
Y Ddolen
20 Tachwedd 2022
Crist y Brenin
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:
Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin
Gofynnir am ein gweddïau yn enwedig:
- holl gymunedau Tref Conwy a'r Dyffryn
- y prosiect bwyd Bagiau Cariad / Bags of Love
- ein hysgolion eglwys, Ysgol Porth y Felin ac Ysgol Llangelynnin
- Addoli yn y Gwyllt a'n gweithgareddau Arloesi eraill
- galwedigaethau, yn enwedig grŵp newydd sydd wedi dechrau arwain addoliad
- Hosbis Plant Tŷ Gobaith (y mae David Parry yn rhedeg hanner marathon Conwy iddo ddydd Sul 20/11)
- pawb sy'n ymwneud â'n gwasanaethau a digwyddiadau Adfent a Nadolig
Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol
Dduw hael, diolch dy fod ti trwy Iesu yn dangos cariad costus inni. Yn y cyfnod hwn o bryder, pan fydd llawer yn poeni am y dyfodol ac ofn yn ymddangos wrth wraidd llawer o benderfyniadau; helpa ni i fod yn bobl sydd wedi gwreiddio mewn cariad. Llanw ni â thosturi, galluoga ni i fod yn llaw-agored gyda beth bynnag sydd gennym i’w ddilyn yn ffordd Crist ein Brenin gan helpu pawb i wybod eu bod yn cael eu caru, Amen.
Mae marwolaeth ei mawrhydi, y Frenhines Elizabeth ac olyniaeth y Brenin Charles wedi codi cwestiynau ar draws y cenedlaethau yng Nghymru a ledled y DU am ystyr a phwrpas brenhiniaeth.
Yn ein gweddi y penwythnos hwn cawn ein hatgoffa o’r hyn y mae Crist yn ei ddangos inni am ystyr dyfnaf dealltwriaeth yr Efengyl o Deyrnas Dduw. Mae gwledd Crist y Brenin yn cynnig darlun clir inni o werthoedd Duw ac o sut beth yw cariad costus, achubol.
Dyma Frenin sy'n fodlon dioddef wrth ein hochr. Nid Brenin sy'n dal ei hun uwchlaw eraill yw hwn ond un sy'n profi brad, anghyfiawnder, a bychanu. Brenin sydd wedi marw fel y byddwn ninnau hefyd yn marw, ond sydd bellach yn byw bywyd atgyfodiad newydd. Mae’n ein croesawu i’r un bywyd atgyfodiad lle byddwn ni’n adnabod y dangnefedd, y gobaith a’r iachâd rydyn ni’n dyheu amdano.
Mae gwledd Crist y Brenin, sy’n dod ar ddiwedd ein blwyddyn galendr Gristnogol, a chyn Sul yr Adfent, yn cynnig cyfle i ni fyfyrio ar y ffyrdd rydyn ni’n dangos cariad ein “Was-Frenin” at eraill.
Mae ymgyrch ein Harchesgob yr Adfent hwn "Anrheg ar gyfer y Nadolig", fel rhan o fenter Bwyd a Thanwydd yr Eglwys yng Nghymru, yn cynnig ffyrdd i ni ddangos tosturi at eraill ac eiriol dros gymdeithas fwy cyfiawn. Mae wedi bod yn hyfryd gweld rhai lluniau yr wythnos hon o focsys o bethau ymolchi y mae Ardaloedd Gweinidogaeth eisoes wedi eu paratoi. Ystyriwch sut y gallai eich cynulleidfa ymateb i hyn. Os ydych chi eisoes wedi paratoi rhywbeth, cofiwch rannu newyddion am hyn i helpu i annog eraill.

Dyddiadur
23 Tachwedd
Gofal Ein Gwinllan

1-2 Rhagfyr
Grŵp Cadfan
Mae Grŵp Cadfan yn gyfle i holl glerigion trwyddedig yr esgobaeth ddod ynghyd i addoli, i fyfyrio, i weddïo, i ddysgu ac i dreulio amser gyda’i gilydd. Bydd cydweithwyr taleithiol yn ymuno â'r cyfarfod i drafod Diogelu a 'My Church People'.
1 Rhagfyr
Diwrnod AIDS y Byd
10am-10pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Diwrnod amrywiol o ddigwyddiadau yn cyfuno cofio’r colledig, gweddi am ddioddefaint a dathlu datblygiadau mewn meddygaeth a chymdeithas.
7.30pm Gwylnos Goffa yng Ngolau Cannwyll yna:
Cyflwyniad | Atal a Thriniaeth: Dathlu Cynnydd Meddygol
Anerchiad gweledol gan Ddr Olwen Williams, OBE, Ymgynghydd Iechyd Rhywiol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chyfle i ofyn cwestiynau
Wythnos hinsawdd Cymru
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn cynnig cyfle blynyddol i gynnal sgwrs genedlaethol ynghylch y newid yn yr hinsawdd. Mae’r wythnos yn archwilio’r gweithredu brys sydd ei angen i leihau allyriadau carbon a magu gwytnwch gwell i effeithiau newid yn yr hinsawdd yr ydym eisoes yn eu gweld ledled Cymru. Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2022 eleni yn canolbwyntio ar y cyfraniad pwysig y gall y cyhoedd ei wneud er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Bydd A Rocha UK a Chymorth Cristnogol yn cynnal sesiwn ar lein ar Ddydd Llun 21 Tachwedd am 3.15pm yn focysu ar y camau mae capeli ac eglwysi yng Nghymru wedi eu cymryd yn lleol a byd eang. Cewch glywed yn uniongyrchol wrthyn nhw am eu profiadau, beth maent wedi eu gyflawni wrth son am eu hadeiladau, eu tir, byd natur ac ymgyrchu.
Cliciwch ar y llun uchod i gofrestru.

