
Y Ddolen
25 Mehefin 2023
Y Trydydd Sul wedi'r Drindod
Y Sul hwn a thrwy gydol yr wythnos gweddïwn dros
Bro Beuno Sant Uwch Gwyrfai
Rhown diolch am:
- frwdfrydedd ac ymrwymiad ein harweinwyr addoli lleyg a Chyngor rhagorol yr Ardal Weinidogaeth
- annogaeth o ddatblygiadau yn ein gweinidogaeth gyda phlant a phobl ifanc gyda’r niferoedd uchaf erioed yn oedfaon y Pasg a chynulliadau hyfryd prynhawn Sul
- y fraint o gynnig lletygarwch a chyfeiliant ysbrydol anffurfiol i niferoedd cynyddol o bererinion ac ymwelwyr
Gweddïwn dros:
- y Parchg Selwyn Griffith – a fydd yn cael ei urddo’n offeiriad ar ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf ac yn llywyddu’r cymun am y tro cyntaf y diwrnod canlynol
- darlith er cof am y Parch. Lloyd Jones i'w chynnal yng Nghlynnog yn ystod wythnos yr Eisteddfod
- canllawiau ac adnoddau mewn perthynas â’n gweledigaeth i annog galwedigaethau a datblygu gweinidogaeth Gymraeg ffyniannus.
- partneriaethau gyda chapeli, ysgolion a sefydliadau lleol eraill, yn enwedig mewn perthynas â gofalu am y greadigaeth ac ymateb dychmygus a gobeithiol i’r argyfwng hinsawdd.

Neges oddi wrth Esgob Bangor
Annwyl gyfeillion
Bydd gwasanaethau ordeinio niferus yn cael eu cynnal dros y pythefnos nesaf. Dwi'n ordeinio yn Nhyddewi y penwythnos yma ac ym Mangor penwythnos nesa. Bydd y rhain yn wasanaethau llawen i ffrindiau a theulu ond yn bennaf oll i’r rhai sy’n cael eu galw i wasanaethu yn y weinidogaeth ordeiniedig. Byddwn yn rhoi dwylo ar gydweithwyr newydd ac yn galw ar yr Ysbryd Glân, Rhoddwr Bywyd, i ddod i lawr a grymuso ar gyfer gwaith y gwasanaeth.
Ac mae'r weinidogaeth hon, sydd mor amrywiol ac wedi'i mynegi'n unigryw o fewn pob person, hefyd yn syml iawn. Mae ordeinio yn fodd i Dduw estyn allan at bobl. Mae yma fraint a chyfrifoldeb: fe’n gelwir gan Grist i’w gynrychioli mewn ffordd arbennig ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae arnom angen y gras hwnnw yn barhaus sy’n ein galluogi i gyfleu trugaredd a daioni Duw i’n byd.
Rwy’n gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni yn ein Cadeirlan ac i weddïo dros y rhai sy’n cymryd y cam pwysig nesaf hwn yn eu bywydau.
Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw
+Andrew Cambrensis

Dathlu Laura Ashley yng Ngharno
Dros benwythnosf 26, 27 a 28 Mai 2023 croeawodd Eglwys Carno arddangosfa o ddillad Laura Ashley. Mae enw Laura Ashley yn gyfystyr â phentref Carno a thros y blynyddoedd mae Sefydliad Teulu Ashley wedi rhoi cefnogaeth hael i eglwys Sant Ioan Fedyddiwr. Mae Laura a'i gŵr Syr Bernard Ashley yn cael eu rhoi i orffwys ym mynwent eglwys Carno. Felly roedd yn briodol dathlu'r cysylltiad hwn yn yr eglwys.
Darllenwch rhagor am y penwythnos trwy glicio ar y botwm isod.

Y Parchg Andrew Sully yn seiclo Lôn Las Cymru o Gaergybi i Gaerdydd
Mae’r Parch Sully wedi cyhoeddi y bydd ef a thri ffrind yn herio Lôn Las Cymru – y Ffordd Werdd Gymreig – er budd prosiectau sy’n brwydro yn erbyn materion fel anghyfiawnder hinsawdd.
Mae Andrew yn feiciwr brwd a bydd yn marchogaeth o Gaergybi i Gaerdydd, o 1-4 Gorffennaf, gyda’i ffrindiau John ac Ann Musgrave a Rhun ap Robert.
Dywed Andrew:
Rwy’n teimlo’n gryf am anghyfiawnder hinsawdd ac rwyf hefyd yn awyddus i weld mwy o bobl yn mynd allan ym myd natur trwy gerdded neu feicio. Teimlais fod yr her hon yn ffordd dda o godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer pob math o brosiectau cynaliadwy.
I ddarganfod mwy ac i wneud cyfraniad ewch i dudalen Just Giving ar gyfer yr her.
Gwobrwyau Eglwys Cenedlaethol
Mae gwefan Gwobrau Cenedlaethol yr Eglwys yn dweud:
“Mae gan eglwysi stori ryfeddol i’w hadrodd – o’u hadeiladau hardd i’r gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n eu cadw ar agor ac yn gwasanaethu pobl leol – ond mae angen cymorth arnynt. Gyda dyfodol llawer o eglwysi yn ansicr ac o dan fygythiad, ni fu erioed amser pwysicach. i ddathlu eglwysi’r DU a’u pwysigrwydd i gymunedau.”
Fe'ch gwahoddir i enwebu eich eglwys yn y categorïau canlynol:
- Gwobrau pensaernïaeth eglwysig
- Gwobrau cynnal a chadw eglwysi
- Gwobrau twristiaeth eglwysig
- Gwobrau gwirfoddolwyr eglwysig
- Gwobr Cyfeillion
- Gwobr Eglwys y Flwyddyn
I ddarganfod mwy ac i enwebu eich eglwys ewch i wefan Gwobrau Cenedlaethol yr Eglwys gan ddefnyddio'r botwm isod.

