minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Stori'r esgobaeth

Fel Cristnogion yn Esgobeth Bangor, gallwn olrhain ein hanes yn ôl i ddynion a merched sanctaidd a sefydlodd gymunedau o weddi a gwasanaeth ar draws yr esgobaeth mor gynnar â’r bumed ganrif. Parheir i goffáu’r saint Celtaidd cynnar hyn – Deiniol, Cybi, Seiriol, Tudwen, Madryn, a llawer o rai eraill – yn enwau ein heglwysi, ein pentrefi a’n trefi. 

Fileniwm a hanner yn ddiweddarach, nid yw ein cenhadaeth wedi newid – ond mae’n cyd-destun yn newydd, ac yn heriol. 

Ein hymateb ni yw ymrwymo’n hunain i wireddu gweledigaeth esgobaethol o ddilyn Crist ag egni newydd ac mewn ffyrdd newydd, ac i wneud hynny drwy sefydlu a hybu tri chonglfaen, tri chanolbwynt, tri chynllun a thri chynsail allweddol

Ein conglfeini

Yn Esgobaeth Bangor ymrwymwn i dri chonglfaen gweledigaethol y credwn ddylai nodweddu’n bywyd ar y cyd fel esgobaeth: addoli Duw, tyfu’r Eglwys, a charu’r byd. Mae’n rhaid gwreiddio’r dyheadau rhain yn ein cyd-destun lleol – eu gwreiddio yn yr eglwys a’r gymuned – eu gwreiddio yn ein byw a’n bod. Ond maent yn ddyheadau sy’n mynnu mwy nag ymroddiad gweddïgar ac ymrwymiad twymgalon.

Maent yn galw am ymrwymiad pwrpasol a chlir, am sylw cyson, ac am glustnodi adnoddau. O’u gwreiddio fel hyn, rydym yn gobeithio ac yn gweddïo y gallant fynegi ein gobaith a’n hyder yn Nuw, a’n profiad o ddaioni a chariad ei deyrnas dragywydd.

Ein canolbwyntiau

Tra’n ymrwymo i dri chonglfaen gweledigaethol, rydym hefyd wedi asesu’n sefyllfa bresennol â gonestrwydd a phwrpas. Gwelwn yn glir bod rhai rhannau o’n bywyd ar y cyd yn mynnu sylw arbenning. O ganolbwyntio arnynt, ein gobaith yw y cawn gwrdd ag egni newydd a fydd yn ein sbarduno i addoli Duw, tyfu’r Eglwys a charu’r byd mewn ffyrdd angenrheidiol o newydd.

Ein cynlluniau

Os am hybu’n conglfeini a’n canolbwyntiau, rhaid wrth ffocws, disgyblaeth a chynllunio. Bydd ein Cylluniau Datblygu yn galluogi pob Ardal Weinidogaeth i ystyried sut y caiff ein conglfeini a’n canolbwyntiau eu gwreiddio ym mywyd yr Ardal Weinidogaeth. Byddant yn daprau darlun manwl o’r hyn sy’n wir ar hyn o bryd, tra’n ein galluogi i gynllunio’n greadigol ynghylch ein hadnoddau a’n cenhadaeth ym mhob Ardal Weinidogaeth.

Ein cynseiliau

Wrth i ni gamu mlaen yn obeithiol, gwnawn hynny â chynseiliau newydd sydd wedi eu gosod i gefnogi a chyfoethogi ein bywyd ar y cyd o fewn yr esgobaeth. Mae’r cynseiliau newydd hyn eisioes yn rhyddhau egni ac yn annog cydweithio. Ein gobaith yw y byddant yn parhau i hybu ein gweledigaeth drwy alluogi ein cynlluniau a thrwy wreiddio ein conglfeini a’n canolbwyntiau.

Cymraeg

Our diocesan story 

As Christians in the Diocese of Bangor, we can trace our history back to holy men and women who founded communities of prayer and service across the diocese as early as the fifth century. These early Celtic saints – Deiniol, Cybi, Seiriol, Tudwen, Madryn, and many others – are still commemorated in the names of our churches, villages and towns. 

A millennium and a half later, our mission hasn’t changed – but our context today is new and challenging. 

Our response as a diocese has been to commit ourselves to a vision of following Jesus with new energy and in new ways, and to do so by establishing and advancing three key principles, three key priorities, three key plans, and three new platforms.

Our principles

In the Diocese of Bangor we are committed to three visionary principles which we believe should characterise our common life as a diocese: worshipping God, growing the Church, loving the world. These principles must be grounded in the contexts in which we live and work, in church and in community. But they require more than prayerful resolve and heartfelt commitment.

They require clear thinking, constant attention, and meaningful resourcing. We hope and pray that, so grounded, they may express both our hope and confidence in God, and our experience of the One whose reign of goodness and love will know no end.

Our priorities

As we commit to our visionary principles we have also looked, realistically, at where we are now. We recognise that there are particular areas of our life as a diocese in which we need to invest particular energy. Our hope is that a focus on these three priorities will help to inspire us and draw us forward to worship God, grow the Church and love the world in new, urgent and meaningful ways.

Our plans

Advancing our principles and priorities requires focus, discipline and planning. Three Development Plans allow each Ministry Area to reflect on how our principles and priorities are rooted within key aspects of the life of the Ministry Area. They will allow us to share a detailed picture of where we are now, whilst also helping us to imagine creatively how we can develop our resources to enable the mission of the Church across all our Ministry Areas

Our platforms

As we move forward with new energy and focus, we do so from new platforms designed to support and enhance our common life as a diocese. These revitalised platforms are already releasing new energy and encouraging collaboration. Our hope is that they will continue to facilitate and serve our vision by enabling our plans, and by helping us to embed our principles and priorities.