Sesiwn wybodaeth: Curiad Calon
Ar-leinInformation Session: Curiad Calon
Online23/10/2026, 11 a.m. - 23/10/2026, noon
Online
Hoffai’r Parchg Eryl Parry wahodd aelodau Cynghorau Ardaloedd Gweinidogaeth ac eraill sy’n ymwneud ag arwain Ardaloedd Gweinidogaeth i ddysgu rhagor am Curiad Calon.
Mae’r rhaglen wedi’i datblygu yma yn Esgobaeth Bangor ac mae bellach wedi’i chyflwyno’n llwyddiannus mewn tair Ardal Weinidogaeth. Mae eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dros wyth sesiwn wythnosol, byddwn yn ystyried gyda’n gilydd: Sut gallwn adlewyrchu curiad calon bywiog Duw yng nghanol ein cymunedau, hyd yn oed mewn cyfnod o ddirywiad ac ansicrwydd?
Dywedodd Kathryn Evans, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cybi, “Mae wedi rhoi iaith gyffredin inni ar gyfer ein cyfarfodydd CAW, gan bwysleisio’n arbennig ein gwerthoedd craidd, sef yr hyn sy’n dod â ni ynghyd ac sy’n llawer mwy na’r hyn sy’n ein gwahanu.”
Yn aml, mae agendâu ein cyfarfodydd CAW yn llawn materion y mae angen eu trafod, ac mae’n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd gyda’n gilydd. Efallai ein bod yn cynrychioli cynulleidfaoedd a chymunedau gwahanol iawn, ond rydym hefyd wedi’n galw i fyw gyda’n gilydd fel Ardal Weinidogaeth. Un o’r negeseuon cliriaf gan y rhai sydd wedi cymryd rhan yw bod angen i bobl ddod yn gyd-ddisgyblion cyn iddynt wneud penderfyniadau gyda’i gilydd.
Mae Curiad Calon yn cynnig lle i wneud hynny: i weddïo, addoli, darllen yr Ysgrythur, gwrando ar ein gilydd a myfyrio gyda’n gilydd. Mae wedi’i gynllunio i fod yn ddiddorol ac yn bleserus, gyda digon o gyfleoedd i ryngweithio, a gellir ei gyflwyno’n ddwyieithog.
Bydd y Parchg Eryl Parry yn cynnal cyfarfod byr ar Zoom, ynghyd â rhai sydd eisoes wedi cymryd rhan, i unrhyw un a hoffai glywed rhagor am y rhaglen a’r hyn y gall ei gynnig.
- Dydd Gwener 23 Hydref, 11am–12pm
- I gofrestru a chael dolen Zoom, anfonwch e-bost at erylparry@cinw.org.uk gyda ‘Curiad Calon’ fel y teitl.
Revd Eryl Parry would like to invite members of Ministry Area Councils and others involved in MA leadership to find out more about Curiad Calon.
It's a programme that's been developed here in Bangor Diocese, successfully delivered now in three different Ministry Areas - and is already making a real difference. Overeight weeks of weekly sessions, we explore together: How can we reflect God’s vibrant heartbeat at the centre of our communities, even amid decline and uncertainty?
Says Kathryn Evans, (Ministry Area Leader, Bro Cybi), "it has given us a shared language for our MAC meetings, especially underlining our core values - what brings us together, which is far greater than what drives us apart"
So often our MAC meetings necessarily have agendas full of business, and we are called to make difficult decisions together. We may represent very different congregations and communities, but we are also called to 'do life together' as a Ministry Area. One of the clearest insights from those who have taken part is that before making decisions together, people first become fellow disciples together.
Curiad Calon creates space to do just that – to pray, worship, explore Scripture, listen to one another and reflect together. It is designed to be engaging and enjoyable, with plenty of interaction, and can be delivered bilingually. Rev Eryl Parry will be hosting a short Zoom meeting, together with some people who have taken part, for anyone who would like to hear more about the programme and what it can offer.
- Friday 23 October 11am - 12 noon
- Register to be sent a zoom link: erylparry@cinw.org.uk with the heading 'Curiad Calon'