minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Betws y Coed
Betws y Coed, Bro Gwydyr
English

Y Ddolen


19 Mehefin 2022

Corpus Christi


Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:

Bro Gwydyr

Gofynnwn am ein gweddïau yn enwedig am:

  • Stuart, Huw, Keith & Sue sy’n arwain addoliad a Selwyn a fydd yn cael ei ordeinio’n Ddiacon ar 25 Mehefin ac yn cychwyn ar gyfnod newydd o’i weinidogaeth yn yr Ardal Weinidogaeth
  • y rhai sy'n canfod os yw Duw yn eu galw i hyfforddi fel Arweinwyr Addoli
  • Ann, Carrie, Diana, Neta, Rachel, Richard a Sue wrth iddynt arwain ein cymunedau eglwysig lleol fel Wardeniaid ar draws yr Ardal Weinidogaeth ac yn lleol
  • cysylltiadau i’w gwneud ar draws pentrefi Bro Gwydyr i ddatgelu cyfeiriad a gweledigaeth wrth iddynt geisio cyhoeddi Efengyl Cariad Duw
  • paratoadau i fynd at ysgolion cynradd lleol i gynnig cymorth wrth iddynt baratoi cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg newydd o fis Medi
  • cynulliadau unedig yr Ardal Weinidogaeth sydd ar ddod. Byddant yn denu grŵp eang o bobl
    • Te Parti Prynhawn Sul ar 26 Mehefin
    • Dathliad Pob Oed Lammas ar 7 Awst

Dyddiadur


18 Mehefin
Encil y Pentecost
10am - 3.45pm
Eglwys y Santes Fair Ffordd Mona PorthaethwyLL59 5EA

Yng nghwmni Archesgob Andrew John, y Parchg Anna Jane Evans, y Parchg Sara Roberts, Manon Llwyd, Aled Lewis Evans a Cefyn Burgess

Cost yr encil £25.00 (Talwch ar y diwrnod)
I archebu lle cysylltwch â: Catrin Evans trwy ebost neu ffôn: 01248 680858


18 Mehefin
Cwmni theatr Riding Lights a Home for Good
7.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae tocynnau ar gael wrth y drws am £10

19 Mehefin
Dathliad Archddiaconiaeth Ynys Môn
10.30am
Ysgol Cybi


25 Mehefin
Gwasanaeth o Ordinasiwn
11.00am
Cadeirlan Deiniol Sant

Mae Helen Franklin a Selwyn Griffiths yn cael eu hordeinio’n Ddiacon yn y gwasanaeth eleni. Dewch i ddathlu yn y gwasanaeth i'w cefnogi wrth iddynt ddechrau eu gweinidogaethau newydd.


Cyfarfodydd Synod
Meirionydd - 27 Mehefin, 10.00am
Ynys Môn - 27 Mehefin, 7.00pm 
Bangor - 28 Mehefin, 10.00am


Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol Mary


Dathlu disgyblaeth ffyddlon, gweinidogaeth a gwasanaeth.

Ymddengys yn briodol yn nhymor y Pentecost hwn, wrth inni ddiolch i Dduw am ddoniau’r Ysbryd Glân, inni ddathlu nifer o weinidogaethau arwyddocaol sydd wedi’u cysegru i adeiladu Teyrnas Dduw a thyfu’r eglwys.

Dydd Sul yma mae Archddiaconiaeth Ynys Môn yn ymgynull yn Ysgol Cybi, Caergybi am 10.30am ar gyfer gwasanaeth unedig lle bydd Archesgob Cymru yn cynnig geiriau o ddiolch am weinidogaeth Archddiacon Andy sy’n ymddeol fis nesaf. Mae arweinyddiaeth Andy wedi bod yn anogaeth fawr yn ein hesgobaeth, gan bwyntio pobl bob amser at Dduw, atgoffa eraill o'r pŵer a'r gobaith o newid a all ddod yn sgil cariad Duw. Gweddïwn dros Andy wrth iddo baratoi ar gyfer y trawsnewid hwn yn ei fywyd a diolchwn i Dduw am fendithion ei weinidogaeth. Rwyf wedi elwa’n aruthrol ar ddoethineb, addfwynder a chyfeillgarwch Archddiacon Andy. Byddwn yn gweld ei eisiau ef a Sara, y mae ei ffyddlondeb a'i gweddi wedi bod yn anrheg gyfoethog i ni hefyd.

