Galwedigaethau
Sut y gallai Duw fod yn eich galw chi i wasanaethu drwy weinidogaethau’r Eglwys yng Nghymru?
Mae yna nifer o wahanol ffyrdd ygallwch chi wasanaethu’r Eglwys trwy weinidogaethau comisiynedig a thrwyddedig yr Eglwys yng Nghymru. Yn yr adran yma o'r wefan ceir amlinelliad o'r gweinidogaethau gwahanol a straeon o'r rhai sydd yn gwasanaethu yn y gweinidogaethau yna yn barod.
Os ydych am archwilio’n bellach yn sgil hynny, siaradwch ag Arweinydd eich Ardal Weinidogaeth, neu cysylltwch â Chyfarwyddwr Gweinidogaeth yr Esgobaeth.
Mae tyfu gweinidogaethau newydd yn un o’n canolbwyntiau esgobaethol allweddol.
Gweddïwch y bydd llawer yn clywed galwad Duw ledled yr esgobaeth yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, i’n cynorthwyo ni oll i ddilyn Crist ac i rannu ei newyddion da.
Vocations
How might God be calling you?
You can serve the Church in several different ways through the commissioned and licensed ministries of the Church in Wales.
In this section of the website, you will find outlines of the different ministries and stories from those who are already serving in those ministries.
If you want to explore further please talk to your Ministry Area Leader, or contact the Diocesan Director of Ministry Alex Mayes alexiermayes@cinw.org.uk