Bydd Naomi yn cael ei hordeinio’n ddiacon i wasanaethu ym Mro Tysilio, a bydd Karen yn cael ei hordeinio’n offeiriad wrth iddi barhau â’i gweinidogaeth ym Mro Dwylan. Bydd cyn Archesgob Cymru, Barry Morgan, yn arwain y gwasanaeth, ac mae croeso i bawb ddod.
Darllen rhagor am Naomi a Karen ar ein gwefan, lle maent yn siarad am eu galwedigaeth, eu gweinidogaeth a’r hyn y maent yn edrych ymlaen ato yn y dyfodol.
Karen Morris
Beth a’ch denodd chi gyntaf at weinidogaeth ordeiniedig?
Ar ôl gyrfa mewn Addysg Anglicanaidd, symudais yn ôl i Gymru. Cysylltais ag eglwys yn fy ardal a dechreuais gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Fe’m denodd Duw i weinidogaeth pregethu ac addysgu, ac at hyfforddiant mwy ffurfiol i gefnogi hynny. Yn y pen draw, profais alwad i weinidogaeth ordeiniedig.
A oedd yna foment, person neu brofiad penodol a’ch helpodd i adnabod y galwad hwn?
Rwy’n credu bod beth bynnag y mae Duw yn gofyn i chi ei wneud yn weinidogaeth ac yn alwad. Mae pob Cristion yn cael ei alw i fywyd â phwrpas yn Nuw. Mae’n dibynnu ar yr hyn y mae Ef yn galw pob un ohonom i’w wneud. Rwy’n tybio fy mod yn gwybod, ar ôl dod â’m gyrfa mewn arweinyddiaeth ysgol i ben, y byddai gan Dduw rywbeth arall i mi: nid ydym byth yn ymddeol go iawn yn Nheyrnas Dduw.
Wedyn, roedd yn fater o wrando am gyfeiriad Duw ar gyfer y cyfnod newydd hwn yn fy mywyd. Dechreuais hyfforddi i fod yn Ddarllenydd Lleyg oherwydd, er fy mod yn amau bod Duw eisiau imi fod mewn gweinidogaeth ordeiniedig, roeddwn i’n amharod iawn ar y dechrau ac, efallai, yn anfodlon dilyn hynny.
Yn Athrofa Padarn Sant, roedd cyd-fyfyriwr a ddywedodd, yn blwmp ac yn blaen: “Pam ar y ddaear nad ydych chi’n hyfforddi ar gyfer ordeiniad?” Fe wnaeth hynny wneud imi feddwl o ddifrif am y peth. Felly, siaradais â Duw amdano, gwrandewais yn weddigar ar farn pobl eraill y mae eu cyngor doeth yn bwysig i mi, ac, gyda’u hanogaeth, es drwy’r broses o ddirnadaeth i brofi’r alwad i weinidogaeth ordeiniedig.
Roeddwn yn teimlo nad oedd dirnadaeth yn ymwneud yn unig â’r Eglwys yn penderfynu mai dyma oedd fy ngalwad, ond hefyd â minnau’n cadarnhau’r hyn roeddwn yn teimlo bod Duw yn ei ddweud wrthyf.
Sut ydych chi’n teimlo wrth baratoi ar gyfer eich ordeiniad yng Nghadeirlan Bangor?
Rwy’n gyffrous am gymryd y cam nesaf ar y daith hon ac yn edrych ymlaen at yr hyn y mae Duw yn fy mharatoi i’w wneud. Rwy’n dal i deimlo braidd yn synnu fy mod wedi cael fy ngalw yn y ffordd hon.
Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf yn eich gweinidogaeth?
Rwy’n falch iawn o fod yn offeiriad o fewn yr ardal weinidogaeth ac o weithio ymhlith grŵp o bobl a chymuned yr wyf wedi bod yn rhan ohonynt ers dros dair blynedd. Rwy’n gwybod y bydd llawer o gyfleoedd datblygu i mi, ac mae cefnogaeth yno hefyd.
Beth ydych chi’n gobeithio y byddwch yn ei gyfrannu i’r gymuned leol?
Rwy’n teimlo bod Duw wedi siarad â mi am wneud y “pethau bychain”, fel y dysgodd Dewi Sant. I mi, mae hynny’n golygu cyflwyno’r bobl rwy’n eu cyfarfod i Iesu, sylwi ar y cyfleoedd y mae Duw yn eu rhoi i mi siarad amdano, gofalu amdanynt a dangos cariad Duw iddynt. A dweud y gwir, rwy’n hoffi sgwrsio! Rwyf hefyd eisiau bod yn rhan o ddatblygu’r Ardal Weinidogaeth i gefnogi disgyblaeth ymhlith credinwyr ac i dyfu gyda’n gilydd yn ein bywyd yn y Deyrnas.
Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl am weinidogaeth?
Byddwn yn dweud: siaradwch â Duw ac â’r rhai y mae eu doethineb yn bwysig i chi. Darllenwch yr ysgrythurau a gweld beth maen nhw’n ei ddweud wrthych am ddod yn fugail i’r rhai sydd â bugail, ac i’r rhai sydd heb un. Cymerwch amser i ddarganfod beth mae gweinidogaeth yn ei olygu, yr heriau yn ogystal â’r llawenydd.
