minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Bydd offeiriad newydd Aberdaron yn arwain "dadeni pererindod" yng ngogledd-orllewin Cymru

Mae pentref hanesyddol Aberdaron ar fin gweld dadeni pererindod gyda phenodiad y Parchedig Jane Finn yn Offeiriad Pererinion. Bydd yn gyfrifol am arwain taith ysbrydol pererinion a thwristiaid – a'r rhai sy'n newydd i'r ffydd Gristnogol – bydd Jane yn dod ag egni o'r newydd i un o safleoedd pererindod hynafol Gwynedd.

Yn dilyn y newyddion am ddychwelyd cyfres Pererindod y BBC y Pasg hwn, lle mae saith o enwogion yn cerdded Taith Pererin Gogledd Cymru i Ynys Enlli, mae disgwyl i rôl Offeiriad Pererinion fanteisio ar y diddordeb cynyddol mewn pererindod a gynhyrchir gan y darllediad.

Fel rhan o dîm gweinidogaeth Bro Enlli, bydd Jane yn arwain gweinidogaeth arloesol o letygarwch a chroeso i bererinion sy'n cyrraedd Aberdaron. Bydd yn arwain gwasanaethau ar gyfer grwpiau o bererinion ac yn datblygu gweinidogaeth wedi'i theilwra i'r rheini sy'n disgrifio'u hunain fel rhai sy'n ceisio gwirioneddysbrydol ond nid yn grefyddol.

Mae pentref Aberdaron wedi'i leoli ym mhen gorllewinol pellaf Pen Llŷn ac mae ganddo hanes cyfoethog fel man cysegredig i bererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli. Ar yr ynys sy’n fawr ei pharch, sefydlodd Sant Cadfan gymuned Gristnogol yn yr Oesoedd Canol.

Fel Offeiriad Pererinion, bydd Jane yn sefydlu patrwm rhythmig o weddïau pererinion rheolaidd wedi'u canoli yn Eglwys Sant Hywyn. Bydd hi hefyd yn datblygu mynegiant digidol o weinidogaeth bererindod, gan greu canolfan rithwir ar gyfer unigolion sy'n gysylltiedig ag eglwysi ledled yr esgobaeth drwy bererindod. Bydd y man ymgynnull digidol hwn yn cynnig llwyfan ar gyfer profiadau a rennir ac ymborthiant ysbrydol ar y cyd.

Y Pachg Jane Finn

Bydd Jane yn gweithio mewn partneriaeth â phwyllgor ysbrydolrwydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, i adlewyrchu pwysigrwydd Ynys Enlli fel cyrchfan olaf Taith Pererin Gogledd Cymru a Llwybr Cadfan. Mae'r dull gweithredu cydweithredol hwn yn ceisio cyfoethogi'r daith ysbrydol i bererinion, gan greu cysylltiad rhwng Aberdaron ag ynys sanctaidd Enlli.


Ar yr ynys sy’n fawr ei pharch, sefydlodd Sant Cadfan gymuned Gristnogol yn yr Oesoedd Canol.

Mae Jane yn ymuno ag Esgobaeth Bangor ar ôl gadael Esgobaeth Llanelwy lle bu'n offeiriad-yng-ngofal Dinbych yn Ardal Cenhadaeth Dinbych.

Meddai Jane, "Rwy'n falch iawn o dderbyn y rôl newydd gyffrous hon yn Esgobaeth Bangor, i fod yn bresenoldeb gweladwy, ac i ddatblygu gweinidogaeth o groeso a lletygarwch ar gyfer pererinion ar eu taith ysbrydol.

"Rwy'n angerddol am fynd gyda phobl ar eu teithiau ffydd, a gyda diddordeb a gweinidogaeth hir yn ysgrifennu, datblygu ac arwain pererindod, rwy'n falch iawn o fod yn ymgymryd â'r rôl hanfodol hon. Rwy'n edrych ymlaen at gerdded yn ôl traed hynafol i gario neges o gariad a gobaith yr efengyl i eraill."

Meddai’r Parchg Rhun ap Robert, Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Enlli, “Mae hwn yn amser cyffrous i Fro Enlli wrth i ni edrych ymlaen yn fawr at groesawu Jane i’n plith.

