minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Yr afon Dysynni ym Mro Ystumanner | The river Dysynni in Bro Ystumanner
English

Y Ddolen


23 Hydref 2022

Y Pedwerydd Sul ar Bymtheg wedi'r Drindod


Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:

Bro Ystumanner

Gweddïwn dros:

  • dechreuad ein 'Warmer Winter Wednesdays' yng Nghadfan Sant, Tywyn ar 9 Tachwedd yn darparu gofod cynnes yn yr eglwys i bobl ddod, cael paned, dim ond bod, sgwrsio, neu chwarae gemau, a mwynhau ychydig o gwmni.
  • ein gwaith gyda phlant a theuluoedd yn Llan Llanast Aberdyfi, clybiau ôl-ysgol The Ark ac Aftershock yn Fairbourne, a’n Addoliad Pob Oed yn Nhywyn, Aberdyfi, Llwyngwril, a’r Friog, a gweinidogaeth ein dau Weinidog Teulu, Zoe Hobbs a Alison Sayes a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw.
  • ein digwyddiadau hydref a Nadolig sydd i ddod ar draws yr Ardal Weinidogaeth gan gynnwys boreau coffi, cyngherddau, Brecwast Mawr, Ffeiriau Nadolig, a gwasanaethau carolau.
  • i bobl ddod ymlaen i ymgymryd â rolau Trysorydd Ardal Weinidogaeth, yn ogystal â thri thrysorydd eglwys unigol, ac am ddoethineb ac ysbrydoliaeth wrth gwrdd â heriau ariannol darparu adnoddau i’n gweinidogaeth.

Trist yw clywed am farwolaeth Sue, gwraig y Parchg Steve Rollins yr wythnos hon. Gwahoddir eich gweddïau dros Steve a’r teulu cyfan, bydded iddynt gael eu hamgylchynu yn eu galar gan gariad y teulu Cristnogol. Boed iddynt gael eu cynnal a'u cysuro yn eu tristwch, a phwyso ar y gobaith sydd gennym yn ein gwaredwr atgyfodedig Iesu Grist. Bydded i Sue, a'n hanwyliaid oll ymadaw, orffwys mewn tangnefedd a chodi mewn gogoniant, Amen


Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol

Roeddwn mewn cyfarfod yn Llundain pan gyhoeddwyd bod Prif Weinidog y DU wedi ymddiswyddo. Roeddwn gydag arweinwyr y Gymdeithas Genedlaethol sy’n hyrwyddo Ysgolion Eglwysig ac Addysg Grefyddol Gristnogol, ac roedd effaith ansicrwydd hirfaith ar gyllidebau a phenderfyniadau sy’n effeithio ar addysg (ochr yn ochr â chymaint o feysydd gwaith pwysig eraill) yn amlwg ar unwaith.

Mae cythrwfl gwleidyddol yr wythnosau diwethaf, a’r ymdeimlad o’r heriau enfawr sy’n gysylltiedig â threfnu ein heconomi a’n hadnoddau, a rhannu mewn ffordd sy’n gweithio i bawb, yn dangos ein hangen i ddod o hyd i ffordd well o fyw.

Rwy’n falch bod ein Harchesgob, ymhlith eraill, wedi ymateb yn gyflym gyda galwad i weddïo dros y rhai sy’n arwain ein cenedl ac ar i’n harweinwyr gwleidyddol flaenoriaethu gofalu am anghenion y bregus a phawb sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y sefyllfa bresennol.

Mae ein gweddïau yn dechrau gosod fframwaith ar gyfer ein hymwneud â'r dasg o gefnogi'r bregus. Mae gennym gyfle i gynllunio a rhannu syniadau am sut rydym yn gwneud hyn yn yr wythnos i ddod wrth i ni ddod at ein gilydd yng nghyfarfodydd y Synod i siarad am ein cyllid. Gwyddom fod gennym lawer i’w wneud o ran datblygu cynlluniau Cenhadaeth, Cyllid ac Adeiladu Ardaloedd Gweinidogaeth. Wrth inni weddïo dros ein llywodraeth a’n harweinwyr cenedlaethol, gadewch i ni hefyd weddïo ac ymrwymo ein hunain, y byddwn ni a’n heglwys ar bob lefel yn gweithredu gydag uniondeb, didwylledd, a haelioni, fel y bydd ein galwad i ddilyn Crist yn hysbys yn ein gweddi, ein cymunedau ffydd ffyniannus, croesawgar a thrwy ein gwasanaeth cariadus i eraill.

Dduw helaeth, ffynhonnell bywyd, ynot ti y mae tangnefedd a gwir heddwch. Ar adegau o bryder ac angen, siaradwch â ni mewn ffyrdd y gallwn eu deall. Gwnewch bob un ohonom yn ymwybodol o'ch presenoldeb. Cynorthwya ni i ildio’n llwyr i’th ofal di-ffael ac i adnabod dy ddoniau a’th ddaioni o’n cwmpas. Agor ein calonnau, ein meddyliau, a’n dwylo i rannu’n rhydd, i garu’n hael ac i fyw fel arwyddion gobaith a bendith i eraill. Amen.

