
Y Ddolen
30 Hydref 2022
Yr Holl Saint
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:
Dygwyl yr Holl Saint
Hollalluog Dduw,
cysylltaist ynghyd dy etholedigion
yn un cymundeb a chymdeithas
yn nirgel gorff dy Fab, Crist ein Harglwydd:
caniatâ i ni ras i ddilyn dy saint gwynfydedig
mewn buchedd rinweddol a duwiol
fel y delom i’r llawenydd anhraethol hwnnw
a baratoaist i’r rhai sy’n dy wir garu;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd,
i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
y bo’r deyrnas, y gallu a’r gogoniant,
yn oes oesoedd.
Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol
Mae'r trefniadau ar gyfer angladd y Parchg Pam Odam, yn unol â’i dymuniad, yn cynnwys gwasanaeth ar 4 Tachwedd am ganol dydd yn Eglwys Tanwg Sant, Llandanwg ac yna claddedigaeth ym Mynwent Eglwys Llanbedr. Mae'r eglwys hynafol a hardd hon, yr oedd Pam mor hoff ohoni, yn fach iawn. Bydd darparu ar gyfer ei theulu agos a'r rhai sy'n gweinyddu yn ogystal â ffrindiau a chymdogion yn dipyn o her. Os ydych yn bwriadu dod, plîs gwisgwch yn gynnes a byddwch yn ymwybodol ei bod yn debygol y bydd yn rhaid i rai sefyll y tu allan i'r eglwys yn ystod y gwasanaeth.
Os nad ydych yn gallu mynychu gwasanaeth angladd Pam, bydd cyfle i’w chofio yng ngoffâd Holl Eneidiau am 6.00 ar 2 Tachwedd yng Nghadeirlan Sant Deiniol ym Mangor. Dyma fydd requiem gorawl Ewcharist gan cynnwys trefniant cerddorfaol o Requiem John Rutter. Bydd yr Ewcharist yn cael ei gynnig ar gyfer yr holl ffyddloniaid ymadawedig, ond bydd unigolion yn cael eu cofio wrth eu henwau yn ystod yr ymbiliau. Mae rhestr enwau yng nghefn yr Cadeirlan ar gyfer y rhain neu gallwch e-bostio Swyddfa’r Gadeirlan drwy bangorcatheral@churchinwales.org.uk
Cynrychiolydd Masnach Deg: Mae angen cynrychiolydd Masnach Deg Taleithiol ar ein hesgobaeth i hyrwyddo mentrau Masnach Deg o fewn a thu hwnt i’n Archddianconiaethau a’n Hesgobaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i gadw’r maes pwysig hwn o waith ar agenda pawb, cysylltwch â mi drwy e-bost i assistantbishop.bangor@churchinwales.org.uk

Heriau’r Archesgob – Mae Archesgob Andrew wedi lansio Ymgyrch Bwyd a Thanwydd newydd yr Eglwys yng Nghymru i fynd i’r afael ag effaith ddinistriol yr argyfwng costau byw, sy’n effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Edrychwch ar yr adnoddau ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Mae cylchlythyr rheolaidd y gallwch gofrestru amdano, llythyr agored i archfarchnadoedd ei lofnodi, adnoddau, straeon ysbrydoledig a gweddïau a syniadau addoli.
Cofiwch hefyd roi gwybod i ni am eich blychau Nadolig y gofynnir i bob cynulleidfa baratoi ar eu cyfer dosbarthiad lleol dros gyfnod y Nadolig. Gwahoddir ni i baratoi bocsys o bethau ymolchi fel anrhegion i bobl yn ein cymunedau a fydd yn gwerthfawrogi’r rhain yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Yn olaf, diolch yn fawr iawn i bawb sy'n gweithio mor galed yn ein heglwysi ar draws yr esgobaeth. Yr wythnos ddiwethaf hon rydym wedi cynnal cyfarfodydd Cronfa Gweinidogaeth Esgob lle buom yn ymwybodol o waith caled a gofalus ein trysoryddion niferus, a hefyd haelioni ac ymroddiad rhoddwyr ffyddlon, codwyr arian cydwybodol a’r rhai sy’n gweddïo ac yn cefnogi ein gwaith o genhadaeth a gweinidogaeth.
Dduw ein gobaith cryf, amgylchyna ni ar adegau o her ac anhawster. Helpa ni i adnabod y rhoddion rwyt ti’n eu rhoi i ni ac i ddefnyddio’r rhain yn dda. Gwna ni yn obeithiol, yn llawen ac yn awyddus i wneud dy ewyllys, fel y daw mwy i ymddiried yn dy ddaioni a’th drugaredd ac i adnabod cariad a thangnefedd achubol Crist. Amen.

