minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
stack of colourful books
English

Y Ddolen


28 Awst 2022

Yr Unfed Sul ar ddeg wedi'r Drindod


Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:

Ysgolion

Gweddïwn dros:

  • y plant wrth i'r gwyliau dod i ben a'r rhythm newydd o fywyd
    • y rhai sy'n mynd am y tro cyntaf i ysgol newydd naill i'r dosbarth meithrin, blwyddyn saith neu coleg
    • y rhai sy'n dechrau blynyddoedd pwysig o arholiadau
    • y rhai sy'n ei chael hi'n anodd mynd i'r ysgol
  • yr athrawon wrth iddynt baratoi gwersi gyda'r cwricwlwm newydd
  • holl aelodau o staff gan gynnwys cymorthfeydd, cogyddion, glanhawyr a phawb sy'n rhan hanfodol o waith yr ysgol
  • llywodraethwyr yr ysgolion wrth iddynt wneud penderfyniadau, yn enwedig dros wariant yr ysgol a staffio
  • y gwirfoddolwyr sydd yn cefnogi gwaith yr ysgol gan gynnwys y timau Agor y Llyfr, clybiau amser cinio a'r rhai sy'n cynnal gwasanaethau
  • y rhieni

Dyddiadur

11 Medi
Lawnsiad Prosiect Llenyddol Llwybr Cadfan
Eglwys Tanwg Sant, Llandanwg
6pm

12 Medi
Gweithdy Ysgrifennu Creadigol
Rhagor o fanylion

26 Medi
Cynhadledd yr Esgobaeth ar Zoom

1 Hydref
Cynhadledd yr Esgobaeth
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau yma yn cael ei rannu yn fuan


arian mewn jar

Cymorth tuag at gostau ynni y gaeaf hwn

Oddi wrth Ysgrifennydd yr Esgobaeth:

Ysgrifennaf hyn ar y bore y cyhoeddwyd y cynnydd newydd yn y cap ar brisiau ynni. 

Mae hwn yn gyfnod pryderus i lawer ohonom. Rhaid inni obeithio y bydd gweithredu gan y llywodraeth dros yr wythnosau nesaf yn cynnig cymorth mwy sylweddol nag a fu hyd yn hyn, er bod y pwysau, yn enwedig ar y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau, yn debygol o fod yn drwm y gaeaf hwn. 

Mae’r defnydd o Fanc Bwyd y Gadeirlan, er enghraifft, eisoes wedi cynyddu, ac mae’r galw bugeiliol ac ymarferol ar weinidogaethau’r Eglwys yn debygol o ddwysáu dros yr wythnosau nesaf.

Roeddwn am roi sylw i un agwedd gweithredol yn y cyfnod cynnar hwn. 

Er y bu trafodaeth gyhoeddus am gefnogaeth y llywodraeth i gartrefi, ychydig sydd wedi'i ddweud am gefnogaeth i filiau ynni annomestig.

Rwy’n ymwybodol bod rhai eglwysi a neuaddau eglwys eisoes wedi gweld cynnydd sylweddol mewn costau ynni, a bydd hyn yn mynd yn fwy difrifol dros y misoedd gaeafol. 

Ar ôl siarad â’r Esgob, rydym yn bwriadu ymgynghori dros yr wythnosau nesaf ynghylch Grantiau Cymorth Argyfwng a fydd ar gael i Ardaloedd Gweinidogaeth dros yr hydref a’r gaeaf.

Mae’n debygol y bydd ein Grantiau Cymorth Argyfwng yn cael eu dyrannu drwy cyfundrefn ymgeisio, gyda ffocws ar eglwysi a neuaddau eglwys sy’n cael eu defnyddio’n wythnosol a'n ddyddiol yn ddwys.

Mae’r lloches a’r gweithgareddau cymunedol y mae ein heglwysi a’n neuaddau eglwys yn eu cynnal yn debygol o fod mewn angen mawr y gaeaf hwn, ac mae’n debygol y bydd angen gwneud defnydd ychwanegol o gronfeydd wrth gefn yr esgobaeth, ochr yn ochr â chronfeydd wrth gefn yArdaloedd Gweinidogaeth, i sicrhau bod gweinidogaethau hollbwysig yn gallu parhau.

Ni fydd yr ymgynghoriad hwn am Grantiau Cymorth Argyfwng yn digwydd ar wahân i gynlluniau ariannol eraill. Mae pwysau ariannol yn debygol o fod yn enbyd mewn nifer o ffyrdd dros y flwyddyn i ddod, a bydd angen i ni ymgynghori a chynllunio’n ofalus gyda’n gilydd i wneud penderfyniadau doeth ac i ofalu am ein gilydd.

