Y Ddolen
9 Hydref 2022
Y Ail Sul ar Bymtheg wedi'r Drindod
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:
Bro Cadwaladr
Gweddïwn dros:
- gweinidogaeth barhaus ein Harweinwyr addoli lleyg lleol
- y Parchg Elizabeth Roberts, wrth iddi parhau i wella ar ôl damwain ffordd
- Mrs Glenys Stallwood, Darllenydd Emeritws wrth iddi wella yn dilyn COVID
- pobl newydd i ddod i ymuno â'n Cyngor Ardal Weinidgoaeth, oherwydd yn anffodus mae nifer ein hymddiriedolwyr wedi lleihau oherwydd marwolaeth a salwch
- sgyrsiau a datblygiadau parhaus rhwng yr Ardal Weinidogaeth a’r gymuned leol, yn ymwneud â phartneriaeth ac adnewyddu ein gardd Eglwys / Gymunedol yn Mihangel Sant Gaerwen, sydd wedi tyfu’n wyllt ers y cloi cyntaf. Rydym yn parhau i weithio gyda’r Adran Cyfiawnder Ieuenctid i ddarparu amgylchedd diogel i droseddwyr ifanc gyflawni eu horiau gwasanaeth cymunedol, wrth iddynt weithio yn y gerddi
- dosbarthiadau conffyrmasiwn i ddod yn ein hysgol eglwysig Ysgol Santes Dwynwen, sy'n gwasanaethu Bro Cadwaladr a Bro Dwynwen
- datblygu ymhellach y cyfeillgarwch a’r partneriaethau presennol rhwng yr enwadau lleol, wrth i ni geisio gwneud mwy gyda’n gilydd mewn addoliad a phrosiectau
- ddiolch am haelioni’r bobl, wrth inni barhau i gasglu ar gyfer y banciau bwyd lleol
Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol
Roedd yr Archesgob Andrew, yn ei lythyr yr wythnos diwethaf a’i eiriau yn ein Cynhadledd Esgobaethol, yn cyfeirio at y cynhaeaf fel amser i feddwl am dwf a rhoi.
Mae’r cysylltiad rhwng Diolchgarwch a gwasanaeth cariadus yn amlwg yn ein gair Cymraeg am y cynhaeaf – Diolchgarwch.
Mae gwaith arfaethedig yr Eglwys yng Nghymru gyfan i ymateb i’r argyfwng bwyd a thanwydd trwy weithredoedd o wasanaeth hael, yn ogystal â thrwy siarad yn frwd dros y rhai mwyaf bregus, yn cynnig cyfle i bob un ohonom gymryd rhan. Rwyf mor ddiolchgar i bawb sydd eisoes yn rhoi o’u hamser a’u gwaith caled dros yr eglwys yn hael. Diolch i bawb a wnaeth ymdrech i deithio i gynhadledd yr esgobaeth y penwythnos diwethaf ac i’r rhai a gymerodd ran ar-lein hefyd.
Rwyf am annog pob Ardal Weinidogaeth i fod yn rhan o’n gwrando, dysgu a rhannu gyda’n gilydd.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous; bydd y cyfleoedd i ryddhau arian o fuddsoddiadau canolog ein Heglwys a’u defnyddio’n dda, i wneud gwaith newydd yn ffynnu orau os bydd cynifer â phosibl yn ymuno â’r strwythurau sydd gennym eisoes, ac mewn cyfleoedd eraill a ddaw i rannu ein doethineb, i gweithio gyda'n gilydd a dysgu o amrywiaeth ein doniau a'n galwadau.
Mae'r Sul nesaf yn cael ei nodi fel Dydd Sul Diogelu. Efallai y byddai’n dda defnyddio’r digwyddiad hwn fel cyfle i edrych ar yr adnoddau ar wefan y Dalaith a’r hyfforddiant diogelu a nodir yr wythnos diwethaf yn y cylchlythyr hwn.
Mae ystod eang o gyrsiau hyfforddi ar gyfer gweinidogion trwyddedig - lleyg ac ordeiniedig - a redir gan Athrofa Padarn Sant a gellir eu gweld yma. Ystyriwch y rhain os ydynt yn berthnasol i chi. Mae tyfu ein haddoliad, ein croeso a’n gwasanaeth cariadus yn ein cynnwys ni i gyd mewn dysg newydd.
