
Y Ddolen
21 Mai 2023
Seithfed Sul y Pasg
Y Sul hwn a thrwy gydol yr wythnos gweddïwn dros
Bro Cyngar
Yn enwedig:
- diolchwn am wasanaeth ffyddlon y gwirfoddolwyr ym Mro Cyngar ac ar draws yr Esgobaeth sy’n dal swyddi o fewn y plwyf a’r rhai sy’n gweithio’n dawel yn y cefndir i wneud ein heglwysi'r hyn ydynt
- gofynnwn am dywalltiad newydd o’r Ysbryd Glân i fywiogi ein haddoliad, dyfnhau ein disgyblaeth, a chryfhau ein gwasanaeth yn y byd
- gweddïwn am ddatblygiad a thwf pellach ‘Panad yn y Pandy’ – y cydweithio rhwng Bro Cyngar a Chapel Cildwrn sydd wedi tyfu allan o fenter Mannau Cynnes

Neges oddi wrth Esgob Bangor
Annwyl gyfeillion
Ar ddydd Iau yr wythnos ddiwethaf yma buom yn dathlu Dyrchafael Iesu Grist. Mae'r adroddiadau yn y Testament Newydd yn dweud wrthym fod hwn yn achlysur llawer mwy o gyrhaeddiad Iesu nag ymadawiad yn yr ystyr bod ei ddyfodiad at y Tad yn nodi cwblhad ei waith daearol fel yr Arglwydd Atgyfodedig. Yr oedd ei esgyniad wedi ei nodi yn gywir gan ryfeddod a llawenydd.
Mae rhai o’n hemynau gorau yn mynd â ni at wraidd yr hyn y mae hyn yn ei olygu: ‘Y clwyfau hynny sydd eto i’w gweld uchod mewn harddwch a ogoneddwyd...’ sy’n cyflwyno’r gwirionedd rhyfeddol bod dynoliaeth Iesu ei hun wrth galon Duw. Ac yr ydym ninnau felly, yng Nghrist, hefyd yn eistedd ar ei ddeheulaw Ef, nid yn ddieithriaid mwyach, ond yn bresennol yng ngwledd fawr yr Oen.
Mae'n hawdd anghofio maint yr hyn y mae Duw wedi'i wneud ar ein rhan. Rydym yn gweld ein ffydd yn ei hanfod fel mater o wneud daioni a'i ddilyn Ef. Mae'r cyfan yn wir wrth gwrs ond mae Cristnogaeth yn dechrau gyda’r hyn mae Duw wedi’i wneud i ni yng Nghrist Iesu ac mae hyn yn fwy nag y gallem ei ofyn na’i ddychmygu!
Gobeithio y bydd eich addoliad y Sul hwn yn llawn llawenydd a rhyfeddod.
Fel erioed
+Andrew Cambrensis

Deled Dy Deyrnas
Mudiad gweddïo eciwmenaidd byd-eang yw Deled Dy Deyrnas sy’n gwahodd Cristnogion ledled y byd i weddïo am fwy o bobl i ddod i adnabod Iesu. Mae’r hyn a ddechreuodd yn 2016 fel gwahoddiad gan Archesgobion Caergaint a Chaerefrog i Eglwys Loegr wedi tyfu i fod yn alwad ryngwladol ac eciwmenaidd i weddi. Yn benodol, y gwahoddiad yw i bob Cristion ar draws y byd weddïo y gallai Ysbryd Duw weithio ym mywydau 5 o bobl nad ydynt wedi ymateb gyda’u ‘Ie’ i alwad Duw.
Mae Deled Dy Deyrnas yn rhedeg o Ddydd y Dyrchafael at Pentecost.
Meddai’r Parchg Kevin Ellis, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Madryn:
Ym Mro Madryn, rydym wedi dyfeisio dyddiadur gweddi, lle gweddïwn dros gymunedau arbennig yn yr Ardal Weinidogaeth, ac Ardaloedd Gweinidogaeth eraill yn ein Harchddiaconiaeth. Rydyn ni’n ymwybodol ei bod hi’n amser hefyd i weddïo am dwf, felly rydyn ni’n gweddïo’n fwriadol am bump o’n ffrindiau i ddod ar draws Iesu. Rydym yn gweddïo dros ein Harchesgob, ein hesgobaeth, a thros dwf. Gobeithiwn y gweddïwch drosom ninnau hefyd.
Ochr yn ochr â hyn, mae Kevin wedi cynhyrchu llyfryn astudio sy’n myfyrio ar y darnau o’r Actau a ddefnyddir yn y geiriadur ar hyn o bryd, gan gofio iddo agor yr ysgrythurau i’w ddisgyblion wrth i Iesu esgyn.
Mae mwy am Deled Dy Deyrnas i’w gweld ar eu gwefan sy’n cynnwys Novena – adnodd addoli i’n harwain drwy’r amser hwn sydd ar gael yn Gymraeg. Cliciwch ar y botwm isod i weld dogfen Nawen.

Llongyfarchiadau Bro Dwynwen
Mae rhai o Eglwysi Bro Dwynwen yn Archddiaconiaeth Môn wedi llwyddo i ennill gwobrwyon Eglwysi Eco.
Meddai'r Parchg Llew Moules-Jones, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen,
Braint a phleser o'r mwyaf i mi yw cael llongyfarch tair o Eglwysi cydwybodol Bro Dwynwen ar ennill dwy wobr Efydd ac un wobr Arian fel rhan o'r prosiect Eglwysi Eco yn ddiweddar.
Darllenwch erthygl fer gan y Parchg Llew Moules-Jones yma.

