minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Y Ddolen


30 Ebrill 2023

Pedwerydd Sul y Pasg

Sul y Galwedigaethau


Y Sul hwn a thrwy gydol yr wythnos gweddïwn dros

Galwedigaethau

Yn enwedig:

  • diolchwn am bawb sy’n ymateb i alwad Crist i fod yn ddilynwyr iddo
  • rydyn ni'n ceisio gras Duw i'n helpu ni i fyw ein galwedigaeth fedydd
  • gweddïwn am gynnydd mewn galwedigaethau i weinidogaethau lleyg ac ordeiniedig
  • gweddïwn dros bob gweinidogaeth ac ymadroddion o wasanaeth Cristnogol ar draws ein hesgobaeth
  • gweddïwn dros bawb mewn hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth gyhoeddus a’r rhai sydd i’w hordeinio eleni
  • gweddïwn dros yr Archesgob, ein Harweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth a phawb sy’n ymwneud â dirnad galwedigaethau

Llun o'r stori Y Ffordd i Emaus yng Nghadeirlan Deiniol Sant | The Road to Emmaus painting in Saint Deiniol's Cathedral

Neges oddi wrth Esgob Bangor

Rwy’n siŵr y byddwn wedi darllen stori’r disgyblion droeon wrth iddynt deithio i Emaus (Luc 24:13f). Mae’r stori hyfryd hon yn dwyn i gof sut roedd llygaid ar agor wrth i Iesu gymryd bara, rhoi diolch, ei dorri a’i roi iddyn nhw. Yn gynharach yn y stori gwelwn y disgyblion yma mewn lle drwg. Iddyn nhw (er mai prin fod marwolaeth Iesu wedi digwydd) mae e eisoes wedi dod yn ffigwr o’r gorffennol: ‘roedden ni wedi gobeithio mai fe oedd yr un oedd yn mynd i adbrynu Israel’ medden nhw wrth iddyn nhw fyfyrio ar y trychineb maen nhw’n credu sydd wedi cymryd lle.

Mae'n llawer rhy hawdd i Iesu ddod yn ffigwr o'r gorffennol. Rydyn ni'n disgyn yn gyflym i'r gofidiau neu'r anawsterau rydyn ni'n eu hwynebu ac yn dychmygu, fel nhw, rydyn ni wedi cael ein gadael. Yr hyn a newidiodd i'r disgyblion oedd y cyfarfyddiad: cyfarfuasant ag ef. A hyn a'u cododd hwynt ac a drodd eu gofidiau yn orfoledd. Yn nhymor y Pasg hwn rwy’n gobeithio ac yn gweddïo y bydd ein llygaid ninnau hefyd yn cael eu goleuo i weld y Crist Atgyfodedig yn y beunyddiol ac, fel hwythau, i losgi o fewn er mwyn Iesu.


Sul y Galwedigaethau

Mae Pedwerydd Sul y Pasg (30 Ebrill) yn Sul y Galwedigaethau, sef dydd gweddïo byd-eang am gynnydd mewn galwedigaethau i weinidogaethau Cristnogol ac i annog holl bobl Dduw i fyfyrio ar ei alwad yn eu bywyd ac i ystyried pa bethau newydd y gall fod yn eu galw nhw i mewn. Gobeithiwn y bydd Ardaloedd Gweinidogaeth yn gwneud y gorau o Sul y Galwedigaethau fel cyfle i annog pawb i ddirnad ewyllys Duw drostynt ac i feithrin galwedigaethau.

Rydym wedi cynhyrchu adnoddau dwyieithog sydd wedi’u dylunio i helpu hwyluso gweddi, addoli a myfyrio ar alwedigaeth a gweinidogaeth, i’w defnyddio ar Sul yr Alwadau a thrwy gydol y flwyddyn. Mae rhain o fewn adran Adnoddau ein gwefan.

Dros yr wythnos diwethaf rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fideos a blogs o wahanol bobl o gwmpas yr Esgobaeth yn sôn am eu galwedigaethau. Gellir gweld popeth yma neu gliciwch ar y fideos isod. Maen new i gyd ar gael ar ein tudalennau Facebook, Twitter a YouTube.


Rob - Ordinand
Naomi - Offeiriad arloesol | Pioneer priest
Llew - Caplan Cefn Gwlad | Rural Life Chaplain

Colled i'r Parchg Linda Bailey

Gyda tristwch rydym yn rhannu'r newyddion bod gŵr y Parchg Linda Bailey, David, wedi marw. Meddai'r Parchg Ben Griffith, Arweinydd Ardal Bro Ardudwy, "Bu David yn byw yn y Bermo ac roedd yn un o dewrion yr RNLI yma ymhlith pethau eraill. Mae'r angladd yn Eglwys Ioan Sant, Bermo ar ddydd Gwener. Maen nhw hefyd yn tanio'r canonau at Orsaf y Bad Achub er cof amdano."