Parhawn i weddïo dros Selwyn Griffith a Helen Franklin wrth iddynt baratoi ar gyfer eu hordeinio a thros y Parch Sion Aled Owen sy’n arwain eu Encil.

Daliwn yn ein gweddïau hefyd deulu’r Parchg Martyn Lewis a phawb yn agos ato wrth i ni baratoi ar gyfer ei angladd a diolch i Dduw am y tyst disglair o’i ffydd, gobaith a chariad.

Dduw hael, diolchwn i ti am weinidogaethau ffyddlon, ac i bawb sy’n ein hannog a’n hysbrydoli i ddysgu mwy am rym dy gariad. Boed i’r Ysbryd Glân ein hadnewyddu mewn ymddiriedaeth ac anadlu o’r newydd yn ein calonnau yr hyder sydd ei angen arnom i ddilyn Crist bob dydd yn ffyrdd ffydd, gobaith a chariad. Amen


Champio

Buodd Esgob Mary yn rhoi gynnig ar champio ychydig wythnosau yn ôl.

Mae champio - neu wersylla mewn eglwys yn rhywbeth hollol newydd i mi. Rwyf wedi clywed ychydig am y syniad hwn o eglwysi yn dirnad galwedigaeth newydd ac yn ailddyfeisio eu hunain fel llefydd o letygarwch i wersyllwyr. Ond, roedd gennyf lawer o gwestiynau ynghylch sut y gallai hyn weithio allan.

Darllenwch am ei phorfiad trwy defnyddio'r botwm isod.

Camp bed in the church

Casgliad at Archddiacon Môn

Fel yr hysbysebwyd ym mis Ionawr mae Archddiacon Môn yn ymddeol ar ôl 40 mlynedd o weinidogaeth. Hoffai Archesgob Cymru ac Esgob Cynorthwyol Bangor eich gwahodd i wneud rhodd ariannol tuag at anrheg i ddathlu weinidogaeth yr Hyb. Andy Herrick.

Gellir anfon eich rhodd at Fwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor gan ddefnyddio'r manylion sydd ar y ffurflen ar ein gwefan: Taliadau i'r Bwrdd Cyllid

Defnyddiwch 'AAH' fel cyfeirnod os gwelwch yn dda.


Eglwysi Carbon Sero Net

Gall gweithio tuag at Sero Net ymddangos fel tasg frawychus, ac yn wyneb ein hadeiladau hyd yn oed yn fwy felly, ond mae'n nod y mae'n rhaid i ni ymdrechu i'w gyrraedd, ar gyfer ein hamgylchedd, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ar gyfer ein planed. Mae cyngor yn datblygu, ac mae atebion newydd yn cael eu harchwilio i'n helpu i gyrraedd y nod hwn.

Fodd bynnag, yn y fan a'r lle mae camau bach y gallwn ni i gyd eu cymryd i weithio tuag at Net Zero. Yn gynwysedig yn y cyhoeddiad Llwybr Ymarferol hwn mae argymhellion i helpu i leihau ein hallbwn. Cliciwch ar y ddolen isod i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn fynd i'r afael yn gyfrifol â'n hallyriadau carbon.