Dyddiadur
5 Tachwedd
12pm
Cadfan ar y Cledrau
Ceir rhagor o fanylion isod
1-2 Rhagfyr
Grŵp Cadfan
Mae Grŵp Cadfan yn gyfle i holl glerigion trwyddedig yr esgobaeth ddod ynghyd i addoli, i fyfyrio, i weddïo, i ddysgu ac i dreulio amser gyda’i gilydd. Bydd cydweithwyr taleithiol yn ymuno â'r cyfarfod i drafod Diogelu a 'My Church People'.

Cadfan ar y cledrau
Teithiwch ar reilffordd Ucheldir Cymru gan wrando ar farddoniaeth a cherddoriaeth Gymraeg gan Sian Northey, Siôn Aled, Gwyneth Glyn a Twm Morus fydd wedi’u hysbrydoli gan bererindod ar hyd y Llwybr Cadfan.
Dydd Sadwrn 5 Tachwedd am 12pm
Trên o Borthmadog i Feddgelert gyda seibiant byr ym Meddgelert Diod a lluniaeth ysgafn.
Tocynnau ar gael o https://www.eventbrite.co.uk/e/441571431037

Darlith am weddi
Ar nos Lun 7 Tachwedd bydd cyn Archesgob Caergaint, Yr Arglwydd Williams o Oystermouth, yn siarad yng Nghadeirlan Llanelwy ar weddi. Mae'r ddarlith yn rhad ac am ddim ond mae'n angenrheidiol i archebu tocyn.

Caplan i'r Clerigion Ymddeoledig
Meddai’r Parchg Ganon David Morris, Cyfarwyddwr y Weinidogaeth:
Rwyf wrth fy modd gyda phenodiad y Parchg Peter Kaye yn gaplan i’n clerigion sydd wedi ymddeol. Bydd yn chwarae rhan annatod wrth ddarparu gofal bugeiliol ac ysbrydol i glerigion sydd wedi ymddeol, yn ogystal ag annog cynulliadau cymdeithasol a bod yn sianel gyfathrebu allweddol. Bydd Peter yn dod â brwdfrydedd a chyfoeth o brofiad i’r weinidogaeth newydd a phwysig hon yn yr esgobaeth.
Gwasanaethodd y Parchg Peter Kaye ei deitl yn Llundain o 1972, yna symudodd i Birmingham fel caplan ysbyty seiciatrig mawr. Roedd ei waith yn cynnwys cwnsela a pheth seicotherapi ac yn ddiweddarach ailhyfforddodd mewn gwaith cymdeithasol a gweithio am nifer o flynyddoedd fel swyddog prawf. Gan gynorthwyo gyda gweinidogaeth y plwyf, daeth yn ddiweddarach yn offeiriad plwyf Eglwys y Dyrchafael yn Stirchley, lle ymddeolodd yn 2012, gan symud i'w tŷ ym Mhorthmadog. Mae’n briod â Patricia, ac yn gwasanaethu yn Nhîm Gweinidogaeth Bro Eifionydd, ac fel Caplan Cadeirlan. Mae Peter hefyd yn Gyfarwyddwr Ysbrydol.
Blwyddyn o Weddi yr Eglwys yng Nghymru
Mae pobl yn cael eu gwahodd ar daith weddi blwyddyn o hyd i ddatblygu eu bywydau ysbrydol.
O fyfyrdodau a myfyrdodau i deithiau gweddïo a labyrinths, bob mis bydd pobl yn cael eu harwain trwy wahanol ffyrdd o weddïo, naill ai ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, gyda chyfres o adnoddau ar-lein.
Mae cwrs y Flwyddyn Weddi yn cael ei lunio gan Grŵp Ysbrydolrwydd yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r mis hwn yn annog canolbwyntio ar weddi yn hytrach na thynnu sylw.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:
6 Tachwedd
Bro Cyngar
13 Tachwedd
Bro Eleth
20 Tachwedd
Bro Celynnin
27 Tachwedd
Adfent
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
30 October 2022
All Saints
This Sunday and through the week we pray for:
All Saints' Day
Almighty God,
you have knit together your elect
in one communion and fellowship
in the mystical body of your Son Christ our Lord:
grant us grace so to follow your blessed saints
in all virtuous and godly living
that we may come to those inexpressible joys
you have prepared for those who truly love you;
through Jesus Christ your Son our Lord,
to whom with you and the Holy Spirit,
be the kingdom, the power and the glory,
for ever and ever.
From our Assistant Bishop
The arrangements for the funeral for the Revd Pam Odam, in accordance with her wishes, are that the service will be on 4 November at 12:00 midday in Saint Tanwg’s Church, Llandanwg followed by a burial in Llanbedr Churchyard. Those of you who know this ancient and beautiful church, which Pam loved so much, know that it is very small. Accommodating her close family and those officiating as well as friends and neighbours will be something of a challenge. If you plan to come, please dress warmly and do be aware that it is likely that some will probably have to stand outside the church during the service.
If you are unable to attend Pam’s funeral service, there will be an opportunity to remember her at the All Souls’ commemoration at 6.00pm on 2 November at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor. This will be a choral requiem Eucharist including an orchestral arrangement of John Rutter’s Requiem. The Eucharist will be offered for all the faithful departed, but individuals will be remembered by name during the intercessions. There is a list at the back of the Cathedral for these or you can email the Cathedral Office via bangorcathedral@churchinwales.org.uk
Our diocese needs a Provincial Fair Trade representative to promote Fair Trade initiatives within and beyond our Archdeaconries and Diocese. If you would be interested in helping to keep this important area of work on everyone’s agenda please do contact me via assistantbishop.bangor@churchinwales.org.uk

