
Y Ddolen
16 Hydref 2022
Y Trydydd Sul ar Bymtheg wedi'r Drindod
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:
Bro Ardudwy
Gweddïwn dros:
- yr apwyntiad o Arweinydd newydd i'r Ardal Weinidogaeth
- Sue ac Owain, Wardeiniaid yr Ardal Weinidogaeth, yr is-wardeiniaid iddynt gymryd yr Ardal Weinidogaeth wrth iddynt gymryd rhagor o gyfrifoldeb
- y Deon Bro, Y Parchedig Miriam Beecroft wrth iddi wylio dros yr Ardal Weinidogaeth
- teulu, ffrindiau a phawb sy'n galaru dros y Parchedig Pam Odam ar ôl ei marwolaeth wythnos diwethaf
Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol
Rwy’n ddiolchgar i’r Parchg Miriam Beecroft ac i staff a phlant Ysgol Bro Hyddgen Machynlleth, yn ogystal ag i Fanc Bwyd ein Cadeirlan am eu cymorth gyda’r neges cynhaeaf diweddar. Mae ymgysylltu â’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn y cyfnod ansefydlog ac anodd hwn yn rhan greiddiol o’n disgyblaeth a’n offrwm Cristnogol. Os ydyn ni’n gobeithio y bydd Duw yn ateb gweddi, rhaid inni fod yn fodlon bod yn rhan o’r ymateb dwyfol. Mae'r Archesgob Andrew yn ein gwahodd i wneud hyn yn y gwahoddiad 'Anrheg Nadolig'.
Yr awgrym yw bod pob cynulleidfa yn paratoi 10 bocs (o leiaf) o bethau ymolchi (sebon, brwsys dannedd, cynhyrchion misglwyf ac ati). Efallai y byddwn yn dewis dosbarthu'r rhain ein hunain neu drwy ein banciau bwyd lleol, lloches i fenywod neu adnodd cymunedol arall. Y gobaith yw y bydd rhain yn barod i’w dosbarthu erbyn diwedd Tachwedd, felly nawr yw’r amser i ddechrau casglu eitemau a bocsys. Mater i bob eglwys yw dewis maint a chynnwys eu blychau. Efallai y byddwch chi'n tynnu lluniau o'r anrhegion rydych chi'n eu paratoi a allai helpu i ysbrydoli eraill wrth iddyn nhw baratoi eu rhoddion.
Diolch am eich parodrwydd i ymwneud â hyn ac am holl haelioni gweinidogaeth ein heglwysi lleol.
Codi Lleisiau dros Gyfiawnder Hinsawdd: Cyn y sgyrsiau COP27 sy'n dechrau ddydd Llun 7 Tachwedd gofynnir i eglwysi ledled y DU sydd â chlychau ystyried canu'r rhain ddydd Sadwrn 5 Tachwedd am 5pm am 15-30 munud. Yn flaenorol pan ddigwyddodd hyn cyn COP26 gwnaeth eglwysi lleol eu trefniadau eu hunain i roi cyhoeddusrwydd i hyn yn lleol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Trefnydd Gweithredu Hinsawdd Cymorth Cristnogol, Edward Gildea www.edwardgildea.co.uk
Mae’r Archddiacon Mones Farah, o Esgobaeth Tyddewi wedi trefnu sesiwn Zoom ar Ysbrydolrwydd Rhyddhad gyda’r Gweithredwr Cristnogol a’r meddyliwr difyr, Shane Claibourne. Os hoffech ymuno â hwn ar Ddydd Mawrth 18 Hydref am 7pm cysylltwch â’r Archddiacon Mones ar: archddiacon.farah@cinw.org.uk
Dros eich gweddïau: Rydym yn hysbysebu am Gyfarwyddwr Addysg i weithio ar draws esgobaethau Bangor a Llanelwy. Mae’r wybodaeth a’r disgrifiad swydd ar gael ar ein gwefannau. Rydym hefyd yn hysbysebu am Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth ym Mro Ardudwy a Bro Eryri.
Gweddïwch dros y prosesau recriwtio ac anogwch unrhyw ymgeiswyr tebygol i edrych ar y wybodaeth ac archwilio a ellir eu galw i weithio gyda ni.
Dduw haelionus Diolch i ti am ein galw i rannu yng ngwaith dy Deyrnas. Helpa ni i gydnabod a rhannu dy roddion gyda chalonnau agored a chariad diolchgar. Cadw ni yn llawen yn ein bywoliaeth, ac yn addfwyn yn ein perthynasau fel y gallwn lefaru yn garedig, ymddwyn yn ddewr a hau dy dangnefedd ymhlith dy holl blant. Amen

