Y Ddolen
8 Medi 2024
Y Pumthegfed Sul ar Ddeg wedi'r Drindod
Gweddi gasgl
O Dduw,
yn dy drugaredd hael
anfonaist yr Ysbryd Glân ar dy Eglwys,
yn nhân ysol dy gariad:
caniatâ i’th bobl fod yn danbaid
yng nghymdeithas yr efengyl
fel, gan fyw’n wastadol ynot ti,
y ceir hwy yn gadarn mewn ffydd
ac yn ymroddgar eu gwasanaeth;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Cofleidio undod a'n pwrpas cyffredin
Yn ei araith arlywyddol yn y Corff Llywodraethol, siaradodd Archesgob Cymru am bwysigrwydd undod a gweithredu ar y cyd o fewn yr Eglwys. Tynnodd sylw at bŵer cydweithio, yn enwedig yn wyneb heriau modern, gan annog yr Eglwys i fabwysiadu ysbryd "gwell, gyda'i gilydd." Gan dynnu ar esiampl gweinidogaethau arloesol, galwodd yr Archesgob ar yr Eglwys i wrando, dysgu a gweithredu'n feiddgar wrth gyflawni ei chenhadaeth.
Meddai, "Mae Duw yn adeiladu eglwys a fydd yn dra gwahanol i'r un y bedyddiwyd ni ynddi. Ond mae’n eglwys sydd mewn sefyllfa well ac sydd wedi’i siapio’n fwy creadigol er mwyn estyn allan mewn gwasanaeth cariadus ac yng Nghrist Iesu."
"Mae gweithredu ar y cyd yn hanfodol er mwyn datrys argyfwng afonydd"
Bydd uwch-gynhadledd Eglwysig ar lygredd afonydd yn dod â ffermwyr, cynrychiolwyr y diwydiant dŵr, amgylcheddwyr ac academyddion ynghyd mewn un o’r cynulliadau mwyaf o’i fath, meddai Archesgob Cymru.
Amlinellodd yr Archesgob, Andrew John, gynlluniau ar gyfer yr uwch-gynhadledd yn ei Anerchiad Llywyddol i aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ar ddechrau ei gyfarfod deuddydd.
Dywedodd, “Rydym wedi casglu un o’r cynulliadau mwyaf o’i fath, a fydd yn cyfarfod ym mis Tachwedd eleni ar ôl 18 mis o baratoi….Mae hwn yn fater cymhleth ac mae gofynion cystadleuol a fydd yn gofyn am ymgysylltiad cryf a mynegiant clir os yw’r trafodaethau yn mynd i lywio barn y cyhoedd a dod yn bolisi neu’n uchelgais yn y byd gwleidyddol. Ein bwriad yw creu cytundeb ynghylch yr egwyddorion a’r cyfeiriad sydd eu hangen ac ymrwymo i sgwrs barhaus os nad yw cytundeb llwyr yn bosibl.”
Gwrthwynebodd yr Archesgob Andrew y syniad na ddylai'r Eglwys ymwneud â materion seciwlar. Dywedodd, “Nid dim ond canu emynau ar y Sul ydyn ni! Bydd eglwys sy’n wirioneddol radical yn ei hymwneud â’r byd yn mynd i’r afael â materion hollbwysig, boed yn newid yn yr hinsawdd, AI neu dlodi a rhyfel.”
Llwybr Cadfan
Mae Llwybr Cadfan yn lansio Dydd Sadwrn 28ain Medi yn Eglwys Cadfan Sant, Tywyn – yr eglwys gyntaf ar lwybr y bererindod.
09:30 Bydd pererinion yn cerdded i Eglwys y Santes Fair a Egryn Sant , Llanegryn – yr ail eglwys ar y llwybr - a byddant yn dychwelyd am wasanaeth arbennig a chyngerdd ar thema pererindod. Cofrestrwch i'r bererindod ar Eventbrite.
11.30 Diwrnod Agored.
Yn ystod y dydd bydd Eglwys Cadfan Sant yn cynnal diwrnod agored Llwybr Cadfan lle gall ymwelwyr ddarganfod mwy am lwybr y bererindod. Mae'r diwrnod agored yn cynnwys gweithdy barddoniaeth dwyieithog ar gyfer pob oed wedi'i ysbrydoli gan dirwedd y llwybr, gweithdy creu stamp pererindod i blant, digwyddiad gweddïgar, a phererindod fach sy'n archwilio Carreg Cadfan- carreg o bwysigrwydd hanesyddol gwirioneddol o'r 7fed i'r 8fed ganrif sy'n dal croes Ladin linol a'r arysgrif ysgrifenedig cynharaf y gwyddwn amdani o'r iaith Gymraeg gynharaf ddarganfuwyd erioed.
15.00 - 16.00 Mae'r gwasanaeth yn cynnwys perfformiad gan y gantores a'r gyfansoddwraig Cristnogol Cass Meurig a barddoniaeth gan y beirdd enwog Siân Northey a Siôn Aled.
