
Y Ddolen
21 Awst 2022
Y Degfed Sul wedi'r Drindod
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:
Tîm Deiniol
Gweddïwn dros bawb sy'n cefnogi gweidinogaeth a chenhadaeth yr esgobaeth o fewn Tîm Deiniol:
- y tîm Arweinyddiaeth, Cynllunio a Chyfathrebu
- y tîm Gweinidogaeth sy'n arwain ar ein caolbwyntiau o Dyfu gweinidogaethau newydd a Meithrin disgyblion
- y tîm Cyllid ac Eiddo
- tîm Llan
- prosiect Llefa'r Cerrig
- tîm y Gadeirlan
Mae manylion am yr holl waith uchod yn adran Pwy 'di pwy o'n gwefan.

Dyddiadur
22-26 Awst
Clwb Gwyliau Côr
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Oed 7-14
Cysylltwch â Joe Cooper, Cyfarwyddwr Cerdd y Gadeirlan, am ragor o wybodaeth
26 Medi
Cynhadledd yr Esgobaeth ar Zoom
1 Hydref
Cynhadledd yr Esgobaeth
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn fuan am y digwyddiadau yma
Dyddiadau 2023
Rydym wedi ychwanegu dyddiadau pwysig 2023 at wefan yr Esgobaeth o dan Digwyddiadau. Gellir dod o hyd i ddyddiadau cyfarfodydd Grŵp Cadfan, cyfarfodydd Synod, gwasanaeth Ordinasiwn a rhagor.
Byddwn yn diweddaru'r wybodaeth yn fwy agos at bob digwyddiad. Os bydd newid o ddyddiad, amser neu leoliad byddwn yn rhoi gwybod yn Y Ddolen ac yn diweddaru'r digwyddiad.

Cofio COP26 - Bwyd
Waeth pwy ydym ni neu ble rydym ni’n byw yn y byd, mae pob un ohonom angen bwyd i gynnal corff iach; ac o’r pwnc anferth hwn, mae llawer mwy yn cael ei adael allan nag sy’n cael ei ystyried yma. Oni bai ei fod yn waith i ni, efallai mai dim ond syniadau annelwig sydd gennym ynghylch sut mae’n bwyd yn cael ei dyfu a’i gynhyrchu cyn iddo gyrraedd yn ein siopau i ni ei brynu. Bydd pob un ohonom yn gwybod fod prisiau bwyd wedi codi’n sylweddol dros y misoedd diweddar; ac un rheswm dros hyn yw effaith newid hinsawdd.
Grantiau Cadw
Bwriad Rhaglen Grant Cyfalaf Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Adeiladau Hanesyddol 2022/23 yw cynnig cymorth ariannol tuag at gynnal a chadw ac atgyweirio asedau cymunedol hanesyddol, megis neuaddau pentref a chymunedol, sefydliadau, cofebion rhyfel a mannau addoli sydd ar agor. at ddefnydd y gymuned ehangach.
Mae grant o 75% o waith cymwys grant hyd at uchafswm o £25,000 fesul eiddo ar gael ar gyfer ystod o waith cynnal a chadw ac atgyweiriadau ar raddfa fach sy’n angenrheidiol i gadw asedau cymunedol mewn cyflwr da.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw diwedd mis Awst.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:
28 Awst
Ysgolion
4 Medi
Bro Arwystli
11 Medi
Bro Deiniol
18 Medi
Yr Eglwys yng Nghymru
25 Medi
Cynhaeaf
Dyddiadau eraill yn 2022
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
21 August 2022
The Tenth Sunday after Trinity
This Sunday and through the week we pray for:
Tîm Deiniol
Our prayers are asked for all who support the ministry of the diocese within Tîm Deiniol:
- the Leadership, Planning and Communications team
- the Ministry Team who lead our priorities of Growing new ministries and Nurturing disciples
- the Finance and Property team
- the Llan team
- the Stones Shout Out project
- the Cathedral team
Details about each of these can be found on the Who's who section of the website

Diary
22-26 August
Choir Holiday Club
Saint Deiniol's Cathedral
Ages 7-14
Contact Joe Cooper, the Director of Music at the Cathedral, for more information
26 September
Diocesan Conference on Zoom
1 October
Diocesan Conference
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
Further information about these events will be shared soon
2023 Dates
We have added important dates for 2023 to the Events section of the diocesan website. Here you will find details of Grŵp Cadfan meetings, Synod dates, the Ordination service and more.
Each event will be updated with further details as they become available. Should dates, times or locations for these events change we will share this in Y Ddolen in addition to updating the event itself.

Remembering COP26 - Food
No matter who we are or where we live in the world, we all need food to maintain a healthy body; and in this vast topic there is far more left out than reflected upon here. Unless it’s our work, we may only have some vague ideas about how our food is grown and produced before it arrives in our shops for us to buy. We will all know, though, that food prices have risen considerably in recent months; and one reason for this is the effect of climate change.
Grants from Cadw
The Historic Buildings Maintenance and Repair Capital Grant Programme 2022/23 is intended to offer financial assistance towards the maintenance and repair of historic community assets, such as village and community halls, war memorials and places of worship that are open for wider community use.
A grant of 75% of grant eligible works up to a maximum of £25,000 per property is available for a range of small scale maintenance and repairs which are necessary to keep community assets in good order.
The closing date for applications is the end of August.
Over the next few weeks we will be praying for:
28 August
Schools
4 September
Bro Arwystli
11 September
Bro Deiniol
18 September
The Church in Wales
25 September
Harvest
Other dates in 2022
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.