minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Pont Machynlleth ym Mro Cyfeiliog a Mawddwy | Machynlleth bridge in Bro Cyfeiliog a Mawddwy
English

Y Ddolen


18 Rhagfyr 2022

Pedwerydd Sul yr Adfent


Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos rydym yn gweddïo am:

Ardal Weinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy

Gweddïwn yn enwedig dros:

  • y Parchg Miriam Beecroft, Arweinydd Ardal Weinidogaeth a Deon Bro
  • y tîm bugeiliol gwirfoddol, dan arweiniad y Parchg Jen Evans, eu bod yn derbyn lluniaeth ac anogaeth gan yr Ysbryd Glân yn eu gweinidogaeth hynod werthfawr, ac arweiniad wrth iddynt gryfhau cysylltiadau rhwng y cenedlaethau iau a hŷn.
  • cymuned a chynulleidfa Darowen, sy’n mynd trwy dipyn o drawsnewid mewn gobaith tuag at adnewyddu adeilad yr eglwys at ddefnydd y gymuned ehangach.

Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol

Yn y tywydd oer yr wythnos hon mae anghenion a phwysau'r cyfnod economaidd a gwleidyddol anodd hwn wedi bod yn fwy amlwg yma yn y Deyrnas Unedig.

With weithio yn Nhŷ Deiniol, lle mae banc bwyd y Gadeirlan wedi’i leoli, mae wedi bod yn sobreiddiol gweld pa mor brysur ydyw, a faint o bobl sy’n ceisio cymorth. Ond mae hefyd wedi bod yn wych gweld haelioni cymaint o wirfoddolwyr a phobl sydd wedi bod yn barod i roi eitemau i’r rhai sydd eu hangen. Diolch am eich rhoddion parhaus ar gyfer apêl "blwch Nadolig" yr Archesgob.

Pan gyfarfûm â merched o bob rhan o’r Cymun Anglicanaidd ar alwad zoom yr wythnos hon, clywais stori debyg iawn o bob rhan o’r byd o galedi yn cwrdd â gobaith Cristnogol. O Bacistan roedden ni’n clywed am sut mae’r gaeaf wedi dod yn gynnar yno i lefydd sydd eisoes wedi’u difrodi gan lifogydd gan ddod â dioddefaint pellach i lawer o gymunedau. Clywsom hefyd sut mae eglwysi’n adnabod bod cystadleuaeth galed ar gyfer y gyllid i barhau â’u gwaith o ddiwallu anghenion pobl drwy ddod â rhyddhad i’r rhai sydd wedi colli eu cartrefi a’u bywoliaeth.

O Jerwsalem clywais am brofiad anodd llawer o Balesteiniaid o dan y llywodraeth newydd Israel, a'r ofn y mae lladd pobl ifanc yn ddiweddar wedi'i achosi. Y flwyddyn nesaf fydd pen-blwydd Talaith Israel yn 75 oed a hefyd yr un cyfnod ag un o sefyllfaoedd ffoaduriaid hiraf y byd.

Roedd gan y rhai sy'n siarad o bob gwlad neges debyg: “Rydyn ni'n dal i gynnal gobaith, oherwydd mae ein ffydd yn rhoi hyn inni.”

Mae gallu cariad i ddiwallu ofn ac angen, ac i ddod â newid hyd yn oed trwy weithredoedd bach wrth galon ein gobaith Adfent. Wrth inni baratoi ar gyfer y Nadolig, gadewch inni gael ein calonogi gan bawb sy’n dangos gobaith i eraill.

Dduw'r Adfent, diolch iti am gwrdd â ni yn ein brwydrau a'n methiannau yn ogystal ag mewn llawenydd a dathlu. Dyro inni'r wybodaeth o'th faddeuant, â'th ysbryd creadigrwydd, a chyda gweledigaeth dy obaith. Boed i’n bywydau ni adrodd dy newyddion da a galluogi mwy o bobl i glywed am y cariad sy’n dod â bywyd a llawenydd i’r byd. Amen.

