minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Mynydd Parys ym Mro Eleth, Archddiaconiaeth Môn | Parys Mountain in Bro Eleth, Archdeaconry of Anglesey
English

Y Ddolen


28 Mai 2023

Y Sulgwyn


Y Sul hwn a thrwy gydol yr wythnos gweddïwn dros

Bro Eleth

Yn enwedig:

  • gweddïwn dros y Parchg Jenny Clarke, y Parchg Pauline Jones, y darllenydd lleyg, yr arweinydd addoliad, wardeiniaid yr Ardal Weinidogaeth a phawb sy’n cynnig unrhyw fath o arweiniad o fewn yr Ardal Weinidogaeth
  • gweddïwn am ddoethineb, gweledigaeth a brwdfrydedd wrth i ni geisio cynllunio ar gyfer y dyfodol ym Mro Eleth
  • rhown ddiolch i bawb sy’n cymryd rolau a chyfrifoldebau ar draws ein heglwysi a Neuadd Moelfre i wasanaethu’r eglwys, y gymuned a chadw ein heglwysi ar agor i bawb eu mwynhau
  • gweddïwn dros fentrau sydd ar ddod gan gynnwys prosiectau adeiladu, cyfleoedd gweinidogaeth newydd a Champing

Neges oddi wrth Esgob Bangor

Annwyl gyfeillion,

Cyfarchion atoch o'r Tiroedd Sanctaidd, lle'r wyf ar hyn o bryd ar Bererindod yn ceisio deall y sefyllfa sy'n cyflwyno ei hun yma. Rydym wedi profi cariad a lletygarwch rhai pobl wych ond hefyd y tensiwn a'r anawsterau a brofir yn feunyddiol gan lawer o'r Cristnogion o fewn y tiroedd hyn.

Yr wythnos hon byddwn yn dathlu'r Pentecost. Byddwn yn cofio Duw yn anfon ei Ysbryd Glân i ddod â’r disgyblion ynghyd fel Un. Yr hyn a'u rhannodd yn awr oedd yr union beth a'u hunodd. Yng Nghrist, daethant o hyd i undod newydd a dyfnder o gariad a pherthyn a drawsnewidiodd y byd.

Fy ngobaith a’m gweddi drosom fel Esgobaeth yw y bydd Duw yn anfon ei Ysbryd Glân unwaith eto i’n dwyn i gyflawnder bywyd y mae Iesu’n ei addo. Ei allu ef ynom, er gwaethaf ein gwendidau, sy'n gwneud ein tystiolaeth i'r byd yn bosibl.

Daw hyn atoch oll gyda fy nghariad a'm gweddïau.

+Andrew Cambrensis

Gorsedd yr Eisteddfod

Mae Esgob Bangor ac Archesgob Cymru yn cael ei urddo i'r Gorsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Yn fras, cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yw Gorsedd y Beirdd.

Mae'r gwisg las a derbyniwyd gan yr Archesgob ar gyfer rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig i'w bro neu i'r genedl a thrwy anrhydedd ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth neu'r cyfryngau.


Eglwysi'n Cyfrif ar Natur ym Mrynsiencyn

Mae dydd Sadwrn 3 i ddydd Sul 11 Mehefin 2023 yn wythnos Caru Eich Mynwent sy’n cynnwys y prosiect Eglwysi’n Cyfrif ar Natur. Mae Eglwysi’n Cyfrif ar Natur yn brosiect sy’n canolbwyntio ar y bywyd gwyllt gwych sydd i’w gael mewn mynwentydd a mynwentydd capeli. Mae’n fenter ar y cyd a hyrwyddir gan Gofalu am Erw Duw, yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr, ac A Rocha UK.

Am fersiwn mwy o'r poster am y diwrnod ym Mrynsiencyn cliciwch ar y llun uchod.


Eglwysi yn llawn o blant

Mae grwpiau rhieni a phlant bach wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd lawer. Maent yn cynnig cyfleoedd i rieni a gofalwyr plant ifanc ddod at ei gilydd, i sgwrsio, i rannu cyngor a phryderon. Mantais arall y grwpiau hyn yw’r cymdeithasu y mae’r plant yn ei chael gyda’u cyfoedion – rhywbeth na lwyddodd llawer o blant i’w wneud yn ystod y pandemig.

