Esgob cynorthwyol newydd wedi ei benodi
Mae Andrew John, Archesgob Cymru ac Archesgob Bangor, wedi penodi y Parchg Ganon David Morris yn Esgob Cynorthwyol Bangor. Yn ddim ond 37 oed, David fydd y person ieuengaf erioed i wasanaethu fel esgob yn yr Eglwys yng Nghymru.
Yn aelod uwch o staff Esgobaeth Bangor, mae David wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweinidogaeth yr Esgobaeth am y ddwy flynedd diwethaf. Mae hefyd yn Ganon Preswyl Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.
Yn wreiddiol o Cymer yng Nghwm Rhondda, graddiodd David mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, pan wnaeth hefyd gwblhau gradd Meistr mewn diwinyddiaeth.
Fe’i ordeiniwyd yn offeiriad yn 2010 yng Nghadeirlan Llandaf a gwasanaethodd fel curad ym Merthyr Tudful. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, penodwyd David yn offeiriad plwyf Grangetown yng Nghaerdydd, lle gwasanaethodd am saith mlynedd ac roedd hefyd yn Gynghorydd Galwedigaethau ar gyfer Esgobaeth Llandaf.
Yn 2019 cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Ordinandiaid Esgobaeth Llandaf a Ficer yn Ardal Gweinidogaeth Dwyrain y Fro, ym Mro Morgannwg, swydd a fu ganddo am dair blynedd cyn iddo symud i Fangor.
Gwnaed David yn Gomander Urdd Sant Ioan yn 2020 a bu’n weithgar gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru fel caplan ers 2010; cafodd ei benodi yn Ddeon y Priordy ar gyfer Cymru yn 2019 ac yn Ymddiriedolydd yr elusen yn 2020.
Mae eisoes wedi gwneud cyfraniad gwych i fywyd yr esgobaeth.
Wrth gyhoeddi ei benodiad, dywedodd yr Archesgob Andrew: “Rwy’n hynod falch bod David wedi derbyn y penodiad hwn i helpu symud ymlaen gyda gwaith yr Eglwys yn Esgobaeth Bangor, lle cafodd ei alwedigaeth ei hun fel offeiriad ei ffurfio. Mae eisoes wedi gwneud cyfraniad gwych i fywyd yr esgobaeth, a rwy’n gwybod y bydd yn rhoi arweinyddiaeth ysbrydoledig a gofal bugeiliol dwfn i’n cynulleidfaoedd a’r cymunedau a wasanaethant.
"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r Eglwys, a gwn y bydd gan David rôl bwysig tu hwnt wrth symud y gwaith ymlaen.”
Dywedodd David, “Mae cael galwad i wasanaethu fel Esgob Cynorthwyol Esgobaeth Bangor y fraint fwyaf bosibl. Astudiais ddiwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor ac ers i mi ddychwelyd i’r esgobaeth yn 2022, mae fy nghariad at y rhan arbennig iawn yma o’r byd a’i bobl wedi tyfu’n ddyfnach byth.
"Mae’r straeon ysbrydoledig o ffydd a gwasanaeth a glywais ar draws ein cymunedau’r eglwys wedi cael effaith fawr arnaf ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at chwarae fy rhan wrth helpu’r cymunedau hyn i dyfu a ffynnu.”
Cafodd penodiad David ei gymeradwyo gan holl esgobion yr Eglwys yng Nghymru a chaiff ei gadarnhau mewn cyfarfod Synod Sanctaidd ym mis Ebrill. Caiff ei gysegru fel esgob yn nes ymlaen yn y flwyddyn a bydd yn defnyddio teitl Esgob Ynys Enlli, yn ogystal ag Esgob Cynorthwyol Bangor.
Yn ei amser hamdden, mae David yn mwynhau garddio, teithio, cadw’n heini a threulio amser gyda’i ddyweddi, Marc Penny, a’i gath, Gordon.
New assistant Bishop appointed
The Archbishop of Wales and Bishop of Bangor, Andrew John, has appointed the Revd Canon David Morris as Assistant Bishop of Bangor. At the age of just 37, David will be the youngest person ever to serve as a bishop in the Church in Wales.
A senior member of staff in the Diocese of Bangor, David has served as Diocesan Director of Ministry for the past two years. He is also a Residentiary Canon of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.
Originally from Cymmer in the Rhondda Valley, David graduated in theology from the University of Wales, Bangor and trained for ministry at St Michael’s College, Llandaff, when he also completed a Master’s degree in theology.
He was ordained as a priest in 2010 at Llandaff Cathedral and served his curacy in Merthyr Tydfil. Two years later, David was appointed parish priest of Grangetown in Cardiff, where he served for seven years, and was also Vocations Advisor for Llandaff Diocese.
In 2019, he was appointed Director of Ordinands for Llandaff Diocese and Vicar in the East Vale Ministry Area, in the Vale of Glamorgan, a post he held for three years until moving to Bangor.
David was made a Commander of the Order of St John in 2020 and has been actively involved with St John Ambulance Cymru as a chaplain since 2010; he was appointed Dean of the Priory for Wales in 2019 and a Trustee of the charity in 2020.
He has already made a tremendous contribution to the life of the diocese.
Announcing his appointment, Archbishop Andrew said, “I am delighted that David has accepted this appointment to help take forward the Church’s work in the Diocese of Bangor, where his own vocation as a priest was formed. He has already made a tremendous contribution to the life of the diocese, and I know that he will provide inspirational leadership and deep pastoral care to our congregations and the communities they serve.
"These are exciting times for the Church, and I know David will play a hugely important role in taking the work forward.”
David said, “Being called to serve as Assistant Bishop in the Diocese of Bangor is the greatest possible privilege. I studied theology at the University in Bangor, and since I returned to the diocese in 2022, my love for this very special part of the world, and for its people, has grown all the deeper.
"I have been greatly moved by the inspiring stories of faith and service I have found right across our church communities and I look forward very much to playing my part in helping those communities grow and thrive.”
David’s appointment has been approved by all the Church in Wales bishops and will be confirmed at a Sacred Synod meeting in April. He will be consecrated as a bishop later in the year and will adopt the title of Bishop of Bardsey, as well as Assistant Bishop of Bangor.
In his spare time, David enjoys gardening, travelling, keeping fit and spending time with his fiancé, Marc Penny, and his cat, Gordon.