Ffurflen Datganiad Ariannol Blynyddol yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer 2021

Hoffem cymered y cyfle i ddiolch i’r Ardaloedd Weinidogaeth sydd wedi cwblhau a chyflwyno eu Datganiad Ariannol Blynyddol yr Eglwys yng Nghymru i Gorff y Cynrychiolwyr. Bob blwyddyn mae Corff y Cynrychiolwyr yn anfon manylion mewngofnodi i bob Ardal Weinidogaeth er mwyn i’w Ffurflenni Ariannol Blynyddol gael eu cyflwyno’n uniongyrchol i Gorff y Cynrychiolwyr trwy borth ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Datganiad Ariannol Blynyddol yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer 2021 yw 30 Mehefin 2022. Os nad yw eich Ardal Weinidogaeth wedi derbyn manylion ynglŷn â sut i gael mynediad i’r porth ar-lein i gyflwyno’r Datganiad Blynyddol, cysylltwch â ni drwy e-bostio bangor@churchinwales.org.uk i ni ddarparu cymorth gyda chyflwyno'r wybodaeth.


Cofio COP26


Er mwyn cadw'r argyfwng hinsawdd ar blaenau ein meddyliau rydym yn cynnwys myfyrdodau a gweddiau yn reolaidd yma ar drydydd wythnos bob mis.


Thema’r mis hwn yw gofal bugeilio a mannau gwyrdd sy’n bwnc mawr ond sydd eto’n berthnasol iawn i’w drafod wrth i ni ddal i ystyried agweddau COP26 a’i effaith ar ein bywydau o ddydd i ddydd.Yn enwedig, efallai, ar gyfer y rhai mae’u gobeithion a’u breuddwydion o weithredu mewn symud i newid hinsawdd erbyn hyn yn eu gadael yn teimlo’n siomedig a diobaith.


Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:

26 Mehefin
Bro Moelwyn

3 Gorffennaf
Bro Peblig

10 Gorffennaf
Bro Cymer

17 Gorffennaf
Bro Tysilio

24 Gorffennaf
Pwyllgor Eiddo yr Esgobaeth

31 Gorffennaf
Bro Eifionydd


Dyddiadau eraill yn 2022

Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen

Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


19 June 2022

Corpus Christi


This Sunday and through the week we pray for:

Bro Gwydyr

Our prayers are asked in particular for:

  • Stuart, Huw, Keith & Sue who lead worship and Selwyn who will be ordained Deacon on 25 June and begin a new phase of his ministry in the Ministry Area.
  • those who will be discerning if God is calling them to train as Worship Leaders
  • Ann, Carrie, Diana, Neta, Rachel, Richard and Sue as they lead our local church communities as Ministry Area and Local Wardens
  • connections to be made across the villages in Bro Gwydyr to reveal direction and vision as they seek to proclaim the Gospel of God’s Love
  • preparations to approach local Primary schools to offer support as they prepare a new Religion, Values and Ethics curriculum from September
  • the upcoming Ministry Area united gatherings. They they will attract a wide group of people
    • Sunday Afternoon Tea Party on 26 June
    • Lammas All Age Celebration on 7 August

Diary


18 June
Welsh language Pentecost retreat
10am - 3.45pm
Eglwys y Santes Fair Ffordd Mona Porthaethwy LL59 5EA

With the Archbishop of Wales the Most Revd Andrew John, the Revd Anna Jane Evans, the Revd Sara Roberts, Manon Llwyd, Aled Lewis Evans a Cefyn Burgess

Cost £25.00 (Please pay on the day)
To book a place please contact: Catrin Evans by email or phone 01248 680858


18 June
Riding Lights theatre company with Home for Good
7.30pm
Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor
Tickets can be purchased at the door for £10

19 June
Archdeaconry of Anglesey Celebration
10.30am
Ysgol Cybi


25 June
Ordination service
11.00am
Saint Deiniol's Cathedral
Helen Franklin and Selwyn Griffiths will both be ordained Deacon at this year's service. Please do attend the service to support them and to celebrate with them as they begin their new ministries.


Synod Meetings
Meirionydd - 27 June, 10.00am
Anglesey - 27 June, 7.00pm
Bangor - 28 June, 10.00am


From our Assistant Bishop Mary


Celebrating faithful discipleship, ministry and service.

