
Y Ddolen
14 Mai 2023
Chweched Sul y Pasg
Y Sul hwn a thrwy gydol yr wythnos gweddïwn dros
Bro Cadwaladr
Yn enwedig:
- gweddïwn dros Y Parchg Ganon Emlyn Williams a'r tim sy'n gweinidogaethu yn yr Ardal Weinidogaeth
- gweddïwn dros gynulleidfaoedd yr eglwysi wrth iddynt addoli a gwasanaethu yn eu cymunedau
- rhown ddiolch am lwyddiant Eglwys Beuno Sant Aberffraw am ennill gwobr efydd Eglwys Eco

Neges oddi wrth Esgob Bangor
Ymhlith yr addewidion niferus a wnaed gan y Brenin Siarl neu’r ymrwymiadau a ofynnwyd ganddo oedd y geiriau hyn: ‘Derbyniwch y Llyfr hwn, y peth mwyaf gwerthfawr a rydd y byd hwn. Dyma Doethineb; Dyma'r Gyfraith frenhinol; Dyma oraclau bywiog Duw.’ Cyflwynir Beibl i ddelweddu’r ymrwymiad hwn i’r Ysgrythur Lân fel rheol bywyd ffydd a chred. Roedd hwn yn un o lawer o eiliadau o ddyfnder go iawn a welais yn symud yn y coroni dydd Sadwrn.
Yn y misoedd sydd o'n blaenau, yr un doethineb, deddf a'r oraclau bywiog fydd eu hangen arnom i'n harwain fel eglwys. Mae cyfleoedd sylweddol yn y ffordd y bydd ein gweinidogaeth yn cael ei hariannu a’n hymrwymiad i efengylu yn cael ei ddatblygu a fydd yn gofyn am ddychymyg a dewrder newydd gennym ni. Bydd angen i ni gael ein gwreiddio yn y ffydd y mae’r Ysgrythur yn ei chrynhoi ac at waith yr Ysbryd Glân sy’n agor yr hyn sy’n gaeedig ac yn gwneud pethau newydd y deyrnas yn bosibl.
Gobeithiaf yn ein cyfnodau tawelach ein hunain gyda Duw y canfyddwn wrth ymwneud â’r Beibl yr un pethau a ddisgrifiwyd yn litwrgi’r Coroni: doethineb a chyfraith arweiniol a’r oraclau mawr sydd, heddiw, fel erioed yn fyw ac yn wir neu, yng ngeiriau y gwasanaeth, 'bywiog'.
Yr eiddoch ynddo Ef
+Andrew Cambrensis

Aelodau newydd o staff yn Nhŷ Deiniol
Dros y misoedd diwethaf bu cryn dipyn o newid yn Nhŷ Deiniol gyda rhai staff yn newid rolau, rhai yn ymuno â'r tîm ac eraill yn paratoi i adael i ddechrau hyfforddi ar gyfer ordeinio.
Mae Mererid Morgan-Williams wedi ymuno â Thŷ Deiniol fel Cynorthwyydd i’r Esgob ac Ysgrifennydd yr Esgobaeth, mae Anna Riley ac Arwyn Owen wedi ymuno â thîm Llan yn ogystal ag aelodau eraill o staff sy’n symud i rolau newydd.
Defnyddiwch y botwm isod i ddarllen manylion llawn y newidiadau staff.
Colled i Wenda Owen
Ar ddydd Sul 7 Mai bu farw yn sydyn gŵr Wenda Owen, John. Mae Wenda yn aelod gwerthfawr o nifer o bwyllgorau esgobaethol ac rydym yn ei chofio ac yn gweddïo drosti a'r teulu cyfan wrth iddynt alaru.

Wythnos Cymorth Cristnogol
Mae Archesgob Cymru yn annog pobl i gymryd rhan yn Wythnos Cymorth Cristnogol gyda gweddïau a rhoddion i gefnogi pobl ym Malawi.
Mae Wythnos Cymorth Cristnogol yn cael ei chynnal rhwng Mai 14-20 ac eleni mae’r ffocws ar brosiectau sy’n rhoi cnydau mwy caled i ffermwyr, fel y pys colomennod hynod wydn, a’u helpu i sicrhau pris tecach am eu cynnyrch. Gwahoddir cefnogwyr i gynnal digwyddiadau ar thema pys i godi arian.
Dywedodd yr Archesgob Andrew John, “Yr Wythnos Cymorth Cristnogol hon yw ein cyfle i ganolbwyntio ar ein chwiorydd a’n brodyr ym Malawi sy’n brwydro yn erbyn tlodi enbyd. Fe’ch anogaf i gefnogi eu gwaith yn eich rhoddion a’ch gweddïau fel y gellir trawsnewid eu bywydau. Plîs rhowch yn hael i apêl Cymorth Cristnogol.”
Cyfarfod Synod Bangor
Yn anffodus mae cyfarfod nesaf o Synod Bangor a Roedd I fod i ddigwydd ar 13 Mehefin wedi cael ei ohirio. Byddwn yn rhoi wybod o ddyddiad newydd yma yn Y Ddolen.