Dim ond pan fyddwn yn gallu cynnig safon uchel o letygarwch llawen, hyderus a hael ym mhob un o’r meysydd hyn y bydd cenhadaeth a thwf yn digwydd. Mae hyfforddiant yn cynnig llwybrau i ni adolygu ac ehangu ein gwybodaeth a ffyrdd o ymgysylltu, yn ogystal â chwrdd ag eraill y gallwn ddysgu ganddynt hefyd.
Mae nifer o glerigwyr yn holi am gonffyrmasiwn - cyfle gwych i gadarnhau camau ffydd. Gobeithiwn gael dau wasanaeth conffyrmasiwn yn y Gadeirlan yn 2023: cadarnhad ar Noswyl y Pasg a gwasanaeth (llai ffurfiol) ar y Pentecost. Gellir trefnu conffyrmasiwn Ardal Weinidogaeth neu Archddiaconiaeth hefyd. Cysylltwch â Robert Jones i drefnu dyddiadau a lleoliadau ar gyfer y rhain. Yn achos grwpiau mwy o blant neu bobl ifanc, cofiwch fod mewn cysylltiad yn gynnar yn y broses i drafod y ffordd orau o gynllunio hyn.
Yn olaf ond hefyd gyda diolchgarwch yn ein calonnau am was ffyddlon ac ymroddgar i Grist, parhawn i ddiolch am dyst a gweinidogaeth y Parchedig Pam Odam a fu farw yr wythnos hon. Wrth inni ddiolch i Dduw am ddoniau niferus Pam, gweddïwn dros ei theulu a thros bawb sy’n galaru ar yr adeg hon.
Diolchwn i ti Dduw ffyddlon fod Pam yn ddiogel yn dy ofal. Byddwch yn agos at bawb sy'n isel eu hysbryd ac yn drist. Cyffyrddwch â'n calonnau a helpa ni i ymddiried yn Iesu Grist ein Gwaredwr atgyfodedig, y bydd byd drylliedig yn cael ei adnewyddu, ac y bydd yr holl greadigaeth yn rhannu rhyw ddydd yn rhyddid gogoneddus holl blant Duw. Dyro inni ddewrder, llanw ni â llawenydd, a bendithia ni â gobaith, heddiw a bob amser. Amen.

Dyddiadur
24 Hydref
Synod Cronfa Gweinidogaeth yr Esgob - Archddiaconiaeth Meirionnydd
Neuadd Eglwys Penrhyndeudrath
10am
24 Hydref
Synod Cronfa Gweinidogaeth yr Esgob - Archddiaconiaeth Ynys Môn
Saint Mary's Church, Menai Bridge
7pm
26 Hydref
Synod Cronfa Gweinidogaeth yr Esgob - Archddiaconiaeth Bangor
Feed my Lambs, Caernarfon
2pm
26 Hydref
Lansiad adnoddau newydd Godly Play
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
7pm (*noder amser newydd)

Llwybr Cadfan yn Llandanwg
Cafwyd prynhawn bendigedig Ddydd Sul diwethaf yn y pedwerydd lleoliad ar y bererindod lenyddol, Llwybr Cadfan. Cafwyd gweithdy ysgrifennu creadigol ynghyd â dathliad llenyddol yn Eglwys Tanwg Sant, Llandanwg. Roedd hon yn noson braf a hwyliog yng ngolau cannwyll wnaeth lwyddo i greu naws hynod. Cawsom ein diddannu gan y bardd preswyl Siôn Aled oedd yn adrodd cerddi gwreiddiol yn ogystal â’r bardd gwadd Dewi Prysor. Yno hefyd i ganu ac i ganu’r delyn deires oedd yr amryddawn Mair Tomos Ifans. Roedd canolbwynt y sylw ar ddathlu’r dreftadaeth leol, a nodi’n arbennig bwysigrwydd Eglwys Tanwg Sant i ddatblygiad cristnogaeth yn yr ardal.