Archbishop’s challenges – Archbishop Andrew has launched the Church in Wales new Food and Fuel Campaign to tackle the devastating impact of the cost of living crisis, which is affecting communities right across Wales. Do look at the resources on the Church in Wales website.There is a regular newsletter you can sign up for, an open letter to supermarkets to sign, resources, inspiring stories and prayers and worship ideas.
Please also do let us know about your Christmas boxes that each congregation is asked to prepare for local distribution over the Christmas period. We are invited to prepare boxes of toiletries as gifts for people in our communities who will appreciate these during these difficult times.
Finally a big thank you to all who are working so very hard in our churches across the diocese. This past week we have had our Bishops’ Ministry Fund meetings at which we have been conscious of the hard and careful work of our many treasurers, and also of the generosity and dedication of faithful givers, conscientious fundraisers and those who pray and support our work of mission and ministry.
God our strong hope, surround us in times of challenge and difficulty. Help us to recognise the gifts you give us and to use these well. Make us hopeful, joyful and eager to do your will, so that more may come to trust in your goodness and mercy and to know Christ’s saving love and peace. Amen.

Diary
5 November
12pm
Cadfan ar y Cledrau
Further details below
1-2 December
Grŵp Cadfan
Grŵp Cadfan is an opportunity for all licensed clergy of the diocese to gather together to worship, to reflect, to pray, to learn and spend time together. Provincial colleagues will be joining the meeting to share information about Safeguarding and 'My Church People'.

Cadfan ar y cledrau
Journey on the Welsh Highland railway accompanied by Welsh poetry and music from Sian Northey, Siôn Aled, Gwyneth Glyn and Twm Morus inspired by pilgrimage along the Llwybr Cadfan.
Saturday 5 November at 12pm
Porthmadog to Beddgelert with a break at Beddgelert Refreshments provided.
Tickets available from https://www.eventbrite.co.uk/e/441571431037

A lecture about prayer
On Monday 7 November the former Archbishop of Canterbury, Lord Williams of Oystermouth, will be giving a lecture about prayer at Saint Asaph Cathedral. The lecture is free but tickets do need to be booked.

Chaplain to the Retired Clergy
The Revd Canon David Morris, Director of Ministry says:
I am delighted with the appointment of the Revd Peter Kaye as chaplain to our retired clergy. He will play an integral role in providing pastoral and spiritual care to retired clerics, as well as encouraging social gatherings and being a key channel of communication. Peter will bring enthusiasm and a wealth of experience to this new and important ministry in the diocese.
The Revd Peter Kaye served his title in London from 1972, then moved to Birmingham as the chaplain of a large psychiatric hospital. His work included counselling and some psychotherapy and he later retrained in social work and worked for several years as a probation officer. Assisting in parish ministry, he later became parish priest of The Church of The Ascension in Stirchley, from where he retired in 2012, moving to their house in Porthmadog. He is married to Patricia, and serves in the Ministry Team of Bro Eifionydd, and as a Cathedral Chaplain. Peter is also a Spiritual Director.
The Church in Wales' Year of Prayer
People are being invited on a year-long prayer journey to develop their spiritual lives.
From meditations and reflections to prayer walks and labyrinths, each month people will be guided through different ways of praying, either alone or with others, with a series of online resources.
The Year of Prayer course is compiled by the Church in Wales’ Spirituality Group. This month encourages to focus on prayer rather than get distracted.
Over the next few weeks we will be praying for:
6 November
Bro Cyngar
13 November
Bro Eleth
20 November
Bro Celynnin
27 November
Adfent
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.