minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Conwy harbour
English

Y Ddolen


27 Tachwedd 2022

Sul cyntaf yr Adfent


Hollalluog Dduw,
dyro inni ras i ymwrthod
â gweithredoedd y tywyllwch
ac i wisgo arfau’r goleuni,
yn awr yn y bywyd marwol hwn
a brofwyd gan dy Fab Iesu Grist
pan ymwelodd â ni mewn gostyngeiddrwydd mawr;
fel y bo i ni yn y dydd diwethaf,
pan ddaw drachefn yn ei fawredd gogoneddus
i farnu’r byw a’r meirw,
gyfodi i’r bywyd anfarwol;
trwyddo ef sy’n fyw ac yn teyrnasu
gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.


Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol

Dwi wedi treulio'r wythnos ddiwethaf yn Nant Gwrtheyrn gyda grŵp o glerigion ar gwrs sydd wedi'i ddylunio i wella ein sgiliau o bregethu yn y Gymraeg. Mae wedi bod mor dda i dreulio amser yn dysgu ynghyd â chydweithwyr yn y weinidogaeth. Mae hi bob amser yn hyfryd bod mewn lle mor brydferth (hyd yn oed pan mae yn y misoedd oerach, a dwi'n ddiolchgar am y 'duvets' ychwanegol i gadw'n gynnes yn y nos!) Ond y rhan fwyaf arbennig oedd cael dysgu ynghyd â chwmni oedd wedi ymrwymo i weddi. Mae ein dyddiau ni wedi cael eu gweu gydag addoliad hardd, wedi ei rannu gan bob un ohonom yn Gymraeg. Bu'n fraint mawr cael cymryd rhan yn y dysgu hwn a drefnwyd gan Elin Owen ein Galluogydd Cymraeg, a'i dysgu gan y Parchg Siôn Aled Owen a gyda chymorth yr awdures Sian Northey.

Tymor o weddi, paratoi a dysgu yw'r Adfent. Gwn yn Synod Môn y bydd cwrs Adfent wedi ei rannu, er mwyn helpu Ardaloedd Weinidogaeth gyda hyn. Yn Beuno Sant Uwch Gwyrfai mae'r eglwysi wedi ymrwymo i addoli gyda'i gilydd am dymor. Maen nhw'n gwneud hyn er mwyn ymateb i'r argyfwng tanwydd, ond mae'n bwysig hefyd i gael cyfnod pan fydd modd bwydo'n ysbrydol rheiny sy'n arwain gweddïau dros eraill yn rheolaidd gyda'i gilydd, fel y byddan nhw'n cael eu hadnewyddu ar gyfer eu gweinidogaeth yn y gwanwyn.

Mae mor galonogol clywed beth mae gwahanol Ardaloedd Weinidogaeth yn ei wneud ac mae rhannu gwybodaeth a syniadau yn gallu annog ac ysbrydoli. Am y rheswm hwn dros yr wythnosau nesaf mae'r llythyr hwn yn cynnwys amrywiaeth o ymatebion i ymgyrch Bwyd a Thanwydd yr Archesgob. Os oes gennych chi bethau yr hoffech i ni eu cynnwys neu eu rhannu, cysylltwch â Naomi Wood ein Cyfarwyddwr Cyfathrebu.

A pharhau i annog pobl i gofrestru ar gyfer cylchlythyr yr ymgyrch Bwyd a Thanwydd. Mae hyn yn hawdd i'w wneud drwy wefan yr Eglwys yng Nghymru.

Yn yr Adfent dechreuwn gynnau canhwyllau yn yr eglwys. Dyma arwyddion o obaith mewn cyfnod o dywyllwch, rhagflas o oleuni Crist y mae ei ddyfodiad yn blentyn, wedi ei eni'n un ohonom, byddwn yn dathlu adeg y Nadolig. Wrth i ni gynnal arwyddion o obaith gyda'r canhwyllau hyn, gadewch i ni cadw fflam ein ffydd trwy weddi ac astudio yn ystod yr Adfent. Gadewch i ni fyw fel arwyddion disglair o gariad a gobaith drwy ein gweithredoedd a gofalu am ein holl gymdogion.