Gweddïwn dros Jane wrth iddi baratoi at symud ac i ymgymryd â’r rôl newydd hon fel Offeiriad Pererin. Mae Jane, wrth gwrs, yn dilyn ôl-traed Cadfan a’i griw sydd wedi cynnig lletygarwch i bererinion ar eu ffordd i Enlli gan nid yn unig roi noddfa, ond sicrhau bod y ffydd Gristnogol yn parhau hyd heddiw.

“Daw Jane gyda phrofiad helaeth o arwain a chynllunio gweinidogaeth i bererinion yn ogystal ag i blant a phobl ifanc ac mae ganddi weledigaeth glir ac mae hi’n byrlymu efo egni. Yn fwy na dim, mae Jane yn berson gweddïgar ac mi fydd hi’n rhan allweddol o’n gwaith wrth i ni barhau â gwaith y seintiau gynt a chyd-gerdded â Duw a phob un sy’n troedio’r rhan hon o’i winllan.”

Meddai'r Canon David Morris, Cyfarwyddwr Gweinidogaeth: "Rwy'n falch iawn o benodiad Jane i'r weinidogaeth newydd gyffrous hon i bererinion sydd wedi’i lleoli yn Aberdaron.

"Rydym yn gobeithio codi proffil teithiau pererinion drwy ein hesgobaeth i Enlli, yr ynys hynafol a sanctaidd, gan ofalu am anghenion bugeiliol ac ysbrydol pererinion. Bydd Jane yn dod â brwdfrydedd, egni a chreadigrwydd mawr i'r rôl hon."

Aberdaron

Ynglŷn â Jane

Magwyd Jane yn y traddodiad Methodistaidd, a chyn mynd i weinidogaeth ordeiniedig bu'n gwasanaethu yn Eglwys Loegr fel Pregethwr Awdurdodedig ac mewn nifer o weinidogaethau lleyg. Graddiodd mewn diwinyddiaeth o Brifysgol Sheffield, ar ôl hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg St Mellitus Gorllewin Llundain, a chyfnod preswyl yn College of the Resurrection yng Ngorllewin Swydd Efrog. Ar ôl gwasanaethu mewn eglwysi yn Essex a Dwyrain Llundain, gwasanaethodd wedyn mewn eglwysi yng Ngorllewin Swydd Efrog a gwasanaethodd ei swydd deitl yn Eglwys Gadeiriol Halifax tra oedd hefyd yn cwblhau gradd Meistr mewn diwinyddiaeth o dan Brifysgol Durham.

Fe'i hordeiniwyd yn Ddiacon yn eglwys gadeiriol Ripon yn 2018, ac fe'i hordeiniwyd yn Offeiriad yn eglwys gadeiriol Halifax yn 2019. Yn ystod ei chyfnod yn eglwys gadeiriol Halifax, datblygodd Jane weinidogaeth bererindod ac ysbrydolrwydd gyda chyrhaeddiad byd-eang.

Fel offeiriad-yng-ngofal yn Esgobaeth Llanelwy, roedd gan Jane gyfrifoldeb arbennig dros ofal bugeiliol ar gyfer 12 eglwys yr Ardal Genhadaeth, ac mae wedi gwasanaethu mewn swyddogaethau caplaniaeth a gweinidogaeth ddinesig, mae hefyd wedi meithrin cynulleidfaoedd newydd, a gweithio gydag asiantaethau tref i helpu i ddatblygu strategaethau ar gyfer tlodi bwyd a chynaliadwyedd bwyd.

Dechreuodd ar ei thaith Gymraeg ar ôl symud i Gymru, mae ganddi gariad mawr tuag at yr iaith a'r diwylliant, ac roedd hi'n teimlo’n gyffrous i allu dechrau cynulleidfa gwbl Gymraeg newydd yn ystod ei chyfnod yn Ninbych.

Mae Jane yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored, cerdded a nofio, ymweld â lleoedd ac ynysoedd arbennig, a mwynhau bwyd da a chwrw da o flaen tanllwyth o dân ar ddiwedd diwrnod yn yr awyr agored.

Cymraeg

New priest for Aberdaron will lead “pilgrimage renaissance” in North West Wales

The historic village of Aberdaron is poised for a pilgrimage renaissance with the appointment of Revd Jane Finn as Pilgrim Priest. Entrusted with guiding the spiritual journey of pilgrims and tourists – and those new to the Christian faith – Jane will bring renewed energy to one of the ancient pilgrimage sites of Gwynedd.