Croesawyd pawb gan Yr Hybarch Andrew Jones, Archddiacon Meirionnydd ef hefyd gyflwynodd hanes yr Eglwys gan osod cyd-destun a chefndir Sant Tanwg. Yna trosglwyddwyd yr awenau i Siôn Aled gyda datganiadau y beirdd preswyl ar bardd gwadd o’u cerddi gwreiddiol ac yna eitem gerddorol gan Mair Tomos Ifans. Roedd yr awyrgych yn yr Eglwys yn fendigedig i wrando ar y cerddi, fin nos gyda’r canhwyllau wedi eu goleuo a sain bendigedig y delyn.I gloi’r noson cafwyd gair byr o weddi gan yr Esgob Cynorthwyol Y Gwir Barchedig Mary Stallard.
Dewiswyd 10 o safleoedd i fod yn ganolfannau penodol ac yn ganolbwynt gweithgarwch ysbrdol y prosiect hwn a hynny ar ddyddiadau penodol dros y deunaw mis nesaf. Lleoliadau y tybir i Cadfan ymweld â hwy ar ei bererindod gyntaf i Enlli. Maent oll yn amrywiol ac yn cynnig naws a themâu gwahanol ar hyd y daith. Bydd y prosiect yn parhau er ei daith yn olrhain pererindod gyntaf Sant Cadfan i Ynys Enlli mewn lleoliad tra gwahanol, unigryw a diddorol. Bwriedir cynnal y digwyddiad nesaf sydd yn cael ei alw’n ‘ Cadfan ar y Cledrau’ ar drên y Welsh Highland Railway ym Mhorthmadog. Bydd Twm Morus a Gwyneth Glyn yn ymuno â ni yno yngyd â’r beirdd preswyl am brynhawn o adloniant llenyddol.
Bydd hyn yn digwydd ddydd Sadwrn 5 Tachwedd, gyda’r trên yn teithio i Feddgelert ac yn ôl. Bydd tocynnau yn mynd ar werth yn fuan ar gyfer y digwyddiad hwn.
Cloer ar werth
Mae Tŷ'r Esgob yn gwerthu y cloer. Mae'n 23 modfedd mewn lled, 29 modfedd dal a 22 modfedd ddofn. Mae'n gweithio yn iawn. Y cynnig orau fydd yn cael ei derbyn a bydd angen i chi trefnu i gasglu'r cloer eich hun. Cysylltwch â Thŷ'r Esgob os oes gynnoch chi ddiddordeb.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:
16 Hydref
Bro Ardudwy
23 Hydref
Bro Ystumanner
30 Hydref
Yr Holl Saint
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
9 October 2022
The Seventeenth Sunday after Trinity
This Sunday and through the week we pray for:
Bro Cadwaladr
Our prayers are asked for:
- the continued ministry of our Local lay worship leaders
- the Revd Elizabeth Roberts, as she continues to recover following a road accident
- Mrs Glenys Stallwood, Reader Emeritus as she recovers following COVID
- new people to come and join our Ministry Area Council, as sadly our trustee numbers have dwindled due to death and illness
- continued conversations and developments between the Ministry Area and local community, concerning a partnership and rejuvenation of our Church / Community garden in Saint Michael's Gaerwen, which has grown wild since the first lockdown. We continue to work with the Youth Justice Department in providing a safe environment for young offenders to carry out their community service hours, as they work in the gardens
- up coming confirmation classes in our church school Ysgol Santes Dwynwen, which serves Bro Cadwaladr and Bro Dwynwen
- further development of existing friendships and partnerships between the local denominations, as we seek to do more together in worship and projects
- to give thanks for the peoples generosity, as we continue to collect for the local food banks
From our Assistant Bishop
Archbishop Andrew in his letter last week and his words at our Diocesan Conference referenced harvest as a time to think about growth and giving.
The link between Thanksgiving and loving service is clear in our Welsh word for harvest – Diolchgarwch am y Cynhaeaf.
The planned work of the whole Church In Wales to respond to the food and fuel crisis through acts of generous service, as well as through speaking up vigourously for those who are most vulnerable, offers all of us an opportunity to participate. I am so grateful to all of those who already generously give of their time and hard work for the church. Thank you to everybody who made an effort to travel to the diocesan conference last weekend and to those who participated online also.
I want to encourage every ministry area to be a part of our listening, learning and sharing together.
These are exciting times; the opportunities to release money from our Church’s central investments and to use them well, to do new work will flourish best if as many as possible join in with the structures we already have, and in other opportunities that will arise to share our wisdom, to work together and to learn from the diversity of our gifts and callings.
