Gŵyl Cybi a Seiriol Festival
3–5 July 2026, Ynys Môn
Mae Llwybr Cybi a Seiriol yn dilyn taith chwedlonol dau o seintiau mawr Ynys Môn.
Gan ddilyn Llwybr Arfordir Cymru a hen lwybrau troed mewndirol, mae'r llwybr yn cysylltu eglwysi ledled yr ynys, o Eglwys Sant Cybi yng Nghaergybi i Eglwys y Priordy Sant Seiriol ym Mhenmon. Mae gan bob eglwys ei sant a'i stori ei hun.
Yn ystod penwythnos Gŵyl Cybi a Seiriol, rhwng 3 a 5 Gorffennaf, rydym yn eich gwahodd i archwilio'r lleoedd hanesyddol hyn a'r cymunedau sydd o'u hamgylch.
P'un a ydych yn gerddwr, â diddordeb mewn treftadaeth leol, neu'n syml eisiau darganfod beth sy'n fyw ac yn ffynnu yn ein heglwysi heddiw, bydd croeso cynnes iawn i chi.
Eglwysi ar hyd y llwybr
- Eglwys Sant Cybi, Caergybi
- Eglwys Sant Gwenfaen, Rhoscolyn
- Eglwys Sant Bigael, Llanfigael
- Eglwys Sant Pabo, Llanbabo
- Eglwys Sant Mihangel, Penrhoslligwy
- Eglwys Sant Gallgo, Llanallgo
- Eglwys Sant Dona, Llanddona
- Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel Din Sylwy
- Eglwys y Priordy Sant Seiriol, Penmon
Rhaglen y Digwyddiadau
Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim i'w fynychu. Mae angen archebu lle ar gyfer rhai digwyddiadau.
Dydd Gwener 3 Gorffennaf
10.00 – Taith Bererindod. Dona Sant, Llanddona - Llanfihangel Din Silwy (5km)
11.30 – Eglwys Sant Seiriol, Penmon. Gweithdy: Dyluniwch eich stamp pererin eich hun.
18.30 - Eglwys Llanfair-Mathafarn-Eithaf, Taith fynwent yng nghwmni Iwan Kellett & Sgwrs am hanes y bardd Goronwy Owen gan Rhian Mair Jones. Mynediad am ddim, bydd lluniaeth ysgafn ar gael-dewch yn llu. (Digwyddiad cyfrwng Cymraeg)
Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf
10.00 – Seiriol Sant, Penmon. Taith Bererindod gylchog o 5km
12.00yb – Eglwys Sant Seiriol, Penmon
Datganiad sielo gan Ellen Davies
2.00 – Eglwys Sant Gwenfaen, Rhoscolyn
Taith Bypererin i Ffynnon Sanctaidd Sant Gwenfaen, ac yna te a chacen yn Neuadd yr Eglwys
2.00yp – Eglwys Sant Bigael, Llanfigael
Safleoedd Sanctaidd a Thirweddau Hynafol: stori Eglwys Sant Bigael, gydag Andrew Davidson
6.00yp – Eglwys Sant Gallgo, Llanallgo
Ar Ôl y Llongddrylliad: Llais o 1859 – perfformiad un dyn am drychineb y Royal Charter gan Peter Day. Lluniaeth ysgafn wedi'i chynnwys.
Dydd Sul 5 Gorffennaf
9.30 – Eglwys Sant Dona, Llanddona
Gweddïau Pererin a thaith gylchol ar hyd rhan o Lwybr Cybi a Seiriol (tua 1 awr)
11.00 – Eglwys Sant Seiriol, Penmon
Gwasanaeth Pererindod, ac yna Bendith wrth Ffynnon Sant Seiriol
11.00 - Eglwys Cybi Sant, Caergybi, Gwasanaeth Pererindod
11.00 – Eglwys y Santes Fair, Llanerchymedd
Sgwrs a Cherdded gydag Arwyn Owen: Meini Hirion, Croesau Hynafol a Bedd y Forwyn Fair? Eglwys Llanerchymedd a'i thirwedd hanesyddol
4.30yp – Eglwys Sant Seiriol, Penmon
Cyngerdd gan Gôr Kana (1 awr)
Sut i Archebu
Mae'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau yn rhad ac am ddim, ond mae angen archebu lle fel y gallwn eich croesawu'n dda a chynllunio'n briodol.
