Y Ddolen
29 Ionawr 2023
Gŵyl Fair y Canhwyllau

Y Sul hwn a thrwy'r wythnos gweddïwn dros
Bro Dwynwen
Gweddïwn dros:
- bob un o’r Tîm Gweinidogaeth presennol, Wardeniaid yr Ardal Weinidogaeth, aelodau’r Cyngor Ardal Weinidogaeth, Wardeniaid Eglwysi, Trysoryddion, hwyluswyr TG ac argraffu, crewyr a chyfeilyddion gwefannau, a phawb sy’n rhoi cymaint o’u hamser a’u hegni i mewn cymaint o wahanol ffyrdd
- ymgysylltiad cryf a pharhaus ag Ysgolion lleol
- y Tîm Materion Gwledig ar draws yr Esgobaeth
- Menter Eco-Eglwys Bro Dwynwen sy'n mynd o nerth i nerth
- y cysylltiadau eciwmenaidd cryf a ffurfiwyd gyda Chapeli ac Eglwysi lleol
- cryfder i ddatblygu a gweithredu ein 'Strategaeth Cenhadaeth Newydd' ar gyfer Bro Dwynwen
- llwyddiant parhaus ein menter ‘Mannau Cynnes’, bydded iddo fod yn lle o gymdeithas, lluniaeth a gweddi i bawb sy’n ei geisio

Oddi wrth ein Hesgob Cynorthwyol
Wrth i ni nesáu at Ŵyl Fair y Canhwyllau, neu Gyflwyniad Crist yn y Deml, mae'n teimlo fel diwedd un tymor ac agoriad tymor arall. Mae hyn yn teimlo'n fwy arwyddocaol eleni gan fod nifer cynyddol o bobl i'w weld wedi cadw eu coed Nadolig a’u cribau, efallai ddim eisiau gollwng gafael ar dymor o lawenydd a dathlu.
Ein tasg fel Cristnogion yw helpu pawb i weld yr offrwm llawen y gall ffydd ei wneud i fywyd ar hyd y flwyddyn. Mae stori cyflwyniad Crist yn y Deml yn dangos i ni sut mae hyn yn bosibl. Clywn Sant Luc yn adrodd am y digwyddiad hwn a sut mae cymuned hardd o bobl, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad o flynyddoedd, yr ifanc, dynion, merched a phlentyn yn ymgynnull, yn cefnogi, yn bendithio, yn rhoi, yn gweddïo ac yn cynnig croeso llawn heddwch. Dyna yw ein galwad ni hefyd.
Mae hanes Gŵyl Fair y Canhwyllau yn ein gwahodd i ofyn sut yr ydym yn cyflwyno ein hunain i Dduw a’n cymdogion. A ydym ni yma i roi, i dderbyn, i geisio heddwch neu faddeuant neu i gynnig croeso? Mae Anna, Simeon, Mair a Joseff ill dau yn cynnig enghraifft hyfryd o sut i fod. Ac mae’r plentyn Crist yn ein galw i ollwng pob loes a chasineb ac i ganfod yn ei bresenoldeb ef yr heddwch a’r llawenydd a all gyffwrdd a newid ein calonnau.
Dduw Anna a Simeon, Mair a Joseff, trwy dy Ysbryd, bydded inni dderbyn dy air ffyddlon a gwybod dy bresenoldeb cymodlon a offrymwn dros yr holl fyd; trwy Iesu Grist, Goleuni a Gogoniant Duw. Amen.
Sylwch fod y dyddiau Llesiant a hysbysebwyd yn flaenorol ar gyfer mis Mawrth wedi gorfod cael eu haildrefnu. Byddwn yn dychwelyd i ddyddiadau gwreiddiol y Synod ar gyfer mis Mawrth ac yn cadw’r rhain fel cyfarfodydd anffurfiol (peidiwch â phoeni os ydych wedi gwneud trefniadau eraill.) Cyn gynted ag y bydd gennym ddyddiadau newydd ar gyfer y sesiynau llesiant byddwn yn tynnu sylw at y rhain. Byddwn yn nodi'r holl ddyddiadau newydd yn glir ar y wefan. Ymddiheuriadau diffuant am unrhyw siom ynglŷn â hyn.
Esgob Mary ar Radio Wales
Bore Sul yma am 9.00am bydd cyfweliad gydag Esgob Mary ar Radio Wales yn ystod y rhaglen All Things Considered. Yna bydd ar gael i wrando eto ar BBC Sounds. I wrando ar y rhaglen ar for Sul a wedi hynny defnyddiwch y botwm isod i fynd i wefan BBC Radio Wales.