Duw Cariadus, cofiwn am Iesu, sef eich rhodd fwyaf i ni. Iesu yw gwir arwydd eich cariad; ein gobaith a'n help bob dydd. Galluogwch ni drwy ein gweddïau, ein dysgu a'n gweithredu, i dyfu mewn cariad yn ystod yr wythnosau hyn o'r Adfent, wrth i ni aros a pharatoi ar gyfer ei ddyfodiad. Gweddïwn am ysbrydoliaeth ac anogaeth yn enw Iesu, ein goleuni a'n canllaw. Amen

Dyddiadur

1-2 Rhagfyr
Grŵp Cadfan
Mae Grŵp Cadfan yn gyfle i holl glerigion trwyddedig yr esgobaeth ddod ynghyd i addoli, i fyfyrio, i weddïo, i ddysgu ac i dreulio amser gyda’i gilydd. Bydd cydweithwyr taleithiol yn ymuno â'r cyfarfod i drafod Diogelu a 'My Church People'.

1 Rhagfyr
Diwrnod AIDS y Byd
10am-10pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Diwrnod amrywiol o ddigwyddiadau yn cyfuno cofio’r colledig, gweddi am ddioddefaint a dathlu datblygiadau mewn meddygaeth a chymdeithas.
7.30pm Gwylnos Goffa yng Ngolau Cannwyll yna:
Cyflwyniad | Atal a Thriniaeth: Dathlu Cynnydd Meddygol
Anerchiad gweledol gan Ddr Olwen Williams, OBE, Ymgynghydd Iechyd Rhywiol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chyfle i ofyn cwestiynau

4 Rhagfyr
Naw Llith a Charol yr Adfent yn y Gadeirlan
6.00pm
Wrth i’n paratoadau Nadolig ddechrau, ymunwch â chymuned y Gadeirlan am gerddoriaeth, darlleniadau a gweddïau yng ngolau cannwyll, wrth i ni ddisgwyl yn eiddgar am enedigaeth Crist, goleuni’r byd.

9 Rhagfyr
Eglwys Sant Idloes, Llanidloes
4.00pm - 9.30pm
Gosodiad golau


Cyfarwyddwr Addysg newydd ar gyfer gogledd Cymru

Mae’n bleser gan Esgobaeth Llanelwy ac Esgobaeth Bangor gyhoeddi penodiad Justine Baldwin yn Gyfarwyddwr Addysg Esgobaethol newydd ar gyfer Gogledd Cymru, gyda chyfrifoldeb dros 66 o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.

Penodiad Justine yw’r un cyntaf a wnaed ar y cyd gan y ddwy esgobaeth a bydd yn dwyn ynghyd y buddsoddiad y mae’r ddwy yn ei wneud yn eu hysgolion, gan gyfuno adnoddau, arbenigedd a phwyslais arbennig i greu tîm creadigol, unedig sy’n gweithio ar draws gogledd Cymru.

Ar hyn o bryd mae Justine yn bennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng ym Mhowys. Mae hi wedi treulio ei gyrfa gyfan mewn addysg gynradd; gan ddechrau fel athro dosbarth ac yna fel uwch arweinydd a phrifathro.

Dywedir Justine,

Rwy’n teimlo’n hynod falch o fod yn ymgymryd â’r swydd fel Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol Gogledd Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at groesawu her newydd a chyffrous ar draws Esgobaeth Llanelwy ac Esgobaeth Bangor. Mae fy rolau blaenorol wedi rhoi angerdd i mi am feithrin anghenion emosiynol a dysgu plant mewn cyd-destun Cristnogol cynhwysol. Rwy’n falch iawn o ddechrau taith newydd ar yr adeg hon o newid, her a chyfleoedd ar gyfer addysg yng Nghymru.

Dywedir yr Esgob Mary Stallard, Esgob Cynorthwyol Bangor a'r esgob arweiniol dros addysg yn yr Eglwys yng Nghymru,

Rydym yn croesawu Justine yn gynnes i’r rôl newydd gyffrous a heriol hon, sy’n gweithio ar draws dwy esgobaeth gogledd Cymru. Mae ein hysgolion yn ceisio hyrwyddo’r ansawdd uchaf ym mhopeth a wnânt, gan fyw a gweithio yng ngwerthoedd Iesu Grist bob dydd, fel y gall pawb ffynnu a chyflawni eu potensial. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r gwaith pwysig hwn unwaith y bydd Justine yn ymuno â’r tîm yn gynnar yn 2023.

Mae ysgolion eglwys yn gynhwysol eu natur, gan croesawu plant o deuluoedd o bob ffydd a dim ffydd, tra’n cydnabod bod ffydd yn rhywbeth sy’n siapio bywydau pobl. Mae ysgolion eglwys wedi ymrwymo i ddathlu treftadaeth gyfoethog ffydd, iaith a diwylliant Cymru ac yn darparu pwynt naturiol o ffocws cymunedol, gyda chefnogaeth rhwydwaith o glerigwyr a chynulleidfaoedd ledled Cymru.


