make a financial contribution towards a gift to celebrate the Ven. Andy Herrick's ministry.
Payments should be sent to the Bangor Diocesan Board of Finance using the details on the form on our webiste: Payments to the Bangor Diocesan Board of Finance
Please use 'AAH' as a reference for the payment
Over the next few weeks we will be praying for:
12 June
Bro Tudno
19 June
Bro Gwydyr
26 June
Bro Moelwyn
Other dates in 2022
Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral
Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood