
Y Ddolen
17 Hydref 2021
Yr Ugeinfed Sul wedi'r Drindod
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos nesaf rydym yn gweddïo am:
Ardal Weinidogaeth
Bro Gwydyr
gan gynnwys y rhai sy’n gwasanaethu yno:
- Y Parchg Stuart Elliott
- Huw Thomas (Darllennydd)
- Keith Wadcock (Darllennydd)
- Sue Welsh (Arweinydd Addoliad)
- Carrie White (Warden yr Ardal Weinidogaeth)
Gofynnir am ein gweddïau yn arbennig am:
- ddyfodol Tŷ Mawr, Wybrnant a'r posiect pererindod
- cymuned Dolgarrog wrth i drafodaethau ynglyn â chyfleusterau cymunedol ac eglwys newydd barhau
- y patrwm newydd o wyth gŵyl yn myfyrio ar y tymhorau solar ar draws yr Ardal Weinidogaeth
- posibiliadau newydd o ran addoliad teuluol
- goblygiadau adroddiad Ezra ar draws yr Ardal Weinidogaeth

Dyddiadur
3-4 Tachwedd
Grŵp Cadfan
Mae'r Esgob yn gobeithio y byddwn yn gallu bwrw ymlaen â chyfarfod wyneb yn wyneb o Grŵp Cadfan ym mis Tachwedd. Gwahoddir holl Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth a Ficeriaid ar y Cyd i fod yn bresennol. Bydd mwy o fanylion a rhaglen ar gyfer y digwyddiad ar gael yn fuan.
18 Tachwedd
Lansiad o adnoddau digwyddiadau bywyd
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn cyfarfod ac yn cefnogi pobl yn ystod adegau allweddol yn eu bywydau ers dros 100 mlynedd. Mae'r digwyddiadau bywyd hyn yn rhan greiddiol o'n cenhadaeth a'n gweinidogaeth.
Diolchgarwch am y Cynhaeaf ar Radio Cymru
Dydd Sul yma bydd y Parchg Llewelyn Moules-Jones, o Fro Dwynwyn a Synod Môn, yn arwain y gwasanaeth am hanner dydd ar Radio Cymru. Pregeth gyda ffocws ar warchod ein hamgylchfyd a'n stiwardiaeth ni o'r greadigaeth.

Arweinwyr Ardal Weinidogaeth Newydd
Cafodd yr Esgob y pleser yr wythnos hon o sefydlu dau Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd.
Ddydd Llun cafodd y Parchg Kevin Ellis ei sefydlu fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Madryn ym mhen Llŷn. Yna, nos Fercher, ychydig ymhellach i'r dwyrain ar hyd yr arfordir cafodd y Parchg Rosie Dymond ei sefydlu ym Meuno Sant Uwch Gwyrfai.
Meddai Rosie am y noson:
Yr wyf yn gweddïo y gallai'r math o letygarwch a welais yn fy ymsefydliad, y lletygarwch sylwgar sy'n gwrando'n wirioneddol ar eraill ac sy'n talu sylw i'w hanghenion, fod yn nodweddiadol o'n Hardal Weinidogaeth yn y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod.
Wrth sôn am ei sefydlu meddai Kevin,
Roeddwn i wrth fy modd gyda fy amser ar Ynys Môn, ond rwy'n edrych ymlaen at rannu stori Iesu mewn lle newydd, gan adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes wedi'u gosod. Cadwch gymunedau a chynulleidfaoedd Bro Madryn yn eich gweddïau.

