minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Y Ddolen


23 Ebrill 2023

Trydydd Sul y Pasg


Neges oddi wrth Esgob Mary

Annwyl Gyfeillion,
Dyma fy neges olaf fel rhan o Esgobaeth Bangor. Ar ddydd Mercher, yng Ngorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, ymgymerais yn swyddogol â fy rôl newydd fel Esgob Llandaf. Byddaf bob amser yn teimlo cysylltiad cryf â'r teulu esgobaethol yma. Diolch i chi am bopeth rydych chi wedi'i ddysgu i mi ac wedi fy helpu i ddysgu amdano dros y pum mlynedd diwethaf. Dyma esgobaeth sy’n cael ei bendithio’n gyfoethog â phobl a chymunedau sydd ag awydd cryf am Dduw a doniau mawr wrth gyfathrebu’r ffydd mewn cymaint o amrywiaeth o ffyrdd. Yn arbennig mae'r gwmnïaeth a gynigir i ni yn y weinidogaeth ac arweinyddiaeth yma wedi bod yn gefnogaeth wych. Mae’r amynedd mae llawer wedi ei ddangos i mi pan dwi wedi gwneud gwallau neu wedi bod yn araf i weithredu, a’r gefnogaeth anhygoel gyda’r Gymraeg lle dwi wedi derbyn y fath anogaeth a chymorth, wedi bod yn gysur aruthrol. Mae eich gweddïau a'ch rhannu wedi golygu llawer iawn i mi.

Diolch am yr holl negeseuon ac anrhegion caredig iawn y mae Andrew a minnau wedi’u cael wrth inni symud i Gaerdydd.

Os oes unrhyw bethau sy'n parhau heb eu gorffen neu heb eu dweud, rhowch wybod i mi. Bydd y cyfeillgarwch yr ydym wedi'i ddechrau yn parhau. Teulu bychan yw’r Eglwys yng Nghymru a bydd llawer o gyfleoedd i gadw mewn cysylltiad. Diolch am eich cariad a'ch cyfeillgarwch. Gweddïwch drosom wrth inni weddïo drosoch.

Dduw ein alffa a'n omega, ti yw ffynhonnell a chyrchfan ein bywydau. Diolch am daith ffydd ac am y cymdeithion sy’n ein helpu i ddysgu am ryfeddod a harddwch bywyd yn ei holl gyflawnder. Bydd gyda phob un ohonom wrth inni deithio ymlaen mewn ffydd. Llefara â ni mewn ffyrdd y gallwn eu deall, a helpa ni bob dydd i dyfu mewn ffydd, gobaith a chariad, Amen.

Sul y Galwedigaethau

Mae Pedwerydd Sul y Pasg (Ebrill 30) yn Sul yr Alwadau, sef dydd gweddïo byd-eang am gynnydd mewn galwedigaethau i weinidogaethau Cristnogol ac i annog holl bobl Dduw i fyfyrio ar ei alwad yn eu bywyd ac i ystyried pa bethau newydd y gall fod yn eu galw. nhw i mewn. Gobeithiwn y bydd Ardaloedd Gweinidogaeth yn gwneud y gorau o Sul y Galwedigaethau fel cyfle i annog pawb i ddirnad ewyllys Duw drostynt ac i feithrin galwedigaethau.

Rydym wedi cynhyrchu adnoddau dwyieithog sydd wedi’u dylunio i helpu hwyluso gweddi, addoli a myfyrio ar alwedigaeth a gweinidogaeth, i’w defnyddio ar Sul yr Alwadau a thrwy gydol y flwyddyn. Mae rhain o fewn adran Adnoddau ein gwefan.


Ffynnon Cybi o'r awyr | Cybi's well from the air

Llwybr Cadfan yn Ffynnon Cybi

Edrychwn ymlaen at seithfed cymal y prosiect llenyddol Llwybr Cadfan fydd yn mynd rhagddo y ar ddydd Sul 30 Ebrill am 2.00pm wrth Ffynnon Cybi, Llangybi. Holl bwrpas y prosiect hwn yw ddod i adnabod eglwysi a chymunedau ar Lwybr pererindod Cadfan Sant o Dywyn, Meirionnydd, i Ynys Enlli; lle y credir mai Cadfan, y cenhadwr Celtaidd o’r chweched ganrif oedd yr abad cyntaf.