Os gwelwch yn dda cofiwch y Parchg Linda Bailey, y teulu a Bro Ardudwy yn eich gweddïau.


Y Brenin, tra’n Dywysog Cymru, yn Eisteddfod Genedlaethol 1969 | The King, while Prince of Wales, at the 1969 National Eisteddfod

Dathlu'r Coroni

Ymunwch â ni ar gyfer ein Gwasanaeth Esgobaethol a Sirol o Weddi a Diolchgarwch ar nos Sul 30 Ebrill am 6.00pm am Goroni Eu Marhwydi’r Brenin a’r Frenhines yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.

Bydd y côr yn canu cerddoriaeth a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd mewn Coroniadau blaenorol, gan gynnwys Sadoc y Ffeiriad gan Handel ac I was Glad gan Parry.

Mae croeso i bawb. Mae mynediad am ddim. Bydd derbyniad gwin i ddilyn.


Ffynnon Cybi o'r awyr | Cybi's well from the air

Llwybr Cadfan yn Ffynnon Cybi

Edrychwn ymlaen at seithfed cymal y prosiect llenyddol Llwybr Cadfan fydd yn mynd rhagddo y ar ddydd Sul 30 Ebrill am 2.00pm wrth Ffynnon Cybi, Llangybi. Holl bwrpas y prosiect hwn yw ddod i adnabod eglwysi a chymunedau ar Lwybr pererindod Cadfan Sant o Dywyn, Meirionnydd, i Ynys Enlli; lle y credir mai Cadfan, y cenhadwr Celtaidd o’r chweched ganrif oedd yr abad cyntaf.

Bydd y ddau fardd preswyl, Siôn Aled a Sian Northey ynghyd â’r beirdd gwadd lleol Twm Morys a Gareth Evans Jones, yn perfformio eu cerddi gwreiddiol ac yn cyflwyno ychydig o hanes y ffynnon ryfeddol a chefndir Sant Cybi. Bydd yr amryddawn Dewi ‘Pws’ Morris hefyd yno i’n diddannu. Gobeithiwn gyflwyno gogwydd newydd ar y lleoliad arbennig hwn sydd ar y ffîn rhwng Meirionnydd a Phen Llŷn, ynghyd â dathlu’r dreftadaeth leol, a mwynhau prynhawn hwyliog mewn lleoliad godidig. Ein gobaith ydi y bydd yr haul yn tywynu fel y gallwn gynnal y digwyddiad yn yr awyr agored, ond pe bai’r tywydd yn ddrwg bydd yn cael ei gynnal yn Eglwys Cybi Sant.

I archebu lle cliciwch yma. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â elinowen@cinw.org.uk


Blwyddyn o weddi

Wrth inni ddod at fis Mai, mae’r gwanwyn yn parhau i ddatgelu ei dyfiant newydd a dyma ni’n cael ein hunain rhan o’r ffordd trwy dymor y Pasg. Bu’r siwrne at y groes yn ein harwain trwy’r tawelwch ac i mewn i orfoledd a rhyfeddod diwrnod newydd, dydd yr atgyfodiad. Er ein bod wedi gadael y Pasg y tu cefn inni, mae llwybr bywyd a ffydd yn ymestyn allan o’n blaenau.


Cliciwch ar y llun am boster A4 i'w argraffu

Swyddog Eiddo Archddiaconiaeth

Rydym yn chwilio am dri Swyddog Eiddo Archddiaconiaeth egnïol a hunan-gymhellol. Bydd y tri Swyddog yn cael eu neilltuo yn unigol i un o Archddiaconiaethau Esgobaeth Bangor (Môn, Bangor a Meirionydd) er mwyn cynorthwyo’r tîm Gweithrediadau i gyflawni Gweledigaeth yr Esgobaeth.


Dyddiadur

30 Ebrill
Llwybr Cadfan yn Ffynnon Cybi

15 Mai
Grŵp Elen
(Rhwydwaith yr Esgobaeth y rai syn gweithio gyda plant a theuluoedd ac sy'n ceisio cyrraedd y cymunedau o'u cwmpas yn greadigol)
7.30pm
Zoom


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


30 April 2023

Fourth Sunday of Easter

Vocations Sunday


This Sunday and through the week we pray for

Vocations

In particular:

  • we give thanks for all who respond to the call of Christ to be his followers
  • we seek God’s grace to help us live out our baptismal vocation
  • we pray for an increase in vocations to lay and ordained ministries
  • we pray for all ministries and expressions of Christian service across our diocese
  • we pray for all in training for public ministry and those to be ordained this year
  • we pray for the Archbishop, our Ministry Area Leaders and all involved in the discernment of vocations

Archesgob Cymru ac Esgob Bangor | The Archbishop of Wales and Bishop of Bangor

A message from the Bishop of Bangor

I’m sure we will have read the story many times of the disciples as they journeyed to Emmaus (Luke 24:13f). This beautiful story recalls how eyes were open as Jesus took bread, gave thanks, broke it and gave it to them. Earlier in the story we see these same disciples in a bad place. For them (although the death of Jesus has barely happened) he has already become a figure of the past: ‘we had hoped that he was the one who was going to redeem Israel’ they say as they reflect on the disaster they believe has taken place.