Ar draws yr Esgobaeth mae gennym nifer o grwpiau plant bach sy'n cynnig cefnogaeth hanfodol i rieni a phlant. Mae Bro Cyfeiliog a Mawddwy, Bro Deiniol a Bro Tysilio yn rhannu newyddion da gan eu grwpiau plantos yn yr erthygl newyddion isod.


Gŵyl cefyddydau a farddoniaeth, Aberdaron

Mae’r Parchg Ddr Malcolm Guite a fu’n pregethu yn y Gadeirlan yn ystod wythnos y Pasg yn dychwelyd i’r Esgobaeth.
Fel rhan o 9fed Gŵyl Farddoniaeth a Chelfyddydau Flynyddol bydd yn arwain gweithdy ysgrifennu barddoniaeth. Bydd Malcolm hefyd yn siarad am RS Thomas, Wordsworth a Coleridge ac yn perfformio mewn cyngerdd gyda Twm Morys a Gwyneth Glyn. Bydd yn gorffen ei amser yn pregethu yn Aberdaron Sant Tywyn ar ddydd Sul 18 Mehefin.


Dyddiadur

26-29 Awst
Encil ar Enlli
Dyma penllanw prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


28 May 2023

Pentecost


This Sunday and through the week we pray for

Bro Eleth

In particular we:

  • pray for the Revd Jenny Clarke, the Revd Pauline Jones, the lay reader, worship leader, Ministry Area wardens and all who offer any kind of leadership within the Ministry Area
  • pray for wisdom, vision and enthusiasm as we seek to plan for the future in Bro Eleth
  • give thanks for all who take on roles and responsibilities across our churches and Neuadd Moelfre Hall to serve the church, the community and keep our churches open for all to enjoy
  • pray for upcoming ventures including building projects, new ministry opportunities and Champing

A message from the Bishop of Bangor

Dear friends,

Greetings to you from the Holy Lands, where I am currently on a Pilgrimage seeking to understand the situation which presents itself here. We have experienced the love and hospitality of some wonderful people but also the tension and the difficulties experienced on a daily basis by many of the Christians within these lands.

This week we will celebrate Pentecost. We will remember God sening his Holy Spirit to bring the disciples together as One. What formally might have divided them now became the very thing which united them. In Christ, they found a new unity and a depth of love and belonging which transformed the world.

My hope and our prayer for us as a Diocese is that God will send his Holy Spirit once more to bring us into the fullness of life which Jesus promises. It is his power within us, despite our weaknesses, which makes our witness to the world possible.

This comes to you all with my love and my prayers.

+Andrew Cambrensis

The Eisteddfod Gorsedd

The Bishop of Bangor and Archbishop of Wales is being admitted to the Gorsedd at the National Eisteddfod this year in recognition of his commitment to Welsh culture and language.

Broadly speaking, Gorsedd y Bairdd is an association of poets, writers, musicians, artists and others who have made a contribution to Wales, the Welsh language and its culture.

The blue dress received by the Archbishop is for those who have given special service to their locality or to the nation and through honor in the world of law, science, sport, journalism or the media.


Churches Count on Nature in Brynsiencyn

Saturday 3 to Sunday 11 June 2023 is Love your Burial Ground week which includes the Churches Count on Nature project. Churches Count on Nature is a project which focuses on the brilliant wildlife to be found in churchyards and chapel yards. It is a is a joint initiative promoted by Caring for God’s Acre, the Church in Wales, the Church of England, and A Rocha UK.

For a larger version of the poster about the day in Brynsiencyn please click on the poster above.


Churches full of children

Parent and toddler groups have been around for many, many years. They offer opportunities for parents and carers of young children to gather together, to chat, to share advice and concerns. Another benefit of these groups is the socialising the children get to do with their peers – something many children missed out on doing during the pandemic.

Across the Diocese we have several toddler groups which are offering vital support to parents and children. Bro Cyfeiliog a Mawddwy, Bro Deiniol and Bro Tysilio share good news from their toddler groups in the news article below.


Poetry & Arts Festival, Aberdaron

The Revd Dr Malcolm Guite who preached in the Cathedral during Easter week is returning to the Diocese.
As part of the 9th Annual Poetry & Arts Festival he will be leading a poetry writing workshop. Malcolm will also be speaking about RS Thomas, Wordsworth and Coleridge and will perform in a concert with Twm Morys & Gwyneth Glyn. He will end his time preaching at Saint Tywyn's Aberdaron on Sunday 18 June.


Diary

26-29 August
Enlli retreat
This is the pinnacle of the Llwybr Cadfan Literary project.


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.