Mae eglwysi yn nodi Gŵyl Fair y Canhwyllau gyda cherddoriaeth, addoliad, a gŵyl gwrw
Mae Gŵyl Fair y Canhwyllau yn cael ei dathlu ddechrau mis Chwefror pan fydd y dydd yn amlwg yn ymestyn. Mae'r ŵyl yn nodi cyflwyniad Crist yn y Deml a'r golau i'w groesawu yn ôl ar ôl misoedd hir y gaeaf.
Eleni, mae Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr yn eich gwahodd i ymuno mewn penwythnos o ddathlu sy'n plethu traddodiad Celtaidd, ysbryd cymunedol, a ffydd Gristnogol ynghyd.
Yma, mae'r Parchedig Stuart Elliott yn rhannu mwy am yr ŵyl a pham y mae Bro Gwydyr yn cynnal gŵyl benwythnos fawr.
Traddodiad Celtaidd Byw
Mae'r flwyddyn dymhorol Geltaidd yn cychwyn ar ddechrau'r Gaeaf gyda Chalan Gaeaf. Os yw'r Holl Saint, a'r Holl Eneidiau yn nodi dechrau gaeaf tywyll o farwolaeth, pydredd a thymor gaeafgysgu natur, mae Gŵyl Fair y Canhwyllau (Imbolc, sy'n golygu llaeth mamog yn yr hen draddodiad) yn nodi dychweliad goleuni a bywyd. Dyma'r arwydd cyntaf o adfywio, cipolwg ar atgyfodiad, cyn i ni hyd yn oed ddechrau ein taith Grawysol tuag at y Pasg.
Yn ein Hardal Weinidogaeth, rydym wedi gwneud penderfynu anrhydeddu pob un o'r wyth cyfnod tymhorol Celtaidd ers 2020. Y llynedd, yn ein gŵyl yn Nolgarrog, fe wnaethon ni greu Llusern Angel adeg Gŵyl yr Holl Eneidiau a oedd yn cario golau'r rhai oedd wedi marw. Ymunodd dros 100 o bobl â ni gyda'u llusernau ar y daith gerdded o'r eglwys i'r ganolfan gelf a chrefft COG. Ailymddangosodd yr angel gyntaf yn Nhrefriw ar gyfer yr Adfent, yna ym Metws-y-coed yn uchel uwchben yr Allor adeg yr offeren ganol nos. Mair yw’r llusern bellach a bydd yn arwain ein Gorymdaith Llusern Gŵyl Fair y Canhwyllau. Bydd hi'n dwyn goleuni Crist i mewn.
Mae gan Ŵyl Fair y Canhwyllau le arbennig yn y cylch hwn, dyma’r pwynt canol rhwng heuldro'r gaeaf a chyhydnos y gwanwyn. Mae'n gyfnod o drothwy sy'n cael ei groesawu’n fawr gan ein cymuned, yn enwedig yma yng Ngogledd Cymru lle mae gennym dair eglwys Santes Fair a Llansanffraid yr ochr arall i afon Conwy.
Penwythnos o gofio ac edrych ymlaen
Mae gan ein dathliad Gŵyl Fair y Canhwyllau ystyr arbennig ym Mro Gwydyr. Yng ngaeaf 2019/20, bu farw dau ffrind annwyl, Hilary a Gerry, yn annisgwyl. Roedden ni'n eu gweld fel ein Anna a'n Simeon ein hunain, y ffigyrau defosiynol a chyfiawn o’r stori yn yr Efengyl am Iesu yn cael ei gyflwyno yn y deml-enghreifftiau gwirioneddol o ddisgyblion ffyddlon, yn union fel Hilary a Gerry. Er mwyn anrhydeddu eu ffyddlondeb, fe wnaethom gynnal gwasanaeth arbennig ar gyfer Gŵyl Fair y Canhwyllau.
