
Y Ddolen
4 Rhagfyr 2022
Ail Sul yr Adfent
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:
Ardal Weinidogaeth Bro Ogwen
Gofynnir am ein gweddïau yn enwedig:
- am i eglwysi Bro Ogwen dyfu'n agosach mewn cenhadaeth a gweinidogaeth
- am ein gwaith gydag ysgolion eglwysig Ysgol Tregarth ac Ysgol Llandygai
- y rhai sy'n arwain gwasanaethau Boreol Weddi drwy'r Ardal Weinidogaeth
Oddi wrth Archesgob Cymru
Wrth inni symud trwy ddyddiau'r Adfent, rwy’n cofio geiriau Paul wrth y Cristnogion Rhufeinig: ‘Mae ein hiachawdwriaeth yn fwy agos na phan gredon ni gyntaf. Mae’r nos bron ar ben, mae’r dydd bron yma’. (Rhufeiniaid 13:11-12). Er bod y nosweithiau'n dal i fyrhau, byddwn yn gyfarwydd â'r syniad o ddathlu diwedd i'r oer a gaeafol. Ond i Paul mae gan y gwawrio hwn o oleuni llai i'w wneud â'r tymhorau a llawer mwy â dyfodiad gobaith. Mae’r Adfent yn dweud bod Teyrnas Dduw, sy'n gallu tyllu'r tywyllwch o anobaith a diflastod, yn agos. Mae ein hymgyrch (Bwyd a Thanwydd) yn ceisio gwneud hwn i bobl ddi-rif sy'n byw mewn tlodi. Mae'r newyddion da yn trawsnewid ein calonnau ond hefyd ein lles a rhaid i'r rhai sydd heb fawr ddim i'w fwyta a dim byd i gadw eu hunain yn gynnes ag ef, bod o bryder i ni. Plîs ymunwch â'r ymgyrch a rhannu'r newyddion da mewn gair a gweithred.

Dyddiadur
Naw Llith a Charol yr Adfent yn y Gadeirlan
6.00pm
Wrth i’n paratoadau Nadolig ddechrau, ymunwch â chymuned y Gadeirlan am gerddoriaeth, darlleniadau a gweddïau yng ngolau cannwyll, wrth i ni ddisgwyl yn eiddgar am enedigaeth Crist, goleuni’r byd.

5 Rhagfyr
Eglwys y Santes Fair
7.30pm
Cerddoriaeth a chyfnod John Williams
Teyrnged i gyfansoddwr a bardd lleol o Arthog
9 Rhagfyr
Eglwys Sant Idloes, Llanidloes
4.00pm - 9.30pm
Gosodiad golau
12 Rhagfyr
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
6.00pm
Cyngherdd The Snowman
Ymgyrch Bwyd a Thanwydd

Rhodd y Nadolig wrth Bro Eryri
Mae bocsys Eglwys Sant Padarn Llanberis gogyfer Gisda yng Nghaernarfon. Bocsys gogyfer pobl ifanc ydynt yn cynnwys pethau ymolich a phar o sannau.