Cyngherdd The Snowman

Mae Cadeirlan Deiniol Sant yn chwilio am blant i ddod i ganu mewn sgriniad o’r ffilm clasur Nadoligaidd “The Snowman”. Bydd y Gadeirlan yn dangos y ffilm gyda chyfeiliant cerddorfa fyw a chôr ar 12fed Rhagfyr 2022 am 6.00yh.

Mae’r cyfarwyddwr cerdd, Joe Cooper, yn chwilio am blant i fod yn rhan o’r côr i ganu’r gân adnabyddus “Walking in the Air”, yn ogystal â rhai carolau.

Dywedir Joe Cooper,

Mae’n gyfle hyfryd, hwyliog i blant gael gwylio’r ffilm glasurol hon, ond hefyd i gael bod yn rhan o’r cyffro. Bydd y ffilm ar sgrîn fawr, ond bydd y gerddoriaeth sy’n mynd gyda’r ffilm yn cael ei greu gennym ni fel y mae’r sgriniad yn digwydd. Bydd gennym gerddorfa fyw yn chwarae’r trac sain, ac rydym eisiau i blant o’r ardal ddod i ganu gyda ni hefyd.

Mae’r ffilm “The Snowman” yn cynnwys y gân enwog “Walking In The Air”, a ddaeth i frig y siartiau gydag Aled Jones, a oedd yn ganwr yng Nghadeirlan Bangor yn wreiddiol.

Ychwanegodd Joe Cooper, “Os oes unrhyw blant eisiau dod i ymuno â’r gerddoriaeth ar gyfer y ffilm, byddwn yn cael ymarfer llawn hwyl ar y ddau ddydd Llun cynt – 28 Tachwedd a 5 Rhagfyr – am 4.30yh yn y Gadeirlan.

Cysylltwch â joecooper@cinw.org.uk am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich hunain ar gyfer y digwyddiad.


Ymgyrch Bwyd a Thanwydd

Cliciwch ar y llun i ddarllen y newyddion diweddaraf am yr ymgyrch

Rhodd y Nadolig wrth Bro Cadwaladr

Mae Bro Cadwaladr wedi ymateb i'r ymgyrch gan ymrwymo i gasglu 10 bocs o bob eglwys yn Ardal Weinidogaeth llawn nwyddau hylendid. Cliciwch y botwm isod i ddarllen rhagor.


Cefnogi Ceiswyr Lloches

Mae 87 o geisiwyr lloches o wledydd Iran, Iraq ac Eritrea, yn aros yng Ngwesty Hilton Dolgarrog am eu penderfyniad lloches . Mae eglwysi dyffryn Conwy, capeli a mosg lleol yn gweithio ynghyd i'w groesawu gyda phecyn dillad, gwersi iaith Saesneg a lletygarwch.

Dywedir y Parchg Stuart Elliott,

Mae'n bwysig i ni ddangos cariad Dduw iddyn nhw. Ni all y rhai sy'n benderfynol o ledaenu ofn a chasineb drechu pan fydd yna rai sy'n barod i ddangos cariad Duw at bobl fregus. Cofiwn nid oedd Iesu gyda’r rhai ar gyrion cymdeithas – mae hyn yn cynnwys y rhai y mae eu hofn yn peri iddynt daflu cerrig.

Gofynnir yn garedig os fyddwch yn ystyried cefnogi'r dynion yma trwy rhoi:
dillad dynion gan gynnwys cotiau ac esgidiau, sanau a trôns newydd, hetiau, menyg, sgarffiau
gemau bwrdd fel chess neu draughts
gliniaduron a gwefrau ffôn
jigso a lego technegol
offer celf a chrefft
hufen eilliol, cribau

Bydd Eglwys Santes Fair Dolgarrog ar agor i dderbyn rhoddion dillad ayyb bob dydd Mawrth o 10.00yb - 11.00yb a 7.00yh - 9.00yh i sortio yn y nos.


Cais am lyfrau emynau Cymraeg

Mae Eglwys Sant Ioan, Carno yn chwilio am tua 20 o lyfrau emynau Cymraeg. Os fedrwch chi helpu cysylltwch â'r Parchg Alison Gwalchmai os gwelwch yn dda. alisongwalch@gmail.com


Blwyddyn o weddi

Mae’r nosweithiau’n raddol gau amdanon ni wrth iddi nosi’n gynt a chynt a ninnau’n dynesu bob yn gam bach tuag at y dydd byrraf ar Ragfyr 21. Mae yna rywbeth digon cysurus a chartrefol pan fo’r goleuadau ‘mlaen a’r llenni ynghau. Ond gall hefyd deimlo’n unig ac ynysig iawn, ac yn anniogel. Pan fo bywyd yn ‘tywyllu’, yn llythrennol pan fo’r gaeaf ar ein gwarthaf ac yn drosiadol oddi fewn i ni’n hunain, sut fedrwn ddod o hyd i adegau o oleuni, a sut fedrwn ddod at Dduw mewn gweddi?