Dyddiadur

24 Hydref
Synod Cronfa Gweinidogaeth yr Esgob - Archddiaconiaeth Meirionnydd
Neuadd Eglwys Penrhyndeudrath
10am

24 Hydref
Synod Cronfa Gweinidogaeth yr Esgob - Archddiaconiaeth Ynys Môn
Saint Mary's Church, Menai Bridge
7pm

26 Hydref
Synod Cronfa Gweinidogaeth yr Esgob - Archddiaconiaeth Bangor
Feed my Lambs, Caernarfon
2pm

26 Hydref
Lansiad adnoddau newydd Godly Play
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
7pm (*noder amser newydd)

Cwmni Theatr Riding Lights

24 Hydref
Eglwys San Andreas, Benllech

25 Hydref
Eglwys y Santes Mair, Conwy

26 Hydref
Eglwys Sant Idloes, Llanidloes

Am ragor o wybodaeth am y ddigwyddiadau yma gweler yma.


Y cob ym Mhorthmadog | The cob at Porthmadog

Cadfan ar y cledrau

Teithiwch ar reilffordd Ucheldir Cymru gan wrando ar farddoniaeth a cherddoriaeth Gymraeg gan Sian Northey, Siôn Aled, Gwyneth Glyn a Twm Morus fydd wedi’u hysbrydoli gan bererindod ar hyd y Llwybr Cadfan.

Dydd Sadwrn 5 Tachwedd am 12pm

Trên o Borthmadog i Feddgelert gyda seibiant byr ym Meddgelert Diod a lluniaeth ysgafn.

Tocynnau ar gael o https://www.eventbrite.co.uk/e/441571431037


Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y Llywodraeth

Dywedir Cytûn:
Mae BEIS yn Llywodraeth y DU yn cynnal arolwg yn casglu tystiolaeth o ran anghenion cwsmeriaid annomestig – gan gynnwys eglwysi a chapeli – am fwy o gymorth gyda biliau ynni ar ôl Mawrth 2023, pan ddaw’r cynllun cymorth presennol i ben. Mae'n rhaid ateb yr holiadur erbyn diwedd dydd Llun Hydref 24. Oherwydd fformat yr arolwg, ni all Cytûn ymateb yn llawn ar ran ein haelodau ar y cyd gan ei fod yn holi am fanylion biliau ynni sefydliadau unigol, a nid oes gennym fynediad i’r wybodaeth honno. Rwy’n sylweddoli y bydd yr un yn wir am lawer o swyddfeydd enwadol, ond rydym yn cynghori yn gryf y dylech ymateb i’r arolwg gyda chymaint o wybodaeth sydd ar gael gennych ac esbonio ymhellach ym mlychau 2.10 a 3.2. Fe fydd Cytûn yn gwneud yr un fath.


Materion Galar Cymorth Cristnogol

Mae Cymorth Cristnogol yn cynnal ddigwyddiad arbennig er-cof ar nos Fawrth 1 Tachwedd. Mae’r digwyddiad yn cymryd lle ei Gwasanaeth Er-cof arferol. Yn dilyn llwyddiant digwyddiad panel y flwyddyn diwethaf yn ystod Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Galar, maent yn cynnal yr un digwyddiad eto eleni, gyda’r un panelwyr, i drafod galar, ond y tro hwn yn eich gwahodd chi fel cefnogwyr i ymuno gyda’r staff. Bydd cyflwyniadau byr a chyfle i ofyn cwestiynau.

I gloi’r digwyddiad bydd cyfle i gofio annwyliaid wrth i bawb oleuo canwyll yn eu cartrefi.

Am ragor o fanylion ac i gofrestru ebostiwch legacyteam@christian-aid.org

Cyfarfod yn Saesneg fydd hwn.


Gofalu Am Erw Duw

Mae cyfres newydd o webinarau yn dechrau ar 26 Hydref gyda ystod eang o bynciau o wenyn anghyfannedd i seintiau a noddfeydd. Defnyddiwch y botwm isod i ymweld â wefan Gofalu am Erw Duw am ragor o wybodaeth.


Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:

30 Hydref
Yr Holl Saint

6 Tachwedd
Bro Cyngar

13 Tachwedd
Bro Eleth

20 Tachwedd
Bro Celynnin

27 Tachwedd
Adfent


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


23 October 2022

The Nineteenth Sunday after Trinity


This Sunday and through the week we pray for:

Bro Ystumanner

Our prayers are asked for:

  • the beginning of our Warmer Winter Wednesdays at Saint Cadfan’s, Tywyn on 9 November providing a warm space in church for people to come, have a cuppa, just be, chat, or play games, and enjoy some company.
  • our work with children and families in Messy Church in Aberdyfi, The Ark and Aftershock after-school clubs in Fairbourne, and our All Age Worship in Tywyn, Aberdyfi, Llwyngwril, and Fairbourne, and the ministry of our two Family Ministers, Zoe Hobbs and Alison Sayes and those who work with them.
  • our upcoming autumn and Christmas events across the Ministry Area including coffee mornings, concerts, a Big Breakfast, Christmas Fairs, and carol services.
  • for people to come forward to take up the roles of Ministry Area Treasurer, as well as three individual church treasurers, and for wisdom and inspiration in meeting the financial challenges of resourcing our ministry.

