minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Llandudno
English

Y Ddolen


12 Mehefin 2022

Sul y Drindod


Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:

Ardal Weinidogaeth Llandudno

Gofynnwn am ein gweddïau yn enwedig am:

  • Angela Pritchard, am ei blynyddoedd o weinidogaeth ffyddlon i Undeb y Mamau, Cymorth Cristnogol, ac Urdd St Raphael.
  • Maggie Leitch, Llywydd newydd Undeb y Mamau Llandudno.
  • Terry Dewar, gofalwr a rheolwr tiroedd.
  • Tim Hodgins sy'n cael ei sefydlu ar ddydd Sadwrn 11 Mehefin i'w Weinidogaeth newydd yn Eglwys Gloddaeth URC yn Llandudno
  • Peggy Jones a fydd yn dathlu ei phenblwydd yn 100 oed ar ddydd Mercher 15 Mehefin.
  • y Parchg Tim Hall a'i weinidogaeth i ffoaduriaid Wcráin
  • Sue Seddon y bu ei hangladd yr wythnos hon. I’w gŵr Tony a’i phlant, Chris a Liz, wrth iddynt ddod i delerau â’i marwolaeth sydyn.
  • Ysbyty Llandudno a’r rhai sy’n gweithio yno, yn enwedig gweinidogaeth y Parchg Andrew Sully fel Caplan
  • I Llinos Roberts, Gweithiwr Cefnogi Ardal i Gymorth Cristnogol a gyda diolch i'r rhai a gefnogodd y Parchg Andrew Sully ar ei daith gerdded rhwng 22 o gestyll yng Ngogledd Cymru a'i helpu i godi £10K.

Dyddiadur

11 Mehefin
Cymun Caplaniaeth LDHTC+
2.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

18 Mehefin
Encil y Pentecost
10am - 3.45pm
Eglwys y Santes Fair Ffordd Mona PorthaethwyLL59 5EA

Yng nghwmni Archesgob Andrew John, y Parchg Anna Jane Evans, y Parchg Sara Roberts, Manon Llwyd, Aled Lewis Evans a Cefyn Burgess

Cost yr encil £25.00 (Talwch ar y diwrnod)
I archebu lle cysylltwch â: Catrin Evans trwy ebost neu ffôn: 01248 680858

18 Mehefin
Cwmni theatr Riding Lights a Home for Good
7.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

19 Mehefin
Dathliad Archddiaconiaeth Ynys Môn
10.30am
Ysgol Cybi

25 Mehefin
Gwasanaeth o Ordinasiwn
11.00am
Cadeirlan Deiniol Sant

Mae Helen Franklin a Selwyn Griffiths yn cael eu hordeinio’n Ddiacon yn y gwasanaeth eleni. Dewch i ddathlu yn y gwasanaeth i'w cefnogi wrth iddynt ddechrau eu gweinidogaethau newydd.

Cyfarfodydd Synod
Meirionydd - 27 Mehefin, 10.00am
Ynys Môn - 27 Mehefin, 7.00pm 
Bangor - 28 Mehefin, 10.00am


Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol Mary

Rwyf mor falch o weld baner yr enfys yn chwifio yn ein Cadeirlan ar gyfer mis “Balchder”. Mae’r symbol hwn, sydd wrth gwrs i ni fel Cristnogion yn arwydd Beiblaidd o gyfamod neu berthynas Duw â ni, yn arwydd o obaith. Mae’n arwydd o gariad cynhwysol Duw ac o’r croeso rydyn ni’n ymdrechu i’w gynnig. I mi, mae’n help bod arwydd yr enfys yn y Beibl yn dod fel marciwr ar daith dealltwriaeth. Mae'n rhan gynnar o stori sy'n datblygu lle mae llawer i'w ddatrys, ei ddarganfod a'i ddysgu o hyd. Ond gyda'r enfys mae ymrwymiad gan Dduw i heddwch a chymod. Mae angen gobaith, heddwch a chymod arnom ar bob lefel o'n bywydau, a rhaid i ni weddïo am hyn.

