minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Y Ddolen


8 Ionawr 2023


Y Sul hwn a thrwy'r wythnos gweddïwn:

Dduw goleuni, yn llewyrchu yn y tywyllwch, trwy Grist, a aned ym Methlehem, yr wyt yn agor inni drysor dy ras. Helpa ni i chwilio’n ddyfal am dy bresenoldeb ac i gynnig ein bywydau i ti gyda diolchgarwch, llawenydd, a mawl trwy Iesu Grist, y seren gyfodedig.

Amen


Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol

Blwyddyn Newydd Dda!

Rydyn ni yn nhymor yr Ystwyll, lle mae ein litwrgi yn cymryd camau cyflym ymlaen. Un eiliad rydym yn ystyried y plentyn Crist wrth y preseb a rhoddion y doethion, ac yna yn sydyn llamu ymlaen at ei fedydd a dechrau gweinidogaeth Iesu.

Gall edrych ymlaen, a bod yn bobl sy'n canolbwyntio ar y dyfodol fod yn dda, yn enwedig o ran dirnad beth all ein camau nesaf fod fel corff Crist yma. Mae bod yn effro am arwyddion o obaith a thwf, a pharatoi ar gyfer hyn, yn waith da a Duwiol. Yn yr wythnosau hyn ar ôl y Nadolig, efallai y byddwn yn meddwl am wneud addunedau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn ogystal â nodau iechyd a lles, efallai y byddwn yn cynllunio i fod yn fwy gweddigar, mwy croesawgar, yn fwy maddeuol - i fod yn well arwyddion o ras Duw.

Gall sut ydym ni a phwy ydym ni wneud gwahaniaeth i eraill. Gwyddom, er bod y gwanwyn yn dod, fod llawer o’r gaeaf o’n blaenau o hyd ac mae her y tymor oerach a’r pwysau economaidd parhaus yn golygu bod bywyd yn anodd i lawer, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Bydd cynllunio ar gyfer ymgysylltu parhaus ag anghenion ein cymunedau yn bwysig. Mae llawer o’n Hardaloedd Gweinidogaeth eisoes yn gwneud hyn ac mae ganddynt brofiad sylweddol o ymgysylltiad a gwasanaethu cymunedol dros nifer o flynyddoedd. Lle mae lle i weithgarwch newydd mae ymgyrch Bwyd a Thanwydd yr Archesgob yn parhau i gynnig ysbrydoliaeth a chyfleoedd i roi ffydd ar waith ac i weddïo am yr ‘argyfwng costau byw’ a sut y gallem ymateb.

Wrth inni edrych i’r dyfodol, mae’r Ystwyll hefyd yn ein gwahodd i drigo mewn ffordd sanctaidd yn y presennol. Mae byw yn “y foment” bob dydd a darganfod a myfyrio ar ddoniau a gras Duw yma yn ein plith yn rhoi bywyd ac mae'n egniol. Mae rhywbeth am oleuni, llawenydd a rhoddion yr Ystwyll sy’n ein hatgoffa nad ydym ar ein pennau ein hunain ac yn ein galw i fod yn ddiolchgar. Mae rhoddion a chariad a phresenoldeb Duw yma yn ein plith, ac weithiau efallai y byddwn yn eu colli os ydym yn rhy brysur yn edrych ymlaen i sylwi. Wrth inni ystyried cynlluniau a phrosiectau ar gyfer y dyfodol gadewch inni hefyd ymhyfrydu a diolch am lawenydd a rhyfeddod cariad Duw tuag atom heddiw.

Dad nefol, yr wyt wedi dweud wrthym mai ti yw'r Arglwydd sy'n darparu, ac rwyt yn rhoi dy hunan i ni. Diolchwn ichi eich bod yn gwybod popeth sydd ei angen arnom, a’ch bod wedi darparu digonedd o bopeth sy’n ein cynnal. Cynorthwya ni i rannu dy ddigonedd yn deg, rhag i neb ofni na fydd ganddynt ddigon i’w deulu nac i’w hunain, ac y gall pawb fyw a ffynnu yn y bywyd a roddaist. Gofynnwn hyn yn enw Iesu. Amen.