Grŵp Elen
Grŵp Elen yw’r rhwydwaith Esgobaethol ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd ac sy’n archwilio ffyrdd newydd o gysylltu â’r cymunedau o’u cwmpas.
Ar 15 Mai byddwn yn ymgynnull ar Zoom i rannu syniadau ac i weddïo. Byddwn yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn ein ffeiriau haf a sioeau amaethyddol, sut y gallwn i ddathlu gyda’r plant ym Mlwyddyn 6 sy’n symud i’r ysgol uwchradd a rhannu syniadau ar gyfer y Pentecost.
Mae manylion sut i ymuno â’r cyfarfod wedi’u cynnwys ar y dudalen Digwyddiad yma. Gallwch hefyd gysylltu â Naomi Wood am ragor o wybodaeth.
Rydym yn cynllunio i berson ddod ynghyd ar gyfer mis Medi ac yn gobeithio rhannu'r manylion yn fuan.
Swyddog Eiddo Archddiaconiaeth
Rydym yn chwilio am dri Swyddog Eiddo Archddiaconiaeth egnïol a hunan-gymhellol. Bydd y tri Swyddog yn cael eu neilltuo yn unigol i un o Archddiaconiaethau Esgobaeth Bangor (Môn, Bangor a Meirionydd) er mwyn cynorthwyo’r tîm Gweithrediadau i gyflawni Gweledigaeth yr Esgobaeth.

Dyddiadur
15 Mai
Grŵp Elen
(Rhwydwaith yr Esgobaeth y rai syn gweithio gyda plant a theuluoedd ac sy'n ceisio cyrraedd y cymunedau o'u cwmpas yn greadigol)
7.30pm
Zoom
20 Mai
Rhagarweiniad at Gyfarwyddo Ysbrydol
10.30am
Zoom
26-29 Awst
Encil ar Enlli
Penllanw prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan fydd encil 3 diwrnod ar ynys Enlli. Rhannwn rhagor o fanylion yn fuan.
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
14 May 2023
The Sixth Sunday of Easter
This Sunday and through the week we pray for
Bro Cadwaladr
In particular we:
- pray for the Revd Emlyn Williams and the team who minister in the Ministry Area
- pray for the congregations of the churches as they worship in and serve their local communities
- give thanks for the success of Saint Beuno's Church, Aberffraw on being awarded a bronze Eco Church award

A message from the Bishop of Bangor
Among the many promises made by or commitments asked of King Charles were these words: ‘Receive this Book, the most valuable thing that this world affords. Here is Wisdom; This is the royal Law; These are the lively oracles of God.’ A Bible is presented to visualize this commitment to Holy Scripture as the rule of life for faith and creed. This was one of many moments of real depth I found moving at Saturday’s coronation.
In the months which lie ahead it is this same wisdom, law and the lively oracles we will need to guide us as a church. There are significant opportunities in the way our ministry will be funded and our commitment to evangelism developed which will ask for new imagination and courage from us. We will need to be rooted in the faith that Scripture encapsulates and to the work of the Holy Spirit who opens what is closed and makes possible the new things of the kingdom.
I hope that in our own quieter times with God we discover in engaging with the Bible the same things described in the Coronation liturgy: wisdom and guiding law and the great oracles which, today, as ever are living and true or, in the words of the service, ‘lively’.
Yours in Him
+Andrew Cambrensis

New members of staff at Tŷ Deiniol
Over recent months there has been a fair bit of change at Tŷ Deiniol with some staff changing roles, some joining the team and others preparing to leave to begin training for ordination.
Mererid Morgan-Williams has joined Tŷ Deiniol as Assistant to the Bishop and Diocesan Secretary, Anna Riley and Arwyn Owen have joined the Llan team in addition to other members of staff moving to new roles.
Please use the button below to read the full details of the staff changes.
A bereavement for Wenda Owen
On Sunday 7 May Wenda Owen's husband, John, died suddenly. Wenda is a valued member of several diocesan committees and we remember her and pray for her and the whole family as they mourn.

Christian Aid week
The Archbishop of Wales is urging people to take part in Christian Aid Week with prayers and donations to support people in Malawi.
Christian Aid Week takes place from May 14-20 and this year the focus is on projects which provide farmers with hardier crops, such as the super-resilient pigeon pea, and help them secure a fairer price for their produce. Supporters are invited to hold pea-themed events to raise money.
Archbishop Andrew John said, “This Christian Aid Week is our chance to focus on our sisters and brothers in Malawi who are battling desperate poverty. I urge you to support their work in your donations and your prayers so their lives can be transformed. Please give generously to the Christian Aid appeal.”
Bangor Synod
Unfortunately the meeting of Bangor Synod that was due to take place on 13 June has been postponed. We will announce a new date here in Y Ddolen when one has been set.

Grŵp Elen
Grŵp Elen is the Diocesan network for all those who are working with children, young people and their families and who are exploring new ways of connecting with the communities around them.
On 15 May we will be gathering together on Zoom to share ideas and to pray. We will be looking at what we might be able to do in our summer fairs and agricultural shows, how me might celebrate with the children in Year 6 who are moving to secondary school and sharing ideas for Pentecost.
Details of how to join the meeting are included on the Event page here. You can also contact Naomi Wood for further information.
We are planning an person gathering for September and hope to share the details soon.
Archdeaconry Property Officer
We are looking for three energetic and self-motivated Archdeaconry Property Officers. The three Officers will individually be assigned to one of the Archdeaconries of the Diocese of Bangor (Môn, Bangor and Meirionydd) in order to assist the Operations team with delivering the Diocesan Vision.

Diary
15 May
Grŵp Elen
Our diocesan network for those working with children and families and who are seeking to reach their communities creatively
7.30pm
Zoom
20 May
Introduction to being Spiritual Director
10.30
Zoom
26-29 August
Enlli retreat
This is the pinnacle of the Llwybr Cadfan Literary project.
More details will be shared soon.
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.