Mae'n bwysig parhau â'r flwyddyn Gristnogol, mewn cysylltiad â'r flwyddyn Geltaidd hŷn sy'n sail iddi
Trwy gefnogaeth aelodau newydd ein tîm ymgysylltu â'r gymuned, y dathliad eleni fydd ein mwyaf uchelgeisiol eto, gan ddod â'n cymuned gyfan at ei gilydd ar gyfer penwythnos o ddigwyddiadau, gan gynnwys:
- Gorymdaith llusernau cymunedol dan arweiniad Band Batala, Bangor.
- Cerddoriaeth leol o Sesiwn Llanrwst.
- Ceilidh traddodiadol.
- Noson meic agored mewn partneriaeth â bragdy lleol Cwrw Nant.
- Gwasanaeth arbennig bore Sul.
Byddwn yn defnyddio Llusern Angel fawr, a grëwyd yn wreiddiol ar gyfer digwyddiad Holl Eneidiau yn Nolgarrog. Yn ddiweddarach, fe'i defnyddiwyd ar gyfer y Nadolig mewn gwahanol leoedd ac yn y diwedd roedd yn crogi’n uchel uwchben yr allor ym Metws-y-Coed ar gyfer Offeren Ganol Nos. Eleni, bydd yr angel yn cynrychioli Mair-yn arwain yr orymdaith ac yn cario 'Goleuni' Crist. Mae hyn yn hynod symbolaidd, gan fod Gŵyl Fair y Canhwyllau yn cyd-fynd â’r dydd yn ymestyn a golau naturiol unwaith eto. Mae'n amser i fod yn ddiolchgar bod y gaeaf yn dod i ben. Yn yr Eglwys, mae'r dathliad hwn hefyd yn ein hatgoffa o addewid Crist-gan ddod a gobaith, goleuni a bywyd yn ogystal â chynhesrwydd.
Mae'n bwysig parhau â'r flwyddyn Gristnogol, mewn cysylltiad â'r flwyddyn Geltaidd hŷn sy'n sail iddi - mae yna adegau i ddathlu drwy gydol y flwyddyn. Mae'r prif wyliau yn tynnu'r sylw mwyaf, ond dim ond dwy agwedd ar y ffydd ydyn nhw. Gellir dadlau mai dyma‘r pwysicaf - ond mae cyfnodau eraill yn taro tant â phobl hefyd. Maen nhw'n gallu cynnal cyfnodau o ddathlu ond hefyd cyfnodau o ddiolchgarwch, galar, ac o lawenydd.
Mae'r dathliad hwn hefyd yn ein hatgoffa o addewid Crist-gan ddod a gobaith, goleuni a bywyd yn ogystal â chynhesrwydd.
Ar 1 Chwefror mae’n ddiwrnod Sant Ffraid, 2 Chwefror yw Gŵyl Fair y Canhwyllau, ond yr enw iawn yw gŵyl Cyflwyniad Crist yn y Deml. Mae hefyd yn adeg pryd cofir am seintiau Celtaidd eraill, mae'n Groundhog Day yn America - Dyma drothwy Celtaidd y gwanwyn pan fydd Eirlysiau i’w gweld ac mae ymdeimlad gobeithiol y bydd popeth yn iawn.
Am Eirlysiau, ysgrifennais:
Gwydn ond gostyngedig gyda'u pen i lawr yn erbyn y gaeaf gwyllt. Fel bydwragedd canant hwy: 'Mae e gerllaw'"
Ewch i https://brogwydyr.cymru i gael rhagor o wybodaeth am ddathliad Gŵyl Fair y Canhwyllau Bro Gwydyr, gan gynnwys tocynnau i'r Ceilidh
Churches marks Candlemas with music, worship, and a beer festival
Candlemas, known in Welsh as Gŵyl Fair y Canhwyllau (Mary's Festival of Candles), is celebrated at the start of February when the days are noticeably getting longer. The festival marks the presentation of Christ in the Temple and the welcome return of light after the long winter months.
