minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Y Ddolen


9 Gorffennaf 2023

Y Pumed Sul wedi'r Drindod


Y Sul hwn a thrwy gydol yr wythnos gweddïwn dros

y rhai a chafodd eu hordeinio ar 1 Gorffennaf

  • Helen Franklin - Offeiriad
  • Selwyn Griffith - Offeiriad
  • Glenys Samson - Ddiacon
  • Andy Broadbent - Ddiacon
  • Josie Godfrey - Ddiacon

Gweddïwn, wrth iddynt gychwyn ar eu gweinidogaethau newydd, y byddent yn teimlo o’r newydd alwad Duw ar eu bywydau. Bydded iddynt amlhau mewn ffydd, gwreiddio mewn cariad a cheisio gogoniant Duw, yn awr ac am byth.


Archddiacon Môn | Archdeacon of Anglesey John Harvey

Neges oddi wrth Archddiacon Môn

Mae ‘Beth yw eich gobeithion ar gyfer cam nesaf eich taith?’ yn gwestiwn rydw i newydd ei wynebu ar ddiwedd cwrs wythnos o hyd yn Nant Gwrtheyrn yng nghwmni pobl hyfryd. Gofynnir i bob un ohonom beth yr ydym yn bwriadu ei wneud gyda’r sgiliau yr ydym wedi bod yn eu datblygu, a’r hyn yr ydym yn gobeithio y bydd yn datblygu o’r holl waith sydd wedi’i wneud, nid yn unig yn y dyddiau diwethaf ond hefyd yn y blynyddoedd sydd wedi arwain i fyny at nawr.

Dros yr wythnosau diwethaf, fi sydd wedi bod yn gofyn y cwestiwn hwnnw yn Archddiaconiaeth Môn, ‘Beth yw eich gobeithion ar gyfer cam nesaf eich taith?’. Yng nghwmni grŵp arall o bobl hyfryd, rwyf wedi bod yn cadeirio’r drafodaeth i baratoi’r proffil ar gyfer Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd. Mae wedi bod yn hynod ddiddorol clywed beth yw gobeithion pobl ar gyfer y dyfodol, clywed beth sydd wedi datblygu yno yn ystod y blynyddoedd diwethaf, pa gyflawniadau y maent am eu gweld yn ffynnu ymhellach, a pha bethau newydd allai ddigwydd.

Yn Hwyrol Weddi yr wythnos hon clywais Iesu yn tynnu’r edafedd meddwl hyn at ei gilydd ac yn gosod ei hun yn eu canol. Ar ddiwedd Luc pennod 18 mae Iesu yn ymateb i waedd Bartimeus, y dyn o Jericho sy’n cardota oherwydd ei fod yn ddall, gyda chwestiwn, ‘Beth wyt ti eisiau i mi ei wneud i ti?’. Mae gen i bob math o syniadau am y camau dwi am eu cymryd ar ôl cyrraedd adref o Nant Gwrtheyrn, a bydd gan bobl yr Ardal Weinidogaethol bob math o freuddwydion i’r dyfodol – pob un yn dda ac yn deilwng. Y cwestiwn y mae angen imi ei glywed serch hynny, a phob un ohonom yn ein Hardaloedd Gweinidogaeth a’n hesgobaeth, yw’r un hynod obeithiol a heriol hwn gan Iesu, ‘Beth ydych chi am i mi ei wneud i chi?’ Ceisiwch ei ailadrodd yn araf, gyda’r pwyslais ar air gwahanol bob tro. Gall amser a dreulir mewn gweddi gyda’r cwestiwn hwnnw arwain a newid nid yn unig ni ond y byd hefyd, y mae Duw yn ei garu gymaint. Bydded i'r Ysbryd ein bendithio a'n harwain wrth inni weddïo.


Eglwys y Santes Fair, Ynys Tysilio

Gŵyl Tysilio

11-16 Gorffennaf

Gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys teithiau cerdded barddoniaeth, datganiadau, adrodd straeon, Cerddi & Prosecco, a llawer mwy mae digon i'w wneud yr wythnos hon ar Ynys Tysilio ym Mhorthaethwy. Am y rhaglen lawn o ddigwyddiadau cliciwch ar y lluniau isod neu defnyddiwch y botwm i weld gwefan Cyfeillion Ynys Tysilio.

Cliciwch ar y llun i'w ymledu
Cliciwch ar y llun i'w ymledu

Encil Enlli

Penllanw prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan fydd encil 3 diwrnod ar ynys Enlli. Clo perffaith i’r gyfres hon o ddigwyddiadau sydd wedi dilyn(ish!) llwybr pererindod gyntaf Cadfan Sant deithiodd o Dywyn ym Meirionnydd i Ynys Enlli yn y chweched ganrif, lle y daeth yn Abad cyntaf yr ynys.

