
Y Ddolen
24 Hydref 2021
Yr Unfed Sul ar Hugain wedi'r Drindod
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos nesaf rydym yn gweddïo am:
Ardal Weinidogaeth
Bro Dwynwen
gan gynnwys y rhai sy’n gwasanaethu yno:
- Y Parchg Llywelyn Moules-Jones
- Mrs Joan Hardie
Gofynnir am ein gweddïau yn arbennig am:
- geinidogaeth a chenhadaeth yr Ardal Weinidogaeth
- Ysgol Santes Dwynwen

Dyddiadur
Bydd yr Esgob ar ei wyliau yr wythnos hon gan ddychwelyd gyda cyfarfod o Grŵp Cadfan ar 3 Tachwedd. Plîs anfonwch unrhyw ohebiaith at Robert Jones, Cynorthwy-ydd yr Esgob.
3-4 Tachwedd
Grŵp Cadfan
Mae'r Esgob yn gobeithio y byddwn yn gallu bwrw ymlaen â chyfarfod wyneb yn wyneb o Grŵp Cadfan ym mis Tachwedd. Gwahoddir holl Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth a Ficeriaid ar y Cyd i fod yn bresennol. Bydd mwy o fanylion a rhaglen ar gyfer y digwyddiad ar gael yn fuan.
18 Tachwedd
Lansiad adnoddau digwyddiadau bywyd
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn cyfarfod ac yn cefnogi pobl yn ystod adegau allweddol yn eu bywydau ers dros 100 mlynedd. Mae'r digwyddiadau bywyd yma yn rhan greiddiol o'n cenhadaeth a'n gweinidogaeth.

Diwrnod Agored yn Eglwys Cyngar Sant, Llangefni
Mae Ardal Weinidogaeth Bro Cyngar yn eich gwahodd i ddiwrnod agored yn Eglwys Cyngar Sant yn Llangefni ar ddydd Sul 24 Hydref i weld y ffenestr liw newydd. Am ragor o fanylion am y ffenestr a'r diwrnod agored cliciwch yma.

Ynys Tysilio, Bro Tysilio ar Songs of Praise
Yn ystod pennod Dydd Sul 24 Hydref am 1.15pm bydd Aled Jones yn ymweld ag Ynys Tysilio.

Llyfr Enlli newydd
Mae'r Parchg Janet Fletcher, ein Swyddog Ysbrydolrwydd a Gweinidogaeth, wedi ysgrifennu llyfr newydd o ddeunydd defosiynol cwbl ddwyieithog wedi'i ganoli ar sancteiddrwydd Ynys Enlli, o'r enw Gweddïau'r Dydd: Llyfr Enlli.
Wrth sôn am ei llyfr, meddai Janet:
Bu hwn yn bleser i'w ysgrifennu. Mae ysgrifennu'n greadigol yn cymryd amser, ac ymdeimlad o weddi. Mae angen bod yn agored i symudiad a llif geiriau yn ogystal â symudiad a llif yr Ysbryd.
Ysgrifennodd yr Esgob yn ei Rhagair:
mae'r llyfr hwn yn ymwneud yn benodol â chymeriad Cristnogol yr ynys a sut i deithio y tu hwnt i'w daearyddiaeth a'i hanes i'w chalon a darganfod beth sydd wedi tynnu cenedlaethau di-ri yno i weddi, distawrwydd, myfyrdod a myfyrdod mewnol.
Mae Archddiacon Meirionnydd yn ei Ragair yn ysgrifennu:
yn sicr bydd yn adnodd gwerthfawr a chyfoethog i bererinion modern sy'n ymweld â Enlli.
Mae'n adnodd i bob pererin lle bynnag y bo. Mae gweddïau i'w harwain drwy'r dydd ac mae 'gorsafoedd' yr ynys yn rhai y gellid eu cynnwys yn weddigar mewn mannau eraill hefyd. I weddïo yn rhywle heblaw ar yr Ynys, newidiwch rai o'r geiriau sy'n cyfeirio'n benodol at Enlli i eiriau sy'n siarad am ble rydych chi.
Y thema gyffredinol yw dod ar draws Duw trwy weddïau a myfyrdodau creadigol a chynhwysol. Os nad ewch byth i Enlli ar bererindod yn bersonol, gall y llyfr hwn eich helpu i deithio yno yn eich calonnau a'ch dychymyg.
Bydd gennyf gopïau o'r llyfr yng nghyfarfod Grŵp Cadfan ym mis Tachwedd, ac felly os hoffech gael copi, rhowch wybod i'ch Arweinydd Ardal Weinidogaeth a gallant gasglu copi ar eich cyfer, ac mae'n arbed postio!
Y gost yw £7.50 - ychwanegwch £2.39 ar gyfer ei bostio - ac os oes gennych ddiddordeb mewn prynu copi, neu os ydych wedi gofyn i Arweinydd eich Ardal Weinidogaeth gasglu un ar eich cyfer, anfonwch e-bost ataf.
Calon dros genhadaeth
Mea Calon dros genhadaeth yn gwrs astudio USPG sy'n archwilio Pum Marc Cenhadaeth y Cymundeb Anglicanaidd, gan ofyn sut y gallant gryfhau ein dealltwriaeth o genhadaeth, ac ystyried sut mae Eglwys Anglicanaidd Myanmar yn eu rhoi ar waith. Anogir grwpiau sy'n defnyddio'r cwrs i ystyried sut y gall gwersi a ddysgwyd o Myanmar siarad yn ein cyd-destunau ein hunain.
Efallai bod yma ddeunydd ar gyfer canllaw Adfent o fewn Ardal Weinidogaeth.
Am ragor o fanylion ac i lawrlwytho pdf o'r cwrs gweler yma.
Cymru yn ymuno â thon weddi 24-awr fyd-eang
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cymryd rhan yn Niwrnod Gweddi rhithiol y Cymundeb Anglicanaidd ar 30 Tachwedd, y credir ei fod y cyntaf o’i fath. Daw â phobl ynghyd o bedwar ban byd i weddïo dros fyd sy’n dioddef o bandemig Covid-19 a newid hinsawdd, yn ogystal ag anghyfiawnder, camfanteisio a rhyfel.
Mae’r Eglwys yn arwain un sesiwn hanner awr gyda ffilm o gweddïau a myfyrdodau ar thema newid hinsawdd gan bob un o’i chwech esgobaeth, yn cynnwys rhai o’i hysgolion cynradd. Cyflwynir y sesiwn gan ein Hesgob.
I ddarllen rhagor gweler wefan yr Eglwys yng Nghymru
Dyddiadau 2022
Synodau
Meirionydd - Dydd Llun
10am 14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref
Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
28 a 29 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Y Ddolen
24 October 2021
The Twenty First Sunday after Trinity
This Sunday and through the week we pray for:
the Ministry Area of Bro Dwynwen
including those who serve there:
- The Revd Llywelyn Moules-Jones
- Mrs Joan Hardie
Our prayers in particular are asked for:
- the mission and ministry of the Ministry Area
- Ysgol Santes Dwynwen

