Gwasanaeth y Plygain
Mae dathliadau’r Nadolig yn parhau i Gristnogion Cymru wrth i eglwysi ar draws yr esgobaeth baratoi ar gyfer gwasanaethau Plygain traddodiadol. Er i’r traddodiad bron â phylu i ebargofiant erbyn y 1970au, mae'r gwasanaeth Plygain Cymraeg traddodiadol yn mwynhau adfywiad ac mae’n boblogaidd unwaith eto.
Beth yw gwasanaeth y Plygain?
Mae’r Plygain yn rhan unigryw o draddodiad Cristnogol Cymru ac mae'n cynnwys canu carolau Cymraeg traddodiadol yn ddigyfeiliant. Mae'r enw 'plygain' yn deillio o'r Lladin pulli canto, sy'n golygu 'ar ganiad y ceiliog'. Yn draddodiadol, canwyd carolau Plygain yn ystod Offeren y Bugeiliaid - yCymun a weinyddwyd tua thri o'r gloch ar fore Dydd Nadolig.
Mae'r Plygain yn weithred o addoliad sy'n seiliedig yn fras ar yr Hwyrol Weddi.
Gyda threigl amser gelwidy gwasanaeth hwn yn 'Blygain' a'i garolau yn 'garolau Plygain'. Heddiw mae'r enw 'Plygain' yn cyfeirio at natur y gwasanaeth ac nid at amser y gwasanaeth. Newyddion da i'r rhai ohonom nad ydym yn hoffi codi’n gynnar. Mewn gwirionedd, mae gwasanaethau yn ein hesgobaeth am 6pm neu 7pm sy’n fwy derbyniol.
Mae'r Plygain yn weithred o addoliad sy'n seiliedig yn fras ar wasanaeth yr Hwyrol Weddi. Cenir mawl i Dduw am gyfanwaith yr iachawdwriaeth a ddaeth i ni trwy Iesu Grist, ac am rodd yr Ysbryd sy’n adnewyddu’r greadigaeth. Gwneir hyn yng nghwmni Mair, mam ein Harglwydd, a holl gwmpeini’r nef. Mae’r gynulleidfa yn cyd-addoli gyda hwy ac wrth wneud, yn tystio i ryfeddod gras a chariad Duw.
Nodwedd o’r gwasanaeth yw awyrgylch o ryfeddu gerbron y Gair a wnaethpwyd yn gnawd.
Myfyrio a moli yw rôl y gynulleidfa - nid yw cymeradwyo yn rhan o'r traddodiad. Nodwedd o’r cynulliad yw awyrgylch o ryfeddu gerbron y Gair a wnaethpwyd yn gnawd.
Mae distawrwydd yn elfen bwysig o'r Plygain. Cariad a defosiwn at Grist a ysbrydolodd y carolau yn y lle cyntaf ac felly yn y distawrwydd gweddigar rhwng y carolau cawn wahoddiad i ddyfnhau ein defosiwn a'n cariad ein hunain.
Plygeiniau yn Esgobaeth Bangor 2025
Nos Sul 5 Ionawr
- Llaniestyn, Gwynedd, Eglwys Sant Iestyn 6yh
Nos Sul 12 Ionawr
- Llannor, Pwllheli, Eglwys y Groes Sanctaidd 6yh
Nos Iau 16 Ionawr
- Llanegryn, Tywyn, Eglwys Llanegryn, 6.30yh
Nos Wener 17 Ionawr
- Cadeirlan, Bangor, 7yh
Nos Fercher 22 Ionawr
- Llanfair, Harlech, Eglwys y Santes Fair, 7yh
Mwy o wybodaeth
Plygain.org Nod y wefan hon yw ymateb i’r diddordeb newydd yn Y Plygain, yng Nghymru a thu hwnt.
Rhannwch eich lluniau
Os yw eich eglwys yn cynnal gwasanaeth y Plygain, rhannwch eich lluniau â ni. Naill ai tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu anfonwch neges e-bost at mattbatten@churchinwales.org.uk
Plygain
Christmas celebrations continue for Welsh Christians as churches across the diocese prepare for traditional Plygain services. Despite nearly fading into obscurity by the 1970s, the traditional Welsh Plygain service is witnessing a resurgence in popularity.
What is Plygain?
Plygain is a unique part of the Welsh Christian tradition and consists of the singing of traditional Welsh carols, unaccompanied. The name ‘plygain’ derives from the Latin pulli canto, meaning ‘at cock crow’. Plygain carols were traditionally sung during the Mass of the Shepherds - the Eucharist celebrated around three o’clock on Christmas morning.
Plygain is an act of worship loosely based upon Evening Prayer.
As time went on this service became known as ‘Plygain’ and its carols as ‘Plygain carols’. Today the name ‘Plygain’ refers to the nature of the service rather than the time of the service. Good news for those of us who are not early risers. In fact, services in our diocese are at a respectable 6pm or 7pm.
Plygain is an act of worship which is loosely based upon Evening Prayer. Praise is sung to God for the entire work of salvation brought to us through Jesus Christ, and for the gift of the Spirit in renewing the whole of creation. This is celebrated in the company of Mary, mother of our Lord, and the whole company of heaven. In worship with them the congregation testifies to the wonder of God’s grace and love.
The service is characterised by an atmosphere of wonder before the Word made flesh.
The congregation’s role is one of contemplation and praise - applause does not form part of the tradition. The gathering is characterised by an atmosphere of wonder before the Word made flesh.
Silence is an important element of the Plygain. It was love and devotion to Christ which inspired the carols in the first place and so in the prayerful silence between the carols, we are invited to deepen our own devotion and love.
Plygain services across the diocese
Sunday 5 January
- Llaniestyn, Gwynedd, Eglwys Sant Iestyn 6pm
Sunday 12 January
- Llannor, Pwllheli, Eglwys y Groes Sanctaidd 6pm
Thursday 16 January
- Llanegryn, Tywyn, Eglwys Llanegryn, 6.30pm
Friday 17 January
- Cathedral, Bangor, 7pm
Wednesday 22 January
- Llanfair, Harlech, Eglwys y Santes Fair, 7pm
More Information
Plygain.org The website has been set up in response to a renewed interest in the Plygain, in Wales and further afield.
Share your photos
If your church is hosting a Plygain service, please do share your photos us. Either tag us on social media or email mattbatten@churchinwales.org.uk