Jonno Jones LLM
Mae Jonno Jones yn Weinidog Darllenydd Lleyg Trwyddedig yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis. Mae Gweinidogion Lleyg Trwyddedig yn gwasanaethu ar draws yr esgobaeth drwy arwain addoliad, pregethu, cynnig gofal bugeiliol a helpu pobl i dyfu yn eu ffydd.
Yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, mae Jonno wedi byw a gweithio yn yr ardal ers blynyddoedd lawer ac wedi bod yn rhan o fywyd eglwysig Llanberis ers amser maith. Ochr yn ochr â’i weinidogaeth, mae wedi gweithio ers dros 37 mlynedd fel Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy, gan helpu pobl i fagu hyder ac annibyniaeth. Dywed fod Llanberis yn lle arbennig iddo, a’i bod yn fraint gwasanaethu’r gymuned leol ac addoli yn Eglwys Sant Padarn.
A allech chi ddweud ychydig amdanoch chi’ch hun a’ch cysylltiad â Llanberis?
Rwyf wedi byw a gweithio yn yr ardal ers blynyddoedd lawer ac wedi bod yn rhan o fywyd eglwysig Llanberis ers amser maith. Ochr yn ochr â’m gweinidogaeth, rwyf wedi gweithio fel Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy ers dros 37 mlynedd, gan helpu pobl i fagu hyder ac annibyniaeth. Mae Llanberis yn lle arbennig i mi, ac mae’n fraint gwasanaethu’r gymuned ac addoli yn Eglwys Sant Padarn.
Sut byddech chi’n disgrifio eich galwad i ddod yn Darllenydd Lleyg Trwyddedig?
Tyfodd fy ngalwad yn raddol dros amser drwy weddi, addoliad, ac anogaeth eraill o fewn yr Eglwys. Teimlais awydd cynyddol i rannu cariad Duw, ei Air, ac i gerdded ochr yn ochr â phobl ar eu taith ffydd. Wrth edrych yn ôl, gallaf weld llaw Duw yn fy arwain yn dyner tuag at y weinidogaeth hon, hyd yn oed cyn i mi ei hadnabod yn llawn fy hun. Ar gyfnod mewn bywyd pan fo llawer o bobl yn meddwl am arafu, cefais brofiad o Dduw yn agor pennod newydd o weinidogaeth a gwasanaeth. Mae wedi bod yn atgof bendigedig nad yw galwad Duw yn dibynnu ar oedran, ond ar galon barod.
Sut brofiad fu’r daith o hyfforddi a pharatoi?
Mae’r hyfforddiant wedi bod yn heriol, yn werth chweil ac yn hynod gyfoethog. Mae wedi fy helpu i dyfu yn fy nealltwriaeth o’r Ysgrythur, diwinyddiaeth, addoliad a gweinidogaeth fugeiliol. Bu adegau pan gefais fy ymestyn a’m cymryd allan o’m cynefin cyfforddus, ond drwy’r cyfan rwyf wedi profi ffyddlondeb Duw a chefnogaeth tiwtoriaid, clerigion, cyd-fyfyrwyr ac aelodau eglwysig arbennig.
Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf yn y weinidogaeth newydd hon?
Rwy’n edrych ymlaen fwyaf at wasanaethu pobl, rhannu Gair Duw, arwain addoliad, pregethu, ac annog eraill yn eu ffydd. Rwy’n gobeithio helpu pobl i deimlo eu bod yn cael croeso, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a’u bod yn cael eu caru gan Dduw, boed nhw wedi bod yn rhan o’r Eglwys ers blynyddoedd lawer neu’n dechrau archwilio ffydd am y tro cyntaf.
Beth mae gweinidogaethu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ei olygu i chi?
Cymraeg yw fy iaith gyntaf, ac mae’n rhodd werthfawr gallu gweinidogaethu yn iaith calon pobl. Mae ffydd, gweddi, addoliad a’r Ysgrythur yn aml yn cario dyfnder ac agosatrwydd arbennig pan gânt eu clywed ym mamiaith rhywun . Mae gallu gwasanaethu’n ddwyieithog hefyd yn bwysig, gan helpu i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys ac yn gallu cymryd rhan lawn ym mywyd yr Eglwys.
A oes darn o’r Beibl sydd wedi bod yn arbennig o bwysig i chi ar y daith hon?
