minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Y Ddolen


18 Medi 2022

Y Pedwerydd Sul ar Ddeg wedi'r Drindod


Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:

Yr Eglwys yng Nghymru

Gweddïwn dros:

  • gwasanaeth angladd Ei Diweddar Fawrhydi y Frenhines lle bydd Archesgob Cymru yn bresennol
  • doethineb, dewrder a gweledigaeth wrth inni ddirnad y ffordd fwyaf ffrwythlon i dyfu teyrnas Dduw yng Nghymru gyda’r gwariant o £100M a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar efengylu yn y 10 mlynedd nesaf gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru
  • lansiad yr ymgyrch Bwyd a Thanwydd dros y misoedd nesaf wrth i ni bennu ffiniau a chyfuchliniau’r ymgyrch bwysig hon
  • Mainc yr Esgobion — gyda rhai ohonynt ar hyn o bryd i ffwrdd o'u gweinidogaeth am ysbaid o amser

Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol Mary

Ymateb mewn cyfnod o alar:

Ar hyd a lled yr esgobaeth mae clerigwyr a phobl yr eglwys wedi ymateb yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Brenhines Elisabeth II trwy agor eglwysi ar gyfer gweddïau a chynnau canhwyllau, darparu llyfrau cydymdeimlad a chynnal gwasanaethau arbennig. Mae bod yno, i bawb sy’n galaru, wrth wraidd ein cenhadaeth a’n gweinidogaeth. Diolch i bawb sydd wedi mynd yr ail filltir i helpu ein heglwys i ymateb yn ofalus.

Galwad i weithredu:

Efallai eich bod wedi clywed bod cyfarfod y Corff Llywodraethol yng Nghasnewydd wedi’i gwtogi gan y newyddion am salwch y Frenhines y penwythnos diwethaf. Cyn inni glywed y newyddion trist hwnnw, roedd Archesgob Andrew wedi traddodi galwad ysgogol i’r eglwys gyfan i roi ein ffydd ar waith mewn ffordd feiddgar. Ymhlith y pryderon a amlygwyd ganddo, tynnodd sylw at faterion yn ymwneud â thlodi bwyd a thanwydd. Bydd cyfleoedd gydol y flwyddyn i’n Heglwys gyfan gymryd rhan mewn dangos gwasanaeth cariadus. Yn yr Adfent sydd i ddod byddwn yn cael ein gwahodd i ganolbwyntio ac adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud i roi a dosbarthu bwyd i'r rhai yn ein cymunedau sydd angen cymorth. Gofynnir i bob cynulleidfa wneud cyfraniad a bydd mwy o fanylion am hyn yn dilyn. Wrth i ni agosáu at amser y cynhaeaf bydd yn dda darganfod pa fanciau bwyd neu brosiectau bwyd sy’n lleol i’n Hardaloedd Gweinidogaeth a beth yw eu hanghenion penodol ar hyn o bryd.

Croesawyd araith yr Archesgob yn gynnes gan y Corff Llywodraethol a theimlai un o’n haelodau o Esgobaeth Bangor awydd i ysgrifennu am y cyfarfod:

Ysgrifenna Carrie White, o Fro Gwydyr:

Cyfarfu Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghasnewydd ddydd Mercher a dydd Iau diwethaf. Mae'r Corff Llywodraethol yn cyfarfod bob chwe mis i drafod sawl agwedd o fywyd yr eglwys a hefyd i gymeradwyo'n ffurfiol adroddiadau gan wahanol bwyllgorau a chyrff eraill.

Roedd busnes dydd Mercher yn cynnwys Anerchiad Llywyddol ysbrydoledig gan yr Archesgob, gan gynnwys sylwadau o Gynhadledd Lambeth; Sesiwn Holi lle gall unrhyw aelod o'r Corff Llywodraethol godi cwestiwn; cyflwyniad hynod ddiddorol gan Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu ac un arall gan y Gronfa Efengylu yn manylu ar brosiectau sy'n denu oedolion ifanc i gymunedau eglwysig.

Dydd Iau gwelsom ni i gyd yn torri’n grwpiau i gynnal trafodaethau bywiog a gwerthfawr iawn ar gynlluniau’r Eglwys yng Nghymru ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau bod lleisiau a syniadau’n cael eu clywed o bob rhan o’r dalaith. Dilynwyd hyn gan dderbyn adroddiadau ffurfiol ar faterion cyfreithiol a llywodraethu, ynghyd â chyflwyniadau gan Gymdeithas y Beibl a’r Theatr Riding Lights.