Naomi Wood
Beth a’ch denodd chi gyntaf at weinidogaeth ordeiniedig?
Duw! Doeddwn i ddim eisiau cael fy ordeinio. Roeddwn i’n gallu gwneud popeth roeddwn i eisiau ei wneud fel lleygwr, ac roeddwn i’n benderfynol iawn fy mod i’n mynd i aros felly.
A oedd yna foment benodol a’ch helpodd i adnabod eich galwad?
Roedd llawer o bobl wedi gwneud sylwadau y dylwn i gael fy ordeinio. Ond y peth a wnaeth wahaniaeth oedd gorfod camu o’r neilltu ar ôl gweithio gyda theuluoedd a phlant pan oedd hi’n dod at ochr sacramentaidd y weinidogaeth. Doedd hynny ddim wedi fy mhoeni am flynyddoedd, ond yn raddol dechreuais deimlo bod Duw yn fy ngalw i wneud hynny hefyd. I allu sefyll yn y munudau hynny o ras mewn ffyrdd newydd a chreadigol, heb dorri unrhyw reolau!
Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf yn eich gweinidogaeth ym Mro Tysilio?
Creu cysylltiadau newydd â phlant, pobl ifanc a theuluoedd, a dod o hyd i ffyrdd o’u helpu i gyfarfod â Duw o fewn trefn draddodiadol yr eglwys, ond hefyd mewn ffyrdd newydd a chreadigol sy’n berthnasol iddyn nhw.
Beth ydych chi’n gobeithio y bydd eich gweinidogaeth yn ei gyfrannu i’r gymuned?
Dull newydd a ffres.
Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried galwad i weinidogaeth?
Siaradwch ag eraill o’ch cwmpas ac archwiliwch yr holl opsiynau gwahanol, yn lleyg ac yn ordeiniedig.
Naomi Wood and Karen Morris will be ordained at St Deiniol’s Cathedral in Bangor on Saturday 27 June at 11am.
Naomi will be ordained to the diaconate to serve in Bro Tysilio, while Karen will be ordained to the priesthood as she continues her ministry in Bro Dwylan. Former Archbishop of Wales Barry Morgan will lead the service.
Here you can read more about Naomi and Karen, where they talk about their vocation, ministry and what they are looking forward to in the future.
Karen Morris
What first drew you towards ordained ministry?
Following a career in Anglican Education I moved back to Wales. I connected with a church in my area and became involved with a variety of activities. God drew me into preaching and teaching ministry and towards more formal training to support that and, eventually, I tested a calling to ordained ministry.
Was there a particular moment, person or experience that helped you recognise this calling?
I believe that whatever God asks you to do is ministry and is a calling. Christians are all called to a purpose-driven life in God- it just depends on what He is calling each one of us to do. I suppose I knew that after ending my career in school leadership, God would have something else for me: we never really retire in the Kingdom of God. It was then a case of listening out for God’s direction for this new season in my life. I started training to be a Lay Reader because although I suspected God wanted me in ordained ministry, I was initially very reluctant and, perhaps, unwilling to pursue it. At St Padarn’s there was a fellow student who said, very bluntly, “Why on earth are you not training for ordination?” and who really got me thinking about it. So, I talked to God about it, listened, prayerfully, to the thoughts of others whose wise counsel I trust and, with encouragement, went through the process of discernment to test the calling to ordained ministry. I felt that discernment was not only for the Church to determine that this was my calling but for me to confirm what I felt God was saying to me.
How are you feeling as you prepare for ordination at Bangor Cathedral?
I am excited about taking the next step in this journey and looking forward to what God is preparing me to do. I still feel rather surprised to be called in this way.
What are you most looking forward to in your ministry?
I am delighted to be a priest within the ministry area and to be working among a group of people and a community that I’ve been part of for over three years. I know that there will be lots of development opportunities for me and that there is support there, too.
What do you hope you will bring to the local community?
I feel that God has spoken to me about doing the “little things” as taught by St David. For me that is introducing the people I meet to Jesus, spotting the opportunities God gives me to talk about him, to care for them and show God’s love to them. To be honest, I love to chat! I also want to be part of developing the Ministry Area to support discipleship among believers and in growing in our Kingdom life together.
What would you say to someone who is thinking about ministry?
I’d say, talk to God and to those whose wisdom you trust. Read the scriptures and see what they tell you about becoming a Shepherd to those who are with and without one. Take time to find out what ministry entails - the challenges as well as the joys!
Naomi Wood
What first drew you towards ordained ministry?
God! I didn’t want to be ordained. I could do everything I wanted to as a lay person and was adamant I was going to stay that way.
Was there a particular moment that helped you recognise your calling?
Lots of people made comments that I should be. But it was having to step aside after working with families and children when it came to the sacramental side of ministry. It hadn’t bothered me for years but slowly began to feel that God was calling me to do that too. To be able to stand in those moments of grace in new and creative ways (without breaking any rules!).
What are you most looking forward to in your ministry in Bro Tysilio
Making new connections with children, young people and families and finding ways to help them encounter God both within the traditional church setup but also in new and creative ways that are relevant to them.
What do you hope your ministry will bring to the community?
A fresh approach
What would you say to someone who's considering a call to ministry?
Speak to others around you and explore all the different options - both lay and ordained.