minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Caplaniaeth

Mae caplaniaethau yn darparu gweinidogaethau arbenigol mewn cyd-destunau unigryw, i bobl arbennig ac ar gyfer anghenion penodol. Dyma rai o’r darpariaethau caplaniaeth sydd gennym ar draws yr Esgobaeth:

Bywyd cefn gwlad

Mae Esgobaeth Bangor yn wledig i raddau helaeth a gall y rhai sy’n profi rhai o heriau bywyd gwledig, yn enwedig y diwydiant amaethyddol, fod ag anghenion penodol sydd angen cefnogaeth a gweinidogaeth caplan. Mae ein swyddog bywyd gwledig esgobaethol yn helpu gyda darpariaeth caplaniaeth ac yn arbennig drwy waith ‘Tir Dewi’.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Parchg Llew Moules-Jones

01248 715349
llewmoules-jones@esgobaethbangor.net

LGBTQI+

Mae caplaniaeth LGBTQI+ yr esgobaeth wedi ymrwymo i sicrhau bod pob aelod o’r gymuned LGBTQI+ yn cael ei gefnogi a’i ofalu amdano. Mae gennym dîm o gaplaniaid sy’n hapus i ddarparu gofal bugeiliol ac ysbrydol i unrhyw heriau sy’n gysylltiedig â’u rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd.

I gysylltu â’r tîm caplaniaeth hwn cysylltwch â’r Parchg Sara Roberts

07534 868127
sararoberts@churchinwales.org.uk

Y Parchg Peter Kaye | The Revd Peter Kaye

Clerigion ymddeoledig

Mae clerigwyr sydd wedi ymddeol yn rhan annatod o’n teulu esgobaethol, yn aml yn darparu cymorth a chefnogaeth ychwanegol mewn Ardaloedd Gweinidogaeth. Mae’r caplan i glerigwyr sydd wedi ymddeol yn cynnig gweinidogaeth o ofal bugeiliol ac ysbrydol i’r holl glerigwyr sydd wedi ymddeol (ni waeth a oes ganddynt ganiatâd i weinyddu ai peidio), yn ogystal â bod yn sianel gyfathrebu sy’n cadw clerigwyr sydd wedi ymddeol yn gysylltiedig â’r esgobaeth a’i gilydd.

I gysylltu â chaplan clerigwyr sydd wedi ymddeol, cysylltwch â'r Parchg Peter Kaye

07769 944070
peterakaye@gmail.com

Prifysgol Bangor

Rydym ar hyn o bryd yn aros am benodiad caplan i'r Brifysgol. Fodd bynnag, mae Cadeirlan Sant Deiniol yn ceisio cefnogi staff a myfyrwyr sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Bangor.

I siarad ag aelod o dîm gweinidogaeth y Gadeirlan cysylltwch â'r Parchg Ganon Tracy Jones

01248 361876
tracyjones@cinw.org.uk

Ysbyty (Ysbyty Gwynedd)

Gwasanaethir Ysbyty Gwynedd gan gaplan ysbyty sy’n darparu gofal bugeiliol ac ysbrydol i staff, cleifion a’u teuluoedd. I gysylltu â’r caplan i ofyn am ymweliad neu i gyfeirio claf, cysylltwch â’r Parchg Wynne Roberts

01248 384 095 (Est 4095)
Wynne.Roberts@wales.nhs.uk

Cymraeg

Chaplaincy

Chaplaincies provide specialist ministries in unique contexts, to particular people and for specific needs. Here are some of the chaplaincy provisions we have across the diocese:

Rural Life

The Diocese of Bangor is largely rural and those who experience some of the challenges of rural life, especially the agricultural industry, might have particular needs which require the support and ministry of a chaplain. Our diocesan rural life officer helps with chaplaincy provision and particularly through the work of ‘Tir Dewi’.

For more information, please contact The Revd Llew Moules-Jones

01248 715349
llewmoules-jones@esgobaethbangor.net

Y Parchg Sara Roberts | The Revd Sara Roberts

LGBTQI+

The diocesan LGBTQI+ chaplaincy is committed to ensuring that all members of the LGBTQI+ community are supported and cared for. We have a team of chaplains who are happy to provide pastoral and spiritual care to any experiencing challenges associated with their sexuality or gender identity.

To connect with this chaplaincy team please contact The Revd Sara Roberts

07534 868127
sararoberts@churchinwales.org.uk

Retired clergy

Retired clergy form an integral part of our diocesan family, often providing additional help and support in Ministry Areas. The chaplain to retired clergy offers a ministry of pastoral and spiritual care to all retired clergy (regardless of whether or not they have permission to officiate), as well as being a channel of communication keeping retired clergy connected to the diocese and one another.

To liaise with the chaplain to retired clergy please contact The Revd Peter Kaye

07769 944070
peterakaye@gmail.com

Bangor University

We are currently awaiting the appointment of a chaplain to the University. However, Saint Deiniol’s Cathedral seeks to support staff and students connected to Bangor University.

To speak with a member of the Cathedral ministry team please contact The Revd Canon Tracy Jones

01248 361876
tracyjones@cinw.org.uk

Y Parchg Ganon Tracy Jones | The Revd Canon Tracy Jones

Hospital (Ysbyty Gwynedd)

Ysbyty Gwynedd is served by a hospital chaplain providing pastoral and spiritual care to staff, patients and their families. To contact the chaplain to request a visit or to refer a patient, please contact The Revd Wynne Roberts

01248 384 095 (Ext 4095)
Wynne.Roberts@wales.nhs.uk