Y Parchg Sue Matthews
Bydd rhai ohonom yn cofio Sue Matthews sef gwraig y Parchg John Matthews a fuodd yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Ogwen cyn ddynt symud i Seland Newydd yn 2019.
Ar 20 Mai mi fydd Sue yn cael ei hordeinio yn y Gadeirlan yn Waiapu. Cofiwch hi yn eich gweddïau.
Y Cam Nesaf
Mae Scripture Union wedi bod yn gwerthu’r adnodd Y Cam Nesaf ers sawl blwyddyn ac mae’n adnodd ardderchog i’w ddefnyddio gyda’r plant yn ein hysgolion sydd ar fin gadael Blwyddyn 6 i ddechrau’r ysgol uwchradd. Mae'r adnodd ar gael yn Gymraeg.
I ddarganfod mwy ac i fanteisio ar y gostyngiad presennol cliciwch ar y botwm isod.

Dyddiadur
20 Mai
Rhagarweiniad at Gyfarwyddo Ysbrydol
10.30am
Zoom
26-29 Awst
Encil ar Enlli
Penllanw prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan fydd encil 3 diwrnod ar ynys Enlli. Rhannwn rhagor o fanylion yn fuan.
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
21 May 2023
The Seventh Sunday of Easter
This Sunday and through the week we pray for
Bro Cyngar
In particular we:
- give thanks for the faithful service of the volunteers in Bro Cyngar and across the Diocese who hold offices within the parish and those who work quietly in the background to make our churches what they are
- pray for a fresh outpouring of the Holy Spirit to enliven our worship, deepen our discipleship, and strengthen our service in the world
- pray for further development and growth of ‘Panad in the Pandy’ - the collaboration between Bro Cyngar and Capel Cildwrn which has grown out of the Warm Spaces initiative

A message from the Bishop of Bangor
Dear friends
On Thursday this last week we celebrated the Ascension of Jesus Christ. The accounts in the New Testament tell us this was much more an occasion of Jesus arriving than departing in the sense that his coming to the Father marked the completion of his earthly work as the Risen Lord. His ascension was rightly marked by wonder and joy.
Some of our best hymns take us to the heart of what this means: 'Those wounds yet visible above in beauty glorified...' present the extraordinary truth that Jesus' own humanity resides at the very heart of God. And we, in Christ, are therefore also seated at His right hand, no longer strangers but present at the great banquet of the Lamb.
It is easy to forget the magnitude of what God has done on our behalf. We see our faith essentially as a matter of doing good and following Him. All true of course but Christianity begins with what God has done for us in Christ Jesus and this is more than we could ask or imagine!
I hope your worship this Sunday is full of joy and wonder.
As ever
+Andrew Cambrensis

Thy Kingdom Come
Thy Kingdom Come is a global ecumenical prayer movement that invites Christians around the world to pray for more people to come to know Jesus. What started in 2016 as an invitation from the Archbishops of Canterbury and York to the Church of England has grown into an international and ecumenical call to prayer. Specifically the invitation is for each and every Christian across the globe to pray that God’s Spirit might work in the lives of 5 people who have not responded with their ‘Yes’ to God’s call.
Thy Kingdom Come runs from Ascension Day to Pentecost.
The Revd Kevin Ellis, Ministry Area Leader in Bro Madryn, says:
In Bro Madryn, we have devised a prayer diary, in which we pray for particular communities in the Ministry Area, and other Ministry Areas in our Archdeaconry. We are aware that it is a time too to pray for growth, so we are intentionally praying for five of our friends to encounter Jesus. We are praying for our Archbishop, our diocese, and for growth. We hope you will also pray for us.
Alongside this, Kevin has produced a study booklet reflecting on the passages from Acts that are used in the lectionary at this time, mindful that as Jesus ascended he opened the scriptures to his disciples.
More about Thy Kingdom Come can be found on their website which includes Novena - a worship resource to guide us through this time. It is also available in Welsh. Click the button below to view the Novena document.

Congratulations to Bro Dwynwen
Three of Bro Dwynwen's churches were recently awarded bronze and silver Eco Church awards.
The Revd Llew Moules-Jones, Ministry Area Leader of Bro Dwynwen in the Archdeaconry of Anglesey says,
It is a great privilege and pleasure for me to congratulate three conscientious Bro Dwynwen Churches on winning two Bronze awards and one Silver award as part of the Eco Churches project recently.
Llew has written a brief article about the process which you can read here.

The Revd Sue Matthews
Some of us will remember Sue Matthews, wife of the Revd John Matthews who was the Ministry Area Leader of Bro Ogwen before they moved to New Zealand in 2019.
On 20 May Sue will be ordained in the Cathedral in Waiapu. Remember her in your prayers.
It's Your Move
Scripture Union have been selling the It's Your Move resource for several years and it s an excellent resource to use with the children in our schools who are about to leave Year 6 to begin secondary school. The resource is also available in Welsh.
To find out more and to take advantage of the current discount click the button below.

Diary
20 May
Introduction to being Spiritual Director
10.30
Zoom
26-29 August
Enlli retreat
This is the pinnacle of the Llwybr Cadfan Literary project.
More details will be shared soon.
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.