Following news of the return of BBC's Pilgrimage series this Easter, where seven celebrities walk the North Wales Pilgrim's Way to Ynys Enlli (Bardsey Island), the Pilgrim Priest role is expected to capitalise on the increased interest in pilgrimage generated by the broadcast.

Jane will lead a pioneering ministry of hospitality and welcome to pilgrims arriving at Aberdaron. She will lead services for pilgrim groups and develop a ministry tailored to those who describe themselves as spiritually seeking but not religious

Situated at the far western end of the Llyn Peninsula, Aberdaron holds a rich history as a sacred waypoint for pilgrims en route to Ynys Enlli. On this revered island, Saint Cadfan founded a Christian community in the Middle Ages.

As Pilgrim Priest, Jane will establish a rhythmic pattern of regular pilgrim prayers centred at St Hywyn’s Church. She will also develop a digital expression of pilgrimage ministry, creating a virtual hub for individuals connected with churches across the diocese through pilgrimage. This digital gathering point will offer a platform for shared experiences and collective spiritual nourishment.

Revd Jane Finn

Jane will work in partnership with the Bardsey Island Trust's spirituality committee, to reflect the importance of Ynys Enlli as the final destination of the North Wales Pilgrim Way and the Llwybr Cadfan pilgrimage routes. This cooperative approach seeks to enhance the spiritual journey for pilgrims, creating a connection from Aberdaron to the sacred island of Ynys Enlli.


Aberdaron holds a rich history as a sacred waypoint for pilgrims en route to Ynys Enlli.

Jane joins the Diocese of Bangor from the St Asaph Diocese where she has been Priest-in-Charge of Denbigh in the Denbigh Mission Area.

Jane says, “I am absolutely delighted to accept this exciting new role in the Diocese of Bangor, to be a visible presence, and develop a ministry of welcome and hospitality to pilgrims on their spiritual journey.

“I am passionate about accompanying people on their faith journeys, and with a long interest and ministry in writing, developing, and leading pilgrimage, I am delighted to be taking up this vital role. I look forward to following in ancient steps to carry the gospel message of love and hope to others.“

Welcoming Jane to the Bro Enlli, Revd Rhun ap Robert says, “This is an exciting time for Bro Enlli as we look forward very much to welcoming Jane into our midst.

“We pray for Jane as she prepares to move and take on this new role as a Pilgrim Priest. Jane will of course be following in the footsteps of Cadfan and his companions who have offered hospitality to pilgrims on their way to Enlli over the centuries, not only providing sanctuary, but ensuring that the Christian faith continues to this day.

“Jane comes with extensive experience of leading and planning ministry for pilgrims as well as for children and young people and she has a clear vision and is bursting with energy. Above all, Jane is a prayerful person, and she will be a key part of our work as we continue the work of the saints who have gone before us and walk with God and all who tread this part of his vineyard.”

Canon David Morris, Director of Ministry, warmly welcomes Jane to the Diocese of Bangor, “I’m delighted by Jane’s appointment to this exciting new ministry to pilgrims centred on Aberdaron.

“We hope to raise the profile of the pilgrim ways through our diocese to the ancient and holy island of Bardsey while tending to the pastoral and spiritual needs of pilgrims. Jane will bring great enthusiasm, energy and creativity to this role.”

Aberdaron

About Jane

Jane grew up in the Methodist tradition, and before entering Ordained Ministry served in the Church of England as an Authorised Preacher and in a breadth of lay ministries. She graduated in theology from Sheffield University, having trained for ministry at St Mellitus College West London, and also residentially at the College of the Resurrection in West Yorkshire. Having previously served in churches in Essex and East London, she then served in churches in West Yorkshire and served her title post at Halifax Minster whilst also completing a theology Masters under Durham University.

She was ordained Deacon in Ripon cathedral in 2018, and ordained Priest in Halifax Minster in 2019. During her time at Halifax Minster, Jane developed a ministry of pilgrimage and spirituality with global reach.

As Priest-in-Charge at the Diocese of St Asaph, Jane had special responsibility for pastoral care for the 12 churches of the Mission Area, and has served in chaplaincy roles and civic ministry, started new congregations, and worked with town agencies to help develop strategies for food poverty and food sustainability.

She started her Welsh language journey upon moving to Wales, has a great love for the language and the culture, and was excited to be able to start a new fully Welsh congregation during here time in Denbigh.

Jane enjoys spending time in the outdoors, walking and swimming, visiting special places and islands, and enjoys good food and good ale, by a roaring fire at the end of a day in the outdoors.