Rhwng popeth, bu’n ddau ddiwrnod prysur iawn yn canolbwyntio ar waith ein heglwys a’r cyfleoedd a’r heriau sy’n ein hwynebu. Braf oedd cyfarfod cyd-addolwyr i ystyried yn weddigar sut i gerdded ymlaen fel disgyblion. (Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth y byddai gennych ddiddordeb mewn ymuno ag ef, siaradwch â’ch Archddiacon a chadwch lygad am yr alwad flynyddol am wirfoddolwyr!)

Cyfleoedd Hyfforddi:

Nodyn atgoffa gan y Parchg Chris Burr o Athrofa Padarn Sant:

Wrth i ni ddychwelyd hoffwn gymryd ennyd i’ch atgoffa am sawl rhaglen hyfforddiant am ddim sy’n rhedeg hyd at Rhagfyr ar gyfer clerigwyr ordeinedig a lleyg yn ogystal a rhaglenni i dimoedd bugeiliol.

Diolch i'r rheini sydd wedi archebu lle ar gwrs eisioes. I'r rhai sydd heb, ond yn bwriadu mae modd gwneud hynny, mi ddowch o hyd I’r cyrsiau a sut i’w harchebu ar wefan Athrofa Padarn Sant.

Rwy'n gobeithio y byddwch yn dod o hyd i gwrs yr ydych yn ystyried archebu lle. Bydd isafswm ac uchafswm yn berthnasol, felly archebwch eich lle nawr i sicrhau bod y rhaglen lawn yn rhedeg.

Bydd manylion rhaglen y gaeaf yn cael eu danfon maes o law. Fel arfer, os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau, cysylltwch â mi neu ag un o'r Tîm DPW ar naill ai cmdadmin@stpadarns.ac.uk neu 029 2056 3379.

Llongyfarchiadau i’r Parchg Hugh Jones:

Llongyfarchiadau calonnog i’r Parchg Hugh Jones a drwyddedwyd yn Offeiriad Cyswllt ym Mro Tysilio y Sul diwethaf. Mae Hugh eisoes wedi gwasanaethu’n ffyddlon yn yr Ardal Weinidogaethol fel curad. Bu ei drwyddedu yn achlysur llawen ac edrychwn ymlaen at ddathlu hyn yn llawnach maes o law.

Mewn tywyllwch a golau,
mewn trallod a llawenydd,
cynorthwya ni, Dduw byth-fywiol, i ymddiried yn dy gariad,
i wasanaethu dy fwriad, ac i foliannu dy enw;
trwy Iesu Grist ein Gobaith. Amen.


Dyddiadur

18 Medi
Gwasanaeth Coffa'r Sir a'r Esgobaeth
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
4.30pm
Rhagor o fanylion a thocynnau

26 Medi
Cynhadledd yr Esgobaeth ar Zoom

1 Hydref
Cynhadledd yr Esgobaeth
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau yma yn cael ei rannu yn fuan

2 Hydref
Lawnsiad Prosiect Llenyddol Llwybr Cadfan
Eglwys Tanwg Sant, Llandanwg
6pm
Rhagor o wybodaeth

3 Hydref
Gweithdy Ysgrifennu Creadigol
Rhagor o fanylion

6 Hydref
Cynhadledd Llan
Galeri
10am - 4pm
Gweler isod am ragor o fanylion


Lleoliadau Synod CGE mis Hydref

24 Hydref - 10am
Archddiaconiaeth Meirionydd
Neuadd Eglwys Penrhyndeudraeth

24 Hydref - 7pm
Archddiaconiaeth Ynys Môn
Eglwys y Santes Fair, Porthaethwy

26 Hydref - 2pm
Archddiaconiaeth Bangor - Feed my Lambs, Caernarfon


Diwrnod Cynhadledd Eglwysi Pererin

Fel rhan o brosiect Llan, mae Skellon Studio wedi cwblhau eu Hadroddiad Cysyniad yn ddiweddar sy’n cyflwyno eu cynigion ar gyfer dehongli yn y chwe eglwys pererin. Bydd tîm Skellon Studio yn cyflwyno’r cynigion hyn mewn diwrnod cynhadledd yn Galeri, Caernarfon ar 6 Hydref.

