minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Perfformiad cyntaf yn torri tir newydd yn y Gadeirlan

Y bore Sul hwn, 10 Hydref, ceir “world première” yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.

“Cymun Deiniol”

Gelwir Cadeirlan Deiniol Sant i feithrin hunaniaeth litwrgaidd a cherddorol sy'n gadarn Gymreig ac yn neilltuol Anglicanaidd.

Fel rhan o'r alwedigaeth honno, mae gosodiadau cerddorol newydd o'r caneuon corawl sy'n rhan o'r Cymun yn cael eu comisiynu.

Yr wythnos hon, caiff y cyntaf o'r gosodiadau newydd hyn, sef “Cymun Deiniol”, ei berfformio. 

Dyddiau cyffrous

Mae “Cymun Deiniol”, wedi ei gyfansoddi gan aelod o Gôr y Gadeirlan, Simon Ogdon.

Wrth sôn am ei gyfansoddiad newydd, dywed Simon:

Dyma ddyddiau cyffrous i fod yn rhan o greu cerddoriaeth yng Nghadeirlan Deiniol Sant, ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle i berfformio fy nghyfansoddiad newydd yma. Yn arddulliadol, rwyf wedi ceisio benthyg o draddodiad corawl Anglicanaidd cyfansoddwyr megis Harold Darke a Herbert Sumsion, yn ogystal ag o alawon gwych emynyddiaeth Gymreig, i greu gwaith a fydd yn cydymdeimlo â'r litwrgi ac â hunaniaeth y lle hwn.
Yr Is-Ddeon | The Sub-Dean | Siôn Rhys Evans

Dywedodd Is-Ddeon Cadeirlan Deiniol Sant, Siôn Rhys Evans:

Rwy’n falch iawn bod ein defod o addoliad corawl Cymraeg ar fore Sul yn cael ei gyfoethogi gan greadigrwydd Simon, a bod ein hymrwymiad i gerddoriaeth gorawl brydferth, drawsnewidiol yn Gymraeg yn cael ei gyfoethogi yn y ffyrdd newydd hwn. Rwy'n hynod ddiolchgar i Joe Cooper, ein Cyfarwyddwr Cerdd newydd, am arloesi'r datblygiadau mor gyffrous a safonol. Ledled Esgobaeth Bangor rydym yn buddsoddi mewn gwella ein gweinidogaeth yn Gymraeg a dyfnhau ein hymgysylltiad â diwylliant Cymru, ac mae'n wych bod y Gadeirlan hefyd yn gallu chwarae ei rhan.

Y gwasanaeth 9.15am

Mae'r Cymun Bendigaid ar Gân wythnosol yn y Gadeirlan, a gynhelir yng Nghorff yr Eglwys am 9.15am bob dydd Sul, yn wasanaeth unigryw. 

Yn bartner i'r Choral Holy Eucharist Saesneg am 11am, cefnogir addoliad y Cymun Bendigaid ar Gân gan Gôr yr Eglwys Gadeiriol, ac fe'i cynhelir yn gyfan gwbl yn Gymraeg.

Caiff gwasanaethau'r Sul o'r Gadeirlan eu ffyrdio'n fyw ar dudalen Facebook y Gadeirlan, a cheir recordiad o'r gwasanaethu yno maes o law.

Mwy o weithiau newydd

Yn ogystal â première yr wythnos hon, bydd gwasanaethau yn y dyfodol yn cynnwys gweithiau eraill sydd newydd eu comisiynu neu eu trefnu. Ceir rhaglen o ddefodau'r Gadeirlan dros dymor yr Hydref, a manylion y gyerddoriaeth, yma.

Pe bai gan unrhyw gyfansoddwyr uchelgeisiol ddiddordeb mewn cyflwyno gweithiau corawl Cymraeg i'w perfformio gan Gôr yr Eglwys Gadeiriol (yn enwedig lleoliadau Cymun neu Cantiglau), byddai Joe Cooper, y Cyfarwyddwr Cerdd, yn falch iawn o glywed ganddynt.

Cymraeg

A first performance breaks new ground at the Cathedral

This Sunday morning, 10 October, sees a world premiere at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.

“Cymun Deiniol”

Saint Deiniol’s Cathedral has a vocation to forge a liturgical and musical identity that is both robustly Welsh and distinctively Anglican. 

As part of fulfilling that calling, new musical settings of the choral songs that form part of the Eucharist are being commissioned.

This week, the first of these new settings, “Cymun Deiniol” (the “Deiniol” Communion Service), is being performed.

An exciting time

“Cymun Deiniol” has been composed by a member of the Cathedral Choir, Simon Ogdon.

Talking about his new composition, Simon says:

This is an exciting time to be involved in music-making at Saint Deiniol’s Cathedral, and I am very pleased to have the opportunity for my new composition to be performed here. Stylistically, I have tried to borrow both from Anglican vernacular of composers like Harold Darke, Herbert Sumsion, as well as from the great Welsh hymn tunes, to create a work that will be sympathetic to both the liturgy and the identity of this place.
Y cyfansoddwr | The composer | Simon Ogdon

The Sub-Dean of Saint Deiniol’s Cathedral, Siôn Rhys Evans, said:

I’m delighted that our act of Welsh-language choral worship on a Sunday morning is being enriched by Simon’s creativity, and that our commitment to beautiful, transforming choral music in Welsh is being enriched in this new way. I'm hugely grateful to Joe Cooper, or new Director of Music, for pioneering these creative developments at the Cathedral. Across the Diocese of Bangor we’re investing in enhancing our ministry in Welsh and deepening our engagement with Welsh culture, and it’s great that the Cathedral is also able to play its part.

The 9.15am service

The Cathedral’s weekly Cymun Bendigaid ar Gân (Choral Holy Eucharist), which takes place in the Nave of the Cathedral at 9.15am every Sunday, is a unique service. 

Mirroring the 11am English-language Choral Holy Eucharist, worship at the Cymun Bendigaid ar Gân is supported by the Cathedral Choir, and take place entirely in Welsh.

The Cathedra's Sunday services are live-streamed on the Cathedral's Facebook page, and recordings of services appear thee subsequently.

More new works

In addition to this week’s premiere, future services will feature other newly-commissioned or arranged works. The Cathedral's programme of observances for the autumn, with details of the music, is available here.

If any aspiring composers would be interested in submitting Welsh-language choral works for performance by the Cathedral Choir (particularly Communion or Canticle settings), Joe Cooper, the Director of Music, would be delighted to hear from them.