It seems fitting in this Pentecost season, as we thank God for the gifts of the Holy Spirit, that we celebrate a number of significant ministries dedicated to building God's Kingdom and growing the church.

This Sunday the Archdeaconry of Anglesey are joining for a united service in Ysgol Cybi, Holyhead at 10.30 during which the Archbishop of Wales will offer words of thanks for the ministry of Archdeacon Andy who retires next month. Andy's leadership has been a great encouragement in our diocese, pointing people always to God, reminding others of the power and hope of change that God's love can bring. We pray for Andy as he prepares for this transition in his life, and we thank God for the blessings of his ministry. I have benefitted enormously from Archdeacon Andy's wisdom, gentleness, and friendship. We will miss him and Sara, who's faithfulness and prayerfulness have also been a rich gift to us also.

We continue to pray for Selwyn Griffith and Helen Franklin as they prepare for their ordination and for the Revd Sion Aled Owen who is leading their Retreat.

We hold in our prayers also the family of the Revd Martyn Lewis and all close to him as we prepare for his funeral and thank God for the bright witness of his faith, hope and love.

Generous God, we thank you for faithful ministries, and for all who encourage and inspire us to learn more about the power of your love. May the Holy Spirit renew us in trust and breathe afresh into our hearts the confidence we need to follow Christ each day in the ways of faith, hope and love. Amen


Champing

A few weeks ago Bishop Mary tried her hand at champing.

Champing – or church camping is something totally new to me. I’ve heard a little bit about this idea of churches discerning a new vocation and reinventing themselves as places of hospitality for campers, But I had lots of questions about how this might work out.

Read more about Bishop Mary's experience by clicking the button below.


Bishop Mary on the beach

Collection for the Archdeacon of Anglesey

As was announced in January, the Archdeacon of Anglesey will soon be retiring after 40 years of ministry.

The Archbishop of Wales and the Assistant Bishop of Bangor would like to invite you to make a financial contribution towards a gift to celebrate the Ven. Andy Herrick's ministry.

Payments should be sent to the Bangor Diocesan Board of Finance using the details on the form on our webiste: Payments to the Bangor Diocesan Board of Finance

Please use 'AAH' as a reference for the payment


Carbon Net Zero Churches

Working towards Net Zero can seem like a daunting task, and in the face of our buildings even more so, yet it is a goal we must strive to meet, for our environment, for future generations and for our planet. Advice is developing, and new solutions being investigated to help us meet this goal.

However in the immediate there are small steps we can all take to work towards Net Zero. Included in this Practical Path publication there are recommendations to assist in reducing our output. Please click the link below to find ways we can responsibly address our carbon emissions.


Church in Wales Annual Finance Returns for 2021

We’d like to take the opportunity to thank those Ministry Areas who have completed and submitted their Church in Wales Annual Finance Return to the Representative Body. Every year the Representative Body sends login details to each Ministry Area in order for their Annual Finance Returns to be submitted directly to the Representative Body through an online portal. The deadline for submission of the Church in Wales Annual Finance Return for 2021 is 30 June 2022. If your Ministry Area hasn’t received details with how to gain access to the online portal to submit the Annual Return please do get in touch by emailing bangor@churchinwales.org.uk for us to provide assistance with submitting the information.


Remembering COP 26


In order to keep the climate emergency at the forefront of our minds we are including meditations and prayers regularly in Y Ddolen on the third week of each month.


The theme for this month of pastoral care and green spaces is a big, yet very relevant topic to explore as we continue to consider aspects of COP26 and the impact upon our day to day lives. Particularly perhaps, for those whose hopes and dreams of action in a move to climate change may now leave them feeling disappointed or despondent.


Over the next few weeks we will be praying for:

26 June
Bro Moelwyn

3 July
Bro Peblig

10 July
Bro Cymer

17 July
Bro Tysilio

24 July
The Diocesan Property Committee

31 July
Bro Eifionydd


Other dates in 2022

Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford

Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.