Rydym hefyd yn cynnal teithiau tywys rhagarweiniol ar hyd Llwybr Cadfan ym mis Medi a Hydref.
- Dydd Iau 12 Medi 2024 – Chwilog – Pwllheli
- Dydd Sadwrn 28 Medi 2024– Pwllheli - Llanengan
- Dydd Iau 10 Hydref 2024 – Llanengan - Aberdaron
- 26 Hydref 2024 – Aberdaron Cylchlythyr/Aberdaron – Ynys Enlli
Swyddi Gwag
Rydym yn chwilio am offeiriad i arwain a gwasanaethu cenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yn:
- Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin (Conwy)
- Ardal Weinidogaeth Bro Cybi (Ynys Môn)
- Ardal Weinidogaeth Bro Seiriol (Ynys Môn)
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â'r Archddiacon.
Dyddiadur
21 Medi
Cynhadledd Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a Chlynnog Fawr
09:45, Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
28 Medi
Lansio Llwybr Cadfan. Manylion i'w dilyn.
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Matt Batten erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
8 September 2024
The Fifthteenth Sunday after Trinity
Collect
God,
who in generous mercy sent the Holy Spirit
upon your Church in the burning fi re of your love:
grant that your people may be fervent
in the fellowship of the gospel
that, always abiding in you,
they may be found steadfast in faith and active in service;
through Jesus Christ your Son our Lord,
who is alive and reigns with you
and the Holy Spirit,
one God, now and for ever.
Embrace unity and our shared purpose
In his presidential speech at the Governing Body, the Archbishop of Wales spoke about the importance of unity and collective action within the Church. He highlighted the power of collaboration, especially in the face of modern challenges, urging the Church to adopt a spirit of "better, together." Drawing on the example of pioneering ministries, the Archbishop called on the Church to listen, learn, and act boldly in fulfilling its mission.
Said the Archbishop, "God is building a church which will be quite different from the one into which we were baptised. But it is a church which is better placed and shaped more creatively to reach out in loving service and in Christ Jesus."
Joint action is vital to solve rivers’ crisis
A Church summit on river pollution will bring together farmers, water industry representatives, environmentalists and academics in one of the largest gatherings of its kind, said the Archbishop of Wales at this week's Governing Body.
The Archbishop, Andrew John, outlined plans for the summit in his Presidential Address to members of the Governing Body of the Church in Wales at the start of its two-day meeting.
He said, “We have amassed one of the largest gatherings of its kind, meeting in November this year after 18 months of preparation…. This is a complex matter and there are competing demands which will require strong engagement and clear articulation if conversation is to both shape public opinion and become policy or ambition in the political realm. Our intention is to create agreement about the principles and direction of travel required and commit to ongoing conversation where or, if, complete agreement is not possible.”
Archbishop Andrew rebuffed challenges about why the Church should be concerned with secular matters. He said, “We don’t just sing hymns on Sunday! A church which is truly radical in its engagement with the world will address critical issues whether climate change, AI or poverty and war.” The summit would also invite church action to help communities engage locally with projects, he said. “But, of course, we are better together.”
Llwybr Cadfan launch event
Llwybr Cadfan launches on Saturday 28th September Day at Saint Cadfan’s Church, Tywyn – the first church on the pilgrimage trail.
09.30: An opportunity to walk the first stage of Llwybr Cadfan from Saint Cadfan’s Church to St Mary and St Egryn's Church, Llanegryn. For more information and to take part, book your place on Eventbrite.
11.30: Open Day. For all ages. No need to book - just turn up!
During the day visitors can find out more about the pilgrimage trail and take part in a bilingual poetry workshop inspired by the landscape of the pilgrimage trail. Activities include a kids pilgrimage stamp workshop, a prayer event, and a mini-pilgrimage exploring the historic Cadfan Stone – a 7th or 8th century stone that holds a linear Latin cross and the earliest known inscription of the Welsh language.
3-4pm: A special pilgrimage service to welcome to pilgrims back featuring Christian singer Cass Meurig and poets Siân Northey and Siôn Aled.
We also host introductory guided walks along Llwybr Cadfan in September and October.
- Thursday 12th September 2024 – Chwilog – Pwllheli
- Saturday 28th September 2024– Pwllheli - Llanengan
- Thursday 10th October 2024 – Llanengan - Aberdaron
- 26th October 2024 – Aberdaron Circular /Aberdaron – Ynys Enlli
Vacancies
We are seeking a Ministry Area Leader and vicar for:
- Bro Celynnin (Conwy).
- Bro Seiriol (Anglesey).
- Bro Cybi (Anglesey).
If you are interested please contact the relevant Archdeacon for a conversation.
Diary
21 September
Medieval Welsh Literature and Clynnog Fawr: A Symposium
09:45, Saint Deiniol's Cathedral
Book online.
28 September
Launch of Llwybr Cadfan pilgrimage route.
Details to follow.
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Matt Batten by the end of day on Wednesday before you would like it published.