Adnodd newydd ddwyieithog
Mae Eglwys y Bobl yn llyfr dwyieithog newydd a gyhoeddwyd gan Athrofa Padarn Sant mewn partneriaeth â Chyngor Ysgolion Sul. Llyfr o fyfyrdodau ar gyfer bob Sul yn flwyddyn Eglwysig. (Blwyddyn A) Bydd ar werth mewn siopau llyfrau Cymraeg lleol, drwy Gyngor Ysgolion Sul a hefyd ar wefannau Gwales ac Amazon.
Ymgyrch Bwyd a Thanwydd
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:
27 Tachwedd
Adfent
4 Rhagfyr
Bro Ogwen
11 Rhagfyr
Bro Eryri
18 Rhagfyr
Bro Cyfeiliog a Mawddwy
25 Rhagfyr
Nadolig
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
20 November 2022
Christ the King
This Sunday and through the week we pray for:
the Ministry Area of Bro Celynnin
Our prayers are asked in particular for:
- all the communities of Conwy Town and the Valley
- the Bagiau Cariad / Bags of Love food project
- our church schools, Ysgol Porth y Felin and Ysgol Llangelynnin
- Worship in the Wild and our other Pioneer activities
- vocations, especially a new group who have begun to lead worship
- Tŷ Gobaith Children’s Hospice (for whom David Parry is running Conwy half-marathon on Sunday 20/11)
- everyone involved in our Advent & Christmas services and events
From our Assistant Bishop
Generous God, thank you that in Jesus you show us costly love. In this time of anxiety when many are worried about the future, and fear seems to drive many decisions; help us to be people who are driven by love. Fill us with compassion, enable us to be open-handed with whatever we have that we might follow in the way of Christ our King helping all to know they are loved, Amen.
The death of Her Late Majesty Queen Elizabeth and the succession of King Charles has raised questions across the generations in Wales and throughout the UK about the meaning and purpose of kingship.
In our prayer this weekend we are reminded of what Christ shows us about the meaning of the Gospel descriptions of the Kingdom of God. The feast of Christ the King offers us a sharp depiction of God's values and shows us what costly, saving love is like.
Here is a King who is prepared to suffer alongside us. This is not a King who holds himself above others but one who experiences betrayal, injustice, and humiliation. A king who has died as we will also die, but who now lives a new resurrection life. He welcomes us into that same resurrection life where we will know the peace, hope and healing for which we long.
The feast of Christ the King, coming at the end of our Christian calendar year, and just before Advent Sunday, offers us an opportunity to reflect upon the ways that we reflect and show others the love of our servant King.
Our Archbishop's campaign this Advent "A Gift for Christmas", as part of the Church in Wales' Food and Fuel initiative, offers us ways to show compassion for others and to advocate for a more just society. It has been wonderful to see some pictures this week of boxes of toiletries that Ministry Areas have already prepared. Please do consider how your congregation might respond to this. If you have prepared something already, do please share news of this to help encourage others.

Diary
23 November
Gofal ein Gwinllan

1-2 December
Grŵp Cadfan
Grŵp Cadfan is an opportunity for all licensed clergy of the diocese to gather together to worship, to reflect, to pray, to learn and spend time together. Provincial colleagues will be joining the meeting to share information about Safeguarding and 'My Church People'.
1 December
World AIDS Day
10am - 10pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
A varied day of events combining remembrance of the lost, prayer for the suffering and celebration of advances in medicine and society.
7.30pm Candlelit Vigil of Remembrance followed by:
Presentation | Prevention and Treatment: Celebrating Medical Advances
An illustrated talk given by Dr Olwen Williams, OBE, Consultant in Sexual Health at Betsi Cadwaladr University Health Board, followed by an opportunity to ask questions
Wales Climate Week
Wales Climate Week provides an annual opportunity to hold a national conversation on climate change. The week explores the urgent action needed to reduce carbon emissions and create greater resilience to the impacts of climate change we are already experiencing across Wales.
Wales Climate Week 2022 is about climate choices and the important contribution that the general public can make in helping to tackle climate change.
A Rocha UK and Christian Aid will host an online session on Monday 21 November at 3.15pm focussing on both the local and global action taken by churches across Wales. You will hear directly from churches of different denominations about their experiences, what they have done with regards to their buildings, land and nature and campaigning and what they have achieved. To register for the event please click on the image above.

A new lectionary companion
The People’s Church is produced by Saint Padarn’s Institute in partnership with Cyngor Ysgolion Sul. It’s a bilingual book of Bible reflections for each Sunday of the Church Year (Year A). It will be available for sale at Welsh book shops, through Cyngor Ysgolion Sul and also on Gwales and Amazon.
Food and Fuel Campaign
Over the next few weeks we will be praying for:
27 November
Advent
4 December
Bro Ogwen
11 December
Bro Eryri
18 December
Bro Cyfeiliog & Mawddwy
25 December
Christmas
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.