minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Y Ddolen


11 Medi 2022

Dydd Gŵyl Deiniol Sant


Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol Mary

Pan gyhoeddwyd pryder am iechyd y Frenhines a daeth yn amlwg bod y teulu brenhinol yn ymgynnull yn Balmoral, roedd nifer o brif gynrychiolwyr ein hesgobaeth yng nghyfarfod y Corff Llywodraethol yng Nghasnewydd.

Yn briodol, roeddem newydd fod yn edrych ar adnoddau ar gyfer ein “Blwyddyn o lythrennedd Beiblaidd”. Yr oeddem wedi clywed am lansiad y flwyddyn weddi (manylion amdani ar wefan y Dalaith) a chawsom anerchiad arlywyddol cynhyrfus gan ein Harchesgob yn galw ar bob un ohonom i roi ein ffydd ar waith mewn cyfnod o angen cenedlaethol. Mae’r pethau hyn: gair Duw, ein bywydau o weddi, a’n galwad bedydd i wasanaeth gweithredol fel Cristnogion oll yn atseinio gyda llawer sy’n cael ei ddweud mewn teyrnged i’r Frenhines Elisabeth II wrth i’n cenedl ddechrau galaru am ei marwolaeth a roi diolch am ei bywyd.

Rydym wedi gweithredu'n gyflym i ohirio ein cynhadledd clerigion yr wythnos nesaf. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pryd y gallwn gynllunio i wneud hyn eto, er ei bod yn annhebygol y byddwn yn gallu aildrefnu'r gynhadledd hon yn gyflym.

Rwy’n eithaf siŵr y bydd llawer o Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth ac arweinwyr lleyg lleol am fod yn bresennol yn eu cymunedau. Gall deimlo’n briodol i agor adeiladau eglwysig ar gyfer gweddïo cyhoeddus a phreifat, gan roi’r cyfle i oleuo canhwyllau neu ysgrifennu llyfrau cydymdeimlad neu gael lle ac adnoddau ar gyfer myfyrdod a gweddi.

Bydd ein Harweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth yn adnabod eu hardaloedd lleol yn dda a byddant mewn sefyllfa dda i ganfod beth sy’n briodol. Fel yr ydym wedi dweud eisoes mae arweiniad llawn am hyn ac adnoddau gweddi ar wefan yr Eglwys yng Nghymru, mae croeso i chi gysylltu â mi, eich Archddiacon neu Ddeon Bro am unrhyw gyngor yn ymwneud â hyn, neu i drafod pethau gyda nhw.

Yn amlwg bydd amrywiaeth o ymatebion ac anghenion ar draws ein hesgobaeth, ac ar yr un pryd â’r digwyddiad cenedlaethol difrifol hwn bydd llawer o ddigwyddiadau bugeiliol yn digwydd ym mywydau eraill yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae’n debyg y byddai’n ddoeth plotio llwybr canol, nid canslo pob digwyddiad, ond ystyried yr hyn sy’n briodol a pharchus, a gwneud cynlluniau lleol yn drefnus ac wedi’u cyfathrebu’n dda.

Bydd gwefan yr Eglwys yng Nghymru yn cael ei diweddaru’n rheolaidd wrth iddi ddod yn amlwg beth fydd y trefniadau ynghylch angladd y Frenhines a’r trefniadau ar gyfer newid rôl y Brenin Charles.

Wrth inni wneud ein cynlluniau a gweinidogaethu’n lleol, diolchwn i Dduw am fywyd y Frenhines, gweddïwn dros ei theulu a thros y Brenin Charles ac ymddiriedwn yn llwyr yng nghariad tragwyddol Duw:

Dduw ein gobaith, nesa aton ni ar adegau o dristwch. Byddwch yn agos at deulu’r Frenhines Elizabeth ac at bawb sy’n galaru. Rhowch nerth a doethineb i bawb sy'n cael eu galw i arweinyddiaeth a gwasanaeth. Gofynnwn am eich bendith ar y Brenin Charles. Cryfha ni lle teimlwn wan, cysura ni ar adegau o dristwch a bendithia ni bob amser â gobaith ac addfwynder. Amen


Gwasanaethau Coffa

Cynhelir Gwasanaeth Coffa'r Sir a'r Esgobaeth ar gyfer siroedd Gogledd Orllewin Cymru ac Esgobaeth Bangor yng Nghadeirlan Deiniol Sant am 4.30pm ddydd Sul 18 Medi. Cynrychiolir Ei Fawrhydi Y Brenin yn y Gwasanaeth Coffa hwn gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yng Ngwynedd, Edmund Seymour Bailey. Gellir cadw seddi ar gyfer y gwasanaeth hwn ar y wefan arbennig hon, sydd hefyd yn caniatáu i glerigion esgobaethol a gweinidogion trwyddedig gofrestru eu presenoldeb.

Cynhelir Gwasanaeth Coffa i’w Ddiweddar Fawrhydi ym mhresenoldeb Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yng Ngwynedd yn Eglwys Sant Ioan, Abermaw ar ddydd Mercher 14 Medi am 6pm.