Rhagarweiniad i Caplaniaeth Anna
Mae Caplaniaeth Anna yn ffurf nodedig ar gaplaniaeth sy’n cynnig gofal bugeiliol ac ysbrydol i bobl hŷn a’r rhai sy’n gofalu amdanynt. Gall Caplaniaid Anna fod yn lleyg neu’n ordeiniedig ac mae'r model caplaniaeth hefyd yn cynnwys rôl arall i wirfoddolwyr o’r enw ‘Anna Friend’.
Cynhelir y sesiwn yn Galeri, Caernarfon ar 9 Chwefror. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru defnyddiwch y botwm isod.

Gwefannau newydd
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae pedair o’n Hardaloedd Gweinidogaeth wedi lansio gwefannau newydd gan ddefnyddio ein templed rhad ac am ddim. Mae rhai wedi'u datblygu'n dda tra bod eraill yn eithaf syml o hyd. Gallwch weld pob un o'r rhain gan ddefnyddio'r botymau isod.
Mae sicrhau bod gennym bresenoldeb ar-lein cyfredol a hygyrch yn amhrisiadwy. Os hoffai eich Ardal Weinidogaeth ddatblygu gwefan gan ddefnyddio gwefan am ddim gan yr Esgobaeth, cysylltwch â Naomi Wood, ein Cyfarwyddwr Cyfathrebu.

Gofal Ein Gwinllan
Bydd sesiynau Gofal ein Gwinllan a drefnir gan Athrofa Padarn Sant yn ail-ddechrau ar 4 Chwefror o 10.00am-11.30am gyda cyfle am chlonc anffurfiol rhwng 11.30am-12.00pm
Pynciau dan sylw y tro yma yw:
Ieuan Glan Geirionydd – y Parch. Ddr Siôn Aled
Yr Iaith mewn Llys a Llan: Cyfraniad Arthur James Johnes (1809- 1871-R. Gwynedd Parry
I gofrestru eich lle defnyddiwch y linc canlynol: https://bit.ly/3itXzbt
Blwyddyn o weddi
Mae'r Parchg Janet Fletcher wedi ysgrifenu myfyriad newydd i'n harwain trwy'r flwyddyn.
Mae mis Chwefror yn dechrau gyda Mair a Joseff yn cymryd Iesu i gael ei gyflwyno yn y Deml [Luc 2: 22-40]. Yno, maen nhw’n cyfarfod â Simeon ac Anna, sydd wedi bod yn disgwyl yn amyneddgar am ddyfodiad Duw i’w mysg. Mae hi’n amser dathlu a llawenhau, ac eto, fel inni ddarllen, mae hi hefyd yn amser proffwydoliaeth sy’n dod â geiriau i Mair sy’n sôn am y boen sydd i ddod, ‘a byddi di’n dioddef hefyd, fel petai cleddyf yn trywanu dy enaid di.’
Yma, fe ddarganfyddwn ni gariad sy’n fendith ac sy’n cyfoethogi ein bywyd, a chariad sy’n ein hatgoffa pa mor fregus ydy bywyd yn y byd hwn.
I ddarllen yr adlewyrchiad llawn cliciwch ar y botwm isod i lawrthwyo'r ddogfen pdf

Dyddiadur
1-2 Chwefror
Grŵp Cadfan
Canolfan Nant Gwrtheyrn
12.00pm
Dyma gyfle i’n clerigion trwyddedig ddod ynghyd ar gyfer addoliad, gweddi a myfyrdod.
2 Chwefror
Ordinasiwn Y Parchg Ganon Nick Golding
Cadeirlan Deiniol Sant
5.30pm
9 Chwefror
Rhagarweiniad i Gaplaniaeth Anna
Galeri, Caernarfon
10.00am
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
29 January 2023
Candlemas