Gweddi gan y Parchg Richard Wood, o Weddi Costau Byw Yr Eglwys yng Nghymru


Dyddiadur

20 Ionawr 2023
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
7.00pm
Plygain Esgobaethol

1-2 Chwefror 2023
Canolfan Nant Gwrtheyrn
12.00pm
Grŵp Cadfan

2, 9, 16 Chwefror 2023
Hyfforddiant Arweinyddiaeth Hinsawdd


Hyfforddiant Diogelu

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi dyddiadau newydd rhwng mis Chwefror ac Ebrill ar gyfer hyfforddiant diogelu. I weld y dyddiadau sydd ar gael ac am ragor o wybodaeth cliciwch ar y botwm isod i fynd at wefan yr Eglwys yng Nghymru.


Cymorth cyfieithu

Mae'r Church Army yn chwilio am rywun sy'n fodlon gwirfoddoli i gyfieithu adnoddau i gefnogi'r gwaith sy'n digwydd yng Nghymru. I ddarganfod rhagor am y rôl ac am Church Army defnyddiwch y botymau isod.


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


8 January 2023


This Sunday and through the week we pray:

God of light, shining in darkness, through Christ, born in Bethlehem, you open to us the treasure of your grace. Help us to search diligently for your presence and to offer our lives to you with thanksgiving, joy, and praise through Jesus Christ, the rising star.

Amen


From our Assistant Bishop

Happy New Year!

We're in the season of Epiphany, where our lectionary makes quick leaps forward. One moment we are contemplating the Christ child at the manger and the gifts of the wise, and then suddenly we leap forward to Jesus' baptism and the beginning of his ministry.

Looking forwards, and being future oriented people can be good, especially in terms of discerning what our next steps may be as the body of Christ here. Being on the look-out for signs of hope and growth and preparing for this is good and Godly work. In these post-Christmas weeks, we may think of making resolutions for the coming year. In addition to health and well-being goals perhaps we might plan to be more prayerful, more welcoming, to be more forgiving - to become better signs of God’s grace.

How we are and who we are can make a difference for others. We know that although spring is coming there is much of winter still ahead and the challenge of the colder season and continuing economic pressures mean that life is tough for many, especially the most vulnerable in our communities. Planning for continued engagement with the needs in our communities will be important. Many of our Ministry Areas are already doing this and have significant experience of community engagement and service over many years. Where there is scope for new activity the Archbishop's Food and Fuel campaign continues to offer inspiration and opportunities to put faith into action and to pray about the ‘cost of living crisis’ and how we might respond.

As we look to the future, Epiphany also invites us to dwell in a holy way in the present. Living in the “now” of each day and discovering and contemplating the gifts and grace of God here amongst us is also life-giving and energising. There is something about the light, joy and gifts of Epiphany that reminds us that we are not alone and calls us to be thankful. God’s gifts and love and presence are here in our midst and sometimes we may miss them if we are too busy looking ahead to notice. As we consider plans and projects for the future let us also delight in and give thanks for the joy and wonder of God’s love for us today.

Heavenly Father, You have told us that you are the Lord who provides, and you give your very self to us. We thank you that you know all that we need, and that you have provided an abundance of all that sustains us. Help us to share your abundance fairly, that no-one would be afraid that they will not have enough for their family or for themselves and that all can live and thrive in the life which you have given. We ask this in the name of Jesus. Amen.

Prayer by the Revd Richard Wood, from The Church in Wales’ Cost of Living Prayers


Diary

20 January 2023
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
7.00pm
Diocesan Plygain service

1-2 February 2023
Nant Gwrtheyrn
12.00pm
Grŵp Cadfan

2, 9, 16 February
Climate Leadership Training


Safeguarding training

The Church in Wales has released new dates between February and April for Safeguarding training. To see the available dates and for more information click on the button below to visit the Church in Wales website. 


Translation support

The Church Army are looking for someone who would be willing to translate. To find out more about the Church Army and volunteer translator role please use the buttons below.


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.