Bydd yr encil lenyddol hwyliog hon yn cwmpasu holl egwyddorion y daith hyd yn hyn, hanes, barddoniaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a mwy! Mae amrywiol opsiynau o ran aros gyda ni ar yr ynys, lletu unigol ac wedi ei rannu. Mae’r gost sy’n cynnwys pris y cwch, llety, lluniaeth am y tridiau a gweithgareddau amrywiol yn cychwyn o oddeutu £300 y person.

Dyma flas o beth fydd yn digwydd

  • Sgwrs gyda seryddwr yn trafod ‘Statws Awyr Dywyll Enlli a’r Sêr’
  • Amser i grwydro ac ymlacio
  • Prynhawn hwyliog gyda’r beirdd preswyl a cherddorion( a mwy!)
  • Gweithdy creu llyfr o ddeunydd naturiol
  • Gweithdy ysgrifennu creadigol
  • Pererindod lythrennol o dan arweiniad o amgylch yr ynys
  • Barbeciw
  • Cinio a Swper dyddiol

Ni fydd unrhyw bwysau i gymryd rhan yn y gweithgareddau i gyd, cewch wneud fel y mynnwch!)

Cysylltwch â Elin Owen am brisiau ac opsiynau aros penodol ac i archebu eich lle.

elinowen@cinw.org.uk

07884313700


Dyddiadur

26-29 Awst
Encil ar Enlli
Dyma penllanw prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan

1 Hydref
Sefydlu Archddiaconiaid newydd
3.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


9 July 2023

The Fifth Sunday after Trinity


This Sunday and through the week we pray for

those who were ordained on 1 July

  • Helen Franklin - Priest
  • Selwyn Griffith - Priest
  • Glenys Samson - Deacon
  • Andy Broadbent - Deacon
  • Josie Godfrey - Deacon

We pray that, as they begin their new ministries they would feel afresh God's call on their lives. May they abound in faith, be rooted in love and seek God's glory, now and for ever.


A message from the Archdeacon of Anglesey

‘What are your hopes for the next stage of your journey?’ is a question I’ve just faced at the end of a week-long course at Nant Gwrtheyrn in the company of some lovely people. All of us are being asked what we intend to do with the skills we’ve been developing, and what we hope will develop from all work that has been done, not only in the last few days but also in the years which have led up to now.

Over the past few weeks I’ve been the one asking that question on Ynys Mon, ‘What are your hopes for the next stage of your journey?’. In the company of another group of lovely people I’ve been chairing the discussion to prepare the profile for a new Ministry Area Leader. It’s been fascinating to hear what people’s hopes are for the future, to hear what has developed there in recent years, what achievements they want to see flourish further, and what fresh things might happen.

At Evening Prayer this week I heard Jesus pull together these threads of thought and place himself at the centre of them. At the end of Luke chapter 18 Jesus responds to the cries of Bartimaeus, the man from Jericho who is begging because he is blind, with a question, ‘What do you want me to do for you?’. I have all kinds of ideas of the steps I want to take when I get home from Nant Gwrtheyrn, and Ministry Area people will have all sorts of dreams for the future - all good and worthy. The question I need to hear though, and all of us in our Ministry Areas and our diocese, is this profoundly hopeful and challenging one from Jesus, ‘What do you do want me to do for you?’ Try repeating it slowly, with the emphasis on a different word each time. Time spent in prayer with that question may lead and change not only us but the world too, which God loves so much. May the Spirit bless and guide us as we pray.


Ynys Tysilio

Tysilio Festival

11-17 July

With a variety of events including poetry walks, recitals, story telling, Poems & Prosecco, and much more there's plenty to do this week on Church Island in Menai Bridge. For the full programme of events click the images below or use the button to view the Friend' of Church Island website.

Click on the image to view a larger version
Click on the image to view a larger version

Enlli Retreat

The culmination of the Llwybr Cadfan Welsh literary project will be a 3-day retreat on the island of Enlli. A perfect conclusion to this series of events that have followed(ish!) the first pilgrimage route of Cadfan Sant who traveled from Dywyn in Meirionnydd to Ynys Enlli in the sixth century, where he became the island's first Abbot.

This Welsh language literary retreat will cover all the principles of the journey so far - history, poetry, literature, music and more! There are various options for staying with us on the island, individual and shared accommodation. The cost which includes the price of the boat, accommodation, refreshments for the three days and various activities starts from around £300 per person.

Here is a taste of what will happen

  • A conversation with an astronomer discussing 'Enlli's Dark Sky Status and the Stars'
  • Time to wander and relax
  • A fun afternoon with resident poets and musicians (and more!)
  • Workshop to create a book from natural material
  • Creative writing workshop
  • A literal guided pilgrimage around the island
  • Barbecue
  • Lunch and Supper daily

There will be no pressure to take part in all the activities, you can do as you like!)

Contact Elin Owen for prices and specific staying options and to book your place.

elinowen@cinw.org.uk

07884313700


Diary

26-29 August
Enlli retreat
This is the pinnacle of the Llwybr Cadfan Literary project.

1 October
Installation of new Archdeacons
3.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.