Cliciwch y botwm isod i ddarllen adlewyrchiad y Parchg Janet Fletcher, Tywyllwch i Oleuni.


Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:

4 Rhagfyr
Bro Ogwen

11 Rhagfyr
Bro Eryri

18 Rhagfyr
Bro Cyfeiliog a Mawddwy

25 Rhagfyr
Nadolig


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


27 November 2022

The first Sunday of Advent


Almighty God,
give us grace to cast away the works of darkness
and to put on the armour of light,
now in the time of this mortal life,
in which your Son Jesus Christ
came to us in great humility;
that on the last day,
when he shall come again in his glorious majesty
to judge the living and the dead,
we may rise to the life immortal;
through him who is alive and reigns with you
and the Holy Spirit,
one God, now and for ever.


From our Assistant Bishop

I've spent the past week at Nant Gwrtheyrn with a group of clergy on a course designed to improve our skills at preaching in Welsh. It has been so good to spend time learning together with colleagues in ministry. It is always wonderful to be in such a beautiful place (even when it's in the colder months, and I'm grateful for the extra duvets to keep warm at night!) But most special was learning together with company committed to prayer. Our days have been woven around with beautiful worship, shared by each of us in Welsh.

It has been a great privilege to take part in this learning organised by Elin Owen our Welsh Enabler, and taught by the Revd Siôn Aled Owen with the assistance of the writer Sian Northey.

Advent is a season of prayer, preparation and learning. I know that in Synod Môn there will be a shared Advent course, to help Ministry Areas with this. In Beuno Sant Uwch Gwyrfai the churches have made a commitment to worship together for a season. They are doing this both to respond to the fuel crisis, but also importantly to have a period when those who regularly lead prayers for others can be fed spiritually together, so that they will be refreshed for their ministry in the spring.

It is so encouraging to hear what different Ministry Areas are doing and sharing information and ideas can encourage and inspire. For this reason over the coming weeks this letter includes a variety of responses to the Archbishop's Food and Fuel campaign. If you have things you would like us to include or share, do please contact Naomi Wood our Director of Communications.

And do continue to encourage people to sign up for the Food and Fuel campaign newsletter. This is easy to do via the Church in Wales website.

At Advent we start to light candles in church. These are signs of hope in times of darkness, a foretaste of the light of Christ whose coming as a child, born as one of us, we will celebrate at Christmas. As we kindle signs of hope with these candles, let us tend the flame of our faith through prayer and study during Advent. Let us live as shining signs of love and hope through our actions and care for all our neighbours.

God of Love, We remember Jesus, who is your greatest gift to us. Jesus is the truest sign of your love; our hope and help each day. Enable us through our prayers, learning and action, to grow in love during these weeks of Advent, as we wait and prepare for his coming. We pray for inspiration and encouragement in the name of Jesus, our light and our guide. Amen.

Diary

1-2 December
Grŵp Cadfan
Grŵp Cadfan is an opportunity for all licensed clergy of the diocese to gather together to worship, to reflect, to pray, to learn and spend time together. Provincial colleagues will be joining the meeting to share information about Safeguarding and 'My Church People'.

1 December
World AIDS Day
10am - 10pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
A varied day of events combining remembrance of the lost, prayer for the suffering and celebration of advances in medicine and society.
7.30pm Candlelit Vigil of Remembrance followed by:
Presentation | Prevention and Treatment: Celebrating Medical Advances
An illustrated talk given by Dr Olwen Williams, OBE, Consultant in Sexual Health at Betsi Cadwaladr University Health Board, followed by an opportunity to ask questions.

4 December
Nine Lessons & Carols of Advent at the Cathedral
6.00pm
As our Christmas preparations begin, join the Cathedral community for music, readings and prayers by candlelight at the Cathedral, as we wait with great expectation for the birth of Christ, the light of the world. 

9 December
Saint Idloes' Church, Llanidloes
4.00pm - 9.30pm
An immersive light installation



New Director of Education for North Wales

The Diocese of Saint Asaph and the Diocese of Bangor are delighted to announce the appointment of Justine Baldwin as the new Diocesan Director of Education for North Wales, with responsibility for 66 Church in Wales schools.