Diary
The Bishop will be on leave this coming week until the meeting of Grŵp Cadfan on 3 November. Please direct any correspondence to Robert Jones, the Bishop's Assistant.
3-4 November
Grŵp Cadfan
The Bishop hopes that we will be able to go ahead with an in-person meeting of Grŵp Cadfan in November. All Ministry Area Leaders and Associate Vicars are invited to attend. More details and a programme for the event will become available soon.
18 November
Launch of life events resources
The Church in Wales has been meeting and supporting people during key moments in their lives for over 100 years. These life events represent a core part of our mission and ministry.

Open day in Saint Cyngar's Church, Llangefni
The Ministry Area of Bro Cyngar are inviting you to visit Saint Cyngar's Church on Sunday 24 October to see the new window they have had installed. For more information about the window and the open day please visit here.

Church Island, Bro Tysilio on Songs of Praise
During this Sunday's episode (24 October at 1.15pm) Aled Jones will visit Church Island.

A new Bardsey book
The Revd Janet Fletcher, our Spirituality & Ministry Officer, has written a new book of fully bilingual devotional material centred on the holiness of Bardsey Island, called Prayers for the Day: Bardsey Book.
Introducing her book, Janet writes:
This has been a joy to write. To be asked to write creatively takes time, and a sense of prayerfulness. It’s to be open to the movement and flow of words as well as the movement and flow of the Spirit.
The Bishop writes in his Preface:
this book is specifically about the Christian character of the island and how to journey beyond its geography and history into its heart and discover what has drawn countless generations there to prayer, silence, contemplation and inner reflection.
The Archdeacon of Meirionnydd in his Foreword writes:
it will most certainly be a valuable and rich resource to modern-day pilgrims heading to Bardsey.
It is a resource for all pilgrims wherever they may be. There are prayers to guide through the day and the ‘stations’ of the island are ones that could be entered into prayerfully in other places too. To pray somewhere other than on the Island, simply change some of the words that refer specifically to the Island to words which speak of where you are.
The overall theme is to encounter God through creative and inclusive prayers and reflections. If a pilgrimage to Bardsey is never made in person, this book can help you journey there in your hearts and imagination.
I will have copies of the book with me at Grŵp Cadfan in November, and so if you would like a copy of the book, please let your Ministry Area Leader know and they can collect a book for you, and it saves on postage!
The cost is £7.50 - add £2.39 for postage - and if you are interested in buying a book, or have asked your Ministry Area Leader to collect a book for you, please email me.
A heart for mission
A heart for mission is a USPG study course which examines the Anglican Communion’s Five Marks of Mission, through asking how we can strengthen our understanding of mission, and considers how the Anglican Church of Myanmar puts them into action. Groups using the course are then encouraged to consider how lessons learned from Myanmar may speak into our own contexts.
It may provide good material for an Advent guide within a Ministry Area.
For more information and to download a pdf of the course please see here.
Wales joins a 24-hour global wave of prayer
The Church in Wales is taking part in the Anglican Communion virtual Day of Prayer on November 30, thought to be the first of its kind. It will bring people together from across the globe to pray for a world suffering from the Covid-19 pandemic and climate change, as well as injustice, exploitation and war.
The Church is leading one half-hour session with a film featuring prayers and reflections on the theme of climate change from each of its six dioceses, including some of its primary schools. The session will be introduced by our Bishop.
To read more please visit the website of the Church in Wales
Dates 2022
Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm 14
February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October
Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
28 - 29 March
1 - 2 December
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral
Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.