Mae’r Adroddiad Cysyniad yn ddarn cyffrous o waith sy’n archwilio’r fethodoleg o siapio gofodau ein heglwysi fel mannau darganfod a chyfarfyddiad, ynghyd â chyflwyno cynigion ar gyfer dehongliad creadigol o’r chwe eglwys a ysbrydolwyd gan yr adeiladau, y seintiau a’r themâu diwinyddol sydd ynghlwm wrthynt. i bob eglwys.

Mae gwahoddiad agored i unrhyw un o’r Esgobaeth a hoffai fynychu. Cofrestrwch ar y wefan gan ddefnyddio'r botwm isod.


Noson yng Nghwmni Côr Bara Brith

Estynnir gwahoddiad i gyngerdd gan Côr Bara Brith yn Eglwys Mihangel Sant, Y Fali ar nos Wener Hydref 7 am 7.30pm
Gellir prynu tocynnau am £7 trwy gysylltu â Bill (01407 740039) neu Carol (01407 740646)


Cofio COP26


Er mwyn cadw'r argyfwng hinsawdd ar blaenau ein meddyliau rydym yn cynnwys myfyrdodau a gweddiau yn reolaidd yma ar drydydd wythnos bob mis.


Mae’r ffordd rydym yn ei fyw nid yn unig yn effeithio ar ein harian, ac nad yw’n cael ei benderfynu gan ein harian, ond mae ganddo hefyd effaith ar yr hinsawdd.Mae ceisio newid agweddau o’n ffordd o fyw yn gallu teimlo’n frawychus ac efallai’n rhy ddrud pan mae prisiau popeth rydym yn ei brynu’n codi’n uwch ac yn uwch.Eto, mae hyd yn oed camau bychain yn gallu gwneud gwahaniaeth i leihau ein hôl troed carbon.


Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:

25 Medi
Cynhaeaf

2 Hydref
Cynhadledd yr Esgobaeth

9 Hydref
Bro Cadwaladr

16 Hydref
Bro Ardudwy

23 Hydref
Bro Ystumanner

30 Hydref
Yr Holl Saint


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


18 September 2022

The Fourteenth Sunday after Trinity


This Sunday and through the week we pray for:

The Church in Wales

Our prayers are asked for:

  • the funeral service for Her Late Majesty the Queen at which the Archbishop of Wales will be present
  • wisdom, courage and vision as we discern the most fruitful way to grow God's kingdom in Wales with the recently announced expenditure of £100M for evangelism in the next 10 years by the Representative Body of the Church in Wales
  • the launch of the Food and Fuel campaign over the next few months as we determine the boundaries and contours of this important campaign
  • the Bench of Bishops - some of whom are currently away from their ministry for a period of time

From our Assistant Bishop Mary

Responding in a time of grief:

Across the diocese clergy and church people have responded following the death of her Majesty Queen Elizabeth II by opening churches for prayer and lighting candles, providing books of condolence and holding special services. Being there for all who are grieving is at the heart of our mission and ministry. Thank you to everyone who has gone the extra mile to help our church respond with care.

A call to action:

You may have heard that the Governing Body meeting in Newport was curtailed by the news about the Queen's illness last weekend. Before we heard that sad news, Archbishop Andrew had delivered a stirring call to the whole church to put our faith into action in a bold way. Amongst the concerns that he highlighted he drew attention to issues relating to food and fuel poverty. There will be opportunities throughout the year for our whole Church to participate in showing loving service. This coming Advent we will be invited to concentrate and build upon the good work already being done to donate and distribute food to those in our communities who need help. Every congregation will be asked to make a contribution and more details about this will follow. As we approach harvest time it will be good to find out which food banks or food projects are local to our Ministry Areas (if you are not already connected) and what their particular needs are at this time.

The Archbishop's speech was warmly welcomed by Governing Body and one of our Bangor Diocesan members felt moved to write about the meeting:

Carrie White, from Bro Gwydyr writes:

The Governing Body of the Church in Wales met in Newport last Wednesday and Thursday. The Governing Body meets every six months to discuss many aspects of church life and also formally approve reports from various committees and other bodies.