Bydd y ddau fardd preswyl, Siôn Aled a Sian Northey ynghyd â’r beirdd gwadd lleol Twm Morys a Gareth Evans Jones, yn perfformio eu cerddi gwreiddiol ac yn cyflwyno ychydig o hanes y ffynnon ryfeddol a chefndir Sant Cybi. Bydd yr amryddawn Dewi ‘Pws’ Morris hefyd yno i’n diddannu. Gobeithiwn gyflwyno gogwydd newydd ar y lleoliad arbennig hwn sydd ar y ffîn rhwng Meirionnydd a Phen Llŷn, ynghyd â dathlu’r dreftadaeth leol, a mwynhau prynhawn hwyliog mewn lleoliad godidig. Ein gobaith ydi y bydd yr haul yn tywynu fel y gallwn gynnal y digwyddiad yn yr awyr agored, ond pe bai’r tywydd yn ddrwg bydd yn cael ei gynnal yn Eglwys Cybi Sant.

I archebu lle cliciwch yma. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â elinowen@cinw.org.uk


Cliciwch ar y llun am boster A4 i'w argraffu

Swyddog Eiddo Archddiaconiaeth

Rydym yn chwilio am dri Swyddog Eiddo Archddiaconiaeth egnïol a hunan-gymhellol. Bydd y tri Swyddog yn cael eu neilltuo yn unigol i un o Archddiaconiaethau Esgobaeth Bangor (Môn, Bangor a Meirionydd) er mwyn cynorthwyo’r tîm Gweithrediadau i gyflawni Gweledigaeth yr Esgobaeth.


Ymchwil angladdau a phrofedigaeth

Mae Ellen Falkingham yn anthropolegydd ym Mhrifysgol Rhydychen, ar hyn o bryd yn cynnal astudiaeth dulliau cymysg i archwilio effaith profiadau marwolaethau eraill ar ymddygiadau iechyd, gyda ffocws penodol ar ‘flinder pandemig’. Mae hi'n chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn yr astudiaeth a rhannu eu profiadau a'u barn trwy gwblhau arolwg 15-20 munud a/neu gymryd rhan mewn cyfweliad.

Hoffai Ellen glywed yn arbennig gan y rhai a ddarparodd wasanaethau angladdol/profedigaethol yn ystod y pandemig, a/neu ofal diwedd oes anghlinigol, fel clerigion neu gaplaniaid ysbyty.

Mae’r astudiaeth yn gyfle i chi gael cofnod o’ch profiadau ac i gyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ar y pandemig COVID-19. Gobeithir hefyd y gellir defnyddio canlyniadau'r ymchwil i lywio'r gwaith o lunio polisïau ac arfer yn y dyfodol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cwblhewch yr arolwg yma: www.tinyurl.com/OxCDCC

A/neu i gymryd rhan mewn cyfweliad (neu ofyn unrhyw gwestiynau) e-bostiwch Ellen Falkingham (ellen.falkingham@keble.ox.ac.uk)


Dyddiadur

30 Ebrill
Llwybr Cadfan yn Ffynnon Cybi

15 Mai
Grŵp Elen
(Rhwydwaith yr Esgobaeth y rai syn gweithio gyda plant a theuluoedd ac sy'n ceisio cyrraedd y cymunedau o'u cwmpas yn greadigol)
7.30pm
Zoom
Rhagor o fanylion i ddilyn


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


23 April 2023

Third Sunday of Easter


A message from Bishop Mary

Dear Friends,
This is my final message as part of the Diocese of Bangor. On Wednesday, at the Governing Body of the Church in Wales, I officially took on my new role as the Bishop of Llandaff. I will always feel a strong bond of affection with the diocesan family here. Thank you for all that you have taught me and helped me learn about over the past five years. This is a diocese that is richly blessed with people and communities who have a strong desire for God and great gifts in communicating the faith in such a variety of ways. In particular the companionship offered to us in ministry and leadership here has been a wonderful support. The patience many have shown me when I have made errors or been slow to act and the amazing support with the Welsh language where I have received such encouragement and help has been an enormous comfort. Your prayers and sharing have meant a great deal to me.

