minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Croes Cymru

Cyflwynwyd y Groes Gymreig, croes gorymdeithio newydd a gyflwynwyd gan Ei Mawrhydi y Brenin Siarl fel anrheg canmlwyddiant i'r Eglwys yng Nghymru, yn swyddogol i'r Eglwys yr wythnos diwethaf.

Mae’r Groes, a arweiniodd orymdaith y Coroni yn Abaty Westminster ar 6 Mai, yn ymgorffori crair o’r Wir Groes, a roddodd y Pab Francis i’r Brenin i nodi’r Coroni.

Ar ôl ei dychwelyd i Gymru, caiff Croes Cymru ei harddangos i ddechrau yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor, sedd Archesgob Cymru ar hyn o bryd, cyn mynd ar daith o amgylch holl gadeirlannau Cymru gyda’r nod o roi cyfle i bawb ei gweld. Caiff ei defnydd yn y dyfodol ei rhannu rhwng yr Eglwys Anglicanaidd a’r Eglwys Gatholig yng Nghymru.

Dywedodd yr Archesgob Andrew, “Mae Croes Cymru yn symbol eciwmenaidd o arwyddocâd enfawr. Cafodd ei hysbrydoli gan wreiddiau cynharaf ein hanes Cristnogol, a gydag arysgrif Gymraeg o eiriau Dewi Sant, bydd y Groes yn ein hatgoffa i gyd am galon ei ffydd. Yn ogystal â rhoi ffocws o undod ar draws ein gwahanol draddodiadau, bydd hefyd yn arwydd parhaus o barch y Brenin at Gymru a’i hoffter ohoni.”

Darllenwch araith lawn yr Archesgob ar wefan Eglwys Cymru. Gwrandewch hefyd ar y cyfweliad a roddodd i UCB Radio.

Cymraeg

Cross of Wales

The Cross of Wales, given by His Majesty King Charles as a centenary gift to the Church in Wales, was described as a “hugely significant ecumenical symbol” and a “focus of unity” by the Archbishop of Wales at its formal presentation last week.

In his speech receiving the Cross, Archbishop Andrew said, “When the Cross of Wales led the Coronation procession into Westminster Abbey on May 6th, it was a moment of huge significance in very many ways." 

Read the Archbishop's full speech on the Church of Wales website. Listen also to the interview he gave to UCB Radio

On its return to Wales, the Cross of Wales will initially be displayed at St Deiniol’s Cathedral in Bangor, the seat of the current Archbishop of Wales, before beginning a tour around all the Welsh cathedrals with the aim of giving everyone an opportunity to see it. Its use going forward will be shared between the Anglican and Catholic Churches in Wales.