Atgoffa: Pwyntiau Gwefru Trydan
A oes gan eich eglwys ddiddordeb mewn ymchwilio i'r posibilrwydd o osod pwyntiau gwefru trydan (EV)?
Mae Dr Julia Edwards, Hyrwyddwr Newid Hinsawdd yng nghamau cynnar y trafodaethau ynghylch gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ym meysydd parcio eglwysi ac ar dir arall. Rydym yn ceisio darganfod y diddordeb gan eglwysi sy'n awyddus i archwilio'r posibilrwydd o bwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Mae'r ddolen isod i ffurflen Survey Monkey a fydd yn cymryd tua 10 munud i'w chwblhau. Rydym yn croesawu pob cyflwyniad erbyn dydd Gwener, 30 Mehefin.
Dyddiadur
1 Gorffennaf
Gwasaneth o Ordinasiwn
11.00am
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
26-29 Awst
Encil ar Enlli
Dyma penllanw prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
25 June 2023
The Third Sunday after Trinity
This Sunday and through the week we pray for
Bro Beuno Sant Uwch Gwyrfai
We give thanks for:
- the enthusiasm and commitment of our lay worship leaders and excellent Ministry Area Council
- encouraging developments in our ministry with children and young people with record numbers at Easter services and some lovely Sunday afternoon gatherings
- the privilege of offering hospitality and informal spiritual accompaniment to growing numbers of pilgrims and visitors
Please pray for:
- the Revd Selwyn Griffith – who will be ordained priest on Saturday 1 July and preside at communion for the first time the following day
- the lecture in memory of the Revd Lloyd Jones to be held at Clynnog during Eisteddfod week
- guidance and resourcing in relation to our vision to encourage vocations and develop thriving Welsh language ministry
- partnerships with chapels, schools and other local organisations, especially in relation to care for creation and an imaginative and hopeful response to the climate crisis.

A message from the Bishop of Bangor
Dear friends
Numerous services of ordination will take place over the next fortnight. I am ordaining in St Davids this weekend and in Bangor next weekend. These will be joyful services for friends and family but most of all for those called to serve in the ordained ministry. We will lay hands on new colleagues and invoke the Holy Spirit, Giver of Life, to come down and empower for the work of service.
And this ministry, so diverse and expressed uniquely within each person, is also very simple. Ordination is a means by which God reaches out to people. There is privilege and responsibility here: we are called by Christ to represent him in a particular way but we cannot do this on our own. We are constantly in need of that grace which enables us to convey the mercy and goodness of God to our world.
I hope you will be able to join us in our Cathedral and to pray for those taking this next important step in their lives.
Grace to you and peace from God
+Andrew Cambrensis

Celebrating Laura Ashley in Carno
Over the weekend of 26, 27 and 28 May 2023 Carno Church welcomed an exhibition of Laura Ashley clothes. Laura Ashley's name is synonymous with the village of Carno and over the years the Ashley Family Foundation has given generous support to the church of Saint John the Baptist. Laura and her husband Sir Bernard Ashley are laid to rest in Carno churchyard. So it was appropriate to celebrate this connection in the church.
Read more about the weekend by clicking the button below.

The Revd Andrew Sully cycles Lôn Las Cymru from Holyhead to Cardiff
Rev Sully has announced he and three friends will be taking on Lôn Las Cymru – the Welsh Green Way – in aid of projects combating issues like climate injustice.
Andrew is a keen cyclist and will be riding from Holyhead to Cardiff, from 1-4 July, with friends John and Ann Musgrave and Rhun ap Robert.
Andrew says:
I feel strongly about climate injustice and am also keen to see more people getting out and about in nature by walking or cycling. I felt this challenge was a good way of raising funds and awareness for all kinds of sustainable projects.
To find out more and to make a donation please visit the Just Giving page for the challenge
National Church Awards
The National Church Awards website says:
"Churches have an amazing story to tell – from their beautiful buildings to the dedicated volunteers who keep them open and serving local people – but they need help. With the future of many churches uncertain and under threat, there has never been a more important time to celebrate the UK’s churches and their importance to communities."
You are invited to nominate your church in the following categories:
- Church architecture awards
- Church maintenance awards
- Church tourism awards
- Church volunteer awards
- Friends award
- Church of the year award
To find out more and to nominate your church please visit the National Church Awards website using the button below.

Reminder: Electric Charging Points
Is your church interested in investigating the possibility of having electric (EV) charging points installed?
Dr Julia Edwards, Climate Change Champion is in the early stage of discussions with Parish Buying regarding the installation of EV charging points in church car parks and on other land. We are seeking expressions of interest from churches keen on exploring the possibility of EV Charging points.
The link below is to a Survey Monkey form that will take approximately 10 minutes to complete. Please note, we welcome all submissions by Friday, 30 June.
Diary
1 July
Ordination service
11.00am
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
26-29 August
Enlli retreat
This is the pinnacle of the Llwybr Cadfan Literary project.
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.