minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Tymor newydd i Llan

Dros y deunaw mis diwethaf mae prosiect Llan wedi bod mewn cyfnod cychwynnol o ymchwil, gan ddatblygu syniadau ac adeiladu partneriaethau. Rydym bellach yn symud i dymor newydd cyffrous sy'n cychwyn gweld ffrwyth gwaith y prosiect ar lawr ar draws yr esgobaeth.

Mae Becks Davie-Tettmar yn ysgrifennu: Ar ôl bod yn gyfrifol am oruchwylio prosiect Llan yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Prosiectau a Rhaglenni dros y 6 mis diwethaf rwyf bellach yn canolbwyntio'n llwyr ar y prosiect fel Cyfarwyddwr Llan. Mae Julie Burnand yn parhau fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Llan a bydd yn canolbwyntio fwyfwy ar reoli prosiectau, cyllid a datblygiad y mentrau cymdeithasol wrth i'r prosiect fynd rhagddo.

Cerrig gydag ysgrifen Cymraeg cyntaf yn Eglwys Cadfan Sant | Stones in Saint Cadfan's Church with the first written Welsh
Pererin

Mapio'r ddau lwybr pererindod newydd; Mae’r Llwybrau, a enwyd am y tro yn, Llwybr Cadfan a Llwybr Cybi a Seiriol bron wedi eu cwblhau. Byddwn yn lansio rhaglen o bererindodau fydd yn cael eu tywys yr haf hwn, bydd yn cynnwys y llwybrau hyn ynghyd â Ffordd Pererinion Gogledd Cymru. Byddwn hefyd yn lansio adnoddau pererindod hunan-dywysedig fydd yn helpu pobl i fyfyrio mewn mannau allweddol ar hyd eu taith.

Lansiwyd prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan, sy'n cysylltu ffrydiau Pererin a Chloddio o'r prosiect, ym mis Mawrth yn Eglwys Cadfan Sant, Tywyn. Mae ein beirdd preswyl sef Siôn Aled a Sian Northey bellach wrthi’n creu barddoniaeth wedi'i ysbrydoli gan leoedd ar hyd y llwybr . Yn ogystal maent wedi dechrau cyfres o weithdai barddoniaeth yn seiliedig ar bererindod gyda ysgolion sydd yn cael eu cynnal yn yr eglwysi ar hyd y daith.

Mewn Ardaloedd Gweinidogaeth, ar hyd y llwybrau hyn ac ar draws yr esgobaeth, bydd prosiect Llan yn helpu i ddatblygu eglwysi pererindod byr gyda phecyn cymorth, gan gynnwys mewn rhai mannau creu llwybrau pererindod lleol bach ac mewn mannau eraill creu pererindodau meicro o amgylch yr eglwys a'r fynwent, ynghyd â chymorth gydag arwyddion, dehongli a threfn rhoddion a chyfraniadau. Gobeithiwn gwblhau ein prosiect peilot cyntaf o fewn yr ychydig fisoedd nesaf yn y gobaith y gallwn wedyn ddechrau cynnig y pecyn cefnogaeth hwn yn ehangach ar draws yr esgobaeth.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda The Church Army i ddatblygu pecyn hyfforddi pwrpasol ar gyfer timau efengylu pererinion a gomisiynwyd a fydd yn ein hannog i ddatblygu ein hyder wrth rannu straeon ffydd ein lleoedd a'n cymunedau. Rydym hefyd yn cynllunio rhai gweithdai arwain pererindod ar gyfer clerigwyr ac arweinwyr lleyg ar gyfer yr haf hwn, gyda’r bwriad o'n hysbrydoli am arwain pererindodau ar draws yr esgobaeth.

Comisiynwyd Skellon Studios, dylunwyr dehongli ac arddangosfeydd profiadol, i helpu i lunio ein chwe phrif eglwys pererindod i adrodd hanes ffydd ac ysbrydoli pererindod. Mae tîm Skellon Studios wrthi'n datblygu cysyniadau cychwynnol o sut mae'r naratif hwn yn trosglwyddo i ofod gwirioneddol o fewn yr eglwysi hyn.