Defnyddiwch y dolenni Eventbrite isod i gadw eich lle.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â: pererin@cinw.org.uk
Gwybodaeth Ymarferol
- Hygyrchedd: Mae'r teithiau pererindod yn croesi amrywiaeth o dirweddau, gan gynnwys llwybrau arfordirol a gwledig. Gwiriwch ddisgrifiadau unigol y digwyddiadau ar Eventbrite am fanylion hygyrchedd.
- Cyrraedd y Lleoliadau: Mae'r eglwysi wedi'u lleoli ar draws Ynys Môn. Rydym yn argymell gwirio rhestrau unigol y digwyddiadau am godau post a manylion parcio. Mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael ar gyfer rhai lleoliadau.
- Cadwch mewn Cysylltiad: Rhannwch eich profiad ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CybiSeiriol.
The Llwybr Cybi a Seiriol pilgrimage route follows the legendary journey of two of Anglesey’s great saints.
Following the Wales Coast Path and ancient inland footpaths, the route connects churches across the island, from St Cybi’s in Holyhead to the Priory Church of St Seiriol at Penmon. Each church has its own saint and story.
During the Cybi a Seiriol Festival weekend, from 3–5 July, we invite you to explore these historic places and the communities that surround them.
Whether you are a walker, curious about local heritage, or simply interested in discovering what is alive and thriving in our churches today, you will be warmly welcomed.
Churches along the route
- St Cybi, Holyhead
- St Gwenfaen, Rhoscolyn
- St Bigael, Llanfigael
- St Pabo, Llanbabo
- St Michael, Penrhoslligwy
- St Gallgo, Llanallgo
- St Dona, Llanddona
- St Michael, Llanfihangel Din Sylwy
- Priory Church of St Seiriol, Penmon
Programme of Events
All events are free to attend. Booking is required for most events.
Friday 3 July
10am - Pilgrim Walk. St Dona, Llanddona - Llanfihangel Din Silwy (5km)
11.30 - St Seiriol, Penmon, Workshop: Create your own pilgrim stamp design.
18.30 - Llanfair-Mathafarn-Eithaf Church, Churchyard tour with Iwan Kellett & Talk on the history of the poet Goronwy Owen by Rhian Mair Jones. Free admission. Light refreshments will be available – all are warmly welcome. (The talk and tour will be in Welsh)
Saturday 4 July
10.00 - St Seiriol, Penmon. a 5km circular Pilgrim Walk
12.00 - St Seiriol, Penmon, Cello Recital by Ellen Davies
14.00 - St Gwenfaen, Rhoscolyn, Pilgrim Walk to St Gwenfaen’s Holy Well, followed by tea and cake in the Church Hall
14.00 - St Bigael, Llanfigael, Sacred Sites and Ancient Landscapes: the story of St Bigael’s church, with Andrew Davidson
18.00 - St Gallgo, Llanallgo, After the Wreck: a Voice from 1859, A one-man dramalogue about the Royal Charter tragedy, performed by Peter Day. Light refreshments included.
Sunday 5 July
09.30 - St Dona, Llanddona, Pilgrim Prayers and circular walk along a section of Llwybr Cybi a Seiriol (approx. 1 hour)
11.00 - St Seiriol, Penmon, Pilgrimage Service, followed by a Blessing at St Seiriol’s Well
11.00 - St Cybi, Holyhead, Pilgrimage Service
11.00 - St Mary, Llanerchymedd, Talk-and-Walk with Arwyn Owen: Standing stones, ancient crosses and the Virgin Mary’s grave? Llanerchymedd church and its historic landscape
16.30 - St Seiriol, Penmon, Concert with the Kana Choir (1 hour)
How to Book
Most events are free to attend, but booking is required so that we can welcome you well and plan accordingly.
Please use the Eventbrite links below to reserve your place.
For general enquiries please contact: pererin@cinw.org.uk
Practical Information
- Accessibility: The pilgrimage walks cover varied terrain, including coastal and rural paths. Please check individual event descriptions on Eventbrite for accessibility details.
- Getting There: The churches are located across Anglesey. We recommend checking individual event listings for postcode and parking details. Public transport options are available for some venues.
- Stay Connected: Share your experience on social media using #CybiSeiriol.