Edrychaf ymlaen at gysylltu eto wrth i'r darlun ddod ychydig yn gliriach ac wrth i ymgynghoriadau aeddfedu.

Siôn Rhys Evans
Ebost



Grantiau Cadw

Bwriad Rhaglen Grant Cyfalaf Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Adeiladau Hanesyddol 2022/23 yw cynnig cymorth ariannol tuag at gynnal a chadw ac atgyweirio asedau cymunedol hanesyddol, megis neuaddau pentref a chymunedol, sefydliadau, cofebion rhyfel a mannau addoli sydd ar agor. at ddefnydd y gymuned ehangach.

Mae grant o 75% o waith cymwys grant hyd at uchafswm o £25,000 fesul eiddo ar gael ar gyfer ystod o waith cynnal a chadw ac atgyweiriadau ar raddfa fach sy’n angenrheidiol i gadw asedau cymunedol mewn cyflwr da.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw diwedd mis Awst.


Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:

4 Medi
Bro Arwystli

11 Medi
Bro Deiniol

18 Medi
Yr Eglwys yng Nghymru

25 Medi
Cynhaeaf


Dyddiadau eraill yn 2022

Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen

Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


28 August 2022

The Eleventh Sunday after Trinity


This Sunday and through the week we pray for:

Schools

Our prayers are asked for 

  • the children as the holidays end and a new rhythm of life begins
    • those who are going for the first time to a new school, whether nursery class, year 7 or college
    • those who are beginning important years of exams
    • those for whom school is a difficult place to be
  • the teachers as they prepare lessons with the new curriculum
  • all members of staff including teacing assistants, cooks, cleaners and all who are essential to the work of the school
  • the Governors as they make decisions, especially about budgets and staffing
  • the volunteers who support the work of the schools including the Open the Book teams, lunch clubs and those who lead assemblies
  • the parents

Diary

11 September
Llwybr Cadfan Literary Project launch
Saint Tanwg's Church, Llandanwg
6pm

12 September
Llwybr Cadfan Creative writing workshop
More details

26 September
Diocesan Conference on Zoom

1 October
Diocesan Conference
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor

Further information about these events will be shared soon


coins from a jar

Support for energy costs this winter

From the Diocesan Secretary:

I write this on the morning that the new energy price cap increase has been announced. 

This is an anxious time for many of us. We must hope that government action over coming weeks will offer more substantial assistance than has been case so far, though the pressures, especially on the most vulnerable in our communities, are likely to be heavy indeed this winter.

The use of the Cathedral Foodbank, for instance, has already increased, and the pastoral and practical call on the ministries of the Church are likely to intensify over the weeks ahead.

I wanted to address one organizational aspect at this early stage. 

While there has been public discussion about government support for households, little has been said about support for non-domestic energy bills. 

I’m aware that some churches and church halls have already experienced a significant increase in energy costs, and this will become more severe over the winter months. 

Having spoken with the Bishop, we intend to consult over coming weeks about the shape of Emergency Support Grants to be made available to Ministry Areas over the autumn and winter. 

It is likely that our Emergency Support Grants will be allocated through an application procedure, with a focus on churches and church halls that have intensive weekly and daily use. 

The shelter and community activities that our churches and church halls host and offer are likely to be much in need this winter, and it is likely that an additional use of diocesan financial reserves, alongside Ministry Area reserves, will be needed to ensure that vital ministries can continue.

This consultation about the shape of Emergency Support Grants will not happen in isolation from other financial planning. Financial pressures are likely to be acute in a number of ways over the coming year, and we will need to confer and plan carefully together to make wise decisions and to take care of one another.

I look forward to being in touch again as the picture becomes a little clearer and as consultations mature.

Siôn Rhys Evans
Email



Grants from Cadw

The Historic Buildings Maintenance and Repair Capital Grant Programme 2022/23 is intended to offer financial assistance towards the maintenance and repair of historic community assets, such as village and community halls, war memorials and places of worship that are open for wider community use.

A grant of 75% of grant eligible works up to a maximum of £25,000 per property is available for a range of small scale maintenance and repairs which are necessary to keep community assets in good order.

The closing date for applications is the end of August.


Over the next few weeks we will be praying for:

4 September
Bro Arwystli

11 September
Bro Deiniol

18 September
The Church in Wales

25 September
Harvest


Other dates in 2022

Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford

Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.