This year, Bro Gwydyr Ministry Area invites you to join in a weekend of celebration that weaves together Celtic tradition, community spirit, and Christian faith.
Here, Revd Stuart Elliott shares more about the festival and why Bro Gwydr are hosting a big weekend festival..
A Living Celtic Tradition
The Celtic seasonal year begins at the start of Winter with All Hallows, Calan Gaeaf. If All Saints, and All Souls marks the beginning of the dark winter of death, decay and the season of nature hibernating, Candlemas (Imbolc, meaning Yew's milk in the old tradition) marks the return of light and life. It is the first sign of regeneration a glimpse of resurrection before we even begin our Lenten walk towards Easter.
In our Ministry Area, we've made a conscious choice to honor all eight Celtic seasonal moments since 2020. Last year we created an Angel lantern at All Souls who carried the light of those who had died in our festival at Dolgarrog. Over 100 people joined us with their lanterns on the walk from the church to the art and craft centre COG. The angel reappeared first in Trefriw for Advent, then in Betws-y-Coed suspended high above the Altar at midnight mass. The same lantern now becomes Mary who will lead our Candlemas Lantern Parade. She'll carry in the light of Christ.
Candlemas holds a special place in this cycle, arriving at the midpoint between winter solstice and spring equinox. It's a threshold moment that resonates deeply with our community, especially here in North Wales where we have three St. Mary's churches and Llansanffraid (St. Bridget's) just across the Conwy.
A weekend of remembering and looking ahead
Our Candlemas celebration holds special meaning in Bro Gwydyr. In the winter of 2019/20, two beloved friends, Hilary and Gerry, passed away unexpectedly. We saw them as our own Anna and Simeon, the devout and righteous figures from the Gospel story of Jesus' presentation at the temple—true examples of faithful disciples, just like Hilary and Gerry. To honor their faithfulness, we held a special service for Candlemas.
It is important to continue the Christian year, in connection with the older Celtic year which underpins it
Through support from our new community engagement team members, this year's celebration will be our most ambitious yet, bringing together our whole community for a weekend of events including:
- A community lantern parade led by Batala Band Bangor
- Local music from Sessiwn Llanrwst
- A traditional Ceilidh
- An open mic night in partnership with local brewery Cwrw Nant
- A special Sunday morning service
We'll be using a large Angel Lantern, originally created for an All Souls event in Dolgarrog. Later, it was used for Christmas in various places and eventually hung high above the altar in Betws-y-Coed for Midnight Mass. This year, the angel will represent Mary—leading the parade and carrying the 'Light' of Christ. This is deeply symbolic, as Candlemas, or Mary's Festival of Candles in Welsh, coincides with the return of longer days and natural light. It’s a time to be thankful that winter is ending. In the Church, this celebration also reminds us of Christ’s promise—bringing not just warmth, but hope, light, and life.
It is important to continue the Christian year, in connection with the older Celtic year which underpins it - there are moments for celebration all through the year. The major festivals draw the most attention, but they are only two aspects of the faith. Arguably, perhaps now, the most important - but other moments in the year also have significant resonance with people. They are able to hold moments of celebration but also moments of thanksgiving, of grief, and of joy.
This celebration also reminds us of Christ’s promise—bringing not just warmth, but hope, light, and life.
1st February is St. Bridget (Bride) 2nd February is Candlemas, properly called, the feast of the presentation of Christ in the Temple. It is also a point around which other Celtic saints are remembered, it is Groundhog Day in America - It is the Celtic threshold of spring when Snowdrops are out and there is a hopeful sense that all shall be well.
Of snowdrops, I wote:
"Determined but humble with heads hung low against the wild winter. As midwife they sing: 'It is at hand'
Visit https://brogwydyr.cymru/ or more information about Bro Gwydyr’s Candlemas celebration, including tickets to the Ceilidh