Dyddiadur
24 Hydref
Synod Cronfa Gweinidogaeth yr Esgob - Archddiaconiaeth Meirionnydd
Neuadd Eglwys Penrhyndeudrath
10am
24 Hydref
Synod Cronfa Gweinidogaeth yr Esgob - Archddiaconiaeth Ynys Môn
Saint Mary's Church, Menai Bridge
7pm
26 Hydref
Synod Cronfa Gweinidogaeth yr Esgob - Archddiaconiaeth Bangor
Feed my Lambs, Caernarfon
2pm
26 Hydref
Lansiad adnoddau newydd Godly Play
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
7pm (*noder amser newydd)

Cwmni Theatr Riding Lights
24 Hydref
Eglwys San Andreas, Benllech
25 Hydref
Eglwys y Santes Mair, Conwy
26 Hydref
Eglwys Sant Idloes, Llanidloes
Am ragor o wybodaeth am y ddigwyddiadau yma gweler yma.
Chwilio am lyfrau
Mae'r Parchg Rhun Ap Robert, Arweinydd Ardal Bro Enlli, yn gofyn:
Dw i angen copïau o’r llyfrau isod ond maen nhw allan o stoc ym mhob man. Oes gan unrhyw un gopïau y bydden nhw’n fodlon i mi eu cael?
Common Worship: Pastoral Ministry Companion
Common Worship: Pastoral Services

Cadfan ar y cledrau
Teithiwch ar reilffordd Ucheldir Cymru gan wrando ar farddoniaeth a cherddoriaeth Gymraeg gan Sian Northey, Siôn Aled, Gwyneth Glyn a Twm Morus fydd wedi’u hysbrydoli gan bererindod ar hyd y Llwybr Cadfan.
Dydd Sadwrn 5 Tachwedd am 12pm
Trên o Borthmadog i Feddgelert gyda seibiant byr ym Meddgelert Diod a lluniaeth ysgafn.
Tocynnau ar gael o https://www.eventbrite.co.uk/e/441571431037
Cloer ar werth
Mae Tŷ'r Esgob yn gwerthu y cloer. Mae'n 23 modfedd mewn lled, 29 modfedd dal a 22 modfedd ddofn. Mae'n gweithio yn iawn. Y cynnig orau fydd yn cael ei derbyn a bydd angen i chi trefnu i gasglu'r cloer eich hun. Cysylltwch â Thŷ'r Esgob os oes gynnoch chi ddiddordeb.