Un adnod o’r Beibl sydd wedi bod yn fy meddwl drwy gydol y daith hon yw Eseia 6:8: “Dyma fi, anfon fi.” Mae’r geiriau syml hynny yn mynegi rhywbeth o’m hymateb i alwad Duw. Rwyf hefyd wedi cael fy annog yn fawr gan dreftadaeth gyfoethog Cristnogaeth Gymraeg, yn enwedig ei phwyslais ar weddi, cymuned a thystiolaeth ffyddlon.
A oes unrhyw un yr hoffech ddiolch iddo neu ei gydnabod yn arbennig?
Hoffwn ddiolch i’m teulu, fy ffrindiau, cymunedau eglwysig Bro Eryri a Bro Tysilio, a phawb sydd wedi fy nghefnogi, fy annog a gweddïo drosof drwy gydol y daith hon. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r clerigion, y tiwtoriaid a’r arweinwyr gweinidogaeth sydd wedi fy arwain yn ystod fy hyfforddiant. Mae eu hanogaeth, eu doethineb a’u ffydd ynof wedi bod yn fendith aruthrol.
Anogir unrhyw un sy’n teimlo galwad i archwilio gweinidogaeth leyg i siarad â’u hoffeiriad lleol neu arweinydd eu hardal weinidogaeth.
Jonno Jones is a Licensed Lay Minister Reader at St Padarn’s Church, Llanberis. Licensed Lay Ministers serve across the diocese by leading worship, preaching, offering pastoral care and helping people grow in faith.
A first-language Welsh speaker, Jonno has lived and worked in the area for many years and has long been part of church life in Llanberis. Alongside his ministry, he has worked for more than 37 years as an Approved Driving Instructor, helping people gain confidence and independence. He says Llanberis is a special place to him and that it is a privilege to serve the local community and to worship at St Padarn’s Church.
Could you tell me a little about yourself and your connection with Llanberis?
I have lived and worked in the area for many years and have been part of church life in Llanberis for a long time. Alongside my ministry, I have worked as an Approved Driving Instructor for over 37 years, helping people gain confidence and independence. Llanberis is a special place to me, and it is a privilege to serve the community and worship at St Padarn’s Church.
How would you describe your calling to become an LLM Reader?
My calling grew gradually over time through prayer, worship, and the encouragement of others within the Church. I felt a growing desire to share God's love, His Word, and to walk alongside people in their faith journeys. Looking back, I can see God's hand gently guiding me towards this ministry, even before I fully recognised it myself. At a stage in life when many people are thinking about slowing down, I found God opening a new chapter of ministry and service. It has been a wonderful reminder that God's call does not depend on age, but on a willing heart.
What has the journey of training and preparation been like for you?
The training has been challenging, rewarding, and deeply enriching. It has helped me grow in my understanding of Scripture, theology, worship, and pastoral ministry. There have been moments when I have been stretched and taken out of my comfort zone, but through it all I have experienced God's faithfulness and the support of wonderful tutors, clergy, fellow students, and church members.
What are you most looking forward to in this new ministry?
I am most looking forward to serving people, sharing God's Word, leading worship, preaching, and encouraging others in their faith. I hope to help people feel welcomed, valued, and loved by God, whether they have been part of the Church for many years or are exploring faith for the first time.
What does it mean to you to minister through the medium of Welsh?
Welsh is my first language, and it is a precious gift to be able to minister in the language of people's hearts. Faith, prayer, worship, and Scripture often carry a special depth and familiarity when heard in one's own language. Being able to serve bilingually is also important, helping to ensure that everyone feels included and able to participate fully in the life of the Church.
Is there a Bible passage that has been especially important to you on this journey?
One Bible verse that has accompanied me throughout this journey is Isaiah 6:8: "Here am I. Send me." Those simple words capture something of my response to God's call. I have also been greatly encouraged by the rich heritage of Welsh Christianity, particularly its emphasis on prayer, community, and faithful witness.
Is there anyone you would particularly like to thank or acknowledge?
I would like to thank my family, friends, church communities in Bro Eryri and Bro Tysilio, and all those who have supported, encouraged, and prayed for me throughout this journey. I am especially grateful to the clergy, tutors, and ministry leaders who have guided me during my training. Their encouragement, wisdom, and faith in me have been a tremendous blessing.