minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ficer Newydd ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy

Mae Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John - yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchedig Miriam Beecroft fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy, yn gwasanaethu eglwysi a chymunedau Dyffryn Dyfi yng nghylch Machynlleth, Cemaes, Corris, Darowen, Llanbrynmair, Llanwrin a Mallwyd.

Curad presennol Ardal Weinidogaeth Bro Ardudwy ydy Miriam, yn gwasanaethu eglwysi a chymunedau’r Bermo a Harlech.

Yn wreiddiol o Formby ger Lerpwl, daeth Miriam i astudio yn y brifysgol yn Aberystwyth yn 2004, ac yma yng Nghymru mae hi wedi bod ers hynny. Bu’n gweinidogaethu fel person lleyg yn Aberystwyth ac yn Llys-faen, Caerdydd. Cafodd 2 flynedd o hyfforddiant yng Ngholeg Mihangel Sant yn Llandaf cyn ei hordeinio yng Nghadeirlan Bangor yn 2015.

Mae Miriam yn briod â Darren, ac mae iddyn nhw ferch ifanc, Anwen, gydag ail blentyn ar y ffordd!

Dywedodd Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John, “Mae hi bob amser yn bleser rhodio ochr yn ochr â chlerigwyr ordeiniedig newydd ar bererindod eu gweinidogaeth.

Mae gan Miriam y potensial i fod yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth ardderchog ac mae Bro Cyfeiliog a Mawddwy yn ffodus i fod yn ennill clerigwraig ifanc ysbrydoledig i arwain y Tîm Gweinidogaeth yno ac i adeiladu ar weinidogaethau’r Canon Kath Rogers a’r Parch Roland Barnes.

Hoffwn longyfarch Miriam a Darren ar newyddion eu hail blentyn. Cofiwch weddïo dros Miriam, Darren ac Anwen, yn ogystal â phobl a thimau Bro Cyfeiliog a Mawddwy a Bro Ardudwy.”

Wrth edrych ymlaen at symud, dywedodd Miriam, “Mae gweithio ochr yn ochr â’r Canon Beth Bailey ym Mro Ardudwy wedi bod yn faes hyfforddiant rhagorol i mi allu mynd i’r afael â sut i arwain ardal weinidogaeth, ac rydw i’n ddiolchgar i’r holl eglwysi yno am y fath groeso gefais yno fel eu curad.

Erbyn hyn, rydyn ni’n teimlo’n gyffrous fel teulu i fod yn symud i ardal Machynlleth. Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm gweinidogaethu a phobl Bro Cyfeiliog a Mawddwy er mwyn cael dirnad sut orau i addoli Duw, tyfu Ei Eglwys a charu Ei fyd gyda’n gilydd yn y cymunedau hyn.”

Meddai Canon Beth Bailey, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Ardudwy, sydd wedi bod yn goruchwylio ffurfiant Miriam fel ficer ers ei hordeiniad, “Mae hi wedi bod yn bleser rhannu’r weinidogaeth gyda Miriam. Mae eglwysi a chymunedau Bro Ardudwy wedi eu bendithio’n fawr trwy ei hamrywiol ddoniau: yn enwedig ei gallu i gyfathrebu’r efengyl mewn modd clir, heriol a real, ochr yn ochr â’i deallusrwydd, gonestrwydd, ei synnwyr clên o hwyl, a’i chalon gynnes, fugeiliol.

Mae Miriam wedi cryfhau ein cysylltiadau gyda theuluoedd a phlant trwy ei gweinidogaeth greadigol yn ein hysgolion, clybiau a digwyddiadau estyn allan, ond bod cariad go iawn tuag ati hefyd, ar yr un pryd, ymysg aelodau hŷn ein cymunedau.

Fel gweinidog ifanc, mae Miriam wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr inni o heriau cenhadu ac efengylu, a thrwy ddefnydd ei doniau fel cerddor a chantores, wedi galluogi inni archwilio ffyrdd ystyrlon eraill o addoli, ynghyd â’r traddodiadol.

