minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

COIF

Fel arfer mae gan Ardaloedd Weinidogaeth ddau fath o fuddsoddiad y maent yn cyfeirio atynt fel buddsoddiadau COIF.

Y math cyntaf yw un sy'n cael ei reoli'n lleol ac fel arfer mae'n un o'r cynhyrchion gan CCLA. Os oes gan waith papur logo CCLA neu rifau cyfrif arno, yna cyfrif buddsoddi ydyw sy'n cael ei reoli'n lleol yn uniongyrchol drwy CCLA yn yr un modd ag y rheolir cyfrif banc lleol yn lleol trwy fanc.

Yr ail fath yw'r Gronfa Fuddsoddi Gyffredin sy'n cael ei rheoli a'i rhedeg gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru. Bydd gwaith papur sy'n gysylltiedig â'r math hwn o fuddsoddiad yn dod o Gaerdydd a bydd ganddo fanylion Corff y Cynrychiolwyr ar frig y gwaith papur. Yr unig berson o fewn Ardal Weinidogaeth sy'n gallu cael mynediad llawn i'r wybodaeth am y buddsoddiadau hyn yw eich arweinydd Ardal Weinidogaeth.

Cronfa Buddsoddiadau Cyffredin yr Eglwys yng Nghymru

Cynllun buddsoddi cyfunol yw Cronfa Buddsoddiadau Cyffredin yr Eglwys yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru (Corff y Cynrychiolwyr) dan gynllun a gymeradwywyd gan y Comisiwn Elusennau ar 11 Rhagfyr 2008, er mwyn buddsoddi arian sy’n perthyn i unrhyw elusen y mae Corff y Cynrychiolwyr yn Ymddiriedolwr arni neu sydd o fudd i elusen o’r fath.

Corff y Cynrychiolwyr yw ymddiriedolwyr y Gronfa Buddsoddiadau Cyffredin, ac mae wedi penodi ei Bwyllgor Buddsoddi i’w goruchwylio. Bydd y Pwyllgor Buddsoddi yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, yn derbyn adroddiadau chwarterol oddi wrth Reolwr y Gronfa, ac yn monitro strategaeth y Gronfa a’i pherfformiad. Rheolir y Gronfa gan Reolwr y Gronfa (Newton Investment Management) yn unol â Chytundeb Rheoli Buddsoddiadau, ac fe’i gweinyddir gan staff Corff y Cynrychiolwyr.

Rheolir y Gronfa gan Reolwr y Gronfa (Newton Investment Management) yn unol â Chytundeb Rheoli Buddsoddiadau, ac fe’i gweinyddir gan staff Corff y Cynrychiolwyr.

Disgrifiad o’r Gronfa

Mae’r Gronfa’n addas at fuddsoddi gan Ardaloedd Weinidogaeth pan ddymunir twf hirdymor mewn cyfalaf, lefel resymol o incwm a chynnydd mewn incwm. Nid yw’n addas i ddal arian y mae’n debyg y bydd ei angen yn y dyfodol agos.

Gellir buddsoddi cronfeydd Ardal Weinidogath ac ymddiriedolaethau cymynroddion a rhoddion yn y Gronfa.

Rhennir yr ymddiriedolaethau a ddelir yn y Gronfa yn ymddiriedolaethau gwariadwy ac ymddiriedolaethau anwariadwy. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe grynhoir incwm ymddiriedolaethau gwariadwy ac yna naill ai ei ail-fuddsoddi neu ei dalu i’r Ardal Weinidogaeth. Fel rheol, dosberthir incwm ymddiriedolaethau anwariadwy yn chwarterol.

Cymraeg

COIF

Ministry Areas usually have two types of investments that they refer to as COIF investments.

The first type is one that is managed locally and is usually one of the products from CCLA.  If any of the paperwork has the CCLA logo or account numbers on it then it is an investment account that is managed locally directly through CCLA in the same way as a local bank account is managed locally through a bank.

The second type is the Common Investment Fund that is managed and run by the Representative Body of the Church in Wales.  Paperwork associated with this type of investment will come from Cardiff and will have the details of the Representative Body on the top of the paperwork.  The only person within a Ministry Area that can gain full access to the information about these investments is your Ministry Area leader.

Church in Wales Common Investment Fund

The Church in Wales Common Investment Fund is a collective investment scheme that was established by The Representative Body of the Church in Wales (The Representative Body), under a scheme approved by the Charity Commissioners on 11 December 2008, for the investment of monies belonging to or benefiting any charity for which the Representative Body is Trustee.

The Representative Body is the Trustee of the Common Investment Fund, and has appointed its Investment Committee to oversee the Fund. The Investment Committee meets four times a year, receives quarterly reports from the Fund Manager, and monitors the strategy and performance of the Fund.

The Common Investment Fund is managed by the Fund Manager (Newton Investment Management) in accordance with an Investment Management Agreement, and is administered by the staff of the Representative Body.

Description of the Fund

The Fund is suitable for investment by Ministry Areas where long term capital growth and a reasonable level of income and income growth are desired, and is not suitable for money that is liable to be needed in the near future.

Ministry Area funds and trusts from bequests and legacies can be invested in the Fund.

Trusts held in the Fund are distinguished between expendable and non-expendable trusts. In most cases income from expendable trusts is accrued and either reinvested or paid out to the Ministry Area. Non-expendable trust income is usually distributed on a quarterly basis.

Further information about the Church in Wales Common Investment Fund can be found by following this link.