Yn nheulu’r esgobaeth galarwn am farwolaeth y Parchg Martyn Lewis a ddangosodd i lawer ohonom sut y gall llawenydd dwfn edrych, hyd yn oed yng nghanol salwch a dioddefaint, a pharhawn i weddïo dros ei deulu, ei ffrindiau agos a phobl Bro Enlli a phawb y gweinidogaethai yn eu plith.

Daliwch ati hefyd i weddïo dros Selwyn Griffiths a Helen Franklin wrth iddynt baratoi ar gyfer ordeinio yn ddiweddarach y mis hwn.

Dduw bywyd a gobaith, yn nhymor y Pentecost hwn anadlwch yn ein calonnau ymrwymiad o’r newydd i’ch caru chi a’n holl gymdogion. Cadw ni yn astud i sylwi ar arwyddion gras, cynorthwya ni i estyn allan at bawb sydd angen teimlo dy ofal. Helpa ni i dyfu fel cymunedau o groeso llawen. Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist
Amen


The Revd Jenny Clarke with the Archdeacon of Anglesey and Bishop Mary
Coleg Caerwrangon yn Rhydychen | Worcester College in Oxford

Diwinydda campus - Cynhadledd Glerigol

Yn dilyn cyfres o gynadleddau clerigol blynyddol sydd wedi canolbwyntio ar praxis y weinidogaeth, bydd Cynhadledd Glerigol 2022 yn ein trochi yn ehangder diwinyddiaeth academaidd a'i disgyblaethau.

Mae gwahoddiad wedi cael ei yrru at y rhai sydd i fynychu'r cynhadledd. Os ydych chi wedi derbyn gwahoddiad plîs cofrestrwch trwy defnyddio'r linc yn yr ebost. Diolch


Cysylltu â Thŷ Deiniol

Mae llinell ffôn Tŷ Deiniol wedi ei hadfer. Sylwch nad yw'r holl staff yn gweithio'n llawn amser yn Nhŷ Deiniol. Os hoffech gysylltu â'r tîm e-bostiwch bangor@eglwysyngnghymru.org.uk


Casgliad at Archddiacon Môn

Fel yr hysbysebwyd ym mis Ionawr mae Archddiacon Môn yn ymddeol ar ôl 40 mlynedd o weinidogaeth. Hoffai Archesgob Cymru ac Esgob Cynorthwyol Bangor eich gwahodd i wneud rhodd ariannol tuag at anrheg i ddathlu weinidogaeth yr Hyb. Andy Herrick.

Gellir anfon eich rhodd at Fwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor gan ddefnyddio'r manylion sydd ar y ffurflen ar ein gwefan: Taliadau i'r Bwrdd Cyllid

Defnyddiwch 'AAH' fel cyfeirnod os gwelwch yn dda.


Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:

19 Mehefin
Bro Gwydyr

26 Mehefin
Bro Moelwyn

3 Gorffennaf
Bro Peblig

10 Gorffennaf
Bro Cymer

17 Gorffennaf
Bro Tysilio

24 Gorffennaf
Pwyllgor Eiddo yr Esgobaeth

31 Gorffennaf
Bro Eifionydd


Dyddiadau eraill yn 2022

Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant

Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen

Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill

Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


12 June 2022

Trinity Sunday


This Sunday and through the week we pray for:

the Ministry Area of Llandudno

Our prayers are asked in particular for:

  • Angela Pritchard for her years of faithful Ministry to the Mother's Union, Christian Aid, and Guild of St Raphael.
  • Maggie Leitch. The new President of Llandudno Mother's Union.
  • Terry Dewar, verger and grounds manager.
  • Tim Hodgins who is being inducted on Saturday 11 June to his new Ministry in Gloddaeth URC Church in Llandudno
  • Peggy Jones who will be celebrating her 100th birthday on Wednesday 15 June.
  • the Revd Tim Hall and his ministry to Ukrainian refugees
  • Sue Seddon whose funeral was this week. For her husband Tony and her children, Chris and Liz, as they come to terms with her sudden death.
  • Llandudno hospital and those who work there, especially The Revd Andrew Sully's ministry as Chaplain
  • For Llinos Roberts, Area Support Worker for Christian Aid and with gratitude to those who supported the Revd Andrew Sully on his walk between 22 castles in North Wales and helped him raise £10K.