It is all too easy for Jesus to become a figure of the past. We quickly fall into the sorrows or difficulties we face and imagine, like them, we have been abandoned. What changed for the disciples was the encounter: they met him. And it was this which lifted them and turned their sorrows into joy. In this season of Easter I hope and pray that our eyes too will be brightened to see the Risen Christ in the everyday and, like them, to burn within for the sake of Jesus.


Vocations Sunday

The Fourth Sunday of Easter (30 April) is Vocations Sundays, a global day of prayer for an increase in vocations to Christian ministries and to encourage all God’s people to reflect on his call in their life and to consider what new things he may be calling them into. We hope Ministry Areas will make the most of Vocations Sunday as an opportunity to encourage everyone to discern God’s will for them and to foster vocations.

We have produced bilingual resources that are designed to help facilitate prayer, worship and reflection on vocation and ministry, for use on Vocations Sunday and throughout the year. These can be found in the Resources section of the website.

Over the course of the last week we have published several videos and blogs featuring different people from across the Diocese as they speak about their vocation. You can see them all here or click on the videos. They are also available on our Facebook, Twitter and YouTube feeds.


Naomi - Gweinidog Teulu | Family Minister
George - Ddiacon parhaol | Distinctive deacon
David - Organydd | Organist

A bereavement for the Revd Linda Bailey

It is with sadness that we share the news that the Revd Linda Bailey's husband, David, has passed away. The Revd Ben Griffith, Bro Ardudwy Ministry Area Leader, said, "David lived in Barmouth and was one of the stalwarts of the RNLI here among other things. The funeral is at Saint John's Church, Barmouth on Friday. They are also firing the cannons at the Lifeboat Station in his memory."

Please remember the Revd Linda Bailey, the family and Bro Ardudwy in your prayers.


The King and Queen Consort

Celebrating the Coronation

Join us for our Diocesan & County Service of Prayer and Thanksgiving Sunday 30 April 6.00pm for the Coronation of Their Majesties The King and Queen.

The choir will sing music composed for and performed at previous Coronations, including Handel’s Zadok the Priest and Parry’s I was Glad.

All are welcome. Entrance is free. A drinks reception will follow.


Ffynnon Cybi | Cybi's well

Llwybr Cadfan at Cybi's Well

We look forward to the seventh instalment of the Llwybr Cadfan Literary Project which gets underway on Sunday 30 April at 2.00pm at Ffynnon Cybi, Llangybi. The whole purpose of this project is to get to know churches and communities on the Saint Cadfan's pilgrimage route from Tywyn, Meirionnydd, to Bardsey Island; where Cadfan, the sixth-century Celtic missionary is believed to have been the first abbot.

The two resident poets, Siôn Aled and Sian Northey along with local guest poets Twm Morys and Gareth Evans Jones will perform their original poems and present the background and history of Cybi the Saint and the unique Well named after him. The talented Dewi 'Pws' Morris will also be there to perform and entertain us. We hope to introduce a new perspective on this special location situated on the border between Meirionnydd and the Llŷn Peninsula, along with celebrating the local heritage and enjoying a fun afternoon. The event will be held outdoors at the Well, but should the weather be bad it will be held at Saint Cybi's Church.

To book a place click here. For more information contact elinowen@cinw.org.uk


A year of prayer

As we come to May spring is still revealing its new growth and we find ourselves part way through the Easter season. The journey to the cross has led us through the silence and into the joy and wonder of a new day, the day of resurrection. Easter Day may be behind us, but the path of life and faith stretches out before us.


Click on the photo for a printable A4 version

Archdeaconry Property Officer

We are looking for three energetic and self-motivated Archdeaconry Property Officers. The three Officers will individually be assigned to one of the Archdeaconries of the Diocese of Bangor (Môn, Bangor and Meirionydd) in order to assist the Operations team with delivering the Diocesan Vision.


Diary

30 April
Llwybr Cadfan at Saint Cybi's Well

15 May
Grŵp Elen
Our diocesan network for those working with children and families and who are seeking to reach their communities creatively
7.30pm
Zoom


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.