Cynhelir Gwasanaeth Coffa i’w Ddiweddar Fawrhydi yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli ddydd Sul 18 Medi am 4pm.


Dyddiadur

26 Medi
Cynhadledd yr Esgobaeth ar Zoom

1 Hydref
Cynhadledd yr Esgobaeth
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau yma yn cael ei rannu yn fuan

2 Hydref
Lawnsiad Prosiect Llenyddol Llwybr Cadfan
Eglwys Tanwg Sant, Llandanwg
6pm
Rhagor o wybodaeth

3 Hydref
Gweithdy Ysgrifennu Creadigol
Rhagor o fanylion


Synod CGE mis Hydref

Nodwch os gwelwch yn dda bod dyddiadau'r cyfarfodydd yma wedi newid.

24 Hydref - 10am Archddiaconiaeth Meirionydd
24 Hydref - 7pm Archddiaconiaeth Ynys Môn
26 Hydref - 2pm Archddiaconiaeth Bangor



Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:

18 Medi
Yr Eglwys yng Nghymru

25 Medi
Cynhaeaf

2 Hydref
Cynhadledd yr Esgobaeth

9 Hydref
Bro Cadwaladr

16 Hydref
Bro Ardudwy

23 Hydref
Bro Ystumanner

30 Hydref
Yr Holl Saint


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


11 September 2022

Saint Deiniol's Day


From our Assistant Bishop Mary

When concern for the Queen’s health was announced and it became clear that the royal family were gathering at Balmoral a number of our key diocesan representatives were at the Governing Body meeting in Newport.

Appropriately we had just been looking at resources for our year of Biblical literacy. We had heard about the launch of the year of prayer, (details of which are on the Provincial website) and we had received a stirring presidential address from our Archbishop calling all of us to put our faith into action in a time of national need. These things: the word of God, our lives of prayer, and our baptismal calling to active service as Christians all resonate with much that is being said in tribute to Queen Elizabeth II as our nation begins to mourn her death and to give thanks for her life.

We have acted swiftly to postpone our clergy conference next week. We will keep you updated about when we might plan to do this again, although it is unlikely that we will be able to rearrange this conference quickly.

I am quite sure that many Ministry Area Leaders and local lay leaders will want to be present in their communities. It may feel appropriate to open church buildings for public and private prayer, giving the opportunity to light candles or writing books of condolence or to have space and resources for meditation and prayer.

Our Ministry Area Leaders will know their local areas well and will be well placed to discern what is appropriate. As we have already communicated there is full guidance about this and resources for prayer on the Church in Wales website, do please feel free to contact me or your Archdeacon or Area Dean for any advice relating to this, or if you simply want a sounding board or someone to talk things through with.

Obviously there will be a range of responses and needs across our diocese, and at the same time as this solemn national event there will be many pastoral events happening in the lives of others whom we serve. It will probably be wise to plot a middle path, not cancelling every event, but considering what is appropriate and respectful, and making local plans in an ordered and well communicated way.

The Church in Wales website will be regularly updated as it becomes clear what the arrangements will be regarding the Queen’s funeral and arrangements for the Accession of King Charles.

As we make our plans and minister locally, we give thanks to God for the Queen’s life, we pray for her family and for King Charles and we put our whole trust in God’s eternal love:

God our hope, draw close to us in times of sadness. Be close to Queen Elizabeth’s family and to all who mourn. Give strength and wisdom to all who are called to leadership and service. We ask for your blessing upon King Charles. Strengthen us where we feel weak, comfort us in times of sorrow and bless us always with hope and gentleness. Amen


Memorial Services

The County & Diocesan Memorial Service for the counties of North West Wales and the Diocese of Bangor will take place at Saint Deiniol's Cathedral at 4.30pm on Sunday 18 September. His Majesty The King will be represented at this Memorial Service by His Majesty's Lord-Lieutenant of Gwynedd, Edmund Seymour Bailey. Seats for this service can be reserved at this special website, which also allows diocesan clergy and licensed ministers to register their attendance.

A Commemoration Service for Her Late Majesty will take place in the presence of His Majesty's Lord-Lieutenant for Gwynedd at Saint John’s Church, Barmouth on Wednesday 14 September at 6pm.

A Commemoration Service for Her Late Majesty will take place at Saint Peter’s Church, Pwllheli on Sunday 18 September at 4pm.


Diary

26 September
Diocesan Conference on Zoom

1 October
Diocesan Conference
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor

Further information about these events will be shared soon

2 October
Llwybr Cadfan Literary Project launch
Saint Tanwg's Church, Llandanwg
6pm
Further information

3 October
Llwybr Cadfan Creative writing workshop
More details


October BMF Synod

Please note that the dates for these meetings have changed.

24 October - 10am The Archdeaconry of Meirionnydd
24 October - 7pm The Archdeaconry of Anglesey
26 October - 2pm The Archdeaconry of Bangor



Over the next few weeks we will be praying for:

18 September
The Church in Wales

25 September
Harvest

2 October
Diocesan Conference

9 October
Bro Cadwaladr

16 October
Bro Ardudwy

23 October
Bro Ystumanner

30 October
Yr Holl Saint


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.