Rydym yn falch iawn bod y Parchg Nick Golding wedi ymuno â thîm y Llan yn ddiweddar i weithio ar ffrwd Pererin y prosiect, bydd yn arwain ar ddatblygu'r tri prif lwybr pererindod ac yn canolbwyntio ar ddatblygu rhaglen o bererindodau wedi eu tywys, ynghyd â helpu i greu'r adnoddau hyfforddi ar gyfer timau efengylaidd pererinion a gomisiynwyd.

Bethesda
Cloddio

Bydd y Parchg Sara Roberts yn arwain ein cymuned breswyl Gymraeg wrth ddirnad a datblygu mynegiant newydd Cymreig o'r eglwys ym Methesda. Rydym bron â chwblhau prynu tŷ i ddarparu llety i'n haelodau cymunedol ac rydym yn obeithiol y bydd y Cynorthwywyr Efengylaidd Arloesol cyntaf yn symud i Fethesda ym mis Medi. Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r gymuned fel Cynorthwy-ydd Efengylaidd Arloesol i gysylltu â Sara. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am leoliad ar y Stryd Fawr i'r gymuned ei defnyddio fel canolfan a lle gall y mynegiant newydd Cymreig hwn o’r eglwys ym Methesda ymgasglu.

Mae Elin Owen ein swyddog galluogi’r Gymraeg wedi bod yn gweithio ar ddatblygu polisi iaith Gymraeg ar gyfer yr esgobaeth sydd wedi'i gymeradwyo gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio fel sail i bolisïau Iaith Gymraeg Ardaloedd Gweinidogaeth ar draws yr esgobaeth. Bydd yn canolbwyntio ar nodi'r gefnogaeth y gallwn ei chynnig i Ardaloedd Gweinidogaeth wrth ddatblygu eu cenhadaeth Gymraeg yn y meysydd y bydd timau Ardal y Weinyddiaeth yn eu nodi fel blaenoriaeth. Mae'r polisi Iaith Ardal Weinidogaeth cyntaf wedi ei orffen, a bydd Elin mewn cysylltiad ag Ardaloedd Gweinidogaeth eraill yn ystod y misoedd nesaf er mwyn parhau â’r broses.

Rydym hefyd wedi dechrau casglu syniadau a chynnwys ar gyfer adnodd Cymraeg efengylaidd a fydd yn annog pobl i archwilio ffydd drwy ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd hwn yn barod i'w dreialu erbyn yr haf.

Gwaith plant ar ôl lawnsiad Llwybr Cadfan | Children's work at the Llwybr Cadfan launch event
Menter

Bydd ein mentrau cymdeithasol yn cyfuno tair elfen, o gyfiawnder cymdeithasol, cymuned yn ymgasglu a bod yn hunangynhaliol. Rydym wrthi'n datblygu cynigion ar gyfer y ddwy fenter gyntaf; gofod digwyddiadau a gardd gaffi a phrosiect i leihau gwastraff bwyd cymunedol. Bydd y gofod digwyddiadau a'r ardd gaffi yn galluogi cymuned o bobl ifanc i ymgasglu o amgylch digwyddiadau celfyddydol ynghyd â chreu lle i ymgynnull yn anffurfiol mewn gardd gaffi. Bydd y prosiect i leihau gwastraff bwyd yn ymgasglu cymuned o amgylch ‘fan pantri bwyd’ a fydd yn dosbarthu bwyd dros ben i aelodau sydd wedi tanysgrifio. Unwaith y bydd y cynigion hyn wedi'u cwblhau, byddwn yn recriwtio gweithredydd arloesol i arwain pob un o'r prosiectau. Mae tîm Llan a Chyngor yr Esgob bellach yn dechrau dirnad lleoliad a siâp yr ail o ddwy fenter gymdeithasol.

Parhewch i weddïo dros y prosiect wrth iddo geisio creu cyfleoedd ar gyfer cyfarfod â ffydd mewn ffyrdd newydd ar draws yr esgobaeth.

Cymraeg

A new season for Llan

Over the past 18 months the Llan project has been in a start-up phase of research, developing ideas and building partnerships. We’re now moving into an exciting new season seeing the project take shape on the ground across the diocese.

