
Y Ddolen
31 Hydref 2021
Gŵyl yr Holl Saint
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos nesaf rydym yn gweddïo am:
Ardal Weinidogaeth
Bro Moelwyn
gan gynnwys y rhai sy’n gwasanaethu yno:
- Y Parchg Roland Barnes
- Y Parchg Hilary Savage
- Canon Tony Beacon
- Canon Stephanie Beacon
- Darllenwyr - Ian Hampson, Joan Bicks, Joan Yates, Angela Harrington and Penny Crook
- Ar gyfer - Jim Neal, Sheila Lemon, Debbie Watling, Nesta Hughes, Peter Sidebotham, Glenys Lewis, Mary Hughes, Doris Johnson, Angela Swann
Gofynnir am ein gweddïau yn arbennig am:
- geinidogaeth a chenhadaeth yr Ardal Weinidogaeth
- gweinidogaeth plant ac ailgychwyn gweithgareddau cymdeithasol wyneb yn wyneb
- beiddgarwch i gamu allan i'r arena gyhoeddus
Yr wythnos hon rydym hefyd yn gweddïo am COP26:
Greadwr ein cartref cyffredin, clyw gri’r ddaear. Mae ein byd mewn perygl dybryd, a llawer yn dioddef. Rydyn ni wedi peryglu’n presennol a’n dyfodol trwy gynhesu’r byd yn gyflym a dinistrio ei harddwch yn ddi-hid. Dyro i arweinwyr y byd obaith a dewrder o’r newydd wrth iddyn nhw ymgasglu ar gyfer COP26. Una ni oll mewn cenhadaeth gyffredin i adfer a choleddu ein hamgylchedd, ac i stiwardio adnoddau ein byd ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Bydded i’r gynhadledd hon fod yn drobwynt mewn hanes dynol, er mwyn holl bobloedd y ddaear. Amen.

Dyddiadur
Bydd yr Esgob ar ei wyliau nes dechrau cyfarfod o Grŵp Cadfan ar 3 Tachwedd. Plîs anfonwch unrhyw ohebiaith at Robert Jones, Cynorthwy-ydd yr Esgob.
3-4 Tachwedd
Grŵp Cadfan
Mae'r Esgob yn gobeithio y byddwn yn gallu bwrw ymlaen â chyfarfod wyneb yn wyneb o Grŵp Cadfan ym mis Tachwedd. Gwahoddir holl Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth a Ficeriaid ar y Cyd i fod yn bresennol. Bydd mwy o fanylion a rhaglen ar gyfer y digwyddiad ar gael yn fuan.
18 Tachwedd
Lansiad adnoddau digwyddiadau bywyd
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn cyfarfod ac yn cefnogi pobl yn ystod adegau allweddol yn eu bywydau ers dros 100 mlynedd. Mae'r digwyddiadau bywyd yma yn rhan greiddiol o'n cenhadaeth a'n gweinidogaeth.

