
Y Ddolen
1 Ionawr 2023
Sul Cyntaf y Nadolig
Y Sul hwn a thrwy'r wythnos gweddïwn dros:
Archesgob Cymru ac Esgob Bangor
Gweddïwn yn enwedig dros:
- ddoethineb wrth weithio gyda chydweithwyr a'r Tîm Cenedlaethol
- ffrindiau a theulu
- ddatblygu Tîm yr Archesgob
- werthfawrogi'r pethau bach a hardd mewn bywyd
Oddiwrth yr Archesgob
Annwyl gyfeillion
Mae cymaint o’r hyn rydyn ni’n ei rannu dros y Nadolig yn cael ei lunio gan efengyl Sant Luc – y daith i Fethlehem, yr angylion, y bugeiliaid a Mair yn trysori’r holl bethau hyn yn ei chalon. Yr hyn sydd wedi fy nharo o'r newydd yw faint mae'n golygu i gael gwybod y stori a'i hailadrodd wedyn i eraill. Mae fel petai’r Nadolig yn rhywbeth y mae’n rhaid ei drosglwyddo os yw am gael unrhyw fywyd o gwbl. Dyma yn sicr oedd profiad y bugeiliaid.
Yn fuan iawn fe gawn ni gyd y profiad o roi’r goeden i gadw am flwyddyn arall a’r addurniadau i gyd hefyd. Ond yr hyn nad yw byth yn cael ei roi o'r neilltu wrth gwrs yw'r neges ei hun. Ganwyd Crist yn un ohonom er mwyn inni ddod yn debyg iddo. Mae gan y Duw sy’n camu i’r cyffredin y gallu i faddau ac i’n hachub a’n codi ni a dyma’r stori a ymddiriedwyd i ni. Fel y bugeiliaid ni all fyw ond os byddwn yn ei drosglwyddo i eraill.
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.
+Andrew Cambrensis
Gweddi ar gyfer y flwyddyn newydd gan ein Hesgob Cynorthwyol
Bendigedig wyt ti, Dduw ein creawdwr, i ti y byddo mawl a gogoniant am byth, yn dy dyner dosturi y mae gwawr blwyddyn newydd yn torri arnom, gan chwalu cysgodion hirhoedlog yr hyn a aeth heibio. Ac yn ein galw i anturiaethau newydd.
Agor ein llygaid bob dydd i sylwi ar dy bresenoldeb o'n cwmpas.
Diolchwn i ti am bopeth sy'n bendithio ein bywydau: ein cyfeillgarwch a'n teulu, ein hiechyd, ein lles, a'ch galwad, gan ddod â llawenydd a gobaith i'n calonnau. Boed i ni ollwng gafael ar bopeth sy'n ein clymu i boenau neu ddioddefaint yn y gorffennol, unrhyw ddig, dicter, tramgwydd neu waradwydd. Gad inni ryddhau ein hunain i gofleidio ein galwad bedydd i ddisgleirio fel goleuadau yn dy fyd, gan ddewis dy garu di a’n cymydog â ffyddlondeb a llawenydd.
Boed inni wneud lle i fod yn agos i ti bob dydd, gan agor ein calonnau a’n meddyliau i glywed dy alwad, i dderbyn dy faddeuant ac i foliannu dy enw sanctaidd.
Bydded i Grist ein cyfaill, rodio gyda ni trwy bob dydd o’r flwyddyn sydd o’n blaenau, bydded i’th Ysbryd Glân anadlu gobaith a thangnefedd i’n meddyliau, ein geiriau, a’n gweithredoedd y gallem fyw fel y’n galwant i fod, yn gludwyr dy ras iachaol a’th gariad.
Amen.

Dyddiadur
20 Ionawr 2023
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
7.00pm
Plygain Esgobaethol
1-2 Chwefror 2023
Canolfan Nant Gwrtheyrn
12.00pm
Grŵp Cadfan

Blwyddyn o weddi
Mae'r Parchg Janet Fletcher wedi ysgrifennu myfyriad wrth i ni ddechrau blwyddyn newydd.
Gall dechrau blwyddyn newydd fod yn adeg o gymryd cipolwg yn ôl ar y llwybr a deithiwyd dros y 12 mos blaenorol – y lleoedd yr ymwelwyd â nhw a’r bobl y daethon ni ar eu traws – ynghyd â phob uchafbwynt a siom a brofwyd.
Mae hi hefyd yn adeg i edrych ymlaen a’r llwybr cyfarwydd a diarwybod sy’n ymestyn o’n blaen.
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
1 January 2023
The First Sunday of Christmas
This Sunday and through the week we pray for:
The Archbishop of Wales and Bishop of Bangor
In particular we pray for:
- wisdom in working with colleagues and the National Team
- friends and family
- developing the Archbishop's Team
- appreciating the small and beautiful things in life.
From the Archbishop
Dear friends
So much of what we share over Christmas is shaped by Saint Luke’s gospel – the journey to Bethlehem, the angels, the shepherds and Mary treasuring all these things in her heart. What has struck me afresh is how much it involves being told the story and subsequently retelling it to others. It’s as if Christmas is something which must be passed on if it’s to have any life at all. This was certainly the experience of the shepherds.
Very soon we will all have the experience of putting the tree away for another year and all the decorations too. But what is never put aside of course is the message itself. Christ was born as one of us so that we might become like Him. The God who steps into the ordinary has power to forgive and save us and lift us up and this is the story entrusted to us. Like the shepherds it can only live if we pass it on to others.
A blessed Christmas and happy new year.
+Andrew Cambrensis
A prayer for the new year from our Assistant Bishop
Blessed are you, God our maker, to you be praise and glory for ever, in your tender compassion the dawn of a new year breaks upon us, dispelling the lingering shadows of what has passed. And calling us to new adventures.
Open our eyes each day to notice your presence all around us.
We thank you for all that blesses our lives: our friendships and family, our health, well-being, and your call, bringing gladness and hope to our hearts. May we let go of all that binds us to past hurts or suffering, any grudges, anger, offence, or humiliation. Let us release ourselves to embrace our baptismal calling to shine as lights in your world, choosing to love you and our neighbour with faithfulness and joy.
May we make space to be close to you each day, opening our hearts and minds to hear your call, to receive your forgiveness and to praise your holy name.
May Christ our friend, walk with us through every day of the year ahead, may your Holy Spirit breath hope and peace into our thoughts, words, and actions that we might live as you call us to be, bearers of your healing grace and love.
Amen.

Diary
20 January 2023
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
7.00pm
Diocesan Plygain service
1-2 February 2023
Nant Gwrtheyrn
12.00pm
Grŵp Cadfan

A Year of Prayer
The Revd Janet Fletcher has written a new reflection as we begin a new year.
The beginning of a new year can be a time of looking back to the path that has been travelled over the past 12 months - places visited and people met – along with all the highs and lows that have been experienced.
It is a time too, to look ahead and the known and unknown path that stretches out in front of us.
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.