Cofio COP26 - Cymunedau Eglwys
Wrth i’r cenhedloedd baratoi i gyfarfod yn Yr Aifft y mis nesaf ar gyfer COP27, mae’r myfyrdodau misol hyn bellach yn diwryn i ben, er bod ein galwad i ofalu am ein planed yn parhau. Trwy gydol y flwyddyn eleni, fe fuon ni’n edrych ar sawl mater yn codi o COP26 ac yn rhoi ystyriaeth iddyn nhw o bersbectif gweddigar. Maen nhw hgefyd wedi gofyn inni feddwl ychydig mwy am y rhan y gallwn ninnau ei chwarae i leihau effeithiau newid hinsawdd yn ein bywydau o ddydd i ddydd.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:
16 Hydref
Bro Ardudwy
23 Hydref
Bro Ystumanner
30 Hydref
Yr Holl Saint
6 Tachwedd
Bro Cyngar
13 Tachwedd
Bro Eleth
20 Tachwedd
Bro Celynnin
27 Tachwedd
Adfent
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
16 October 2022
The Eighteenth Sunday after Trinity
This Sunday and through the week we pray for:
Bro Ardudwy
Our prayers are asked for:
- the appointment of a new Leader to the Ministry Area
- Sue and Owain, Wardens of the Ministry Area, the sub-wardens to take on the Ministry Area as they take on more responsibility
- the Community Dean, The Reverend Miriam Beecroft as she watches over the Ministry Area
- the family, friends and all who grieve for the Reverend Pam Odam following her death last week
From our Assistant Bishop
I am grateful to the Revd Miriam Beecroft and to the staff and children of Ysgol Bro Hyddgen Machynlleth, as well as to our Cathedral Foodbank for their help with the recent harvest message. Engagement with those who are most vulnerable in these unstable and difficult times is a core part of our discipleship and Christian offering. If we hope that God will answer prayer, we must be willing to be part of the divine response. Archbishop Andrew invites us to do this in the 'Gift for Christmas' invitation.
The suggestion is that each congregation prepares 10 boxes (at least) of toiletries (soaps, toothbrushes, sanitary products etc). We might choose to distribute these ourselves or via our local foodbanks, women's refuge or other community resource. The hope is that these will be ready to distribute by the end of November, so now is a good time to start collecting items and boxes. It is up to each church to choose the size and content of their boxes. You might take pictures of the gifts you prepare which could help inspire others as they prepare their gifts.
Thank you for you willingness to engage with this and for all the generosity of the ministry of our local churches.
Raising voices for Climate Justice: In advance of the COP27 talks that start on Monday 7 November, churches across the UK that have bells are asked to consider ringing these on Saturday 5 November at 5pm for 15-30 minutes. Previously when this happened in advance of COP26 local churches made their own arrangements to publicise this locally. For more information please contact: Christian Aid, Climate Action Organiser Edward Gildea, www.edwardgildea.co.uk
Archdeacon Mones Farah, from St David's Diocese has arranged a Zoom session on Liberation Spirituality with Christian Activist and engaging thinker, Shane Claibourne. If you would like to join this on Tuesday 18 October at 7pm please contact Archdeacon Mones at: archdeacon.farah@cinw.org.uk
For your prayers: We are advertising for a Director of Education to work across the dioceses of Bangor and St Asaph. The information and job description is available on our websites. We are also advertsing for Ministry Area Leaders in Bro Ardudwy and Bro Eryri.
Please do pray for the recruitment processes and encourage any likely candidates to look at the information and explore whether they might be called to work with us.
Generous God, Thank you for calling us to share in the work of your Kingdom. Help us to recognize and share your gifts with open hearts and grateful love. Keep us joyful in our living, and gentle in our relationships so that we might speak kindly, act bravely and sow your peace among all your children. Amen

Diary
24 October
Bishop's Ministry Fund Synod - Archdeaconry of Meirionnydd
Penrhyndeudrath Church Hall
10am
24 October
Bishop's Ministry Fund Synod - Archdeaconry of Anglesey
Saint Mary's Church, Menai Bridge
7pm
26 October
Bishop's Ministry Fund Synod - Archdeaconry of Bangor
Feed my Lambs, Caernarfon
2pm
26 October
Launch of new Godly Play resources
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
7pm (*please note the change in time)

Riding Lights Theatre company
24 Hydref
Saint Andrew's Church, Benllech
25 Hydref
Saint Mary's Church, Conwy
26 Hydref
Saint Idloes Church, Llanidloes
For more information please visit here.
Request for books
The Revd Rhun Ap Robert, Ministry Area Leader for Bro Enlli, asks:
I'd like copies of the following books but they are out of stock everywhere. Does anyone have copies of the books that they would be willing to let me have?
Common Worship: Pastoral Ministry Companion
Common Worship: Pastoral Services

Cadfan ar y cledrau
Journey on the Welsh Highland railway accompanied by Welsh poetry and music from Sian Northey, Siôn Aled, Gwyneth Glyn and Twm Morus inspired by pilgrimage along the Llwybr Cadfan.
Saturday 5 November at 12pm
Porthmadog to Beddgelert with a break at Beddgelert Refreshments provided.
Tickets available from https://www.eventbrite.co.uk/e/441571431037
Safe for sale
Tŷ'r Esgob are selling a safe. It is 23 inches wide, 29 inches tall and 22 inches deep. It is fully functional. The best offer will be accepted but you will need to arrnage to collect the safe ourselves. For more information please contact Tŷ'r Esgob.

Remembering COP26 - Church Communities
As nations prepare to gather in Egypt next month for COP27, these monthly reflections now draw to an end, although our call to care for the planet continues. Throughout this year we have looked at a number of issues arising from COP26 and considering them from a prayerful perspective. They have also asked us to think a little more about the part we can play to reduce the effects of climate change in our day to day lives.
Over the next few weeks we will be praying for:
16 October
Bro Ardudwy
23 October
Bro Ystumanner
30 October
Yr Holl Saint
6 November
Bro Cyngar
13 November
Bro Eleth
20 November
Bro Celynnin
27 November
Adfent
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.