Bydd eglwysi Bro Ardudwy yn drist iawn o weld Miriam yn eu gadael. Fodd bynnag, rydyn ni’n hyderus y bydd ei dull addfwyn o arwain, ei pharodrwydd i wrando a dysgu, ac yn fwy pwysig, ei dyhead dwfn i wasanaethu’r Arglwydd ac i rannu ei gariad ag eraill, yn dod â chystal bendith i bobl Bro Cyfeiliog a Mawddwy.

Fe fyddwn ni’n gweddïo dros Miriam, Darren ac Anwen wrth iddyn nhw ganfod eu traed yn eu gweinidogaeth newydd.”

Cynhelir gwasanaeth arbennig i nodi dechrau gweinidogaeth newydd Miriam am 7yh ar Nos Iau Dyrchafael yn Eglwys Pedr Sant, Machynlleth.

Cymraeg

New Vicar and Ministry Area Leader for Bro Cyfeiliog a Mawddwy

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - is pleased to announce the appointment of the Reverend Miriam Beecroft as Ministry Area Leader of the Bro Cyfeiliog a Mawddwy Ministry Area, serving the churches and communities of the Dyfi Valley around Machynlleth, Cemaes, Corris, Darowen, Llanbrynmair, Llanwrin and Mallwyd.

Miriam is presently Curate in the Bro Ardudwy Ministry Area, serving the churches and communities around Barmouth and Harlech.

Originally from Formby near Liverpool, Miriam came to study at the university in Aberystwyth in 2004, and has been in Wales ever since. She has ministered as a lay person in Aberystwyth and Lisvane, Cardiff. She trained for 2 years at St. Michael's College in Llandaff before her ordination in Bangor Cathedral in 2015.

Miriam is married to Darren and they have a young daughter, Anwen, and a second child on the way!

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said, “It is always a pleasure to be alongside new ordained clergy on their ministry pilgrimmage.

Miriam has the potential to be an excellent Ministry Area Leader and Bro Cyfeiliog a Mawddwy are fortunate to be gaining an inspirational young cleric to lead the Ministry Team there and to build on the ministries of Canon Kath Rogers and the Rev Roland Barnes.

I congratulate Miriam and Darren on the news of their second child. Please do pray for Miriam, Darren and Anwen, as well as the people and teams in Bro Cyfeiliog a Mawddwy and Bro Ardudwy.”

Looking forward to her move, Miriam said “Working alongside Canon Beth Bailey in Bro Ardudwy has been an excellent training ground for me to get to grips with how to lead a ministry area, and I am grateful to all the churches there for making me so welcome as their curate.

Now, we are excited as a family to be moving to the Machynlleth area. I am looking forward to working with the ministry team and people of Bro Cyfeiliog & Mawddwy to discern how we may best worship God, grow His Church and love His world together in these communities.”

Canon Beth Bailey, the Ministry Area Leader of Bro Ardudwy, who has been overseeing Miriam’s formation as a vicar since her ordination, said, “It has been a joy to share ministry with Miriam. The churches and communities of Bro Ardudwy have been greatly blessed by her many gifts: especially her ability to communicate the gospel in a way that is always clear, challenging and real, alongside her intelligence, integrity, gentle sense of fun, and her warm, pastoral heart.

Miriam has strengthened our links with families and children through her imaginative ministry in our schools, clubs and outreach events, but, at the same time, is also greatly loved by the older members of our communities.

As a young minister, Miriam has brought us valuable insights into the challenges of mission and evangelism, and, using her gifts as a musician and singer, has enabled us to explore other, meaningful ways of worshipping, alongside the traditional.

The churches of Bro Ardudwy will be very sad to see Miriam leave. However, we are confident that her gentle style of leadership, her willingness to listen and learn, and, most importantly, her deep desire to serve the Lord and to share his love with others, will bring equal blessing to the people of Bro Cyfeiliog a Mawddwy.

We will be praying for Miriam, Darren and Anwen as they settle into their new ministry.”

A special service to mark the beginning of Miriam’s new ministry will be held at 7pm on Ascension Day, Thursday May 10, in St. Peter’s Church, Machynlleth.