Wednesday’s business covered an inspiring Presidential Address from the Archbishop, including comment from the Lambeth Conference; Question Time during which any member of the Governing Body can raise a question; a fascinating presentation from the Diocese of Swansea and Brecon and another from the Evangelism Fund detailing projects attracting young adults into church communities.

Thursday saw us all breaking into groups to hold lively and very valuable discussions on the future plans for the Church in Wales, ensuring voices and ideas were heard from across the province. This was followed by formally receiving reports on legal and governance issues, along with presentations from the Bible Society and the Riding Lights Theatre Co Ltd.

All in all, it was a very busy two days focussing on the work of our church and the opportunities and challenges we face. It was great to meet fellow worshippers to consider prayerfully how to walk forwards as disciples. If this sounds like something you would be interested in joining, speak to your Archdeacon and keep an eye out for the annual call for volunteers.

Training Opportunities:

A reminder from the Revd Chris Burr:

As we turn to the Autumn, I would like to take a moment to remind that we have a number of free training programmes running until December for clergy and lay licensed ministers as well as some aimed at pastoral care teams and other lay leaders.

Thank you to everyone who has booked onto these courses. If you have not yet booked on but would like to, full details of the courses and how to book, can be found on the St Padarn’s website.

I do hope that you will find a course which you consider booking onto. Minimum and maximum numbers will apply, so please do book your places now to ensure the running of the full programme.

Details of the winter programme will be sent in due course.
As always, if you have any concerns or queries, please contact myself or one of the CMD Team on either 
cmdadmin@stpadarns.ac.uk or 029 2056 3379.

Congratulations to the Revd Hugh Jones

Hearty congratulations to the Revd Hugh Jones who was licenced as Associate Priest in Bro Tysilio last Sunday. Hugh has already served faithfully in the Ministry Area as a curate. His licensing was a joyful occasion and we look forward to celebrating this more fully in due course.

In darkness and in light,
in trouble and in joy,
help us, Ever-living God, to trust your love,
to serve your purpose, and to praise your name;
through Jesus Christ our Hope. Amen.


Diary

18 September
County and Diocesan Memorial Service
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
4.30pm
More information and tickets

26 September
Diocesan Conference on Zoom

1 October
Diocesan Conference
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor

Further information about these events will be shared soon

2 October
Llwybr Cadfan Literary Project launch
Saint Tanwg's Church, Llandanwg
6pm
Further information

3 October
Llwybr Cadfan Creative writing workshop
More details

6 October
Llan Conference
Galeri
10am - 4pm
See below for more information


October BMF Synod Locations

24 October - 10am
The Archdeaconry of Meirionnydd - Penrhyndeudrath Church Hall

24 October - 7pm
The Archdeaconry of Anglesey - Saint Mary's Church, Menai Bridge

26 October - 2pm
The Archdeaconry of Bangor - Feed my Lambs, Caernarfon


Major Pilgrim Church Conference Day

As part of the Llan project, Skellon Studio have recently completed their Concept Report which presents their proposals for interpretation in the six major pilgrim churches. The Skellon Studio team will be presenting these proposals at a conference day at Galeri, Caernarfon on 6 October.

The Concept Report is an exciting piece of work which explores both the methodology of shaping our church spaces as places of discovery and encounter, along with presenting proposals for the creative interpretation of the six churches inspired by the buildings, the saints and the theological themes attached to each church.

There’s an open invitation to anyone from the Diocese who would like to attend. Please sign up on the website using the button below.


An evening in the company of Côr Bara Brith

All are invited to attend an evening with Côr Bara Brith at Saint Michael's Church, Valley on Wednesday 7 October at 7.30pm
Tickets can be purchased for £7 by contacting Bill (01407 740039) or Carol (01407 740646)


Remembering COP 26


In order to keep the climate emergency at the forefront of our minds we are including meditations and prayers regularly in Y Ddolen on the third week of each month.


The way we live not only affects our finances, or is determined by our finances, but it also has an impact upon the climate. Seeking to change aspects of our lifestyle can feel daunting and perhaps too costly when the price of everything we buy is rising higher and higher. Yet, even small steps do make a difference to reduce our carbon footprint.


Over the next few weeks we will be praying for:

25 September
Harvest

2 October
Diocesan Conference

9 October
Bro Cadwaladr

16 October
Bro Ardudwy

23 October
Bro Ystumanner

30 October
Yr Holl Saint


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.