Becks Davie-Tettmar writes: Having been responsible for oversight of the Llan project in my role as Director of Projects and Programmes for the past 6 months I’m now focused entirely on the project as Director of Llan. Julie Burnand continues as Assistant Director of Llan and will be increasingly focused on project management, finance and the development of the social enterprises as the project progresses.

Pererin

The mapping of the two new pilgrimage routes; Llywbr Cadfan and the provisionally named Llwybr Cybi a Seiriol, is nearly complete. We’ll be launching a programme of guided pilgrimages to start this summer which will include these routes and the North Wales Pilgrims Way along with launching self-guided pilgrimage resources to help people reflect at key places along their journey

The Llywbr Cadfan Welsh-language literary project, which links the Pererin and Cloddio streams of the project, was launched in March at St Cadfan’s Twywn. Our resident poets Siôn Aled and Sian Northey are now creating poetry inspired by places along the path as well as beginning a series of school poetry workshops, rooted in pilgrimage, in churches on the route.

In Ministry Areas, along these routes and across the diocese, the Llan project will be helping to develop small pilgrim churches with a package of support including in some places creating mini local pilgrimage routes and in other places micro pilgrimages around the church and churchyard, along with support with signage, interpretation, and donations infrastructure. We hope to have our first pilot project completed within the next few months and then to be able to start offering this package of support across the diocese.

Saint Beuno's Church, Clynnog

We’re currently working with the Church Army to develop a bespoke training package for commissioned pilgrim evangelist teams which will encourage us in developing our confidence in sharing the stories of faith of our places and communities. We’re also planning some pilgrimage leading workshops for clergy and lay leaders for this summer to inspire us about leading intentional pilgrimages across the diocese.

Skellon Studios, experienced interpretation and exhibition designers, have been commissioned to help shape our six major pilgrim churches to tell the story of faith and inspire pilgrimage. The Skellon Studios team are currently developing initial concept ideas of how these narratives translate into the physical space of these churches.

We’re really pleased that the Revd Nick Golding has recently joined the Llan team to work on the Pererin stream, leading on the development of the three major pilgrimage routes and focusing on developing the programme of guided pilgrimages, along with helping to create the training resources for commissioned pilgrim evangelist teams.

Cloddio

The Revd Sara Roberts will be leading our Welsh-language residential community in discerning and developing a new Welsh-language fresh expression of church in Bethesda. We’ve almost completed on the purchase of a house to provide accommodation for our community members and are hopeful that the first Pioneer Evangelist Assistants will move to Bethesda in September. We’d encourage anyone interested in joining the community as a Pioneer Evangelist Assistant to get in touch with Sara. We’re currently looking for some High Street space for the community to use as a base and where the new fresh expression can gather.

Elin Owen our Welsh-language enabler has been working on developing a Welsh-language policy for the diocese which has been commended by the Welsh Commissioner’s office. This is being used as the basis for Ministry Area Welsh-language policies which will be focused on identifying the support that we can offer to Ministry Areas in developing their Welsh-language mission in the areas that Ministry Area teams identify as a priority. The first Ministry Area policy has been created and Elin will be in contact with other Ministry Areas in the coming months.

We’ve also started gathering ideas and content for an evangelistic Welsh-language resource which will encourage people to explore faith through Welsh culture and literature and are hoping to have this ready to trial by the summer.

Llwybr Cadfan launch event with schools
Menter

Our social enterprises will combine three elements of social justice, gathering community and being self-sustaining. We’re currently developing proposals for the first two enterprises; an event space and café garden and a community surplus food project. The event space and café garden will gather a community of young people around arts events along with creating space for informal gathering in a café garden. The surplus food project will gather community around a food pantry van which will distribute surplus food to subscribed members. Once these proposals have been finalised, we’ll be recruiting a pioneer activist to lead each of the projects. The Llan team and Bishop’s Council are now starting to discern the location and shape of the second two social enterprises.

Please continue to pray for the project as it seeks to create opportunities for evangelistic encounter in new ways across the diocese.