Cyfarwyddyd Ysbrydol
Spiritual Direction
Mae cyfarwyddyd ysbrydol yn ffordd o greu lle i sylwi ble mae Duw ar waith yn eich bywyd.
Y ffordd orau o’i ddeall yw fel cwmnïaeth ysbrydol: sgwrs gyfrinachol gyda rhywun sydd wedi’i hyfforddi i wrando, eich helpu i fyfyrio ar eich bywyd gyda Duw, a’ch cefnogi wrth ichi geisio dirnad galwad Duw.
Gall cyfarwyddyd ysbrydol fod o gymorth os ydych yn:
- Ceisio dyfnhau eich perthynas â Duw.
- Myfyrio ar weddi, galwedigaeth neu alwad.
- Wynebu cyfnod o newid.
- Dirnad y cam nesaf mewn bywyd neu weinidogaeth.
- Dymuno bod yn fwy ymwybodol o bresenoldeb Duw ym mywyd beunyddiol.
Mae’n agored i’r clerigwyr, Gweinidogion Lleyg Trwyddedig, Darllenwyr, ymgeiswyr am urddau, aelodau eglwysig, ac unrhyw un sy’n dymuno archwilio eu ffydd yn fwy manwl.
Mae pob Cyfarwyddydd Ysbrydol yn Esgobaeth Bangor wedi’i gomisiynu ar gyfer y weinidogaeth hon ar ôl cwblhau hyfforddiant trylwyr. Mae ganddynt hefyd gliriad DBS yr Eglwys yng Nghymru a hyfforddiant diogelu.
Cydlynydd Cyfarwyddyd Ysbrydol
Y Parchg Kathryn Evans yw Cydlynydd Cyfarwyddyd Ysbrydol yr esgobaeth. Mae Kathryn hefyd yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cybi.
Fel Cydlynydd, mae Kathryn yn helpu pobl sydd â diddordeb mewn cyfarwyddyd ysbrydol i ddod o hyd i Gyfarwyddydd Ysbrydol a allai fod yn addas iddynt.
Pan fyddwch yn cysylltu â Kathryn, bydd yn cael sgwrs gychwynnol gyda chi ynghylch yr hyn yr ydych yn ei obeithio a ph’un a oes gennych unrhyw anghenion neu ddewisiadau penodol. Yna bydd yn awgrymu Cyfarwyddydd Ysbrydol a allai fod yn addas.
Y nod yw eich helpu i ddod o hyd i rywun y gallwch siarad yn onest ac yn gyfforddus ag ef.
Beth sy’n digwydd yn y cyfarfod cyntaf?
Fel arfer, mae’r cyfarfod cyntaf yn anffurfiol ac yn hamddenol. Mae’n gyfle i ddod i adnabod eich gilydd ac i siarad am yr hyn sydd wedi eich arwain i ystyried cyfarwyddyd ysbrydol.
Gall eich Cyfarwyddydd Ysbrydol ofyn am eich bywyd gweddi, ble rydych yn synhwyro presenoldeb Duw ar hyn o bryd, a beth yr ydych yn gobeithio y gall cyfarwyddyd ysbrydol ei gynnig. Gallwch hefyd drafod trefniadau ymarferol, gan gynnwys pa mor aml y byddwch yn cwrdd a sut mae cyfrinachedd yn gweithio.
Bydd Cyfarwyddydd Ysbrydol yn cerdded ochr yn ochr â chi, gan eich helpu i sylwi ar yr hyn sydd o’ch cwmpas a’ch cynorthwyo i fyfyrio mewn gweddi ar eich perthynas â Duw.
Darganfod mwy
Am ragor o wybodaeth am gyfarwyddyd ysbrydol yn Esgobaeth Bangor, cysylltwch â:
Y Parchg Kathryn Evans
Cydlynydd Cyfarwyddyd Ysbrydol
Spiritual direction is a way of making space to notice where God is at work in your life.
It is best understood as spiritual companionship: a confidential conversation with someone trained to listen, help you reflect on your life with God, and support you as you seek to discern God’s call.
Spiritual direction may be helpful if you are:
- Seeking to deepen your relationship with God.
- Reflecting on prayer, vocation or calling.
- Facing a time of change.
- Discerning a next step in life or ministry.
- Wanting to become more attentive to God in daily life.
It is open to clergy, Licensed Lay Ministers, Readers, ordinands, church members, and anyone who wants to explore their faith more deeply.
All spiritual directors in the Diocese of Bangor are commissioned for this ministry after completing in-depth training. They also have Church in Wales DBS clearance and safeguarding training.
Spiritual Direction Convenor
Revd Kathryn Evans is the Spiritual Direction Convenor for the diocese. Kathryn is also Ministry Area Leader in Bro Cybi.
As Convenor, Kathryn helps people who are interested in spiritual direction to find a spiritual director who may be a good fit.
When you contact Kathryn, she will have an initial conversation with you about what you are hoping for and whether you have any particular needs or preferences. She will then suggest a spiritual director who may be suitable.
The aim is to help you find someone with whom you can speak honestly and comfortably.
What happens at the first meeting?
The first meeting is usually relaxed. It is a chance to get to know one another and to talk about what has led you to consider spiritual direction.
Your spiritual director may ask about your prayer life, where you currently sense God’s presence, and what you hope spiritual direction might offer. You can also discuss practical arrangements, including how often you will meet and how confidentiality works.
A spiritual director does will walk alongside, helping you notice what is around you and help you to prayerfully reflect on your relationship with God.
Find out more
For further information about spiritual direction in the Diocese of Bangor, please contact:
Revd Kathryn Evans
Spiritual Direction Convenor
Tel: 07568 555585