Conffyrmasiwn yn yr haul ym Mro Cyfeiliog a Mawddwy
Roedd y Parchg Miriam Beecroft yn falch iawn o gyflwyno Christina ac Anna i'r Esgob fel y byddai'n gweddïo iddynt gael eu cadarnhau mewn ffydd, wedi eu hysbrydu a'u grymuso gan Ysbryd Sanctaidd Duw.
Wrth edrych ymlaen at yr achlysur arbennig hwn, dywedodd Christina,
Mae cael fy medyddio wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas i mi mewn bywyd, mae wedi fy llenwi â goleuni, yn enwedig pan oeddwn mewn lle tywyll. Y diwrnod y cefais fy medyddio gan y Parchedig Miriam teimlais gynhesrwydd yn fy llenwi o'm coryn i'm traed, roedd yn teimlo'n naturiol ac yn gwbl berffaith i mi. Mae'n fy ngwneud yn hapus bob dydd a phan fyddaf yn cerdded i mewn i'r eglwys rwy'n teimlo fy mod yn union lle mae angen i mi fod. Derbyn Duw i'm calon a dod yn Gristion yw'r peth gorau ddigwyddodd i mi a fy nheulu.
Mae Anna wedi bod yn Gristion am y rhan fwyaf o'i bywyd ond mae'n gymharol newydd i'r Cymundeb Anglicanaidd ac yn edrych ymlaen at wasanaethu Duw yn fwy yn yr Eglwys yng Nghymru. Meddai,
Rwy'n hapus i gael fy nghadarnhau heddiw. Cefais fy medyddio dros ugain mlynedd yn ôl ac rwyf wedi bod ar daith ffydd ers hynny. Rwyf wedi bod yn rhan o nifer o wahanol eglwysi a thraddodiadau eglwysig ond ar ôl adeiladu cysylltiadau gydag eglwys y Parch Miriam a Chorris (drwy'r gwasanaethau awyr agored) a chael profiad ehangach o'r eglwys Anglicanaidd, mae hyn yn teimlo fel y cam cywir a'r amser cywir.
Mae'r gwasanaeth Conffyrmasiwn yn rhoi cyfle i bobl gadarnhau eu hymrwymiad i Grist a'r ffydd y cawsant eu bedyddio i mewn iddo. Mae'n achlysur llawen ym mywyd yr eglwys.
Llongyfarchiadau i Anna a Christina!
Dyddiadau 2022
Synodau
Meirionydd - Dydd Llun
10am 14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref
Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
28 a 29 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Y Ddolen
17 October 2021
The Twentieth Sunday after Trinity
This Sunday and through the week we pray for:
the Ministry Area of Bro Gwydyr
including those who serve there:
- The Revd Stuart Elliott
- Huw Thomas (Reader)
- Keith Wadcock (Reader)
- Sue Welsh (Worship Leader)
- Carrie White (Ministry Area Warden)
Our prayers in particular are asked for:
- the future of Tŷ Mawr, Wybrnant and the pilgrimage project
- the community of Dolgarrog as discussions continue about a new community facility and church
- the new pattern of eight festivals reflecting the solar seasons across the Ministry Area
- new possibilities for family worship
- the implications of the Ezra report across the Ministry Area

Diary
3-4 November
Grŵp Cadfan
The Bishop hopes that we will be able to go ahead with an in-person meeting of Grŵp Cadfan in November. All Ministry Area Leaders and Associate Vicars are invited to attend. More details and a programme for the event will become available soon.
18 November
Launch of life events resources
The Church in Wales has been meeting and supporting people during key moments in their lives for over 100 years. These life events represent a core part of our mission and ministry.
Thanksgiving for the Harvest on Radio Cymru
This Sunday the Revd Llewelyn Moules-Jones of Bro Dwynwen, Synod Môn, will be leading the service at mid-day on Radio Cymru. His sermon will focus on caring for our environment and our stewardship of creation.

New Ministry Area Leaders
The Bishop had the pleasure this week of inducting two new Ministry Area Leaders.
On Monday the Revd Kevin Ellis was inducted as Ministry Area Leader of Bro Madryn on the Llŷn peninsula. Then, on Wednesday evening, a little further east along the coast the Revd Rosie Dymond was inducted in Beuno Sant Uwch Gwyrfai.
Speaking about her induction Rosie says:
I pray that the kind of hospitality I witnessed at my induction, the attentive hospitality which truly listens to others and pays attention to their needs, may be characteristic of our Ministry Area in the months and years to come.
Speaking about his induction Kevin says:
I loved my time on Anglesey, but am looking forward to sharing the story of Jesus in a new place, building on the strong foundations that have already been laid. Please keep the communities and congregations of Bro Madryn in your prayers.

Confirmations in the sun in Bro Cyfeiliog a Mawddwy
The Revd Miriam Beecroft was delighted to present Christina and Anna to the Bishop so that he would pray for them to be confirmed in faith, anointed and empowered by God's Holy Spirit.
Looking forward to this special occasion, Christina said
Being baptised has given me a sense of purpose in life, it has brought me to light especially when I was in a dark place. The day I was baptised by Reverend Miriam I felt a warmth fill me from head to toe, it felt natural and like it was the perfect thing for me. It makes me happy every day and when I walk into church I feel like I am exactly where I need to be. Accepting God into my heart and becoming a Christian has been the best thing for me and my family.
Anna has been a Christian for most of her life but is relatively new to the Anglican Communion and looks forward to serving God more in the Church in Wales.
She said:
I am happy to be getting confirmed today. I was baptised over twenty years ago and have been on the journey of faith since then. I have been part of several different churches and church traditions but after building links with Rev. Miriam and Corris church (through the outdoor services) and getting to experience more of the Anglican church, this feels like the right step and the right time.
The service of Confirmation gives people the opportunity to affirm their commitment to Christ and the faith into which they were baptized. It's a joyous occasion in church life.
Congratulations to Anna and Christina!
Dates 2022
Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm 14
February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October
Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
28 - 29 March
1 - 2 December
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral
Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.