Cwrs pregethu yn Gymraeg 'Iaith Gwaith'
Wythnos diwethaf bu i griw o glerigion sy’n ddysgwyr Cymraeg safon Uwch a Hyfedredd o Esgobaeth Bangor, gyfarfod yn Nant Gwrtheyrn er mwyn mireinio eu sgiliau iaith ymhellach. O dan oruchwyliaeth ofalus eu tiwtor profiadol Siôn Aled Owen daeth wyth o glerigion ynghyd am wythnos o gwrs preswyl. Prif bwrpas y cwrs oedd i godi hyder, ymarfer a gweithio ar ysgrifennu a rhoi datganiad o bregeth yn y Gymraeg. Roedd hwn yn gwrs arbennig wedi ei deilwra at anghenion gwaith clerigion, gyda’r tasgau oll yn rhai ymarferol a pherthnasol. Dyma brofiad Y Parchg Stuart Elliot, Arweinydd ardal Gweinidogaeth ym Mro Gwydyr o fynychu’r cwrs.
"Pe bawn i'n rhannu’r stori am yr wyth o glerigion ar gwrs Iaith Gwaith Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn yr wythnos diwethaf, tybed, beth fyddech chi'n disgwyl ei glywed? Eu bod nhw wedi dysgu sut i sillafu a defnyddio gramadeg Cymraeg yn hollol gywir? Ddysgon nhw tybed sut i siarad â 'llais eglwys arbennig'? Wel, i ddweud y gwir, roedden ni trafod y pethau hyn. Ond, yn well na hyn bu i ni weithio ynghyd i wella ein sgiliau Cymraeg, a siarad gyda hyder er mwyn gallu siarad yn naturiol ymhlith ein cymunedau. O dan llygaid sylwgar creadigol ein tiwtor Siôn Aled Owen ynghyd â beirdd a chantorion amrywiol roedden ni’n tyfu mewn hyder trwy’r wythnos. Roedd y cyfle i glywed a rhannu y myfyrdodau, gweddïau a phregethau (byr) Cymraeg saith o glerigion eraill yn fendith ac yn help mawr. Roedd treulio’r amser i wella fy sgiliau wir yn arbennig o werthfawr. Cyn dychwelyd wedyn yn ôl i wasanaethu yn fy Eglwysi wedi gwneud addewid i mi fy hun i, o leiaf i wneud dipyn mwy yn y Gymraeg bob wythnos. Gobeithio wir y bydd cyfleoedd pellach yn y dyfodol os hoffech chi hefyd y syniad o wella eich sgiliau Cymraeg wrth ymwneud â’ch gwaith o ddydd i ddydd yn eich eglwysi."
Cyngherdd The Snowman
Mae Cadeirlan Deiniol Sant yn chwilio am blant i ddod i ganu mewn sgriniad o’r ffilm clasur Nadoligaidd “The Snowman”. Bydd y Gadeirlan yn dangos y ffilm gyda chyfeiliant cerddorfa fyw a chôr ar 12fed Rhagfyr 2022 am 6.00pm.
Mae’r cyfarwyddwr cerdd, Joe Cooper, yn chwilio am blant i fod yn rhan o’r côr i ganu’r gân adnabyddus “Walking in the Air”, yn ogystal â rhai carolau.
Dywedir Joe Cooper,
Mae’n gyfle hyfryd, hwyliog i blant gael gwylio’r ffilm glasurol hon, ond hefyd i gael bod yn rhan o’r cyffro. Bydd y ffilm ar sgrîn fawr, ond bydd y gerddoriaeth sy’n mynd gyda’r ffilm yn cael ei greu gennym ni fel y mae’r sgriniad yn digwydd. Bydd gennym gerddorfa fyw yn chwarae’r trac sain, ac rydym eisiau i blant o’r ardal ddod i ganu gyda ni hefyd.
Mae’r ffilm “The Snowman” yn cynnwys y gân enwog “Walking In The Air”, a ddaeth i frig y siartiau gydag Aled Jones, a oedd yn ganwr yng Nghadeirlan Bangor yn wreiddiol.
Cysylltwch â joecooper@cinw.org.uk am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich hunain ar gyfer y digwyddiad.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:
11 Rhagfyr
Bro Eryri
18 Rhagfyr
Bro Cyfeiliog a Mawddwy
25 Rhagfyr
Nadolig
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
4 December 2022
The Second Sunday of Advent
This Sunday and through the week we pray for:
the Ministry Area of Bro Ogwen
Our prayers are asked in particular for:
- the churches of Bro Ogwen, that they might grow together in ministry and mission
- our work with the church schools Ysgol Tregarth and Ysgol Llandygai
- Lay worship leaders, leading services of Morning Prayer in Bro Ogwen
From the Archbishop of Wales
As we move through the days of Advent I recall Paul’s words to the Roman Christians: ‘Our salvation is nearer now than when we first believed. The night is nearly over, the day is almost here’. (Romans 13:11-12). Although the nights are still drawing in we will relate to the idea of an end to the cold and wintry dark. But for Paul this dawning of light has less to do with the seasons and much more to the arrival of hope. Advent tells us that the Kingdom of God is near which can pierce the darkness of despair and misery. Our Church in Wales campaign (Food and Fuel) seeks to do this very thing for countless people who live in poverty. The good news transforms our hearts but also our well-being and those who have little to eat and nothing with which to keep themselves warm, must become our concern. Please do become part of the campaign and share good news in word and deed.