Next Sunday is being marked as Safe-guarding Sunday. Please do use this event as an opportunity to look at the resources on the Provincial website and at the safe-guarding training set out last week in this newsletter.
There are a wide range of training courses for licensed ministers - lay and ordained- run by St Padarn’s Institute that can be viewed and accessed here. Please do consider these if they apply to you. Growing our worship, our welcome and our loving service involves us all in new learning.
Mission and growth will only happen when we are able to offer a high standard of joyful, confident and generous hospitality in each of these areas. Training offers us avenues to review and extend our knowledge and ways of engaging, as well as to meet others from whom we may learn also.
A number of clergy are asking about confirmation - a wonderful opportunity to affirm steps of faith. We hope to have two confirmation services at the Cathedral in 2023: on Easter Eve confirmation and a (less formal) service at Pentecost. Ministry Area or Synod confirmations can also be arranged. Please contact Rob Jones to arrange dates and venues for these. In the case of larger groups of children or young people, please do be in contact at an early stage to discuss how best to plan this.
Finally but also with thankfulness in our hearts for a faithful and dedicated servant of Christ, we continue to give thanks for the winess and Ministry of Rev’d Pam Odam who died this week. As we thank God for Pam’s many gifts, we pray for her family and for all who are grieving at this time.
We thank you faithful God that Pam is safely in your care. Be close to all who are downcast and sad. Touch our hearts and help us to trust that in Jesus Christ our risen Saviour, a broken world is being renewed, and all creation will one-day share in the glorious liberty of all the children of God. Gift us with courage, fill us with joy, and bless us with hope, today and always. Amen.

Diary
24 October
Bishop's Ministry Fund Synod - Archdeaconry of Meirionnydd
Penrhyndeudrath Church Hall
10am
24 October
Bishop's Ministry Fund Synod - Archdeaconry of Anglesey
Saint Mary's Church, Menai Bridge
7pm
26 October
Bishop's Ministry Fund Synod - Archdeaconry of Bangor
Feed my Lambs, Caernarfon
2pm
26 October
Launch of new Godly Play resources
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
7pm (*please note the change in time)

Llwybr Cadfan at Llandanwg
Last Sunday was the fourth location and event on the Welsh literary pilgrimage,Llwybr Cadfan. It started with a creative writing workshop followed by a literary celebration at St Tanwg's Church, Llandanwg. This wonderful evening lit by candlelight managed to create a remarkable atmosphere. We were entertained by resident poet Siôn Aled who recited original poems as well as guest poet Dewi Prysor. There also to sing play the harp was the talented Mair Tomos Ifans. The focus of attention was on celebrating the local heritage, and noting in particular the importance of St Tanwg's Church to the Christian development of the area.
Everyone was welcomed by the Venerable Andrew Jones, Archdeacon of Meirionnydd who also presented the history of the Church and set the context and background of St Tanwg. The reins were then handed over to Siôn Aled with the resident poets' statements on a guest poet from their original poems followed by a musical item by Mair Tomos Ifans. The mood in the Church was wonderful to listen to the poems, early evening with the candles lit and the wonderful sound of the harp. To close the evening there was a short prayer from the Assistant Bishop,The Right Reverend Mary Stallard.
10 sites have been selected to be specific hubs and focus of this project's sprawling activity on specific dates over the next eighteen months. Locations thought to have been visited by Cadfan on his first pilgrimage to Bardsey. They are all diverse and offer different feels and themes along the way. The project will continue its journey tracing St Cadfan's first pilgrimage to Bardsey Island in a different, unique and interesting location. The next event, ' Cadfan ar y Cledrau', is planned to take place on the Welsh Highland Railway train in Porthmadog. Twm Morus and Gwyneth Glyn will join us there with the poets in residence for an afternoon of literary entertainment. This will take place on Saturday 5 November, with the train travelling to Beddgelert and back. Tickets will go on sale soon for this event.

Safe for sale
Tŷ'r Esgob are selling a safe. It is 23 inches wide, 29 inches tall and 22 inches deep. It is fully functional. The best offer will be accepted but you will need to arrnage to collect the safe ourselves. For more information please contact Tŷ'r Esgob.
Over the next few weeks we will be praying for:
16 October
Bro Ardudwy
23 October
Bro Ystumanner
30 October
Yr Holl Saint
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.