Diary

11 June
LGBTQ+ Chaplaincy Eucharist
2.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor

18 June
Welsh language Pentecost retreat
10am - 3.45pm
Eglwys y Santes Fair Ffordd Mona Porthaethwy LL59 5EA

With the Archbishop of Wales the Most Revd Andrew John, the Revd Anna Jane Evans, the Revd Sara Roberts, Manon Llwyd, Aled Lewis Evans a Cefyn Burgess

Cost £25.00 (Please pay on the day)
To book a place please contact: Catrin Evans by email or phone 01248 680858

18 June
Riding Lights theatre company with Home for Good
7.30pm
Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor

19 June
Archdeaconry of Anglesey Celebration
10.30am
Ysgol Cybi

25 June
Ordination service
11.00am
Saint Deiniol's Cathedral
Helen Franklin and Selwyn Griffiths will both be ordained Deacon at this year's service. Please do attend the service to support them and to celebrate with them as they begin their new ministries.

Synod Meetings
Meirionydd - 27 June, 10.00am
Anglesey - 27 June, 7.00pm
Bangor - 28 June, 10.00am


From our Assistant Bishop Mary

I am so glad to see the rainbow flag flying at our Cathedral for Pride month. This symbol, which of course for us as Christians is a Biblical sign of God's covenant or relationship with us is a sign of hope. It is a sign of God's inclusive love and of the welcome we strive to offer. For me, it's a help that the rainbow sign in the Bible comes as a marker on a journey of understanding. It's an early part of a developing story in which there is much still to be resolved, discovered and learned. But with the rainbow there is a commitment from God to peace-making and reconciliation. We all need hope, peace and reconciliation at every level of our lives and we should pray for this`

In the diocesan family we mourn the death of the Revd Martyn Lewis who showed many of us what deep joy can look like even in the midst of illness and suffering, and we continue to pray for his family, close friends and the people of Bro Enlli and all amongst whom he ministered.

Please also continue to pray for Selwyn Griffiths and Helen Franklin as they prepare for ordination later this month.

God of life and hope, in this Pentecost season breathe into our hearts a renewed commitment to loving you and all our neighbours. Keep us attentive to notice signs of grace, help us to reach out to all who need to feel your care. Help us to grow as communities of joyful welcome. We ask this in Jesus' name
Amen


Worcester college in Oxford
Coleg Caerwrangon yn Rhydychen | Worcester College in Oxford

Doing theology excellently - Clergy Conference

Following a series of annual clergy conferences that have focused on the praxis of ministry, our 2022 Clergy Conference will immerse us in the breadth of academic theology and its disciplines.

An invitation has been sent to those who are invited to attend the conference. If you have received an invitation please ensure you register using the link in your email. Thank you


Contacting Tŷ Deiniol

The phone line for Tŷ Deiniol has been restored. Please note that not all staff work full time at Tŷ Deiniol. If you would like to contact the team please email bangor@churchinwales.org.uk


Collection for the Archdeacon of Anglesey

As was announced in January, the Archdeacon of Anglesey will soon be retiring after 40 years of ministry.

The Archbishop of Wales and the Assistant Bishop of Bangor would like to invite you to make a financial contribution towards a gift to celebrate the Ven. Andy Herrick's ministry.

Payments should be sent to the Bangor Diocesan Board of Finance using the details on the form on our webiste: Payments to the Bangor Diocesan Board of Finance

Please use 'AAH' as a reference for the payment


Over the next few weeks we will be praying for:

19 June
Bro Gwydyr

26 June
Bro Moelwyn

3 July
Bro Peblig

10 July
Bro Cymer

17 July
Bro Tysilio

24 July
The Diocesan Property Committee

31 July
Bro Eifionydd


Other dates in 2022

Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral

Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford

Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral


Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements

Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.