Diary
Nine Lessons & Carols of Advent at the Cathedral
6.00pm
As our Christmas preparations begin, join the Cathedral community for music, readings and prayers by candlelight at the Cathedral, as we wait with great expectation for the birth of Christ, the light of the world.

5 December
Saint Mary's Church, Dolgellau
7.30pm
The Music and Times of John Williams
A tribute to the composer and poet from Arthog
9 December
Saint Idloes' Church, Llanidloes
4.00pm - 9.30pm
An immersive light installation
12 December
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
6.00pm
The Snowman concert
Food and Fuel Campaign

A Gift for Christmas from Bro Eryri
Saint Padarn's Church have collected Gifts for Christmas for Gisda in Caernarfon. Put together for young people they include items for washing and a pair of socks.

Welsh Language Preaching Course, 'Work Welsh'
Last week a group of clergy from the Diocese of Bangor who are Welsh learners attended a Higher and Proficiency level course in Nant Gwrtheyrn to further hone their language skills. Under the careful supervision of their experienced tutor Siôn Aled Owen eight clerics came together for a week's residential course. The main purpose of the course was to raise confidence, practice and work on writing and giving a sermon in Welsh. This was a special course tailored to the needs of clergy work, with the tasks all practical and relevant. This is the Revd Stuart Elliot the Ministry Area Leader of Bro Gwydyr’s account of attending the course.
"If I were to share the story of the eight clergy on a Welsh language for work course in Nant Gwrtheyrn last week, I wonder, what would you expect to hear? That they learnt how to spell and use welsh grammar properly? They learn to speak with that ‘special church voice’? Well, to tell the truth these things were discussed. But, better than this we worked together to improve our skills speaking Welsh with confidence and naturally amidst our communities. Under the watchful and creative eyes of our tutor Sion Aled Owen and also poets and singers we grew in confidence through the week. To hear the Welsh meditations, prayers and (short) sermons of seven other clergy was a blessing and great help. It was worth spending the time to improve my skills. Then to return to, at least, do a little more in Welsh each week. If you like the idea of improving your Welsh skills for church work, hopefully there will be further opportunities in the future."
The Snowman concert
Saint Deiniol's Cathedral is looking for children to come and sing at a screening of the classic Christmas film "The Snowman". The cathedral will be showing the film accompanied by a live orchestra and choir on 12th December 2022 at 6.00pm.
The Director of music, Joe Cooper, is looking for children to be part of the choir to sing the well-known song"Walking In The Air", as well as some carols.
Joe Cooper says,
It's a really nice, fun opportunity for children to watch this classic film, but also to be part of the action. The film will be on a big screen, but all the music to accompany it will be created by us as the screening takes place. We'll have a live orchestra playing the soundtrack, and we want children from the area to come and sing with us as well.
The film "The Snowman" includes the well known song 'Walking In The Air', which was taken to chart success by Aled Jones, himself a former singer at Bangor Cathedral.
Contact joecooper@churchinwales.org.uk for more information and to register that you’re coming.
Over the next few weeks we will be praying for:
11 December
Bro Eryri
18 December
Bro Cyfeiliog & Mawddwy
25 December
Christmas
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.