This Sunday and through the week we pray for
Bro Dwynwen
We pray for:
- each and every one of the current Ministry Team, Ministry Area Wardens, members of the Ministry Area Council, Church Wardens, Treasurers, IT and printing facilitators, Web site creators and accompanists, and all those who give so much of their time and energy in so many varied ways
- strong and continued involvement with local Schools
- the Rural Affairs Team across the Diocese
- the Bro Dwynwen Eco Church Initiative which is going from strength to strength
- the strong ecumenical links forged with local Chapels and Churches
- strength to develop and carry out our 'New Mission Strategy' for Bro Dwynwen
- continued success of our 'Warm Spaces' Initiative, may it be a place of fellowship, refreshment and prayer to all those who seek it

From our Assistant Bishop
As we approach the Feast of Candlemas, or the Presentation of Christ in the Temple it feels like the close of one season and the opening up of another. This feels even more significant this year as increasing numbers of people seem to have kept their Christmas trees and cribs, perhaps not wanting to let go of a season of joy and celebration.
Our task as Christians is to help everyone to see the joyful offering that faith can make to life all through the year. The story of Christ’s presentation in the Temple shows us how this is possible. We hear in Saint Luke’s telling of this event how a beautiful community of people, including those with the experience of years, the young, men, women and a child gather together, supporting, blessing, giving, praying and offering a peace filled welcome. That is our call too.
The story of Candlemas invites us to ask how are we presenting ourselves to God and our neighbours. Are we here to give, to receive, to seek peace or forgiveness or to offer a welcome? Anna, Simeon, Mary and Joseph each offer us a beautiful example of how to be. And the Christ child calls us to let go of all hurt and hatred and to find in his presence the peace and joy that can touch and change our hearts.
God of Anna and Simeon, of Mary and Joseph, by your Spirit may we receive your faithful word and know your reconciling presence offered for all the world; through Jesus Christ, the Light and the Glory of God. Amen.
Please note that the Well-being days previously advertised for March have had to be re-arranged. We will revert to the original Synod dates for March and keep these as informal meetings (please do not worry if you have made alternative arrangements.) As soon as we have new dates for the well-being sessions we will highlight these. We will set out all the new dates clearly on the web-site. Sincere apologies for any disappointment regarding this.
Bishop Mary on Radio Wales
This Sunday morning at 9.00am an interview with Bishop Mary will be on Radio Wales during the All Things Considered programme. It will then be available to listen again on BBC Sounds. To listen to the programme on Sunday and afterwards please use the button below to go to the BBC Radio Wales website.

An introduction to Anna Chaplaincy
Anna Chaplaincy is a distinctive form of chaplaincy offering pastoral and spiritual care to older people and those who care for them. Anna Chaplains can be lay or ordained and the chaplaincy model also includes another role for volunteers called an ‘Anna Friend’.
The event takes place on 9 February in Galeri, Caernarfon. To find out more and to register please use the button below.

New websites
Over the past few months four of our Ministry Areas have launched new websites using our free template. Some are well developed whilst others are still quite simple. You can view each of these using the buttons below.
Ensuring we have an up to date and accessible online presence is invaluable. If your Ministry Area would like to develop a website using a free site from the Diocese please get in touch with Naomi Wood, our Director of Communications.

Gofal Ein Gwinllan
The Gofal ein Gwinllan sessions run by St Padarn's Institute will recommence on 4 February – 10.00am-11.30am with the opportunity for an informal chat at 11.30am-12.00pm
The subjects discussed this time are:
Ieuan Glan Geirionydd – the Revd Dr Siôn Aled
The Language in Court and Church: The Contribution of Arthur James Johnes (1809- 1871) - R. Gwynedd Parry
To register please use this link: https://bit.ly/3itXzbt
A year of prayer
The Revd Janet Fletcher has written a new reflection to help guide us through the year.
February begins with Mary and Joseph taking Jesus to be presented at the Temple. [Luke 2: 22-40] There they meet with Simeon and Anna who have been patiently waiting for the coming of God amongst them. It’s a time to celebrate and rejoice and yet, as we read it is also a time of prophecy that brings to Mary words of the pain to come, ‘a sword will pierce your own soul too.’
Here we discover love that is a blessing and enriches our life and love that reminds us of the fragility of life in the world.
To read the full reflection click the button below to download the pdf document

Diary
1-2 February
Grŵp Cadfan
Nant Gwrtheyrn
12.00pm
This is an opportunity for our licensed clergy to gather together for worship, prayer and reflection.
2 February
Ordination of the Revd Canon Nick Golding
Saint Deiniol's Cathedral
5.30pm
9 February
An introduction to Anna Chaplaincy
Galeri, Caernarfon
10.00am
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.