It is sad to hear of the death of Sue, married to the Revd Steve Rollins this week. Your prayers are invited for Steve and the whole family, may they be surrounded in their grief by the love of the Christian family. May they be supported and comforted in their sadness, and lean on the hope we all have in our risen saviour Jesus Christ. May Sue, and all our departed loved ones, rest in peace and rise in glory, Amen


From our Assistant Bishop

I was at a meeting in London when it was announced that the Prime Minister had resigned. I was with leaders of the National Society which promotes Church Schools and Christian Religious Education, and the impact of prolonged uncertainty upon budgets and decision-making affecting education (alongside so many other important areas of work) was immediately obvious.

The political turmoil of these past weeks, and the sense of the huge challenges involved in organising our economy and resources, and to share in a way that works for everyone, demonstrate our need to find a better way of living.

I'm glad that our Archbishop, amongst others, swiftly reacted with a call to pray for those who lead our nation and for our political leaders to prioritise looking after the needs of the vulnerable and all who are most affected by the current situation.

Our prayers begin to set out a framework for our engagement in the task of supporting the vulnerable. We have an opportunity to plan and share ideas about how we this in the coming week as we come together in Synod meetings to talk about our finances. We know we have much to do in terms of developing Ministry Area Mission, Finance and Building plans. As we pray for our government and national leaders, let’s also pray and commit ourselves, that we and our church at every level might act with integrity, openness, and generosity, so that our calling to follow Christ may be made known in our prayer, our thriving, welcoming faith-communities and through our loving service of others.

Abundant God, source of life, in you there is calm and true peace. In times of anxiety and need, speak to us in ways that we can understand. Grant to each of us an awareness of your presence. Help us to yield ourselves completely to your unfailing care and to recognise your gifts and goodness all around us. Open our hearts, minds, and hands to share freely, to love generously and to live as signs of hope and blessing for others. Amen.

Diary

24 October
Bishop's Ministry Fund Synod - Archdeaconry of Meirionnydd
Penrhyndeudrath Church Hall
10am

24 October
Bishop's Ministry Fund Synod - Archdeaconry of Anglesey
Saint Mary's Church, Menai Bridge
7pm

26 October
Bishop's Ministry Fund Synod - Archdeaconry of Bangor
Feed my Lambs, Caernarfon
2pm

26 October
Launch of new Godly Play resources
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
7pm (*please note the change in time)

Riding Lights Theatre company

24 Hydref
Saint Andrew's Church, Benllech

25 Hydref
Saint Mary's Church, Conwy

26 Hydref
Saint Idloes Church, Llanidloes

For more information please visit here.


Gorsaf Beddgelert | Beddgelert station

Cadfan ar y cledrau

Journey on the Welsh Highland railway accompanied by Welsh poetry and music from Sian Northey, Siôn Aled, Gwyneth Glyn and Twm Morus inspired by pilgrimage along the Llwybr Cadfan.

Saturday 5 November at 12pm

Porthmadog to Beddgelert with a break at Beddgelert Refreshments provided.

Tickets available from https://www.eventbrite.co.uk/e/441571431037


The Government's Department of Business, Energy and Industrial Strategy

Cytûn asks:
BEIS in UK Government are holding a survey collecting evidence of the needs of non-domestic customers – including churches and chapels – for further assistance with energy bills after March 2023, when the current assistance scheme ends. The survey must be completed by the end of Monday 24 October. Because of the survey format, Cytûn cannot reply on behalf of all our members collectively as it asks for details of the energy bills of individual organisations, to which we do not have access. I realise that this will also be true of most denominational offices, but we strongly advise you to reply to this survey with as much information as you have and explain further in boxes 2.10 and 3.2. Cytûn will do the same.


Christian Aid's 'Grief Matters'

Christian Aid are hosting an in-memory event coming up on Tuesday 1 November, which will be held in place of their usual Service of Reflection and Remembrance. Following the success of the Panel Event last year during National Grief Awareness Week they will be holding a similar event with some of the same panellists, to discuss the subject of grief, but this time opening it up to supporters as well as staff. There will be short addresses followed by questions.

The event will end with a moment of remembrance, where attendees will be invited to light a candle at home and share the name of the loved one they are remembering in the chat. 

For more information and to register for the event please email legacyteam@christian-aid.org


Caring for God's Acre

A new series of webinars is beginning on 26 October with a wide range of topics ranging from solitary bees to saints and sanctuaries. Use the button below to visit the Caring for God's Acre website for more information.


Over the next few weeks we will be praying for:

30 October
Yr Holl Saint

6 November
Bro Cyngar

13 November
Bro Eleth

20 November
Bro Celynnin

27 November
Adfent


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.