Rali fawr dros gyfiawnder hinsawdd
Yr argyfwng hinsawdd yw pwnc pwysicaf ein dydd. Mae mynd i’r afael ag ef yn fater o frys a does dim amser i’w golli. Gall pob ohonom wneud ein rhan - yn wir, RHAID i bob un ohonom wneud ein rhan. Ond rhaid i’n llywodraeth weithredu’n sylweddol hefyd. Mae angen arnom gyfiawnder hinsawdd i’r gwledydd tlawd sy wedi gwneud cyn lleied i greu’r argyfwng sydd yn eu hwynebu nawr.
Ar 6 Tachwedd cynhelir ralïau mewn dinasoedd o amgylch y byd. Bydd sawl un yng Nghymru hefyd ac mae Cymorth Cristnogol yn galw ar i’w gefnogwyr fod yn bresennol. Cynhelir prif rali gogledd Cymru ym Mangor, ble y bydd y gorymdeithwyr yn ymgasglu yn ymyl y pier am 13:30, cyn gorymdeithio i’r Cloc ar gyfer y rali ei hun.
Ynghyd â Tearfund a CAFOD, bydd Cymorth Cristnogol yn cynnal cwrdd gweddi a pharatoi yn Eglwys Emaus, Ffordd y Cariadon, am 13:00. Bydd hyn yn gyfle i Gristnogion ymgasglu, gweddïo a chasglu eu placardiau ar gyfer y rali.
Mae amser yn treulio. Ond gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol o hyd.
Os am fwy o wybodaeth am y rali ym Mangor, cysylltwch â swyddfa Cymorth Cristnogol os gwelwch yn dda ar 029 2084 4646 neu e-bostio cymru@cymorth-cristnogol.org
Cymru yn ymuno â thon weddi 24-awr fyd-eang
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cymryd rhan yn Niwrnod Gweddi rhithiol y Cymundeb Anglicanaidd ar 30 Tachwedd, y credir ei fod y cyntaf o’i fath. Daw â phobl ynghyd o bedwar ban byd i weddïo dros fyd sy’n dioddef o bandemig Covid-19 a newid hinsawdd, yn ogystal ag anghyfiawnder, camfanteisio a rhyfel.
Mae’r Eglwys yn arwain un sesiwn hanner awr gyda ffilm o gweddïau a myfyrdodau ar thema newid hinsawdd gan bob un o’i chwech esgobaeth, yn cynnwys rhai o’i hysgolion cynradd. Cyflwynir y sesiwn gan ein Hesgob.
I ddarllen rhagor gweler wefan yr Eglwys yng Nghymru
Dyddiadau 2022
Synodau
Meirionydd - Dydd Llun
10am 14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref
Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
28 a 29 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Y Ddolen
31 October 2021
The Feast of All Saints
This Sunday and through the week we pray for:
the Ministry Area of Bro Moelwyn
including those who serve there:
- The Revd Roland Barnes
- The Revd Hilary Savage
- Canon Tony Beacon
- Canon Stephanie Beacon
- Readers - Ian Hampson, Joan Bicks, Joan Yates, Angela Harrington and Penny Crook
- For - Jim Neal, Sheila Lemon, Debbie Watling, Nesta Hughes, Peter Sidebotham, Glenys Lewis, Mary Hughes, Doris Johnson, Angela Swann
Our prayers in particular are asked for:
- the mission and ministry of the Ministry Area
- Children's ministry and the recommencing of face to face social activities
- Boldness to step out into the public arena
This week we also pray for COP26:
Creator of our common home, hear the cry of the earth. Our world stands in great peril. Many are suffering. We have put at risk present and future through the rapid warming of the earth and the careless destruction of its beauty. Give to the leaders of the world fresh hope and courage as they gather for COP26. Unite us all in a common mission to heal and cherish our environment, and steward the resources of our world for future generations. May this conference be a turning point in human history, for the sake of all the peoples of the earth. Amen.

Diary
The Bishop will be on leave until the start of Grŵp Cadfan on 3 November. Please direct any correspondence to Robert Jones, the Bishop's Assistant.
3-4 November
Grŵp Cadfan
The Bishop hopes that we will be able to go ahead with an in-person meeting of Grŵp Cadfan in November. All Ministry Area Leaders and Associate Vicars are invited to attend. More details and a programme for the event will become available soon.
18 November
Launch of life events resources
The Church in Wales has been meeting and supporting people during key moments in their lives for over 100 years. These life events represent a core part of our mission and ministry.

A rallying cry for climate justice
The climate crisis has become the most important issue of our times. Tackling it is a matter of urgency and there is no longer any room for complacency. We can all do our bit – indeed we MUST all do our bit. But we must also see concerted action by our governments. We need climate justice for those poorer countries who have done little to create the crisis they now face.
On 6 November rallies will be held in cities all over the world. Several will be held here in Wales too and Christian Aid is asking all its supporters to be present. The main north Wales rally will be in Bangor, where marchers are asked to gather at the pier at 13:30, from where they will march to the city centre clock for the rally itself.
Along with Tearfund and CAFOD, Christian Aid are holding a prayer and preparation meeting at Emaus Church, Love Lane, at 13:00. This will an opportunity for Christians to gather, pray and collect their placards for the rally.
Time is running out. But we can still make a positive difference.
For more information about the Bangor rally please contact the Christian Aid office on 029 2084 4646 or email wales@christian-aid.org
Wales joins a 24-hour global wave of prayer
The Church in Wales is taking part in the Anglican Communion virtual Day of Prayer on November 30, thought to be the first of its kind. It will bring people together from across the globe to pray for a world suffering from the Covid-19 pandemic and climate change, as well as injustice, exploitation and war.
The Church is leading one half-hour session with a film featuring prayers and reflections on the theme of climate change from each of its six dioceses, including some of its primary schools. The session will be introduced by our Bishop.
To read more please visit the website of the Church in Wales
Dates 2022
Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm 14
February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October
Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
28 - 29 March
1 - 2 December
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral
Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.