Diogelu
Rhoi gwybod am bryder diogelu
Defnyddiwch ffurflen ar-lein yr Eglwys yng Nghymru i roi gwybod am bryder diogelu.
Os oes gennych chi wybodaeth am sefyllfa ddiogelu lle mae plentyn neu oedolyn mewn perygl uniongyrchol neu angen sylw meddygol brys, ffoniwch y gwasanaethau brys nawr ar 999.
Ein hymrwymiad
Mae’r Esgobaeth Bangor wedi ymrwymo i ddiogelu fel rhan annatod o’i bywyd, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth.
Byddwn ni'n:
- Hyrwyddo lles plant ac oedolion mewn perygl
- Codi ymwybyddiaeth o ddiogelu yn yr Eglwys
- Gweithio i atal camdriniaeth neu niwed rhag digwydd
- Ymroi i amddiffyn ac ymateb yn dda i’r rhai sydd wedi eu cam-drin.
Ewch i'r tudalennau diogelu ar wefan yr Eglwys yng Nghymru am wybodaeth ac adnoddau polisi.
Hyfforddiant diogelu
Cwrs B ar lein dros Zoom
- 22/01/25: 13.00-15.00
- 29/01/25: 18.00-20.00
- 10/02/25: 10.30-12.30
- 25/02/25: 18.00-20.00
- 18/03/25: 10.00-12.00
- 7/04/25: 13.30-15.30
Cwrs B
- 5/2/25: 10.00-12.00, Canolfan Penrhosgarnedd, Bangor
- 8/03/25: 10.00-12.00, Neuadd Eglwys Santes Gwenfaen, Rhoscolyn
- 13/03/25: 10.00-12.00, Neuadd Eglwys Santes Fair, Llanfairpwll
- 19/03/25: 13.00-15.00, Neuadd Eglwys Sant Mihangel, Llan Ffestiniog
Cwrs C
- 8/04/25: 10.00-13.00, Neuadd Eglwys Santes Fair, Llanfairpwll
- 14/07/25: 10.00-13.00, Conwy Town Council, Guildhall, Conwy
Rhaid i chi drefnu eich hyfforddiant ar y wefan Yr Eglwys yng Nghymru.
Mae’n ofynnol i bob clerig, warden Eglwys, Darllenydd trwyddedig, gofalwyr, aelodau Cyngor Ardal Weinidogaeth, swyddogion diogelu Ardaloedd Gweinidogaeth ac unrhyw un sydd â rôl sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed gwblhau hyfforddiant Diogelu. Mae angen cwblhau'r hyfforddiant pob tair mlynedd.
Mae'r hyfforddiant diogelu wedi'i gynllunio i arfogi mynychwyr i ymgysylltu'n gadarnhaol ag amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed mewn modd ymarferol a gwybodus.
Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod yr Eglwys yn ddiogel a chroesawgar i bawb, ac wedi’i dylunio i helpu’r mynychwyr i ddeall gofynion statudol diogelu a sut y cyflawnir y rhain yng nghyd-destun yr Eglwys yng Nghymru.
Hyfforddiant Datgelu a Gwahardd
Mae Corff y Cynrychiolwyr wedi bod yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i ddatblygu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer recriwtio mwy diogel ac archwiliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Os ydych yn glerig, gyda diddordeb mewn recriwtio mwy diogel neu wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer eich eglwys, grŵp neu brosiect, fe'ch gwahoddir i fynychu sesiwn hyfforddiant ar-lein, a gyflwynir gan Carol Eland, swyddog cyswllt rhanbarthol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r sesiynau'n arbennig o fuddiol os ydych chi'n ddefnyddiwr Pobl fy Eglwys, yn swyddog diogelu, yn weinyddwr neu’n rheolwr gwirfoddol.
Mae'r sesiwn yn para 90 munud gydag amser ar gyfer cwestiynau ar y diwedd. I gadw’ch lle, e-bostiwch mychurchpeople@cinw.org.uk
Safeguarding
Reporting a safeguarding concern
To report a safeguarding concern, please contact the Church in Wales using the online form.
Call the emergency services on 999 if you have information about a safeguarding situation where a child or adult is in immediate danger or requires urgent medical attention.
Our commitment
The Diocese of Bangor is committed to safeguarding as an integral part of its life, mission and ministry. As such, we will:
- Promote the wellbeing of children and adults at risk
- Raise awareness of safeguarding within the Church
- Work to prevent abuse or harm from occurring
- Seek to protect and respond well to those that have been abused.
Visit the safeguarding pages on the Church in Wales website for policy information and resources.
Safeguarding Training
Module B: Online on Zoom
- 22/01/25: 13.00-15.00
- 29/01/25: 18.00-20.00
- 10/02/25: 10.30-12.30
- 25/02/25: 18.00-20.00
- 18/03/25: 10.00-12.00
- 7/04/25: 13.30-15.30
Module B
- 5/2/25: 10.00-12.00, Canolfan Penrhosgarnedd, Bangor
- 8/03/25: 10.00-12.00, St Gwenfaen’s Church Hall, Rhoscolyn
- 13/03/25: 10.00-12.00, St Mary’s Church Hall, Llanfairpwll
- 19/03/25: 13.00-15.00, St Michael’s Church Hall, Llan Ffestiniog
Module C
- 8/04/25: 10.00-13.00, St Mary’s Church Hall, Llanfairpwll
- 14/07/25: 10.00 -13.00, Conwy Town Council, Guildhall
Remember to book your training session on the Church in Wales website.
It is requirement that all clergy, churchwardens, licences readers, vergers, MAC members, MA safeguarding officers and anyone who has a role working with children, young people or adults at risk, complete safeguarding training. The training needs to be renewed every three years.
The safeguarding training is designed to equip attendees to engage positively with the protection of children, young people and adults at risk in a practical and informed manner.
It is committed to ensuring that the Church is safe and welcoming for all, and designed to help attendees understand the statutory requirements of safeguarding and how these are carried out in the context of the Church in Wales.
DBS training
The Representative Body of the Church in Wales have been working with the Disclosure and Barring Service to develop some bespoke training around safer recruitment and DBS checking.
If you have an interest in safer recruitment or DBS checking for your church, group or project, you are invited to attend an online training session, delivered by Carol Eland, regional DBS contact.
The sessions are particularly useful if you are a My Church People user, a safeguarding officer, administrator or volunteer manager.
The session lasts 90 minutes with time for questions at the end. To book a place, please email mychurchpeople@cinw.org.uk