Dyddiadur

20 Ionawr 2023
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
7.00pm
Plygain Esgobaethol

1-2 Chwefror 2023
Canolfan Nant Gwrtheyrn
12.00pm
Grŵp Cadfan


Ymgyrch Bwyd a Thanwydd

Bro Eryri

Yn ystod y cyfnod clo fe wnaethpwyd un o'r gwestai yn Llanberis yn lloches ar gyfer y digartref ac mae yn parhau i fod yn lloches. Llynedd fe wnaethpwyd cinio Nadolig a phwdin iddynt y diwrnod cynt er mwyn iddynt hwy ei cynhesu gyda phopty meicrodon ar y diwrnod. Eleni rydym wedi gwneud yr un peth ond wedi eu paratoi ar eu cyfer wedi ei rhewi ac yna gallant eu defnyddio fel bydd angen.

Bro Dwynwen

A ninnau ar drothwy'r Nadolig, a'r gaeaf ar ein gwarthaf mae'r Ysgrythyr yn tystio i

Dduw a garodd y byd gymaint nes iddo roi ei unig anedig fab.
Ioan 3:16

Fel rhan o'm Cenhadaeth gyfredol ym Mro Dwynwen, a'r argyfwng costau byw yn gwaethygu, penderfynnwyd yn unfrydol mai da o beth fyddai agor rhai o'n hadeiladau cymunedol er budd y Gymuned leol.

Mewn cydweithrediad a Chyngor Bro Cymuned Llanfair-pwll fe aethom ati i ddatblygu cynllyn 'Mannau Cynnes', sef mannau cymunedol wedi ei lleoli o fewn ein neuaddau, sef Neuadd Eglwys y Santes Fair yn Llanfairpwll a'r Hen Fecws yn Dwyran, - mannau sy'n cynnig 'cawl a lluniaeth , cwmniaeth a gweddi', - llefydd cynnes a braf i ni ddod at ein gilydd y gaeaf hwn heb unrhyw gost .

Y mae neuadd yr Eglwys Llanfair-pwll ar agor pob dydd Mercher rhwng 10.45am a 12.15pm a hefyd ar ail bnawn Iau y mis rhwng 2.00pm a 4.00pm.

Os hoffech unrhyw wybodaeth pellach ynglyn a Mannau Cynnes Bro Dwynwen, cysylltwch â'r Parchg Llew Moules-Jones, neu ymwelwch a'n Gwefan newydd sbon.

Bro Cyfeiliog a Mawddwy

Meddai'r Parchg Miriam Beecroft:

Roedd Cyngor Ardal Weinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy eisiau cynnig rhywfaint o gefnogaeth ymarferol i'r gymuned yn ystod y gaeaf oer, drud hwn. O fis Ionawr, bydd tîm o wirfoddolwyr eglwysig yn cynnal gofod croeso cynnes ym Machynlleth, un bore bob wythnos. Rydym yn cydlynu gyda mannau cynnes eraill a gynigir yn y gymuned i wneud yn siŵr bod rhywle bob dydd i'n pobl leol fynd am gyfeillgarwch a chynhesrwydd. Byddwn yn cynnig lluniaeth sylfaenol o de a thost, a byddwn yn addasu gweithgareddau yn dibynnu ar bwy ddaw.

Christmas Giveaway ym Mro Enlli | Bro Enlli's Christmas Giveaway

Bro Enlli

Christmas Giveaway

Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn gyda dro 60 o bobl yn derbyn pecynnau bwyd Nadolig yn ogystal â chyfle i helpu eu hunain i degannau a roddwyd gan blant Ysgol Cymerau yn eu cyngerdd Nadolig a gynhaliwyd yn Eglwys St Pedr. Roedd dillad a nwyddau ymolchi a phecynnau babannod ar gael hefyd.


Gweddïau Bwyd a Thanwydd

Mae Archesgob Cymru yn galw am weddïau ar gyfer y rhai sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng costau byw. Fel rhan o’r ymgyrch Bwyd a Thanwydd, mae’r Archesgob wedi lansio llyfryn gweddi sy’n cynnwys gweddïau o bob esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r llyfryn ar gael i’w lawr lwytho drwy glicio ar y botwm isod.


Carol ar yr A55

Drama radio ar gyfer y Nadolig

Ar ôl cyfnodau clo'r pandemig Cofid, dechreodd Bro Seiriol Teithiau Cerdded Eglwys Agored o amgylch yr Ardal Weinidogaeth unwaith y mis. Mae’r teithiau cerdded yn cynnig cyfle i addoli'n anffurfiol yn yr awyr agored, gan rannu myfyrdodau syml, yn ogystal â chael sgyrsiau gyda cyd-gerddwyr ar y ffordd.