Thank you for all the very kind messages and gifts that Andrew and I have received as we move to Cardiff.

If there are any things that remain unfinished or unsaid then do please let me know. The friendships we have begun will continue. The Church in Wales is a small family and there will be many opportunities to keep in touch. Thank you for your love and friendship. Pray for us as we pray for you.

God our alpha and our omega, you are the source and the destination of our lives. Thank you for the journey of faith and for the companions who help us to learn about the wonder and beauty of life in all its fulness. Be with each one of us as we journey onward in faith. Speak to us in ways that we can understand, and help us daily to grow in faith, hope and love, Amen.

Vocations Sunday

The Fourth Sunday of Easter (30 April) is Vocations Sundays, a global day of prayer for an increase in vocations to Christian ministries and to encourage all God’s people to reflect on his call in their life and to consider what new things he may be calling them into. We hope Ministry Areas will make the most of Vocations Sunday as an opportunity to encourage everyone to discern God’s will for them and to foster vocations.

We have produced bilingual resources that are designed to help facilitate prayer, worship and reflection on vocation and ministry, for use on Vocations Sunday and throughout the year. These can be found in the Resources section of the website.


Ffynnon Cybi | Cybi's well

Llwybr Cadfan at Cybi's Well

We look forward to the seventh instalment of the Llwybr Cadfan Literary Project which gets underway on Sunday 30 April at 2.00pm at Ffynnon Cybi, Llangybi. The whole purpose of this project is to get to know churches and communities on the Saint Cadfan's pilgrimage route from Tywyn, Meirionnydd, to Bardsey Island; where Cadfan, the sixth-century Celtic missionary is believed to have been the first abbot.

The two resident poets, Siôn Aled and Sian Northey along with local guest poets Twm Morys and Gareth Evans Jones will perform their original poems and present the background and history of Cybi the Saint and the unique Well named after him. The talented Dewi 'Pws' Morris will also be there to perform and entertain us. We hope to introduce a new perspective on this special location situated on the border between Meirionnydd and the Llŷn Peninsula, along with celebrating the local heritage and enjoying a fun afternoon. The event will be held outdoors at the Well, but should the weather be bad it will be held at Saint Cybi's Church.

To book a place click here. For more information contact elinowen@cinw.org.uk


Click on the photo for a printable A4 version

Archdeaconry Property Officer

We are looking for three energetic and self-motivated Archdeaconry Property Officers. The three Officers will individually be assigned to one of the Archdeaconries of the Diocese of Bangor (Môn, Bangor and Meirionydd) in order to assist the Operations team with delivering the Diocesan Vision.


Funeral and bereavement research

Ellen Falkingham is an anthropologist at The University of Oxford, currently conducting a mixed methods study to examine the impact of experiences of other’s mortality on health behaviours, with a particular focus on ‘pandemic fatigue’. She is looking for volunteers to take part in the study and share their experiences and views by completing a 15-20 minute survey and/or taking part in an interview.

Ellen would particularly like to hear from those who provided funerary/bereavement related services during the pandemic, and/or non-clinical end of life care, such as vicars or hospital chaplains.

The study represents an opportunity for you to have your experiences on record and to contribute to evidence base on the COVID-19 pandemic. It is also hoped that the research outcomes may be used to inform policy making and practice in the future.

If you are interested in taking part, please complete the survey here: www.tinyurl.com/OxCDCC

And/or to participate in an interview (or ask any questions) email Ellen Falkingham (ellen.falkingham@keble.ox.ac.uk)


Diary

30 April
Llwybr Cadfan at Saint Cybi's Well

15 May
Grŵp Elen
Our diocesan network for those working with children and families and who are seeking to reach their communities creatively
7.30pm
Zoom
More details to follow


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.