Justine’s appointment is the first one made jointly by the two dioceses and will bring together the investment that both make in their schools, combining resources, expertise and distinctive emphases to forge a creative, united team working across north Wales.

Justine is currently the headteacher of Welshpool Church in Wales Primary School in Powys. She has spent her entire career in primary education; initially as a classroom teacher and then as a senior leader and headteacher. Justine says,

I feel extremely proud to be taking up the post as Diocesan Director of Education for North Wales. I am looking forward to embracing a new and exciting challenge across both the Diocese of Saint Asaph and the Diocese of Bangor. My previous roles have given me a passion for nurturing the emotional and learning needs of children in an inclusive Christian context. I am delighted to begin a new journey at this time of change, challenge and opportunity for education in Wales.

Bishop Mary Stallard, Assistant Bishop of Bangor and lead bishop for education in the Church in Wales, says,

We warmly welcome Justine to this exciting and challenging new role, working across both dioceses in north Wales. Our schools seek to promote the highest quality in everything they do, living and working in the values of Jesus Christ every day, so that all may flourish and fulfil their potential. We look forward to developing this important work once Justine joins the team early in 2023.

Church schools are inclusive by nature, welcoming children from families of all faiths and none, while recognising that faith is something that shapes people’s lives. Church schools are committed to celebrating the rich heritage of faith, language and culture in Wales and provide a natural point of community focus, supported by a network of clergy and congregations across Wales.


The Snowman concert

Saint Deiniol's Cathedral is looking for children to come and sing at a screening of the classic Christmas film "The Snowman". The cathedral will be showing the film accompanied by a live orchestra and choir on 12th December 2022 at 6.00pm.

The Director of music, Joe Cooper, is looking for children to be part of the choir to sing the well-known song"Walking In The Air", as well as some carols.

Joe Cooper says,

It's a really nice, fun opportunity for children to watch this classic film, but also to be part of the action. The film will be on a big screen, but all the music to accompany it will be created by us as the screening takes place. We'll have a live orchestra playing the soundtrack, and we want children from the area to come and sing with us as well.

The film "The Snowman" includes the well known song 'Walking In The Air', which was taken to chart success by Aled Jones, himself a former singer at Bangor Cathedral.

Joe Cooper added, “If any children want to come and join in with the music for the film, we’ll be doing a fun run-through on the two Mondays before - 28 November and 5 December - at 4.30pm in the Cathedral.”

Contact joecooper@churchinwales.org.uk for more information and to register that you’re coming.


Food and Fuel Campaign

Click the image to read the latest news from the appeal

A Gift for Christmas from Bro Cadwaladr

Bro Cadwaladr have responded to the campaign by committing to collect 10 boxes from each church across the Ministry Area. Each box will contain hygiene products. Click on the button below to read more.

Supporting Asylum seekers

87 Asylum Seekers from the countries of Iran, Iraq and Eritrea are staying in the Dolgarrog Hilton Hotel awaiting their Asylum decision. The churches in the Conwy valley, the local chapel and local mosque are working together to welcome them with a clothing package, English language lessons and hospitality.

The Revd Stuart Elliott says,

It is important for us to show them the love of God. Those who are determined to spread fear and hatred cannot prevail when there are those who are ready to show God's love to vulnerable people. We remember that Jesus was with those on the fringes of society - this includes those whose fear causes them to throw stones.

Donations of the following are being received to help support the men:
men's clothing including coats, shoes, new socks and pants
hats, gloves and scarves
board games such as chess and draughts
laptops and phone chargers
jigsaws and technical lego
art and craft materials
shaving foam and combs

Saint Mary's Church Dolgarrog will be open to accept donations of clothes etc every Tuesday from 10.00am - 11.00am and 7.00pm -9.00pm to sort at night.


Request for Welsh hymn books

Saint John's Church, Carno are looking for about 20 Welsh hymn books. If you can help please contact the Revd Alison Gwalchmai. alisongwalch@gmail.com

Year of prayer

The nights are drawing in as it becomes darker earlier and earlier reaching out to the shortest day on 21 December. It can feel very cosy and safe when the lights are on and the curtains closed. It can also feel isolating and lonely and not very safe. When life becomes ‘darker’, literally as winter comes and metaphorically or in our inner being, how do we find times of light, and how do we come to God in prayer?

Click the button below to read the Revd Janet Fletcher's reflection, Darkness to Light.


Over the next few weeks we will be praying for:

4 December
Bro Ogwen

11 December
Bro Eryri

18 December
Bro Cyfeiliog & Mawddwy

25 December
Christmas


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.