O ganlyniad i un o'r sgyrsiau hyn fe wnaethon nhw ddarganfod mai dramodydd cudd oedd un o'n grŵp, sef Gareth Phillips!

Meddai'r Parch Ganon Robert Townsend, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Seiriol,

Y Nadolig hwn rydym wedi gallu recordio drama Saesneg Gareth yn broffesiynol, ac enw’r ddama yw A Carol ar yr A55. Mae’r ddrama radio fer (20 munud) yn stori dyner, sy'n procio'r meddwl, lle mae'r gorffennol yn cyfarfod â'r presennol. Mae myfyrwyr, John a Mair, yn dod i ddealltwriaeth newydd ohonynt eu hunain ac ystyr y Nadolig a phwysigrwydd y eiliad bresennol, diolch i gyfarfyddiad annisgwyl ar y ffordd i Gaergybi un Noswyl Nadolig. Gewch glywed y ddrama am y tro cyntaf am 12.00pm yn Eglwys Biwmares ar 18 Rhagfyr yn dilyn y Gwasanaeth Carolau. Dewch i wrando tra bod gennych banad ar ôl y gwasanaeth.

Bydd y ddrama ar gael i'w glwyed ar wefan Bro Seiriol. Wedyn, plîs rhannwch y ddolen â ffrindiau a theulu er mwyn iddynt fwynhau’r ddrama hefyd.

Cynhyrchwyd y ddrama gan y Parch Allan Wilcox o Fro Eryri ac un o'r actorion yw’r Parch Steve Rollins o Fro Ystumanner.

Mae'r cerddoriaeth yn cynnwys darnau o siant unigryw Cadeirlan Bangor o’r 10fed ganrif In Civitate a chenir gan Joseph Harper, Côr Meibion Treorci yn canu Dawel Nos a Thôn y Gyrrwr a gomisiynwyd a chanwyd yn arbennig gan Ellen Davies.

Mae A Carol on the A55 yn Gynhyrchiad PYB



Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:

25 Rhagfyr
Nadolig


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


18 December 2022

The Fourth Sunday of Advent


This Sunday and through the week we pray for:

the Ministry Area of Bro Cyfeiliog a Mawddwy

We pray in particular for:

  • the Revd Miriam Beecroft, Ministry Area Leader and Area Dean
  • the volunteer pastoral team, led by the Revd Jen Evans, that they receive refreshment and encouragement from the Holy Spirit in their highly valued ministry, and guidance as they strengthen links between younger and older generations.
  • the community and congregation of Darowen, which is undergoing quite a transformation in hope towards refurbishing the church building for wider community use.

From our Assistant Bishop

In the cold spell this week the needs and pressures of this difficult economic and political time have been more obvious here in the United Kingdom.

Working at Tŷ Deiniol where the Cathedral Foodbank is based it has been sobering to see how busy it is and how many people are seeking help. It has also been great to see the generosity of so many volunteers and people who have been ready to donate items to those who need them. Thank you for your continued gifts for the Archbishop's "Christmas box" appeal.

When I met women from around the Anglican Communion on a zoom call this week, I heard a very similar story from all over the world of hardship meeting Christian hope. From Pakistan we were hearing about how winter has come early there to places that have already been damaged by floods bringing further suffering to many communities. We also heard how churches see that there is tough competition for funding to continue their work of meeting people's needs by bringing relief to those who have lost their homes and livelihoods.

From Jerusalem I heard about the difficult experience of many Palestinians under the new Israeli government, and the fear that the recent killing of young people has caused. Next year will be the 75th anniversary of the State of Israel and also the same period as one of the world's longest refugee situations.

Those speaking from each country had a similar message: "We still maintain hope, because our faith gives us this."

The capacity of love to meet fear and need, and to bring change even through small actions is at the heart of our Advent hope. As we prepare for Christmas, let us be encouraged by all who show hope to others.

Advent God, thank you that you meet us in our struggles and failures as well as in times of joy and celebration. Gift us with the knowledge of your forgiveness, with your spirit of creativity, and with the vision of your hope. May our lives tell your good news and enable more people to hear of the love that brings life and joy to the world. Amen.

Diary

20 January 2023
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
7.00pm
Diocesan Plygain service

1-2 February 2023
Nant Gwrtheyrn
12.00pm
Grŵp Cadfan


Food and Fuel Campaign

Bro Eryri

During the lockdown period one of the hotels in Llanberis was made into a shelter for the homeless and it continues to be a shelter. Last year a Christmas dinner and dessert was made for them the day before so that they could heat it up with a microwave oven on the day. This year we have done the same but prepared them for them frozen and then they can use them as needed.

Bro Dwynwen

As we draw near to Christmas and the winter weather bites the Scriptures bear witness to the

God who loved the world so much he gave his only begotten Son.
John 3:16

In response to our ongoing Mission work here in Bro Dwynwen, and in conjunction with the Llanfair-pwll Community Council, it was unanimously decided to make use of our Church hall buildings as 'Warm Spaces '

As a result, Saint Mary's Church hall in Llanfairpwll and yr Hen Fecws in Dwyran are now open for refreshment, company and prayer during this cost of living crisis - warm spaces that offer a warm and inviting place to come together this winter at no cost.

The Church hall in Llanfair-pwll is open every Wednesday between 10.45am and 12.15pm and every second Thursday of the month between 2.00pm and 4.00pm.

If you would like any further information regarding Bro Dwynwen's 'Warm Spaces' please contact the  Revd Llew Moules-Jones or visit our brand new website.

Bro Cyfeiliog a Mawddwy

The Revd Miriam Beecroft says:

Bro Cyfeiliog a Mawddwy Ministry Area Council wanted to offer some practical support to the community during this cold, expensive winter. From January, a team of church volunteers will be hosting a warm welcome space in St Peter's Machynlleth, one morning each week. We're co-ordinating with other warm spaces offered in the community to make sure that each day there is somewhere for our local people to go for fellowship and warmth. We will offer basic refreshments of tea and toast, and we will adapt activities depending on who comes.

Archddiacon Andrew Jones a'r Parchg Rhun ap Robert yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli | Archdeacon Andrew Jones and the Revd Rhun ap Robert at Saint Peter's Church, Pwllheli

Bro Enlli

Christmas Giveaway

It was a very successful day with around 60 people receiving Christmas food packs as well as an opportunity to help themselves to toys given by the children of Ysgol Cymerau at their Christmas concert held in St Pedr's Church. Clothes and toiletries and baby kits were also available.


Food and Fuel Prayers

The Archbishop of Wales is calling for prayers for those impacted by the cost-of-living crisis. As part of the Food and Fuel campaign, the Archbishop has launched a prayer booklet which includes prayers from each Church in Wales diocese.

The booklet is available to download by clicking the button below.


A Carol on the A55

A Radio Play for Christmas

After the Covid pandemic lockdowns, Bro Seiriol started Open Church Walks around the Ministry Area one Sunday each month. The walks allow informal outside worship, the sharing of simple reflections, as well as having conversations with fellow walkers on the way.

As a result of one of these conversations they discovered that one of our group, Gareth Phillips, was a secret playwright!

The Revd Canon Robert Townsend, Ministry Area Leader of Bro Seiriol, says,

This Christmas we have been able to professionally record Gareth’s play, which is called A Carol on the A55. Gareth’s short 20 minute radio-play is a gentle but thought provoking story where past meets present. Students, John and Mair, come to a new understanding of themselves, the meaning of Christmas and the importance of the present moment, all thanks to an unexpected encounter on the way to Holyhead one Christmas Eve. The play can be heard for the first time at it's première at 12.00pm in Beaumaris Church on Sunday 18 December after the Carol Service.

The play will then be available to download and listen to on the Bro Seiriol website. When the play is available, please do share the website link with friends and family, so that they can enjoy the play too!

The play was produced by the Revd Allan Wilcox from Bro Eryri and the Revd Steve Rollins from Bro Ystumanner is one of the Actors.

The music includes extracts from the unique 10th century Bangor Cathedral chant In Civitate sung by Joseph Harper, Côr Meibion Treorchy singing Dawel Nos and the specially commissioned Driver’s’ Theme Tune composed and played by Ellen Davies.

A Carol on the A55 is a PYB Production.



Over the next few weeks we will be praying for:

25 December
Christmas


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.